Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

4Buddiant trethadwyLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Buddiant trethadwy yw—

(a)ystad, buddiant, hawl neu bŵer mewn tir neu dros dir yng Nghymru, neu

(b)budd rhwymedigaeth, cyfyngiad neu amod sy’n effeithio ar werth unrhyw ystad, unrhyw fuddiant, unrhyw hawl neu unrhyw bŵer o’r fath,

ac eithrio buddiant esempt.

(2)Yn y Ddeddf hon, nid yw “tir yng Nghymru” yn cynnwys tir islaw marc cymedrig y distyll.

(3)Gweler adran 9 ynghylch tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3