Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Cyfrifoldeb partneriaidLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

9(1)Mewn perthynas ag unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr yn y trafodiad, neu mewn perthynas ag ef, rhaid i’r holl bartneriaid cyfrifol ei wneud neu rhaid ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd.

(2)Y partneriaid cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad yw—

(a)y personau sy’n bartneriaid ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn aelod o’r bartneriaeth ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(3)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 10 (partneriaid cynrychiadol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3