57.Mae’r Bennod hon yn cynnwys darpariaethau i sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Bydd yn ofynnol i bob manwerthwr sy’n gwerthu naill ai cynhyrchion tybaco, cynhyrchion nicotin neu’r ddau o fangre i’r cyhoedd yng Nghymru gofrestru er mwyn eu gwerthu. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gwerthu o strwythurau symudol. Ni fydd y gofrestr yn cynnwys busnesau nad ydynt ond yn gwerthu i fanwerthwyr eraill, masnachwyr neu fusnesau.
58.Mae’r adran hon yn sefydlu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin, a fydd yn cynnwys manylion busnesau sydd â mangre yng Nghymru sy’n gwerthu’r cynhyrchion hynny i’r cyhoedd. Mae’r adran yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod cofrestru i gynnal y gofrestr. Bydd rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn pennu corff, er enghraifft awdurdod lleol, i weithredu fel yr awdurdod cofrestru.
59.Caiff y gofrestr gynnwys gwybodaeth briodol arall a ddarperir yn y ffurflen gais am gofnod ar y gofrestr (gweler adran 31).
60.Mae adran 31 yn galluogi manwerthwyr i wneud cais i fod ar y gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin, ac yn amlinellu’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn unrhyw gais. Ni chaiff yr awdurdod cofrestru wrthod cais ond os yw’r ceisydd yn ddarostyngedig i Orchymyn Gwerthu o dan Gyfyngiad o dan adran 12B o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Ni chaniateir i fangre gael ei hychwanegu at y gofrestr os yw ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad o dan adran 12A o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Os yw’r cais yn cwmpasu mwy nag un fangre yna dim ond y mangreoedd nad ydynt yn ddarostyngedig i Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad a fydd yn cael eu hychwanegu at y gofrestr.
61.Mae Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yn orchymyn a wneir gan lys ynadon sy’n gwahardd mangre fanwerthu rhag gwerthu cynhyrchion tybaco neu nicotin am gyfnod o hyd at 12 mis. Dim ond os yw wedi ei fodloni bod person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o ran tybaco neu nicotin yn y fangre o dan sylw hefyd wedi cyflawni troseddau eraill o ran tybaco neu nicotin ar o leiaf ddau achlysur blaenorol o fewn cyfnod o ddwy flynedd y gall llys ddyroddi Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad. Mae trosedd o ran tybaco wedi ei diffinio yn adran 12D o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 ac mae’n cynnwys gwerthu tybaco i berson o dan 18 oed. Ar 1 Hydref 2015, diwygiwyd y diffiniad o droseddau o ran tybaco i gynnwys trosedd o dan adran 92 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (gwahardd gwerthu cynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed).
62.Mae Gorchymyn Gwerthu o dan Gyfyngiad yn gwahardd person a enwir sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o ran tybaco rhag gwerthu cynhyrchion tybaco neu nicotin am gyfnod o hyd at 12 mis. Fel yn achos Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad, dim ond os yw wedi ei fodloni bod y person a enwir hefyd wedi cyflawni troseddau eraill o ran tybaco neu nicotin ar o leiaf ddau achlysur blaenorol o fewn cyfnod o ddwy flynedd y gall llys ynadon wneud Gorchymyn Gwerthu o dan Gyfyngiad.
63.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu wrth gyflwyno cais i gynnwys person yn y gofrestr, a chânt wneud darpariaethau i ffi gael ei thalu wrth gyflwyno cais.
64.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar fanwerthwyr i hysbysu’r awdurdod cofrestru o fewn 28 o ddiwrnodau am newidiadau i amgylchiadau sy’n berthnasol i gofnod sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr, er enghraifft os nad yw’r manwerthwr bellach yn gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin o’r fangre sydd wedi ei chynnwys ar y gofrestr. Yn ogystal, os daw awdurdod lleol yn ymwybodol o unrhyw newidiadau perthnasol i fanwerthwyr y cynhyrchion hyn, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod cofrestru.
65.Mae’r adran hon yn nodi manylion ynghylch pryd y mae rhaid i’r awdurdod cofrestru wneud newidiadau i’r gofrestr a’r broses y mae rhaid iddo ei dilyn wrth wneud hyn.
66.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ganiatáu i’r awdurdod cofrestru godi ffi am ddiwygio’r gofrestr.
67.O dan yr adran hon rhaid i’r awdurdod cofrestru gyhoeddi rhestr o’r holl bersonau a mangreoedd sydd ar y gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Pan fo’r busnes yn cael ei gynnal o gerbyd, stondin, pabell neu strwythur symudol arall, rhaid i’r rhestr nodi pob awdurdod lleol y mae’n gweithredu ynddo.
68.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i esemptio mangreoedd rhag gorfod cofrestru ar y gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Er enghraifft, gallai’r pŵer hwn gael ei ddefnyddio i esemptio clybiau aelodau pan fo aelodaeth wedi ei chyfyngu i’r rhai dros 18 oed a bod gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin wedi ei gyfyngu i aelodau llawn yn unig.
69.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i addasu sut y mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â mangre sy’n gerbyd, yn stondin, yn babell neu’n strwythur symudol. Er enghraifft, gellid gwneud hyn er mwyn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth ychwanegol (efallai rhif cerbyd, neu fanylion adnabod eraill) gael ei darparu wrth gyflwyno cais i gynnwys cofnod yn y gofrestr mewn perthynas â’r mathau hyn o fangreoedd.
70.Mae’r adran hon yn creu troseddau mewn perthynas â’r gofrestr. Mae is-adrannau (6) a (7) yn nodi’r lefelau gwahanol o gosb ar gyfer y troseddau. Nid yw’r ddirwy ar gyfer y drosedd o gynnal busnes tybaco neu nicotin heb ei gofrestru wedi ei chyfyngu gan unrhyw lefelau ar y raddfa safonol, felly’r llys ynadon a fydd yn dyfarnu ar swm y ddirwy. Caniateir i droseddau eraill gael eu cosbi drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol. Mae’r lefelau ar y raddfa safonol wedi eu nodi yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982. Caniateir i hysbysiad cosb benodedig gael ei ddyroddi gan swyddog awdurdodedig yn lle dirwy. Mae adran 49 yn cynnwys rhagor o fanylion am hysbysiadau cosb benodedig.
71.Mae’r adran hon yn egluro bod unrhyw gyfeiriadau at swyddogion awdurdodedig yn y Bennod hon yn gyfeiriadau at swyddog sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol, pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod lleol ai peidio.
72.Mae’r adran hon yn amlinellu’r amgylchiadau pan gaiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre yng Nghymru at ddiben gorfodi darpariaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin.
73.Ni chaiff swyddogion awdurdodedig fynd i mewn i fangre drwy rym wrth arfer eu pŵer o dan yr adran hon. Os gofynnir iddynt wneud hynny, rhaid i swyddogion awdurdodedig ddangos tystiolaeth o’u hawdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre. Mae adran 67(9) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yn darparu bod rhaid i swyddogion awdurdodedig yr awdurdod gorfodi, wrth weithredu yng nghwrs eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r cod ymarfer perthnasol a wnaed o dan y Ddeddf honno. Felly, rhaid i swyddogion awdurdodedig roi sylw i God Ymarfer B Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi.
74.Mae’r adrannau hyn yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i fynd i mewn i fangre ddomestig neu fangre busnes yng Nghymru at ddiben gorfodi darpariaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Mae gwarant yn parhau mewn grym am 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y’i dyroddwyd gan yr ynad heddwch, a chaniateir cael mynediad drwy rym os oes angen. Gall gwarant gael ei dyroddi mewn fformat ac eithrio dogfen ar ffurf copi caled, megis fersiwn electronig.
75.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 40, 41 neu 42 i fynd ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn briodol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi o dan adran 41 neu 42 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, fod rhaid i’r meddiannydd gael gwybod enw’r swyddog; rhaid i’r swyddog gyflwyno tystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig; rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant a chyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd. Os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, mae’n ofynnol i’r swyddog awdurdodedig adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi. Mae’r darpariaethau yn yr adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd.
76.Mae’r adran hon yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig gynnal arolygiadau mewn mangreoedd. Wrth wneud hynny, caiff swyddogion awdurdodedig ofyn am eitemau a’u harolygu, cymryd samplau ohonynt a/neu fynd â’r eitem(au), dogfennau neu gopïau o ddogfennau o’r fangre. Cânt hefyd ofyn am wybodaeth a chymorth gan unrhyw berson a all eu helpu i gyflawni eu swyddogaethau, ond nid yw’n ofynnol i’r person hwnnw ateb unrhyw gwestiynau na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod eu hateb neu ei chyflwyno yn ystod achos llys yng Nghymru a Lloegr. Caiff y swyddog awdurdodedig ddadansoddi unrhyw samplau a gymerir. Rhaid i’r swyddog awdurdodedig adael datganiad sy’n rhoi manylion unrhyw eitemau sydd wedi eu cymryd ac sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
77.Mae’r adran hon yn darparu bod unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig rhag cyflawni ei swyddogaeth o dan y Bennod hon yn cyflawni trosedd. Mae unrhyw berson sy’n methu, heb achos rhesymol, â darparu i’r swyddog gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu i gyflawni ei swyddogaethau, sy’n methu â rhoi gwybodaeth, heb achos rhesymol, neu sy’n gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol hefyd yn cyflawni trosedd. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiynau na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod eu hateb neu ei chyflwyno yn ystod achos llys yng Nghymru a Lloegr. Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Mae’r lefelau ar y raddfa safonol wedi eu nodi yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.
78.Mae’r adran hon yn darparu y caiff swyddog awdurdodedig wneud pryniannau a sicrhau y darperir gwasanaethau os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gorfodi mewn perthynas â’r Bennod hon.
79.Mae’r adran hon yn darparu diogelwch ychwanegol sy’n ymwneud â’r darpariaethau pwerau mynediad ac arolygu. Mae’n galluogi person a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o’r fangre gan swyddog awdurdodedig o dan adran 44(1)(c) i wneud cais i lys ynadon am orchymyn sy’n gofyn i’r eiddo gael ei ryddhau. Gan ddibynnu ar ystyriaeth y llys i gais, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.
80.Mae’r adran hon yn darparu hawl i berson y mae cymryd meddiant o’r eiddo o dan adran 44(1)(c) yn effeithio arno i wneud cais i lys ynadon i gael ei ddigolledu. Pan fo’r amgylchiadau a nodir yn is-adran (2) wedi eu bodloni (h.y. bod y person wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod yr eiddo wedi ei gymryd, ac nad yw’r golled neu’r difrod wedi digwydd oherwydd ei esgeulustod neu ei fethiant i weithredu), caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd.
81.Mae’r adran hon yn darparu manylion ynghylch pa bryd y caiff swyddog awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd sy’n gysylltiedig â’r gofrestr. Gall cosb benodedig gael ei dyroddi ar gyfer y troseddau a ganlyn:-
Person cofrestredig sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre ac eithrio’r rhai a nodir yng nghofnod y person ar y gofrestr;
Person cofrestredig sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre sy’n strwythur symudol, megis stondin neu gerbyd, mewn ardal awdurdod lleol ac eithrio’r rhai a nodir yng nghofnod y person ar y gofrestr; a
Pherson cofrestredig sy’n methu â chydymffurfio ag adran 33 (dyletswydd i roi hysbysiad o newidiadau penodol).
82.Caniateir i hysbysiadau cosb benodedig gael eu dyroddi i berson, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig. Mae talu hysbysiad cosb benodedig yn rhyddhau’r person y credir ei fod wedi cyflawni trosedd o gael ei euogfarnu am y drosedd mewn llys. Mae’r adran hefyd yn cyfeirio at Atodlen 1 ar gosbau penodedig (am sylwebaeth ar hyn, gweler Atodlen 1 isod).
83.Mae’r adran hon yn nodi ystyr termau allweddol a ddefnyddir yn y Bennod hon.