Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 10/06/2022.
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Croes Bennawd: Swyddogaethau amrywiol yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 27 Medi 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Rhaid i awdurdod lleol gadw o dan adolygiad y trefniadau a wneir gan yr awdurdod a chan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y graddau y mae’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn ddigonol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt, gan roi sylw i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a all gael ei threfnu’n rhesymol gan eraill.
(3)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn cynnwys dyletswydd i ystyried—
(a)digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;
(b)maint a gallu’r gweithlu sydd ar gael.
(4)Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) (gan gynnwys y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn Gymraeg) yn ddigonol, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni’r mater.
(5)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau, ac ar unrhyw adegau, y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 63 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I3A. 63 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I4A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I5A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I6A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff iechyd a grybwyllir yn is-adran (2), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol ac y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano, yn ffurfio barn bod gan y plentyn, neu ei bod yn debygol bod gan y plentyn, anghenion dysgu ychwanegol.
(2)Y cyrff iechyd yw—
(a)Bwrdd Iechyd Lleol;
(b)ymddiriedolaeth GIG;
(c)grŵp comisiynu clinigol;
(d)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;
(e)Awdurdod Iechyd Arbennig.
(3)Rhaid i’r corff iechyd roi gwybod i riant y plentyn am ei farn ac am ei ddyletswydd yn is-adran (4).
(4)Ar ôl rhoi cyfle i’r rhiant i drafod barn y corff iechyd â swyddog o’r corff, rhaid i’r corff iechyd ddwyn y farn i sylw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu, os yw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal, i sylw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, os yw’r corff iechyd wedi ei fodloni y byddai gwneud hynny er lles pennaf y plentyn.
(5)Os yw’r corff iechyd o’r farn bod sefydliad gwirfoddol penodol yn debygol o allu rhoi cyngor neu gymorth arall i’r rhiant mewn cysylltiad ag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a all fod gan y plentyn, rhaid iddo roi gwybod i’r rhiant yn unol â hynny.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 64(3)(4) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(m)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I8A. 64 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I9A. 64 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I10A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I11A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I12A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—
(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu
(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.
(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.
(4)Y personau yw—
(a)awdurdod lleol arall;
(b)awdurdod lleol yn Lloegr;
(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;
(d)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
(e)perchennog Academi;
(f)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;
(g)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(h)Bwrdd Iechyd Lleol;
(i)ymddiriedolaeth GIG;
(j)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
(k)grŵp comisiynu clinigol;
(l)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;
(m)Awdurdod Iechyd Arbennig.
(5)Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I14A. 65 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(h)
I15A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I16A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I17A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I18A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I19A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.
(2)Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.
(3)Y sefydliadau yw—
(a)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(b)ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;
(c)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
(d)Academi;
(e)ysgol arbennig nas cynhelir;
(f)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I21A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I22A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I23A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I24A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I25A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
(1)Caiff rheoliadau ddarparu i awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—
(a)person sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu
(b)person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, ddarparu ar gyfer y telerau a’r amodau y caniateir i nwyddau a gwasanaethau gael eu cyflenwi yn unol â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I26A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I27A. 67 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(f)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys