Adeiladau penodol sydd eto i’w hadeiladu neu i’w haddasu i gyfrif fel anneddLL+C
8(1)At ddibenion yr Atodlen hon, cymerir mai prif destun y trafodiad yw buddiant mewn annedd neu ei fod yn cynnwys buddiant mewn annedd—
(a)os dyddiad cyflawni contract yn sylweddol yw’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yn rhinwedd darpariaeth dybio berthnasol,
(b)os yw prif destun y trafodiad yn ffurfio neu’n cynnwys buddiant mewn adeilad, neu ran o adeilad, sydd i’w adeiladu neu i’w addasu o dan y contract i’w ddefnyddio fel annedd, ac
(c)os nad yw’r gwaith o adeiladu neu addasu’r adeilad, neu’r rhan o adeilad, wedi dechrau erbyn i’r contract gael ei gyflawni’n sylweddol.
(2)Yn is-baragraff (1)—
mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gytundeb;
mae i “cyflawni’n sylweddol” (“substantially performed”) yr ystyr a roddir gan adran 14;
ystyr “darpariaeth dybio berthnasol” (“relevant deeming provision”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)adran 10 (contract a throsglwyddo),
(b)adran 11 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti),
(c)paragraff 8(1) i (5) o Atodlen 2 (aseinio hawliau: trin y trosglwyddwr fel pe bai’n gwneud caffaeliad ar wahân), neu
(d)paragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les).
(3)Mae is-adrannau (4) i (7) o adran 72 (ystyr eiddo preswyl) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn fel y maent yn gymwys at ddibenion is-adran (1)(a) o’r adran honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 13 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 13 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3