Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Yn ddilys o 25/01/2018

Yn ddilys o 01/04/2018

(a gyflwynir gan adran 41(8))

ATODLEN 3LL+CYR HYN SYDD I’W GYNNWYS AR ANFONEB DIRLENWI

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

1LL+CRhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)rhif adnabod;

(b)dyddiad dyroddi’r anfoneb;

(c)enw a chyfeiriad y person sy’n dyroddi’r anfoneb;

(d)y rhif cofrestru a aseinir i’r person hwnnw gan ACC;

(e)enw a chyfeiriad y person y dyroddir yr anfoneb iddo;

(f)dyddiad gwneud y gwarediad trethadwy;

(g)disgrifiad o’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(h)cyfradd y dreth sydd i’w chodi ar y deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(i)pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;

(j)unrhyw ddisgownt a gymhwysir o dan adran 19(3) mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd;

(k)unrhyw ryddhad a hawlir mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy;

(l)swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad trethadwy;

(m)cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anfoneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

2LL+CPan ddyroddir anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, rhaid iddi ddangos, mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy, yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1(f) i (l).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)