xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—
(a)i gorff llywodraethu ysgol yng Nghymru—
(i)sy’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol,
(ii)sy’n ysgol feithrin a gynhelir, neu
(iii)sy’n uned cyfeirio disgyblion;
(b)i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
(2)Rhaid i’r corff llywodraethu ddynodi person, neu fwy nag un person, i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.
(3)Mae person sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol”.
(4)Caiff rheoliadau—
(a)ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig (neu’r ddau);
(b)rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn perthynas â darparu ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.
(5)Yn is-adrannau (2) a (4)(b), ystyr “myfyrwyr” yw myfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad yn y sector addysg bellach.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 60 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(g)
I3A. 60 mewn grym ar 4.1.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(2)(c)