xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch y rhyddhad sydd ar gael ar gyfer trafodiadau penodol pan fo’r gwerthwr a’r prynwr yn gwmnïau sy’n aelodau o’r un grŵp.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael ac yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r Atodlen hon,

(b)mae Rhan 3 yn cyfyngu ar argaeledd y rhyddhad,

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch tynnu’r rhyddhad yn ôl, a

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill treth nas talwyd gan bersonau penodol.

RHAN 2Y RHYDDHAD

Rhyddhad grŵp

2(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r gwerthwr a’r prynwr yn gwmnïau sy’n aelodau o’r un grŵp ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at ryddhad o dan y paragraff hwn fel “rhyddhad grŵp”.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 4 (cyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp) a pharagraffau 8 a 12 (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl).

Rhyddhad grŵp: dehongli

3(1)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys at ddibenion rhyddhad grŵp.

(2)Ystyr “cwmni” yw corff corfforaethol.

(3)Mae cwmnïau yn aelodau o’r un grŵp os yw un yn is-gwmni 75% i’r llall neu os yw’r ddau yn is-gwmnïau 75% i drydydd cwmni.

(4)Mae cwmni (“cwmni A”) yn is-gwmni 75% i gwmni arall (“cwmni B”)—

(a)os yw cwmni B yn berchennog llesiannol ar ddim llai na 75% o gyfalaf cyfranddaliadau cyffredin cwmni A,

(b)os oes gan gwmni B hawl lesiannol i ddim llai na 75% o unrhyw elw sydd ar gael i’w ddosbarthu i ddeiliaid ecwiti cwmni A, ac

(c)pe bai gan gwmni B hawl lesiannol i ddim llai na 75% o unrhyw asedau cwmni A sydd ar gael i’w dosbarthu i’w ddeiliaid ecwiti mewn achos o ddirwyn i ben.

(5)At ddibenion is-baragraff (4)(a)—

(a)y berchnogaeth y cyfeirir ati yw perchnogaeth naill ai’n uniongyrchol neu drwy gwmni arall neu gwmnïau eraill, a

(b)mae swm cyfalaf cyfranddaliadau cyffredin cwmni A y mae cwmni B yn berchen arno drwy gwmni arall neu gwmnïau eraill i’w bennu yn unol ag adrannau 1155 i 1157 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(6)Yn is-baragraffau (4)(a) a (5)(b), ystyr “cyfalaf cyfranddaliadau cyffredin”, mewn perthynas â chwmni, yw holl gyfalaf cyfranddaliadau dyroddedig (o ba enw bynnag) y cwmni, ac eithrio cyfalaf y mae gan ei ddeiliaid hawl i ddifidend arno ar gyfradd benodedig ond heb unrhyw hawl arall i rannu yn elw’r cwmni.

(7)Mae Pennod 6 o Ran 5 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (rhyddhad grŵp: deiliaid ecwiti ac elw neu asedau sydd ar gael i’w dosbarthu) yn gymwys at ddibenion is-baragraff (4)(b) ac (c) fel y mae’n gymwys at ddibenion adran 151(4)(a) a (b) o’r Ddeddf honno.

(8)Ond mae adrannau 171(1)(b) a (3), 173, 174 a 176 i 178 o’r Ddeddf honno i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor at ddibenion is-baragraff (4)(b) ac (c).

RHAN 3CYFYNGIADAU AR ARGAELEDD RHYDDHAD

Cyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp

4(1)Nid yw rhyddhad grŵp ar gael os oes trefniadau ar waith, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, sy’n golygu—

(a)bod gan berson neu y gallai person gael, ar yr adeg honno neu ar ryw adeg ddiweddarach, reolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr, neu

(b)bod gan unrhyw bersonau neu y gallai unrhyw bersonau gael, gyda’i gilydd, ar yr adeg honno neu ar ryw adeg ddiweddarach, reolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i drefniadau yr ymrwymir iddynt gyda’r nod o gaffael cyfranddaliadau gan gwmni (“y cwmni caffael”)—

(a)y bydd adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) (y dreth stamp: rhyddhad caffael) yn gymwys iddo,

(b)y bydd yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan yr adran honno yn cael eu bodloni mewn perthynas ag ef, ac

(c)y bydd y prynwr, o ganlyniad iddo, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael.

(3)Nid yw rhyddhad grŵp ar gael os rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â threfniadau, neu mewn cysylltiad â threfniadau pan fo—

(a)y gydnabyddiaeth, neu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, ar gyfer y trafodiad i’w darparu neu i’w derbyn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp, neu

(b)y gwerthwr a’r prynwr i beidio â bod yn aelodau o’r un grŵp am fod y prynwr yn peidio â bod yn is-gwmni 75% i’r gwerthwr neu i drydydd cwmni.

(4)Mae trefniadau o fewn is-baragraff (3)(a)—

(a)os yw’r gwerthwr neu’r prynwr, neu un arall o gwmnïau’r grŵp, i gael ei alluogi i ddarparu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, neu i roi’r gorau i unrhyw ran ohoni, drwy wneud neu o ganlyniad i wneud trafodiad neu drafodiadau, a

(b)os yw’r trafodiad neu’r trafodiadau, neu unrhyw rai ohonynt, yn cynnwys taliad neu warediad arall gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp.

(5)Yn is-baragraffau (3)(a) a (b), ystyr “un o gwmnïau’r grŵp” yw cwmni sydd, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr neu’r prynwr.

(6)Yn y paragraff hwn—

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 5 a 6 (trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4).

Trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4: cwmnïau cyd-fenter

5(1)Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni cyd-fenter y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—

(a)os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau o fewn is-baragraff (2), a

(b)os na fu, a chyhyd na fu, unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3) y mae’r trefniadau’n ymwneud â hwy.

(2)Mae trefniadau o fewn yr is-baragraff hwn os ydynt—

(a)yn gytundeb sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter i un aelod neu ragor o’r cwmni hwnnw pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3), neu o ganlyniad i hynny, neu

(b)yn ddarpariaeth yn un o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter sy’n darparu ar gyfer atal dros dro hawliau pleidleisio aelod pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol hynny, neu o ganlyniad i hynny.

(3)Y digwyddiadau dibynnol y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1)(b) a (2) yw—

(a)ymadawiad aelod yn wirfoddol,

(b)cychwyn trafodiadau datod, gweinyddu, derbynyddiad gweinyddol neu dderbynyddiad ar gyfer aelod, neu aelod yn ymrwymo i drefniant gwirfoddol, o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45) neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989 (O.S.1989/2405 (G.I.19)) neu gychwyn, neu ymrwymo i, achos neu drefniadau cyfatebol o dan gyfraith unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

(c)dirywiad difrifol yng nghyflwr ariannol aelod,

(d)rheolaeth dros aelod yn newid,

(e)methiant ar ran aelod i gyflawni ei rwymedigaethau o dan unrhyw gytundeb rhwng yr aelodau neu â’r cwmni cyd-fenter (sydd, at y diben hwn, yn cynnwys unrhyw un neu ragor o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter),

(f)newid allanol yn yr amgylchiadau masnachol y mae’r cwmni cyd-fenter yn gweithredu ynddynt i’r graddau bod bygythiad i’w hyfywedd,

(g)anghytundeb heb ei ddatrys rhwng yr aelodau, a

(h)unrhyw ddigwyddiad dibynnol tebyg i’r rhai a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g) y darperir ar ei gyfer, ond na fwriadwyd iddo ddigwydd, pan ymrwymwyd i’r trefniadau o dan sylw.

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pe gallai aelod, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad—

(a)trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau, neu

(b)atal dros dro hawliau pleidleisio aelod,

cyn un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol.

(5)At ddibenion is-baragraff (4), nid yw aelodau yn gysylltiedig â’i gilydd yn unig oherwydd eu bod yn aelodau o’r cwmni cyd-fenter.

(6)Yn y paragraff hwn—

Trefniadau morgais penodol nad ydynt o fewn paragraff 4

6(1)Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—

(a)os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau yn forgais, a sicrheir gan gyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni, sydd yn achos drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad arall yn caniatáu i’r morgeisai arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr, a

(b)os nad yw, a chyhyd nad yw, y morgeisai wedi arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

(2)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r morgeisai yn meddu ar fwy o hawliau mewn cysylltiad â’r cyfranddaliadau neu’r gwarannau y mae’r morgais yn ymwneud â hwy nag y bo’n ofynnol ganddo er mwyn gwarchod ei fuddiant fel morgeisai, neu

(b)pe gallai’r morgeisai, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad y drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad sy’n caniatáu iddo arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

(3)At ddibenion is-baragraff (2)(b), nid yw morgeisai, yn unig oherwydd y morgais, yn gysylltiedig â chwmni y mae’r morgais yn ymwneud â’i gyfranddaliadau neu ei warannau.

(4)Yn y paragraff hwn ystyr “morgais”—

(a)yng Nghymru a Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon, yw unrhyw arwystl cyfreithiol neu ecwitïol, a

(b)yn yr Alban, yw unrhyw hawl sicrhad.

RHAN 4TYNNU RHYDDHAD YN ÔL

Dehongli: trafodiad a ryddheir

7Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, cyfeirir at drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd paragraff 2 (rhyddhad grŵp) fel “trafodiad a ryddheir”.

Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl

8(1)Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, mae rhyddhad grŵp wedi ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad a ryddheir, neu gyfran briodol ohono, ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys, yn achos trafodiad a ryddheir—

(a)pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—

(i)a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(3)Y swm sydd i’w godi yw’r dreth y byddid wedi ei chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad a ryddheir oni bai am ryddhad grŵp pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn swm cyfwerth ag⁠—

(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad, a

(b)os rhoi les am rent oedd y caffaeliad, y rhent hwnnw,

neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r dreth y byddid wedi ei chodi.

(4)Yn is-baragraffau (1) a (3), ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i destun y trafodiad a ryddheir a’r hyn y mae’r cwmni sy’n drosglwyddai neu, yn ôl y digwydd, y cwmni hwnnw a’i gwmnïau cyswllt perthnasol yn ei ddal ar yr adeg berthnasol.

(5)Yn y paragraff hwn—

(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 9 ac 10 (achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl) a pharagraff 12 (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol).

Achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl

9(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 yn yr achosion a ganlyn.

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

(a)o ganlyniad i unrhyw beth a wneir at ddibenion, neu yng nghwrs, dirwyn i ben y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, neu

(b)am fod y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp yn peidio â bodoli fel arall.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.

(4)Yr ail achos yw—

(a)pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith fod cwmni arall (“y cwmni caffael”) wedi caffael cyfranddaliadau a bod, mewn perthynas â’r caffaeliad—

(i)adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) yn gymwys (y dreth stamp: rhyddhad caffael), a

(ii)yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan yr adran honno wedi eu bodloni, a

(b)bod y prynwr, yn union ar ôl y caffaeliad hwnnw, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael.

(5)Ond mewn achos sydd o fewn is-baragraff (4), mae is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)os yw’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael, os yw’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—

(i)a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(6)Mae darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr.

(7)Yn is-baragraff (5)—

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl pan fo gwerthwr yn gadael grŵp

10(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr am fod y gwerthwr yn gadael y grŵp.

(2)Ystyrir bod y gwerthwr yn gadael y grŵp os yw’r cwmnïau yn peidio â bod yn aelodau o’r un grŵp oherwydd trafodiad sy’n ymwneud â chyfranddaliadau—

(a)yn y gwerthwr, neu

(b)mewn cwmni arall—

(i)sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, a

(ii)sydd, o ganlyniad i’r trafodiad, yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr.

(3)At ddiben is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.

(4)Ond os yw rheolaeth dros y prynwr yn newid ar ôl i’r gwerthwr adael y grŵp, mae paragraffau 8, 9(4) a (6), 13 a 14 yn cael effaith fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (ond gweler is-baragraff (7)).

(5)At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros y prynwr yn newid os yw—

(a)person sydd â rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,

(b)person yn cael rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu

(c)y prynwr yn cael ei ddirwyn i ben.

(6)At ddibenion is-baragraff (5), nid oes gan berson (“P”) reolaeth dros y prynwr, ac nid yw’n cael rheolaeth dros y prynwr, os oes gan berson arall neu bersonau eraill reolaeth dros P.

(7)Nid yw is-baragraff (4) yn gymwys pan fo—

(a)rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a

(b)y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.

(8)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at “rheolaeth” i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (yn ddarostyngedig i is-baragraff (6)).

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o ganlyniad i drosglwyddiadau penodol busnes etc. gan gymdeithasau cydfuddiannol

11(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8—

(a)pan fo trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad,

(b)pan fu trafodiad a ryddheir cyn dyddiad y trosglwyddiad perthnasol, ac

(c)o ganlyniad i’r trosglwyddiad hwnnw, pan fo’r prynwr yn y trafodiad a ryddheir yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad” yw—

(a)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 10(1)(a) a (b) o Atodlen 22 (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau adeiladu);

(b)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraffau 11(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cyfeillgar);

(c)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 12(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol neu undebau credyd).

Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol

12(1)Yn achos trafodiad a ryddheir—

(a)pan fo rheolaeth dros y prynwr yn newid,

(b)pan fo’r newid hwnnw yn digwydd—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy,

(c)pe na byddai rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir, oni bai am y paragraff hwn, yn cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8, a

(d)pan fo unrhyw drafodiad blaenorol yn dod o fewn is-baragraff (3),

mae paragraffau 8, 9 ac 10 yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir fel pe bai’r gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf sydd o fewn is-baragraff (3) yn werthwr yn y trafodiad a ryddheir.

(2)Mae is-baragraff (1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (6).

(3)Mae trafodiad blaenorol o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os yw’r trafodiad blaenorol yn drafodiad a ryddheir neu os yw wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael),

(b)os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith lai na 3 blynedd cyn dyddiad y digwyddiad sydd o fewn is-baragraff (1)(a),

(c)os yw’r buddiant trethadwy a gaffaelir o dan y trafodiad a ryddheir gan y prynwr yn y trafodiad hwnnw yr un fath â’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad blaenorol gan y prynwr yn y trafodiad blaenorol, neu’n ei ffurfio, yn ffurfio rhan ohono, neu’n deillio ohono, a

(d)os nad yw, ers y trafodiad blaenorol, y buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad hwnnw wedi ei gaffael gan unrhyw berson mewn trafodiad nad yw’n drafodiad a ryddheir nac wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael).

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros gwmni yn newid os yw—

(a)unrhyw berson sydd â rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,

(b)person yn cael rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu

(c)y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben.

(5)Mae cyfeiriadau at “rheolaeth” yn y paragraff hwn i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(6)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo—

(a)rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a

(b)y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.

(7)Os dau drafodiad neu ragor y rhoddwyd effaith iddynt ar yr un pryd yw’r trafodiadau blaenorol cynharaf o fewn is-baragraff (3), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at y gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf yn gyfeiriad at y personau sy’n werthwyr yn y trafodiadau blaenorol cynharaf.

(8)Yn y paragraff hwn, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

RHAN 5ADENNILL RHYDDHAD GAN BERSONAU PENODOL

Adennill rhyddhad grŵp gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gan gyfarwyddwr â rheolaeth

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo treth i’w chodi o dan baragraff (8) (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl),

(b)pan fo’r swm sydd i’w godi felly wedi ei bennu’n derfynol, ac

(c)pan na fo’r holl swm neu ran o’r swm sydd i’w godi felly wedi ei dalu 6 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn daladwy.

(2)Gall fod yn ofynnol i’r personau a ganlyn, drwy hysbysiad o dan baragraff 14, dalu’r dreth nas talwyd (ynghyd ag unrhyw log sy’n daladwy)—

(a)y gwerthwr;

(b)unrhyw gwmni a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr ac a oedd uwchlaw iddo yn strwythur y grŵp;

(c)unrhyw berson a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn gyfarwyddwr â rheolaeth dros y prynwr neu’n gwmni â rheolaeth dros y prynwr.

(3)At ddibenion is-baragraff (2)(b)—

(a)ystyr “adeg berthnasol” yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith a phan fydd y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr;

(b)mae cwmni (“cwmni A”) “uwchlaw” cwmni arall (“cwmni B”) o fewn strwythur grŵp os yw cwmni B, neu gwmni arall sydd uwchlaw cwmni B yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i gwmni A.

(4)Yn is-baragraff (2)(c)—

(5)At ddibenion y paragraff hwn, nid yw hawliad wedi ei bennu’n derfynol hyd na ellir amrywio—

(a)yr hawliad, neu

(b)y swm y mae’n ymwneud ag ef,

mwyach (boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).

Adennill rhyddhad grŵp: atodol

14(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad i berson sydd o fewn paragraff 13(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm sy’n parhau heb ei dalu cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(2)Rhaid dyroddi hysbysiad o dan is-baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad pennu’r swm terfynol a grybwyllir ym mharagraff 13(1)(b).

(3)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person y dyroddir yr hysbysiad iddo ei dalu.

(4)Mae’r swm hwnnw yn “swm perthnasol” sy’n daladwy gan y person y dyroddir yr hysbysiad iddo at ddibenion Rhan 7 o DCRhT (talu a gorfodi).

(5)Caiff person sydd wedi talu swm yn unol â hysbysiad o dan y paragraff hwn adennill y swm hwnnw gan y prynwr.