xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch gweithredu diwydiannol a gweithgarwch undebau llafur mewn perthynas â gweithrediadau awdurdodau cyhoeddus datganoledig a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.
[7 Medi 2017]
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
(1)Mae Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (Trade Union and Labour Relations (Consolidation) Act 1992 (c.52)) (fel y’i diwygir gan Ddeddf yr Undebau Llafur 2016 (Trade Union Act 2016 (c.15))) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 116B (cyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau o gyflogau yn y sector cyhoeddus), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)But regulations under subsection (3) may not specify—
(a)a devolved Welsh authority, or
(b)a description of public authority that applies to a devolved Welsh authority.”.
(3)Yn adran 172A (gofynion cyhoeddi o ran amser cyfleuster), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)But regulations under subsection (1) may not specify—
(a)a devolved Welsh authority, or
(b)a description of public authority that applies to a devolved Welsh authority.”.
(4)Yn adran 226 (gofyniad i undeb llafur gynnal pleidlais cyn gweithredu), ar ôl is-adran (2E) mewnosoder—
“(2EA)But regulations under subsection (2D) may not specify services provided by a devolved Welsh authority.”
(5)Ar ôl adran 297A mewnosoder—
For the purposes of this Act a “devolved Welsh authority” has the same meaning as in section 157A of the Government of Wales Act 2006 (c.32).”
(6)Yn adran 299 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir) ychwaneger “devolved Welsh authority” ac (yn y golofn gyfatebol) “section 297B”.
(1)Ni chaiff awdurdod datganoledig Cymreig hurio gweithiwr a gyflenwyd gan berson sy’n cynnal busnes cyflogaeth i gyflawni—
(a)dyletswyddau a gyflawnir fel arfer gan aelod o’i staff (“S”) pan fo S yn cymryd rhan mewn streic neu weithredu diwydiannol arall, neu
(b)dyletswyddau unrhyw aelod arall o’i staff a neilltuwyd i gyflawni’r dyletswyddau a gyflawnir fel arfer gan S.
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys pan fo’r streic neu’r gweithredu diwydiannol arall yn answyddogol.
(3)At ddiben yr adran hon mae streic neu weithredu diwydiannol arall yn answyddogol pe bai’n cael ei ystyried yn “unofficial” at ddiben adran 237 o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (Trade Union and Labour Relations (Consolidation) Act 1992 (c.52)).
(4)Yn yr adran hon—
mae i “awdurdod datganoledig Cymreig” yr un ystyr â “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Government of Wales Act 2006 (c.32));
mae i “busnes cyflogaeth” yr un ystyr ag “employment business” yn adran 13(3) o Ddeddf Asiantaethau Cyflogaeth 1973 (Employment Agencies Act 1973 (c. 35)).
Daw’r darpariaethau yn adran 1 ac adran 2 i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir gan offeryn statudol (a daw’r adran hon ac adran 4 i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol).
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017.