xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn ddilys o 01/09/2021
22(1)Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 1(10) (trosolwg) yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”.
(3)Yn Rhan 3, ym Mhennod 4 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig)—
(a)yn enw’r bennod, yn lle “ADDYSGOL ARBENNIG” rhodder “DYSGU YCHWANEGOL”;
(b)yn adran 64 (ystyr “darpariaeth ranbarthol” a “swyddogaethau addysg arbennig”)—
(i)ym mhennawd yr adran, yn lle “addysg arbennig” rhodder “anghenion dysgu ychwanegol”;
(ii)yn lle’r diffiniad o “swyddogaethau addysg arbennig” rhodder—
“ystyr “swyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.”;
(c)yn adran 65(1) (cyfarwyddyd i ystyried gwneud darpariaeth ranbarthol)—
(i)yn lle “swyddogaethau addysg arbennig” rhodder “swyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol”;
(ii)yn lle “anghenion addysgol arbennig” rhodder “anghenion dysgu ychwanegol”.
(d)yn adran 66(1) (cyfarwyddiadau i wneud cynigion i sicrhau darpariaeth ranbarthol), yn lle “addysg arbennig” rhodder “anghenion dysgu ychwanegol”.
(4)Yn adran 74(5) (y ffurf weithredu), ym mharagraff (d) yn lle “datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996” rhodder “cynllun datblygu unigol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”.
(5)Yn adran 98(3) (dehongli’n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio), yn lle ““swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”)” rhodder ““swyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs functions”)”.
(6)Yn Atodlen 2 (newidiadau rheoleiddiedig)—
(a)ym mharagraff 15—
(i)yn y pennawd, yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”;
(ii)yn is-baragraff (1), yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”;
(iii)yn is-baragraff (2), yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”;
(b)ym mharagraff 21—
(i)yn y pennawd, yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”;
(ii)yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”;
(c)ym mharagraff 23(3), ym mharagraff (a), yn lle “hasesu o dan adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 a disgyblion sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig a gedwir o dan adran 324 o’r Ddeddf honno” rhodder “penderfynu o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a disgyblion â chynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan y Ddeddf honno”;
(d)ym mharagraff 24—
(i)yn y pennawd, yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”;
(ii)yn is-baragraff (1), yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”;
(iii)yn is-baragraff (2), yn lle “addysgol arbennig” rhodder “dysgu ychwanegol”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)