xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol

60Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—

(a)i gorff llywodraethu ysgol yng Nghymru—

(i)sy’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol,

(ii)sy’n ysgol feithrin a gynhelir, neu

(iii)sy’n uned cyfeirio disgyblion;

(b)i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Rhaid i’r corff llywodraethu ddynodi person, neu fwy nag un person, i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.

(3)Mae person sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol”.

(4)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig (neu’r ddau);

(b)rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn perthynas â darparu ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.

(5)Yn is-adrannau (2) a (4)(b), ystyr “myfyrwyr” yw myfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad yn y sector addysg bellach.

61Swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig

(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog—

(a)sy’n ymarferydd meddygol cofrestredig, neu

(b)sy’n nyrs gofrestredig neu’n weithiwr iechyd proffesiynol arall.

(3)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog y mae’n ystyried ei fod yn meddu ar gymwysterau a phrofiad addas o ran darparu gofal iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(4)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig”.

62Swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlant sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.

(2)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar”.