Cefndir y Ddeddf

4.Mae Deddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datgymhwyso Treth Dir Treth Stamp y DU yng Nghymru, ac yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei disodli gyda threth Gymreig ar drafodiadau sy’n ymwneud â buddiannau mewn tir. Mae’r Ddeddf hon yn darparu bod y dreth trafodiadau tir yn disodli treth dir y dreth stamp yng Nghymru o fis Ebrill 2018. Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (DCRhT) oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth drethi a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae’n nodi’r fframwaith cyfreithiol sy’n angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn o drethi datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Prif swyddogaeth ACC fydd casglu a rheoli trethi datganoledig Cymru. Mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn berthnasol i DCRhT, a bydd angen eu darllen ochr yn ochr â’i gilydd.

5.Cyflwynwyd deddfwriaeth treth dir y dreth stamp am y tro cyntaf yn 2003, ac ers hynny gwnaed diwygiadau ac ychwanegiadau rheolaidd iddi er mwyn ymateb i’r modd y mae marchnad eiddo’r DU yn gweithredu ac o ganlyniad fe’i thrawsnewidiwyd yn raddol ers ei chyflwyno. Mae treth dir y dreth stamp yn dylanwadu ar ymddygiad - gan effeithio ar natur a gweithrediad y trafodiadau y mae’n gymwys iddynt. Mae’n bwysig sicrhau bod rhanddeiliaid sydd wedi gweithio ym maes deddfwriaeth treth dir y dreth stamp yn gallu deall a gweithredu’r gyfundrefn treth trafodiadau tir y darperir ar ei chyfer gan y Ddeddf hon yn rhwydd. O’r herwydd, mae’r dreth trafodiadau tir wedi mabwysiadu llawer o egwyddorion sylfaenol treth dir y dreth stamp a’r rheolau gweithdrefnol sy’n rheoli’r ystod o drafodiadau, a strwythurau’r trafodiadau hynny, ar yr adeg y’u datgymhwyswyd yng Nghymru.