Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

DatganiadauLL+C

53DatganiadLL+C

(1)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y Ddeddf hon gynnwys datganiad gan y prynwr fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y prynwr.

(2)Ond pan fo—

(a)y prynwr yn awdurdodi asiant i gwblhau’r ffurflen dreth,

(b)y prynwr yn gwneud datganiad bod yr wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen dreth, ac eithrio’r dyddiad perthnasol, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr, ac

(c)y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan yr asiant bod y dyddiad perthnasol a ddarperir ar y ffurflen dreth yn gywir hyd eithaf gwybodaeth yr asiant,

tybir bod y gofyniad yn is-adran (1) wedi ei fodloni.

(3)Y dyddiad perthnasol yw—

(a)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 47, dyddiad y digwyddiad y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad iddo,

(b)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 49, dyddiad y digwyddiad datgymhwyso,

(c)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 51, y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith,

(d)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan baragraff 24 o Atodlen 5, y dyddiad y daeth y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) o’r Atodlen honno i ben, ac

(e)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon, y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Nid oes dim yn is-adran (2) yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 53 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

54Prynwr ag anabledd: datganiad gan y Cyfreithiwr SwyddogolLL+C

(1)Pan fo—

(a)prynwr mewn trafodiad tir yn anabl,

(b)y Cyfreithiwr Swyddogol yn gweithredu ar ran y prynwr hwnnw, ac

(c)y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan y Cyfreithiwr Swyddogol fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y Cyfreithiwr Swyddogol,

tybir bod y gofyniad yn adran 53 wedi ei fodloni.

(2)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.

(3)At ddibenion yr adran hon, mae person yn anabl os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).

(4)Yn yr adran hon, ystyr y “Cyfreithiwr Swyddogol” yw’r Cyfreithiwr Swyddogol i’r Uwchlysoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4A. 54 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

55Datganiad gan berson a awdurdodir i weithredu ar ran unigolynLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ddatganiad a grybwyllir yn adran 53 bod ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn.

(2)Pan fo’r prynwr yn unigolyn, caiff y gofyniad bod y prynwr yn gwneud datganiad o’r fath (ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw person a awdurdodir i weithredu ar ran yr unigolyn hwnnw mewn perthynas â’r materion y mae’r ffurflen dreth neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

(3)At ddibenion yr adran hon nid ystyrir bod person (“P”) wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran unigolyn oni bai bod P wedi ei awdurdodi felly gan atwrneiaeth ysgrifenedig, a lofnodwyd gan yr unigolyn hwnnw.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo unigolyn yn gweithredu’n unol ag adran 33 (personau y mae cwmni yn gweithredu drwyddynt)—

(a)fel swyddog priodol cwmni, neu

(b)fel arall ar ran cwmni.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6A. 55 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3