PENNOD 4LL+COSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU
Trefniadau awdurdodau lleolLL+C
68Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebauLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—
(a)cyrff addysg, a
(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, neu yn achos plant o’r fath, eu rhieni,
ynghylch arfer gan gyrff addysg eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—
(a)perchenogion sefydliadau perthnasol, a
(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac, yn achos plant o’r fath, eu rhieni,
ynghylch y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir ar gyfer plant neu bobl ifanc.
(3)Rhaid i’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) gynnwys darpariaeth i bartïon mewn anghytundeb gael mynediad at help i’w ddatrys oddi wrth bersonau sy’n annibynnol ar y partïon.
(4)Rhaid i awdurdod lleol hybu’r defnydd o’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.
(5)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i blant, eu rhieni a phobl ifanc nad yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon yn effeithio ar unrhyw hawliau a all fod ganddynt i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “corff addysg” yw unrhyw un o’r canlynol—
(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;
(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;
(c)awdurdod lleol.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad perthnasol” yw—
(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;
(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
(c)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol ar y rhestr a gynhelir o dan adran 56;
(d)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(e)ysgol arbennig nas cynhelir;
(f)Academi.
(8)At ddibenion yr adran hon ac adran 69 mae awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am blant y mae’n gofalu amdanynt nad ydynt yn ei ardal [F1a phersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth y mae’r awdurdod lleol hwnnw yn awdurdod cartref iddynt].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 68(8) wedi eu mewnosod (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 33
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 68 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I3A. 68 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I4A. 68 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I5A. 68 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I6A. 68 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(m), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I7A. 68 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I8A. 68 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I9A. 68 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(m), 4
I10A. 68 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(m), 3
I11A. 68 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I12A. 68 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I13A. 68 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I14A. 68 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(m)
No commentary item could be found for this reference key-8e815a3fa8e32a5344d6da3d0174434cNo commentary item could be found for this reference key-be292a07f819ed0439f78b06e7bbd94bNo commentary item could be found for this reference key-5275dd3034709b7484b54612c3658c8969Gwasanaethau eirioli annibynnolLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt;
(b)atgyfeirio unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol;
(c)atgyfeirio unrhyw berson sy’n gyfaill achos i blentyn y mae’n gyfrifol amdano ac sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol.
(2)Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau eirioli annibynnol” yw cyngor a chymorth (drwy gynrychiolaeth neu fel arall) i blentyn, person ifanc neu gyfaill achos—
(a)sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon,
(b)sy’n ystyried pa un ai i apelio i’r Tribiwnlys ai peidio, neu
(c)sy’n cymryd rhan, neu sy’n bwriadu cymryd rhan, mewn trefniadau a wneir o dan adran 68.
(3)Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir o dan y trefniadau fod yn annibynnol ar unrhyw berson sydd—
(a)yn destun apêl i’r Tribiwnlys, neu
(b)yn ymwneud ag ymchwilio i apêl o’r fath neu ddyfarnu arni.
(4)Caiff y trefniadau gynnwys darpariaeth i’r awdurdod lleol wneud taliadau i unrhyw berson, neu mewn perthynas ag unrhyw berson, sy’n cyflawni swyddogaethau yn unol â’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I16A. 69 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I17A. 69 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I18A. 69 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I19A. 69 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I20A. 69 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(m), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I21A. 69 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(m) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I22A. 69 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I23A. 69 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(m), 4
I24A. 69 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(m)
I25A. 69 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(m), 3
Apelau a cheisiadau i’r TribiwnlysLL+C
70Hawliau o ran apelau a cheisiadauLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—
(a)i benderfyniadau corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol;
(b)i gynlluniau datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol;
(c)i gynlluniau datblygu unigol a ddiwygir gan awdurdod lleol o dan adran 27(6).
(2)Caiff plentyn neu berson ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—
(a)penderfyniad gan gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 11 neu gan awdurdod lleol o dan adran 13, 18 neu 26 o ran a oes gan berson anghenion dysgu ychwanegol;
(b)yn achos person ifanc, penderfyniad gan awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) o ran a oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol;
(c)y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;
(d)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);
(e)y ddarpariaeth a gynhwysir mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 14(6) neu 19(4) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan yr adrannau hynny yn y cynllun;
(f)yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;
(g)os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;
(h)penderfyniad o dan adran 27 i beidio â diwygio cynllun datblygu unigol;
(i)penderfyniad o dan adran 28 i beidio â chymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynllun datblygu unigol yn dilyn cais i ystyried gwneud hynny;
(j)penderfyniad i beidio â chynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 31(5) neu 31(6);
(k)penderfyniad o dan adran 32(2) y dylai corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal cynllun;
(l)gwrthodiad i benderfynu ar fater ar y sail bod adran 11(3)(b), 13(2)(b), 18(2)(b) neu 29(2)(a) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).
(3)Caiff plentyn neu riant plentyn wneud cais i Dribiwnlys Addysg Cymru am ddatganiad bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—
(a)gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi i blentyn neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu
(b)yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.
(4)Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);
(b)adran 85(4).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 70 addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 41
Gwybodaeth Cychwyn
I26A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I27A. 70 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(f)
71Penderfyniadau ar apelau a cheisiadau o dan adran 70LL+C
(1)Ar apêl o dan adran 70(2), caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—
(a)gwrthod yr apêl;
(b)gorchymyn bod gan berson, neu nad oes gan berson, anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;
(c)gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol;
(d)gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;
(e)gorchymyn i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol (gyda diwygiadau neu hebddynt);
(f)gorchymyn i awdurdod lleol gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol;
(g)gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol adolygu cynllun datblygu unigol;
(h)anfon yr achos yn ôl i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru sy’n gyfrifol am y mater neu i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.
(2)Ar gais o dan adran 70(3) mewn cysylltiad â phlentyn, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru ddatgan naill ai bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—
(a)gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu
(b)yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.
Gwybodaeth Cychwyn
I28A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I29A. 71 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(f)
72Hawliau o ran apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—
(a)i benderfyniadau awdurdod cartref yng Nghymru o dan adran 40;
(b)i gynlluniau datblygu unigol a gedwir gan awdurdod cartref o dan adran 42.
(2)Caiff person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac, yn achos person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, rhiant y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—
(a)penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol;
(b)penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a fydd angen i gynllun datblygu unigol gael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person ei ryddhau;
(c)y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;
(d)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);
(e)y ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 40(7) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan o dan yr adran honno yn y cynllun;
(f)yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;
(g)os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;
(h)gwrthodiad i wneud penderfyniad o dan adran 40(2) ar y sail bod adran 41(2)(b) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).
(3)Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);
(b)adran 85(4).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 72 addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 41
Gwybodaeth Cychwyn
I30A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I31A. 72 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(f)
73Penderfyniadau ar apelau o dan adran 72LL+C
Ar apêl o dan adran 72, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—
(a)gwrthod yr apêl;
(b)gorchymyn bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth neu nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;
(c)gorchymyn i awdurdod cartref lunio cynllun datblygu unigol;
(d)gorchymyn i awdurdod cartref ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;
(e)anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod cartref sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I32A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I33A. 73 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(f)
74Rheoliadau ynghylch apelau a cheisiadauLL+C
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch apelau a cheisiadau i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon, gan gynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth—
(a)ynghylch materion eraill yn ymwneud â chynllun datblygu unigol y gellir dwyn apêl yn ei erbyn;
(b)ynghylch gwneud apelau neu geisiadau a dyfarnu arnynt;
(c)sy’n rhoi pwerau pellach i’r Tribiwnlys wrth ddyfarnu ar apelau neu geisiadau;
(d)ar gyfer apelau neu geisiadau heb wrthwynebiad.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(c) gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pŵer i’r Tribiwnlys, wrth ddyfarnu ar apêl yn erbyn mater neu wrth ddyfarnu ar gais, i wneud argymhellion mewn cysylltiad â materion eraill (gan gynnwys materion na chaniateir i apêl gael ei dwyn neu i gais gael ei ddwyn yn eu herbyn).
Gwybodaeth Cychwyn
I34A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I35A. 74 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(g)
75Rheoliadau ynghylch y weithdrefnLL+C
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)cychwyn apêl neu gais o dan y Rhan hon;
(b)trafodion Tribiwnlys Addysg Cymru ar apêl neu gais o dan y Rhan hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—
(a)o ran y cyfnod y mae apelau neu geisiadau i gael eu cychwyn ynddo a’r dull ar gyfer cychwyn apelau neu geisiadau;
(b)pan fo awdurdodaeth y Tribiwnlys yn cael ei harfer gan fwy nag un tribiwnlys—
(i)ar gyfer penderfynu pa dribiwnlys sydd i wrando ar unrhyw apêl neu gais, a
(ii)ar gyfer trosglwyddo trafodion o un tribiwnlys i dribiwnlys arall;
(c)ar gyfer galluogi i unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â materion sy’n rhagarweiniol i apêl neu gais neu faterion sy’n gysylltiedig ag apêl neu gais gael eu cyflawni gan y Llywydd neu gan y cadeirydd cyfreithiol;
(d)i wrandawiadau gael eu cynnal yn absenoldeb aelod ac eithrio’r cadeirydd cyfreithiol;
(e)o ran y personau a gaiff ymddangos ar ran y partïon;
(f)ar gyfer rhoi unrhyw hawliau o ran datgelu neu arolygu dogfennau neu o ran manylion pellach y caniateir i’r llys sirol eu rhoi;
(g)sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau fod yn bresennol i roi tystiolaeth a dangos dogfennau;
(h)ar gyfer awdurdodi i lwon gael eu gweinyddu ar gyfer tystion;
(i)ar gyfer dyfarnu ar apelau neu geisiadau heb wrandawiad o dan amgylchiadau rhagnodedig;
(j)o ran tynnu apelau neu geisiadau yn ôl;
(k)o ran dyfarnu costau neu dreuliau;
(l)ar gyfer asesu neu setlo fel arall unrhyw gostau neu dreuliau (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi i gostau neu dreuliau o’r fath gael eu hasesu yn y llys sirol);
(m)ar gyfer cofrestru penderfyniadau a gorchmynion a chael prawf ohonynt;
(n)ar gyfer galluogi’r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, o dan amgylchiadau rhagnodedig;
(o)ar gyfer galluogi’r Tribiwnlys i atal trafodion;
(p)ar gyfer ychwanegu ac amnewid partïon;
(q)ar gyfer galluogi delio ag apelau neu geisiadau gan bersonau gwahanol gyda’i gilydd;
(r)i apêl neu gais o dan y Rhan hon gael ei gwrando neu ei wrando, o dan amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau, gyda hawliad o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).
(3)Rhaid i drafodion gerbron y Tribiwnlys gael eu cynnal yn breifat, ac eithrio o dan amgylchiadau rhagnodedig.
(4)Nid yw Rhan 1 o Ddeddf Cymrodeddu 1996 (p. 23) yn gymwys i unrhyw drafodion gerbron y Tribiwnlys, ond caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I36A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I37A. 75 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(i)
I38A. 75 mewn grym ar 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)
76Cyrff GIG: tystiolaeth ac argymhellion y TribiwnlysLL+C
(1)Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru, mewn perthynas ag apêl o dan y Rhan hon,—
(a)arfer ei swyddogaethau i’w gwneud yn ofynnol i gorff GIG roi tystiolaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r corff;
(b)gwneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer swyddogaethau’r corff.
(2)Nid oes dim yn is-adran (1) sy’n effeithio ar gyffredinolrwydd y pwerau i wneud rheoliadau yn adrannau 74 a 75.
(3)Rhaid i gorff GIG y gwnaed argymhelliad iddo gan y Tribiwnlys lunio adroddiad i’r Tribiwnlys cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir yr argymhelliad.
(4)Rhaid i’r adroddiad o dan is-adran (3) nodi—
(a)y camau y mae’r corff GIG wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhelliad, neu
(b)pam nad yw’r corff GIG wedi cymryd unrhyw gamau a pham nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i’r argymhelliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I40A. 76 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(i)
I41A. 76 mewn grym ar 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)
77Cydymffurfedd â gorchmynionLL+C
(1)Os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gwneud gorchymyn o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw gydymffurfio â’r gorchymyn cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff ei wneud.
(2)Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw lunio adroddiad i’r Tribiwnlys yn datgan a yw wedi cydymffurfio â’r gorchymyn a sut y gwnaeth gydymffurfio â’r gorchymyn, cyn diwedd cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir o dan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I42A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I43A. 77 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(i)
I44A. 77 mewn grym ar 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)
78Pŵer i rannu dogfennau a gwybodaeth arall â Gweinidogion CymruLL+C
Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru rannu â Gweinidogion Cymru unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd yn ei feddiant sy’n ymwneud â pha un a fu neu a fydd cydymffurfedd â gorchymyn neu argymhelliad a wnaed gan y Tribiwnlys o dan y Rhan hon ai peidio neu sy’n ymwneud â pha un a gafodd neu a gaiff gorchymyn neu argymhelliad o’r fath ei ddilyn ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I45A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I46A. 78 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)
79TroseddLL+C
(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad—
(a)mewn cysylltiad â datgelu neu arolygu dogfennau, neu
(b)i fod yn bresennol i roi tystiolaeth a dangos dogfennau,
pan fo’r gofyniad hwnnw wedi ei osod drwy reoliadau o dan adran 74 neu 75 mewn perthynas ag apêl neu gais o dan adran 70 neu 72.
(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I47A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I48A. 79 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)
80Lwfansau am fod yn bresennol yn Nhribiwnlys Addysg CymruLL+C
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau at ddiben presenoldeb personau yn Nhribiwnlys Addysg Cymru neu mewn cysylltiad â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I49A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I50A. 80 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)
81Apelau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch DribiwnlysLL+C
(1)Caiff parti i unrhyw drafodion o dan adran 70 neu 72 gerbron Tribiwnlys Addysg Cymru apelio i’r Uwch Dribiwnlys ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n deillio o benderfyniad a wneir gan Dribiwnlys Addysg Cymru yn y trafodion hynny.
(2)Dim ond os yw Tribiwnlys Addysg Cymru neu’r Uwch Dribiwnlys, ar gais a wneir gan y parti o dan sylw, wedi rhoi ei ganiatâd y caniateir i apêl gael ei dwyn o dan is-adran (1).
(3)Mae adran 12 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (trafodion ar apêl i’r Uwch Dribiwnlys) yn gymwys mewn perthynas ag apelau i’r Uwch Dribiwnlys o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag apelau iddo o dan adran 11 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gyfeiriadau at Dribiwnlys Addysg Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I51A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I52A. 81 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)