xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 4TRAFODIADAU TRETHADWY A CHYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Trafodiadau trethadwy

17Trafodiad trethadwy

Mae trafodiad tir yn drafodiad trethadwy oni bai—

(a)ei fod yn drafodiad sy’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, neu

(b)ei fod yn drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd darpariaeth a restrir yn adran 30(2) ac yr hawlir rhyddhad rhag treth ar ei gyfer.

Cydnabyddiaeth drethadwy

18Cydnabyddiaeth drethadwy

(1)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth o ran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag—

(a)yr hyn sydd i gyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, neu

(b)pennu swm y gydnabyddiaeth drethadwy.

19Cydnabyddiaeth ddibynnol

(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ddibynnol, mae swm neu werth y gydnabyddiaeth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar y rhagdybiaeth y bydd canlyniad y digwyddiad dibynnol yn golygu bod y gydnabyddiaeth yn daladwy neu, yn ôl y digwydd, nad yw’n peidio â bod yn daladwy.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “dibynnol”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw—

(a)nad yw i’w thalu neu i’w darparu oni cheir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol, neu

(b)y peidir â’i thalu neu ei darparu os ceir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol.

20Cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod

(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ansicr neu heb ei chanfod, mae ei swm neu ei gwerth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar sail amcangyfrif rhesymol.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “ansicr”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw bod ei swm neu ei gwerth yn dibynnu ar ddigwyddiadau ansicr yn y dyfodol.

21Blwydd-daliadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir sydd ar ffurf blwydd-dal sy’n daladwy—

(a)am oes,

(b)am byth,

(c)am gyfnod amhenodol, neu

(d)am gyfnod penodol sy’n hwy na 12 mlynedd.

(2)Mae’r gydnabyddiaeth sydd i’w hystyried wedi ei chyfyngu i 12 mlynedd o daliadau blynyddol.

(3)Pan fo’r swm sy’n daladwy yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, neu os gall amrywio felly, y 12 taliad blynyddol uchaf sydd i’w hystyried.

(4)Rhaid diystyru unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addasu’r swm sy’n daladwy yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg arall a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant.

(5)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at daliadau blynyddol yn gyfeiriadau at daliadau mewn cysylltiad â phob cyfnod olynol o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae swm neu werth unrhyw daliad i’w bennu (os oes angen) yn unol ag adran 19 (cydnabyddiaeth ddibynnol) neu 20 (cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod).

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at flwydd-dal yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth (ar wahân i rent) sydd i’w thalu neu i’w darparu’n gyfnodol; ac mae cyfeiriadau at daliad i’w darllen yn unol â hynny.

22Gwerth marchnadol tybiedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r prynwr yn gwmni ac—

(a)y gwerthwr yn gysylltiedig â’r prynwr, neu

(b)rhywfaint o’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, neu’r holl gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, ar ffurf dyroddi neu drosglwyddo cyfranddaliadau mewn cwmni y mae’r gwerthwr yn gysylltiedig ag ef.

(2)Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw—

(a)y swm a bennir o dan is-adran (3) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(b)os yw’n fwy na hynny, y swm a fyddai wedi bod yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad o anwybyddu’r adran hon.

(3)Y swm a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw—

(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)os rhoi les ar rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw.

(4)Yn yr adran hon—

(5)Pan fo’r adran hon yn gymwys nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptio trafodiadau nad oes cydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys.

(6)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)yr eithriadau a ddarperir yn adran 23, a

(b)unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.

23Eithriadau

(1)Nid yw adran 22 (gwerth marchnadol tybiedig) yn gymwys yn yr achosion a ganlyn.

(2)Achos 1 yw pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr yng nghwrs busnes a gyflawnir ganddo sydd ar ffurf rheoli ymddiriedolaethau neu’n cynnwys hynny.

(3)Achos 2 yw—

(a)pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)pan fo’r gwerthwr yn gysylltiedig â’r cwmni oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn unig.

(4)Achos 3 yw—

(a)pan fo’r gwerthwr yn gwmni a’r trafodiad yn ddosbarthu asedau’r cwmni hwnnw (boed mewn cysylltiad â’i ddirwyn i ben ai peidio), neu’n rhan o hynny, a

(b)o fewn y cyfnod o 3 blynedd yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, nad yw trafodiad yr hawliodd y gwerthwr ryddhad grŵp o dan Atodlen 16 ar ei gyfer wedi ymwneud ag—

(i)testun y trafodiad, neu

(ii)buddiant y mae’r buddiant hwnnw yn deillio ohono.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “y cwmni” yw’r cwmni sy’n brynwr mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw.