xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n rhoi hysbysiad o dan un o’r darpariaethau a bennir yn is-adran (2) i berson mewn cysylltiad â dirymiad, neu ddirymiad arfaethedig, o gymeradwyaeth o dan adran 70 gymryd camau rhesymol i ddwyn yr hysbysiad i sylw unrhyw bersonau y mae’r awdurdod yn meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt.
(2)Y darpariaethau yw adran 73 a pharagraff 15(3) neu 17 o Atodlen 3 (fel y’i cymhwysir gan adran 73(3)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I2A. 74 mewn grym ar 29.11.2024 gan O.S. 2024/1248, ergl. 2(q) (ynghyd ag erglau. 4, 5)