Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofalLL+C
15Termau allweddolLL+C
(1)Mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol—
(a)os nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac os yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”), a
(b)os nad yw’n berson sy’n cael ei gadw’n gaeth.
(2)Caiff rheoliadau ragnodi categorïau o blant sy’n derbyn gofal nad ydynt i gael eu trin fel pe baent yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.
(3)Ystyr “swyddog adolygu annibynnol” yw’r swyddog a benodir o dan adran 99 o Ddeddf 2014 ar gyfer achos plentyn.
(4)Ystyr “cynllun addysg personol” yw’r cynllun sydd wedi ei gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth a gynhelir ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 83(2A) o Ddeddf 2014.
(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 15 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(b)
16Diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014LL+C
(1)Mae adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (cynlluniau gofal a chymorth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).
(2B)Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.
(2C)Os—
(a)oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a
(b)yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,
rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.
(2D)At ddibenion is-adran (2C)—
(a)ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));
(b)mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.”
(3)Yn is-adran (3), yn lle “y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.
(4)Yn is-adran (4), yn lle “cynllun”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
(5)Yn is-adran (5)—
(a)ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,”;
(b)ym mharagraff (a), yn lle “cynlluniau o dan yr adran hon” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”;
(c)ym mharagraff (b), yn lle “mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys” rhodder “mae cynllun gofal a chymorth i’w cynnwys (gan gynnwys pa bethau y mae cynllun addysg personol i’w cynnwys)”;
(d)ym mharagraff (c), yn lle “cynlluniau” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”.
(6)Yn is-adran (7), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
(7)Yn is-adran (8), ym mharagraff (a), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
(8)Yn is-adran (9), yn lle “gynllun a gynhelir o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.
(9)Ar ôl is-adran (9) mewnosoder—
“(10)Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.”
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I4A. 16 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a)
I5A. 16 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y’i mewnosodwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))
17Dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentynLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
(a)bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn sy’n derbyn gofal sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, neu
(b)bo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn y mae’n gyfrifol amdano, ond sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol arall, anghenion dysgu ychwanegol.
(2)Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol atgyfeirio’r mater i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I7A. 17 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I8A. 17 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I9A. 17 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I10A. 17 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I11A. 17 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I12A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3
I13A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I14A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I15A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I16A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4
I17A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)
I18A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I19A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
18Dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegolLL+C
(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.
(2)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 19;
(b)bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)nad yw anghenion y plentyn wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a
(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;
(c)bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.
(3)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—
(a)y penderfyniad, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 18(3) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I21A. 18 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I22A. 18 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I23A. 18 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I24A. 18 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I25A. 18 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I26A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I27A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4
I28A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)
I29A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I30A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I31A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I32A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3
I33A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
19Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofalLL+C
(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn wedi penderfynu o dan adran 18 fod gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol.
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
(3)Rhaid i awdurdod lleol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn y mae’n gofalu amdano—
(a)ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn, a
(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun datblygu unigol y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
(4)Os na ellir diwallu anghenion rhesymol y plentyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod yr awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun datblygu unigol.
(5)Y mathau o ddarpariaeth yw—
(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;
(b)bwyd a llety.
(6)O ran y ddyletswydd yn is-adran (4)—
(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;
(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.
(7)Pan fo awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn, rhaid i’r awdurdod—
(a)sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,
(b)sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (4), ac
(c)os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn.
(8)Gweler adran 35 am ddarpariaeth ynghylch trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sydd eisoes â chynlluniau pan ydynt yn dod yn blant sy’n derbyn gofal.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 19(7): rhoddwyd pŵer i addasu (dd.) (1.9.2021) gan 2020 c. 7, Atod. 17 para. 7(5) (fel y’i diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (O.S. 2021/861), rhlau. 1, 11(2))
Gwybodaeth Cychwyn
I34A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I35A. 19 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I36A. 19 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I37A. 19 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I38A. 19 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I39A. 19 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I40A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I41A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4
I42A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I43A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3
I44A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I45A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)
I46A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I47A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)