Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

RHAN 3CYFYNGIADAU AR ARGAELEDD RHYDDHAD

Cyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp

4(1)Nid yw rhyddhad grŵp ar gael os oes trefniadau ar waith, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, sy’n golygu—

(a)bod gan berson neu y gallai person gael, ar yr adeg honno neu ar ryw adeg ddiweddarach, reolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr, neu

(b)bod gan unrhyw bersonau neu y gallai unrhyw bersonau gael, gyda’i gilydd, ar yr adeg honno neu ar ryw adeg ddiweddarach, reolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i drefniadau yr ymrwymir iddynt gyda’r nod o gaffael cyfranddaliadau gan gwmni (“y cwmni caffael”)—

(a)y bydd adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) (y dreth stamp: rhyddhad caffael) yn gymwys iddo,

(b)y bydd yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan yr adran honno yn cael eu bodloni mewn perthynas ag ef, ac

(c)y bydd y prynwr, o ganlyniad iddo, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael.

(3)Nid yw rhyddhad grŵp ar gael os rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â threfniadau, neu mewn cysylltiad â threfniadau pan fo—

(a)y gydnabyddiaeth, neu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, ar gyfer y trafodiad i’w darparu neu i’w derbyn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp, neu

(b)y gwerthwr a’r prynwr i beidio â bod yn aelodau o’r un grŵp am fod y prynwr yn peidio â bod yn is-gwmni 75% i’r gwerthwr neu i drydydd cwmni.

(4)Mae trefniadau o fewn is-baragraff (3)(a)—

(a)os yw’r gwerthwr neu’r prynwr, neu un arall o gwmnïau’r grŵp, i gael ei alluogi i ddarparu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, neu i roi’r gorau i unrhyw ran ohoni, drwy wneud neu o ganlyniad i wneud trafodiad neu drafodiadau, a

(b)os yw’r trafodiad neu’r trafodiadau, neu unrhyw rai ohonynt, yn cynnwys taliad neu warediad arall gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp.

(5)Yn is-baragraffau (3)(a) a (b), ystyr “un o gwmnïau’r grŵp” yw cwmni sydd, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr neu’r prynwr.

(6)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “rheolaeth” yr ystyr a roddir i “control” gan adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);

  • mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 5 a 6 (trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4).

Trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4: cwmnïau cyd-fenter

5(1)Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni cyd-fenter y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—

(a)os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau o fewn is-baragraff (2), a

(b)os na fu, a chyhyd na fu, unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3) y mae’r trefniadau’n ymwneud â hwy.

(2)Mae trefniadau o fewn yr is-baragraff hwn os ydynt—

(a)yn gytundeb sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter i un aelod neu ragor o’r cwmni hwnnw pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3), neu o ganlyniad i hynny, neu

(b)yn ddarpariaeth yn un o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter sy’n darparu ar gyfer atal dros dro hawliau pleidleisio aelod pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol hynny, neu o ganlyniad i hynny.

(3)Y digwyddiadau dibynnol y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1)(b) a (2) yw—

(a)ymadawiad aelod yn wirfoddol,

(b)cychwyn trafodiadau datod, gweinyddu, derbynyddiad gweinyddol neu dderbynyddiad ar gyfer aelod, neu aelod yn ymrwymo i drefniant gwirfoddol, o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45) neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989 (O.S.1989/2405 (G.I.19)) neu gychwyn, neu ymrwymo i, achos neu drefniadau cyfatebol o dan gyfraith unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

(c)dirywiad difrifol yng nghyflwr ariannol aelod,

(d)rheolaeth dros aelod yn newid,

(e)methiant ar ran aelod i gyflawni ei rwymedigaethau o dan unrhyw gytundeb rhwng yr aelodau neu â’r cwmni cyd-fenter (sydd, at y diben hwn, yn cynnwys unrhyw un neu ragor o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter),

(f)newid allanol yn yr amgylchiadau masnachol y mae’r cwmni cyd-fenter yn gweithredu ynddynt i’r graddau bod bygythiad i’w hyfywedd,

(g)anghytundeb heb ei ddatrys rhwng yr aelodau, a

(h)unrhyw ddigwyddiad dibynnol tebyg i’r rhai a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g) y darperir ar ei gyfer, ond na fwriadwyd iddo ddigwydd, pan ymrwymwyd i’r trefniadau o dan sylw.

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pe gallai aelod, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad—

(a)trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau, neu

(b)atal dros dro hawliau pleidleisio aelod,

cyn un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol.

(5)At ddibenion is-baragraff (4), nid yw aelodau yn gysylltiedig â’i gilydd yn unig oherwydd eu bod yn aelodau o’r cwmni cyd-fenter.

(6)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “aelod” (“member”) yw deiliad cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter;

  • ystyr “cwmni cyd-fenter” (“joint venture company”) yw cwmni—

    (a)

    sydd â dau neu ragor o aelod-gwmnïau, a

    (b)

    sy’n ymgymryd â gweithgarwch masnachol a lywodraethir gan gytundeb sy’n rheoleiddio materion ei aelodau;

  • ystyr “dogfen gyfansoddiadol” (“constitutional document”) yw memorandwm cymdeithasu, erthyglau cymdeithasu neu unrhyw ddogfen arall debyg sy’n rheoleiddio materion y cwmni cyd-fenter.

Trefniadau morgais penodol nad ydynt o fewn paragraff 4

6(1)Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—

(a)os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau yn forgais, a sicrheir gan gyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni, sydd yn achos drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad arall yn caniatáu i’r morgeisai arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr, a

(b)os nad yw, a chyhyd nad yw, y morgeisai wedi arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

(2)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r morgeisai yn meddu ar fwy o hawliau mewn cysylltiad â’r cyfranddaliadau neu’r gwarannau y mae’r morgais yn ymwneud â hwy nag y bo’n ofynnol ganddo er mwyn gwarchod ei fuddiant fel morgeisai, neu

(b)pe gallai’r morgeisai, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad y drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad sy’n caniatáu iddo arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

(3)At ddibenion is-baragraff (2)(b), nid yw morgeisai, yn unig oherwydd y morgais, yn gysylltiedig â chwmni y mae’r morgais yn ymwneud â’i gyfranddaliadau neu ei warannau.

(4)Yn y paragraff hwn ystyr “morgais”—

(a)yng Nghymru a Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon, yw unrhyw arwystl cyfreithiol neu ecwitïol, a

(b)yn yr Alban, yw unrhyw hawl sicrhad.