Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

83Swyddogion awdurdodedigLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Mae cyfeiriadau yn adrannau 84 i 92 at swyddog awdurdodedig yn gyfeiriadau at unrhyw berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod lleol ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi i arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, naill ai—

(a)gan yr awdurdod, neu

(b)gan unrhyw berson y mae’r awdurdod wedi ymrwymo i drefniadau ag ef i’r person hwnnw arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 83 mewn grym ar 29.11.2024 gan O.S. 2024/1248, ergl. 2(y) (ynghyd ag erglau. 4, 5)