Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

115Strategaethau toiledau lleol: ymgynghoriLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw berson y mae’n ystyried ei fod yn debygol o fod â buddiant yn y ddarpariaeth o doiledau yn ei ardal sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio cyn iddo gyhoeddi ei strategaeth toiledau lleol o dan—

(a)adran 113(1), neu

(b)adran 113(6)(b).

(2)Fel rhan o’r ymgynghori, rhaid i’r awdurdod lleol roi strategaeth toiledau lleol ddrafft ar gael i bob person yr ymgynghorir ag ef o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2A. 115 mewn grym ar 31.5.2018 gan O.S. 2018/605, ergl. 2(a)