Dehongli
67Ystyr treth
Ac eithrio fel y darperir fel arall, yn y Ddeddf hon, ystyr “treth” yw treth trafodiadau tir.
68Ystyr prif fuddiant mewn tir
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “prif fuddiant” mewn tir yn gyfeiriadau at—
(a)ystad mewn ffi syml absoliwt, neu
(b)cyfnod o flynyddoedd absoliwt,
pa un a yw’n bodoli mewn cyfraith neu mewn ecwiti.
69Ystyr testun a phrif destun
Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “testun” trafodiad tir yn gyfeiriadau at y buddiant trethadwy a gaffaelir (y “prif destun”), ynghyd ag unrhyw fuddiant neu hawl sy’n perthyn iddo neu sy’n ymwneud ag ef a gaffaelir gydag ef.
70Ystyr gwerth marchnadol
At ddibenion y Ddeddf hon, mae “gwerth marchnadol” i’w bennu yn yr un modd ag y pennir “market value” at ddibenion Deddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (gweler adrannau 272 i 274 o’r Ddeddf honno).
71Ystyr y dyddiad y mae trafodiad yn cael effaith
Ac eithrio fel y darperir fel arall, y dyddiad y mae trafodiad tir yn cael effaith at ddibenion y Ddeddf hon yw’r dyddiad cwblhau.
72Ystyr eiddo preswyl
(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “eiddo preswyl” yw—
(a)adeilad a ddefnyddir fel un annedd neu ragor, neu sy’n addas i’w ddefnyddio felly, neu sydd yn y broses o gael ei godi neu ei addasu i’w ddefnyddio felly;
(b)tir sy’n ardd neu’n diroedd, neu’n ffurfio rhan o ardd neu diroedd adeilad o fewn paragraff (a) (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar dir o’r fath);
(c)buddiant mewn tir neu hawl dros dir sy’n bodoli er budd adeilad o fewn paragraff (a) neu dir o fewn paragraff (b).
(2)Yn unol â hynny, ystyr “eiddo amhreswyl” yw unrhyw eiddo nad yw’n eiddo preswyl.
(3)Ond gweler y rheol yn is-adran (9) yn achos trafodiad sy’n ymwneud â 6 neu ragor o anheddau.
(4)At ddibenion is-adran (1), mae adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—
(a)llety preswyl ar gyfer disgyblion ysgol;
(b)llety preswyl ar gyfer myfyrwyr, ac eithrio llety o fewn is-adran (5)(b);
(c)llety preswyl ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog;
(d)sefydliad sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa o leiaf 90% o’i breswylwyr ac nad yw o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (f) o is-adran (5).
(5)At ddibenion is-adran (1), nid yw adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—
(a)cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl ar gyfer plant;
(b)neuadd breswyl myfyrwyr addysg bellach neu addysg uwch;
(c)cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl â gofal personol ar gyfer personau sydd angen gofal personol oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;
(d)ysbyty neu hosbis;
(e)carchar neu sefydliad tebyg;
(f)gwesty neu sefydliad tebyg.
(6)Pan fo adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a bennir yn is-adran (5), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a).
(7)Pan fo adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio yn addas i’w ddefnyddio at o leiaf un o’r dibenion a bennir yn is-adran (4) ac o leiaf un o’r dibenion hynny a bennir yn is-adran (5)—
(a)os oes un defnydd o’r fath y mae’r adeilad yn fwyaf addas ar ei gyfer, neu os yw’r defnyddiau y mae’n fwyaf addas ar eu cyfer oll wedi eu pennu yn yr un is-adran, rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a),
(b)fel arall, mae’r adeilad i’w drin at y dibenion hynny fel pe bai’n addas i’w ddefnyddio fel annedd.
(8)Yn yr adran hon, mae “adeilad” yn cynnwys rhan o adeilad.
(9)Pan fo trafodiad unigol yn ymwneud â 6 neu ragor o anheddau ac yn cynnwys trosglwyddo prif fuddiant ynddynt, neu roi les drostynt, yna, at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw, caiff yr anheddau hynny eu trin fel anheddau amhreswyl.
(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon.
73Ystyr annedd
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “annedd” yn gyfeiriadau at eiddo preswyl sy’n annedd unigol.
74Cyfeiriadau at bersonau cysylltiedig
(1)Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddibenion unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf hon at berson sy’n gysylltiedig â pherson arall.
(2)Ond gweler y ddarpariaeth benodol a wneir yn y darpariaethau a ganlyn—
(a)adran 23(3)(b) (eithriadau i’r rheol gwerth marchnadol tybiedig mewn trafodiadau gyda chwmnïau cysylltiedig);
(b)paragraffau 16(2)(b) a 24(2)(b) o Atodlen 7 (trafodiadau partneriaeth: pennu’r partneriaid cyfatebol);
(c)paragraff 51 o’r Atodlen honno (partneriaethau: cymhwyso adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) i Atodlen 7 yn gyffredinol);
(d)paragraff 5(5) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp: cwmnïau cyd-fenter);
(e)paragraff 6(3) o’r Atodlen honno (rhyddhad grŵp: trefniadau morgais).
75Diffiniadau eraill
Yn y Ddeddf hon—
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sy’n, neu sydd wedi ei gynnwys mewn—
(a)Deddf Seneddol,
(b)Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
(c)is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan—
(i)Deddf Seneddol, neu
(ii)Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrir fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);
ystyr “mynegai prisiau defnyddwyr” (“consumer prices index”) yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer pob eitem a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau;
ystyr “mynegai prisiau manwerthu” (“retail prices index”) yw Mynegai Cyffredinol Prisiau Manwerthu’r Deyrnas Unedig a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau o dan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18);
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;
mae “tir” (“land”) yn cynnwys—
(a)adeiladau a strwythurau;
(b)tir a orchuddir â dŵr.