Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

43Rhyddhau person sy’n cael ei gadw’n gaethLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os—

(a)yw person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn cael ei ryddhau,

(b)yw awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y person ar y dyddiad rhyddhau, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw ar gyfer y person o dan adran 42 yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

(3)Ond mae is-adran (4) yn gymwys yn lle is-adran (2)—

(a)os yw’r person sydd wedi ei ryddhau yn blentyn, a

(b)os yw’r plentyn, yn union wedi iddo gael ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 43 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I3A. 43 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5

I4A. 43 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I5A. 43 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I6A. 43 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I7A. 43 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(e), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I8A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(e), 4

I9A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I10A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(e)

I11A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 3 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I12A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(e), 3

I13A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I14A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I15A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I16A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-22)