Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Legislation Crest

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

2017 dccc 1

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch trethu trafodiadau tir; i ddiwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) i wneud darpariaeth ynghylch gwrthweithio osgoi trethi datganoledig; i wneud diwygiadau eraill i’r Ddeddf honno; ac at ddibenion cysylltiedig.

[24 Mai 2017]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1TROSOLWG

1Trosolwg o’r Ddeddf

(1)Mae’r Ddeddf hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn darparu bod treth i’w chodi ar drafodiadau tir (“treth trafodiadau tir”) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y prif gysyniadau sy’n sail i’r dreth gan gynnwys—

(i)pa drafodiadau sy’n drafodiadau tir,

(ii)yr hyn sy’n fuddiant trethadwy, a’r hyn nad yw’n fuddiant trethadwy,

(iii)pa bryd y caffaelir buddiant trethadwy a thrin trafodiadau sy’n cynnwys contractau y mae’n ofynnol eu cwblhau drwy drosglwyddiad, yn ogystal â thrin mathau eraill o drafodiadau,

(iv)pa drafodiadau tir y mae’r dreth i’w chodi arnynt (“trafodiadau trethadwy”) a pha rai nad yw’r dreth i’w chodi arnynt, a

(v)yr hyn sy’n gydnabyddiaeth drethadwy, a’r hyn nad yw’n gydnabyddiaeth drethadwy, mewn perthynas â thrafodiad trethadwy,

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(i)bandiau treth a chyfraddau treth,

(ii)sut i gyfrifo swm y dreth sydd i’w godi, a

(iii)y rhyddhadau sydd ar gael rhag treth trafodiadau tir,

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon i lesoedd,

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) i bersonau a chyrff penodol, gan gynnwys cwmnïau, partneriaethau ac ymddiriedolaethau,

(e)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurflenni treth a thalu’r dreth gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(i)pa bryd y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â thrafodiad tir,

(ii)y personau y mae’n ofynnol iddynt ddychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth, a

(iii)pa bryd y mae’n ofynnol talu’r dreth (gan gynnwys darpariaeth ynghylch pa bryd y caniateir gohirio taliad),

(f)mae Rhan 7 yn mewnosod yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) ddarpariaethau sy’n sefydlu rheol gyffredinol at ddibenion gwrthweithio trefniadau osgoi trethi datganoledig, ac

(g)mae Rhan 8 yn darparu diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) ac yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon, gan gynnwys diffiniadau o ymadroddion a ddefnyddir yn y Ddeddf hon.

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys trosolwg o Atodlenni y Ddeddf hon.

RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 1TRETH TRAFODIADAU TIR

2Treth trafodiadau tir

(1)Mae treth (o’r enw “treth trafodiadau tir”) i’w chodi ar drafodiadau tir.

(2)Caiff y dreth ei chodi—

(a)pa un a oes offeryn yn rhoi effaith i’r trafodiad ai peidio,

(b)os oes offeryn o’r fath, ni waeth ym mha le y caiff ei gyflawni, ac

(c)ni waeth ym mha le y mae unrhyw barti i’r trafodiad nac ym mha le y mae’n preswylio.

(3)Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sydd i fod yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth.

PENNOD 2TRAFODIADAU TIR

3Trafodiad tir

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “trafodiad tir” yw caffael buddiant trethadwy.

(2)Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae’r Ddeddf hon yn gymwys ni waeth ym mha ffordd y rhoddir effaith i’r caffaeliad, boed drwy weithred gan y partïon, drwy orchymyn llys neu awdurdod arall, gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu yn sgil gweithredu’r gyfraith.

(3)Gweler adran 15 ynghylch pa bryd y mae caffael opsiwn neu hawl rhagbrynu yn drafodiad tir.

4Buddiant trethadwy

(1)Buddiant trethadwy yw—

(a)ystad, buddiant, hawl neu bŵer mewn tir neu dros dir yng Nghymru, neu

(b)budd rhwymedigaeth, cyfyngiad neu amod sy’n effeithio ar werth unrhyw ystad, unrhyw fuddiant, unrhyw hawl neu unrhyw bŵer o’r fath,

ac eithrio buddiant esempt.

(2)Yn y Ddeddf hon, nid yw “tir yng Nghymru” yn cynnwys tir islaw marc cymedrig y distyll.

(3)Gweler adran 9 ynghylch tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

5Buddiant esempt

(1)Mae’r canlynol yn fuddiannau esempt—

(a)buddiant sicrhad;

(b)trwydded i ddefnyddio tir neu i feddiannu tir;

(c)tenantiaeth wrth ewyllys;

(d)rhyddfraint neu faenor.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)ystyr “buddiant sicrhad” yw buddiant neu hawl (ar wahân i rent-dal) a ddelir at ddiben sicrhau y telir arian neu y caiff unrhyw rwymedigaeth arall ei chyflawni;

(b)ystyr “rhyddfraint” yw grant gan y Goron megis yr hawl i gynnal marchnad neu ffair, neu’r hawl i gymryd tollau.

(3)Gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 10 (sy’n gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch buddiannau esempt mewn perthynas â threfniadau ariannol eraill).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—

(a)darparu bod unrhyw ddisgrifiad arall o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt;

(b)darparu nad yw disgrifiad o fuddiant neu hawl mewn perthynas â thir yng Nghymru yn fuddiant esempt mwyach;

(c)amrywio disgrifiad o fuddiant esempt.

6Caffael a gwaredu buddiant trethadwy

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae pob un o’r canlynol yn achos o gaffael ac o waredu buddiant trethadwy—

(a)creu’r buddiant;

(b)ildio neu ollwng y buddiant;

(c)amrywio’r buddiant.

(2)Ond nid yw amrywio les yn achos o gaffael a gwaredu buddiant trethadwy oni bai—

(a)ei fod yn cael effaith, neu’n cael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel rhoi les newydd, neu

(b)bod paragraff 24 o Atodlen 6 (gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall) yn gymwys.

(3)Mae person yn caffael buddiant trethadwy pan fo—

(a)y person yn dod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei greu,

(b)ildio neu ollwng y buddiant o fudd i fuddiant neu i hawl y person neu’n cynyddu’r buddiant neu’r hawl, neu

(c)y person yn cael budd o amrywio’r buddiant.

(4)Mae person yn gwaredu buddiant trethadwy pan fo—

(a)buddiant neu hawl y person yn dod yn ddarostyngedig i’r buddiant pan gaiff ei greu,

(b)y person yn peidio â bod â hawl i’r buddiant pan gaiff ei ildio neu ei ollwng, neu

(c)buddiant neu hawl y person yn ddarostyngedig i amrywio’r buddiant neu wedi ei gyfyngu gan hynny.

(5)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 10(4) (cyflawni’n sylweddol heb gwblhau), adran 11(3) (cyflawni’n sylweddol gontract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) a pharagraffau 20 a 24 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les a gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall).

7Y prynwr a’r gwerthwr

(1)Y prynwr mewn trafodiad tir yw’r person sy’n caffael testun y trafodiad.

(2)Y gwerthwr mewn trafodiad tir yw’r person sy’n gwaredu testun y trafodiad.

(3)Mae’r ymadroddion hyn yn gymwys hyd yn oed os na roddir cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad.

8Trafodiadau cysylltiol

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn drafodiad cysylltiol os yw’n un o nifer o drafodiadau tir sy’n ffurfio rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un gwerthwr a phrynwr neu, yn y naill achos neu’r llall, bersonau sy’n gysylltiedig â hwy.

(2)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 16 (cyfnewidiadau; gweler yn benodol is-adran (1) o’r adran honno sy’n darparu nad yw trafodiadau sy’n ffurfio cyfnewidiad i’w trin fel trafodiadau cysylltiol).

9Tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr

(1)Mae’r adran hon yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i drafodiad sy’n achos o gaffael—

(a)ystad, buddiant, hawl neu bŵer mewn tir neu dros dir, neu

(b)budd rhwymedigaeth, cyfyngiad neu amod sy’n effeithio ar werth unrhyw ystad, unrhyw fuddiant, unrhyw hawl neu unrhyw bŵer o’r fath,

pan fo’r tir yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

(2)Mae’r trafodiad i’w drin fel pe bai’n ddau drafodiad, y naill yn ymwneud â’r tir yng Nghymru (“y trafodiad yng Nghymru”) a’r llall yn ymwneud â’r tir yn Lloegr (“y trafodiad yn Lloegr”).

(3)Mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad i’w ddosrannu rhwng y ddau drafodiad hynny ar sail deg a rhesymol.

(4)Felly, mae’r trafodiad yng Nghymru i’w drin fel trafodiad tir o fewn ystyr y Ddeddf hon (sef caffael buddiant trethadwy sy’n ymwneud â’r tir yng Nghymru).

(5)Ond nid yw is-adran (4) yn gymwys yn achos buddiant esempt.

(6)Rhaid i ACC gyhoeddi canllawiau ynghylch trafodiadau y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt, gan gynnwys canllawiau ynghylch nodi lleoliad y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

(7)Caiff ACC ddiwygio canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (6) a rhaid iddo gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.

(8)Gweler adran 48A o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) o ran cymhwyso Rhan 4 o’r Ddeddf honno (treth dir y dreth stamp) i’r trafodiad yn Lloegr.

(9)Yn adran 48A o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)See section 9 of the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Act 2017 (dccc 0) as to the application of that Act to the transaction relating to the land in Wales.

PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL

Contractau a throsglwyddiadau: darpariaeth gyffredinol

10Contract a throsglwyddo

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract ar gyfer trafodiad tir a bod y trafodiad oddi tano i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.

(2)Nid ystyrir bod person yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract (ond gweler is-adran (4)).

(3)Os cwblheir y trafodiad heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol—

(a)caiff y contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau eu trin fel rhannau o un trafodiad tir, a

(b)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad cwblhau.

(4)Ond os yw’r contract wedi ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—

(a)caiff y contract ei drin fel pe bai’r contract y trafodiad y darperir ar ei gyfer yn y contract, a

(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

(5)Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei gwblhau wedi hynny drwy drosglwyddiad—

(a)mae’r contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau ill dau yn drafodiadau hysbysadwy at ddibenion y Ddeddf hon, a

(b)mae treth i’w chodi ar yr ail drafodiad i’r graddau (os o gwbl) y mae’r swm a grybwyllir yn is-adran (6) yn fwy na swm y dreth sydd i’w godi ar y contract.

(6)Y swm yw’r dreth y byddid wedi ei chodi ar yr ail drafodiad pe bai wedi ei gwblhau heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol.

(7)Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau) wedi hynny, neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).

(8)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.

(9)Pan fo paragraff 20 o Atodlen 6 yn gymwys (cytundeb ar gyfer les), mae’n gymwys yn lle is-adrannau (4) i (8).

(10)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at gwblhau yn gyfeiriadau at gwblhau’r trafodiad tir y bwriedir ei wneud, rhwng yr un partïon, ac sy’n cydymffurfio’n sylweddol â’r contract;

(b)mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.

Contractau a throsglwyddiadau: achosion penodol

11Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—

(a)i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu

(b)naill ai i berson o’r fath neu i P2.

(2)Nid ystyrir bod P2 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract.

(3)Ond os caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—

(a)caiff P2 ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n caffael buddiant trethadwy, ac felly fel pe bai’n ymrwymo i drafodiad tir, a

(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

(4)Pan fo is-adran (3) yn gymwys a bod y contract wedi hynny yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau), neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).

(5)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn perthynas â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), nid yw adran 10 (contract a throsglwyddo) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.

(7)Pan fo—

(a)yr adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b), a

(b)P1 yn dod yn rhwym i drosglwyddo buddiant trethadwy i P2 oherwydd cyfarwyddyd neu gais gan P2,

mae adran 10 yn gymwys i’r rhwymedigaeth honno fel y mae’n gymwys i gontract ar gyfer trafodiad tir sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.

(8)Mae adran 10 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gontract rhwng P2 a P3, mewn cysylltiad â’r buddiant trethadwy y cyfeirir ato yn is-adran (1), sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.

(9)Mae cyfeiriadau at gwblhau yn yr adran honno, fel y mae’n gymwys, yn cynnwys cyfeiriadau at drosglwyddo, gan P1 i P3, destun y contract rhwng P2 a P3.

(10)Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.

12Contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddiad hawliau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan ymrwymir i gontract (“y contract gwreiddiol”) y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—

(i)i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu

(ii)naill ai i berson o’r fath neu i P2, a

(b)pan fo aseiniad neu drafodiad arall (sy’n ymwneud â holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono) y daw person (“P4”) i fod â hawl i arfer unrhyw un neu ragor o hawliau P2 o dan y contract gwreiddiol yn lle P2 o ganlyniad iddo.

(2)Mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn o’r adran hon at drosglwyddiad hawliau yn gyfeiriadau at unrhyw aseiniad neu drafodiad arall o’r fath.

(3)Nid ystyrir bod P4 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trosglwyddiad hawliau, ond mae adran 11 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti) yn cael effaith yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.

(4)Mae’r adran honno yn gymwys fel pe bai—

(a)P4 wedi ymrwymo i gontract (“contract eilaidd”) ar yr un telerau â’r contract gwreiddiol ac eithrio bod P4 yn barti yn lle P2, a

(b)y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus gan P4 o dan y contract eilaidd—

(i)yn hynny o’r gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol ag y bo i’w briodoli i destun y trosglwyddiad hawliau ac sydd i’w roi (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan P4 neu gan berson sy’n gysylltiedig â P4, a

(ii)yw’r gydnabyddiaeth a roddir am y trosglwyddiad hawliau.

(5)Mae cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol i’w ddiystyru os yw’n digwydd—

(a)ar yr un pryd â chyflawni’r contract eilaidd yn sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu

(b)ar ôl y trosglwyddiad hawliau.

(6)Pan drosglwyddir hawliau yn olynol, mae is-adran (4) yn cael effaith mewn perthynas â phob trosglwyddiad.

(7)Os caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau cynharach ei gyflawni’n sylweddol, mae hynny i’w ddiystyru os yw’n digwydd—

(a)ar yr un pryd ag y caiff y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad hawliau dilynol ei gyflawni’n sylweddol, ac mewn cysylltiad â hynny, neu

(b)ar ôl y trosglwyddiad dilynol hwnnw.

(8)Pan fo trosglwyddiad hawliau yn ymwneud â rhan yn unig o destun y contract gwreiddiol, neu â rhai yn unig o’r hawliau o dan y contract hwnnw—

(a)mae cyfeiriad yn is-adran (4)(a) neu (5) at y contract gwreiddiol, neu gyfeiriad yn is-adran (7) at y contract eilaidd sy’n deillio o drosglwyddiad cynharach, yn gyfeiriad at y contract hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, a

(b)mae’r contract hwnnw, i’r graddau nad yw’n ymwneud â’r rhan honno neu â’r hawliau hynny, i’w drin fel contract ar wahân.

(9)Os caiff trafodiad tir ei drin fel pe ymrwymwyd iddo yn rhinwedd is-adran (4), nid yw’r dyddiad y mae’n cael effaith yn gynharach na dyddiad y trosglwyddiad hawliau.

(10)Mewn perthynas â thrafodiad o’r fath—

(a)mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’w darllen fel cyfeiriadau at P1;

(b)mae cyfeiriadau eraill at y gwerthwr yn y Ddeddf hon i’w darllen, pan fo’r cyd-destun yn caniatáu hynny, fel cyfeiriadau at naill ai P1 neu P2.

(11)Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb.

13Trafodiadau cyn-gwblhau

Mae Atodlen 2 yn gwneud—

(a)darpariaeth ynghylch cymhwyso adran 10 (contract a throsglwyddo) mewn achosion penodol pan ymrwymir i aseinio hawliau, is-werthiant neu drafodiad arall heb i’r contract fod wedi ei gwblhau, a

(b)darpariaeth arall ynghylch achosion o’r fath.

Cyflawni’n sylweddol

14Ystyr cyflawni’n sylweddol

(1)Mae contract wedi ei gyflawni’n sylweddol at ddibenion y Ddeddf hon pan fo—

(a)y prynwr, neu berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yn cymryd meddiant o holl destun y contract, neu’r holl destun i raddau helaeth, neu

(b)cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth yn cael ei thalu neu ei darparu.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a)—

(a)mae meddiant yn cynnwys cael rhenti ac elw neu’r hawl i’w cael, a

(b)nid oes wahaniaeth pa un a gymerir meddiant o dan y contract neu o dan drwydded neu les dros dro neu denantiaeth wrth ewyllys.

(3)At ddibenion is-adran (1)(b), caiff cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth ei thalu neu ei darparu—

(a)os nad yw dim o’r gydnabyddiaeth yn rhent, pan delir neu pan ddarperir yr holl gydnabyddiaeth, neu’r holl gydnabyddiaeth i raddau helaeth;

(b)os rhent yw’r unig gydnabyddiaeth, pan wneir y taliad rhent cyntaf;

(c)os yw’r gydnabyddiaeth yn cynnwys rhent yn ogystal â chydnabyddiaeth arall, pan ddigwydd y cyntaf o’r canlynol—

(i)caiff yr holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent, neu’r holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent i raddau helaeth, ei thalu neu ei darparu, neu

(ii)gwneir y taliad rhent cyntaf.

Opsiynau etc.

15Opsiynau a hawliau rhagbrynu

(1)Mae caffael—

(a)opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir, neu

(b)hawl rhagbrynu sy’n rhwystro’r grantwr rhag ymrwymo i drafodiad tir, neu’n cyfyngu ar hawl y grantwr i ymrwymo iddo,

yn drafodiad tir gwahanol i unrhyw drafodiad tir sy’n deillio o arfer yr opsiwn neu’r hawl.

(2)Gallant fod yn “trafodiadau cysylltiol” (gweler adran 8).

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at opsiwn sy’n rhwymo’r grantwr i ymrwymo i drafodiad tir yn cynnwys opsiwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r grantwr naill ai ymrwymo i drafodiad tir neu gyflawni ei rwymedigaethau o dan yr opsiwn mewn ffordd arall.

(4)Y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yn achos caffael opsiwn neu hawl fel y rheini a grybwyllir yn is-adran (1) yw pan gaffaelir yr opsiwn neu’r hawl (yn hytrach na phan ddaw’n arferadwy).

(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn gymwys i hynny o opsiwn neu hawl rhagbrynu sy’n drafodiad tir neu’n ffurfio rhan o drafodiad tir ar wahân i’r adran hon.

Cyfnewidiadau

16Cyfnewidiadau

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys mewn achos sydd o fewn is-adran (2) mewn perthynas â phob trafodiad a ddisgrifir yn yr is-adran honno fel pe bai pob un yn wahanol i’w gilydd ac ar wahân i’w gilydd (ac nid ydynt yn drafodiadau cysylltiol o fewn ystyr adran 8).

(2)Mae achos o fewn yr is-adran hon pan fo person (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir fel prynwr, yn gydnabyddiaeth, boed lwyr neu rannol, y bydd y person hwnnw (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir arall fel gwerthwr.

(3)Caiff trafodiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un y mae person wedi ymrwymo iddo fel prynwr, yn gydnabyddiaeth, boed lwyr neu rannol, y bydd y person hwnnw yn ymrwymo i drafodiad tir arall fel gwerthwr mewn achos sydd o fewn is-adran (4).

(4)Mae achos o fewn yr is-adran hon pan fodlonir rhwymedigaeth i roi cydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir y mae person yn ymrwymo iddo fel prynwr yn llwyr neu’n rhannol wrth i’r person hwnnw ymrwymo i drafodiad arall fel gwerthwr.

(5)O ran y swm o’r gydnabyddiaeth drethadwy yn achos cyfnewidiadau a thrafodiadau tebyg, gweler—

(a)paragraffau 5 a 6 o Atodlen 4 (cyfnewidiadau, darnddosbarthu etc.);

(b)paragraff 18 o’r Atodlen honno (trefniadau sy’n cynnwys cyrff cyhoeddus neu gyrff addysgol).

PENNOD 4TRAFODIADAU TRETHADWY A CHYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Trafodiadau trethadwy

17Trafodiad trethadwy

Mae trafodiad tir yn drafodiad trethadwy oni bai—

(a)ei fod yn drafodiad sy’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, neu

(b)ei fod yn drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd darpariaeth a restrir yn adran 30(2) ac yr hawlir rhyddhad rhag treth ar ei gyfer.

Cydnabyddiaeth drethadwy

18Cydnabyddiaeth drethadwy

(1)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth o ran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag—

(a)yr hyn sydd i gyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, neu

(b)pennu swm y gydnabyddiaeth drethadwy.

19Cydnabyddiaeth ddibynnol

(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ddibynnol, mae swm neu werth y gydnabyddiaeth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar y rhagdybiaeth y bydd canlyniad y digwyddiad dibynnol yn golygu bod y gydnabyddiaeth yn daladwy neu, yn ôl y digwydd, nad yw’n peidio â bod yn daladwy.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “dibynnol”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw—

(a)nad yw i’w thalu neu i’w darparu oni cheir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol, neu

(b)y peidir â’i thalu neu ei darparu os ceir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol.

20Cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod

(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ansicr neu heb ei chanfod, mae ei swm neu ei gwerth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar sail amcangyfrif rhesymol.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “ansicr”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw bod ei swm neu ei gwerth yn dibynnu ar ddigwyddiadau ansicr yn y dyfodol.

21Blwydd-daliadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir sydd ar ffurf blwydd-dal sy’n daladwy—

(a)am oes,

(b)am byth,

(c)am gyfnod amhenodol, neu

(d)am gyfnod penodol sy’n hwy na 12 mlynedd.

(2)Mae’r gydnabyddiaeth sydd i’w hystyried wedi ei chyfyngu i 12 mlynedd o daliadau blynyddol.

(3)Pan fo’r swm sy’n daladwy yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, neu os gall amrywio felly, y 12 taliad blynyddol uchaf sydd i’w hystyried.

(4)Rhaid diystyru unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addasu’r swm sy’n daladwy yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg arall a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant.

(5)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at daliadau blynyddol yn gyfeiriadau at daliadau mewn cysylltiad â phob cyfnod olynol o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae swm neu werth unrhyw daliad i’w bennu (os oes angen) yn unol ag adran 19 (cydnabyddiaeth ddibynnol) neu 20 (cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod).

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at flwydd-dal yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth (ar wahân i rent) sydd i’w thalu neu i’w darparu’n gyfnodol; ac mae cyfeiriadau at daliad i’w darllen yn unol â hynny.

22Gwerth marchnadol tybiedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r prynwr yn gwmni ac—

(a)y gwerthwr yn gysylltiedig â’r prynwr, neu

(b)rhywfaint o’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, neu’r holl gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, ar ffurf dyroddi neu drosglwyddo cyfranddaliadau mewn cwmni y mae’r gwerthwr yn gysylltiedig ag ef.

(2)Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw—

(a)y swm a bennir o dan is-adran (3) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(b)os yw’n fwy na hynny, y swm a fyddai wedi bod yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad o anwybyddu’r adran hon.

(3)Y swm a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw—

(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)os rhoi les ar rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cwmni” (“company”) yw unrhyw gorff corfforaethol;

  • mae “cyfranddaliadau” (“shares”) yn cynnwys stoc ac mae’r cyfeiriad at gyfranddaliadau mewn cwmni yn cynnwys cyfeiriad at warannau a ddyroddir gan gwmni.

(5)Pan fo’r adran hon yn gymwys nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptio trafodiadau nad oes cydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys.

(6)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)yr eithriadau a ddarperir yn adran 23, a

(b)unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.

23Eithriadau

(1)Nid yw adran 22 (gwerth marchnadol tybiedig) yn gymwys yn yr achosion a ganlyn.

(2)Achos 1 yw pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr yng nghwrs busnes a gyflawnir ganddo sydd ar ffurf rheoli ymddiriedolaethau neu’n cynnwys hynny.

(3)Achos 2 yw—

(a)pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)pan fo’r gwerthwr yn gysylltiedig â’r cwmni oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn unig.

(4)Achos 3 yw—

(a)pan fo’r gwerthwr yn gwmni a’r trafodiad yn ddosbarthu asedau’r cwmni hwnnw (boed mewn cysylltiad â’i ddirwyn i ben ai peidio), neu’n rhan o hynny, a

(b)o fewn y cyfnod o 3 blynedd yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, nad yw trafodiad yr hawliodd y gwerthwr ryddhad grŵp o dan Atodlen 16 ar ei gyfer wedi ymwneud ag—

(i)testun y trafodiad, neu

(ii)buddiant y mae’r buddiant hwnnw yn deillio ohono.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “y cwmni” yw’r cwmni sy’n brynwr mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw.

RHAN 3CYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU

Cyfrifo treth

24Rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu drwy reoliadau y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys yn achos y mathau o drafodiadau trethadwy a ganlyn⁠—

(a)trafodiadau eiddo preswyl,

(b)trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch, ac

(c)trafodiadau eiddo amhreswyl.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “band treth” yw swm isaf a swm uchaf (os pennir swm uchaf) o arian y mae cyfradd dreth ganrannol benodedig yn gymwys ohono neu, yn ôl y digwydd, rhyngddynt.

(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1)(a) ac (c) bennu, yn achos pob math o drafodiad—

(a)band treth y mae cyfradd dreth o 0% yn gymwys iddo (“y band cyfradd sero”),

(b)dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero,

(c)y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a

(d)dyddiad pan fo’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.

(4)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1)(b) bennu—

(a)tri band treth neu ragor,

(b)cyfradd dreth gymwys ar gyfer pob band—

(i)y mae’n rhaid iddi, mewn cysylltiad ag unrhyw drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, fod yn uwch na’r gyfradd uchaf a fyddai’n gymwys i unrhyw swm o fewn y band hwnnw pe bai’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl, a

(ii)sydd, ac eithrio yn achos y band isaf, yn uwch na’r gyfradd sy’n gymwys i’r band oddi tano, ac

(c)dyddiad pan fo’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu—

(a)bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â chategorïau gwahanol o bob math o drafodiad trethadwy (gan gynnwys drwy gyfeirio at ddisgrifiadau gwahanol o brynwr);

(b)dyddiadau gwahanol o dan is-adran (3)(d) neu (4)(c) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.

(6)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl—

(a)os prif destun y trafodiad yw buddiant mewn tir sy’n eiddo preswyl, a hynny’n unig, neu

(b)pan fo’r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os prif destun pob trafodiad yw buddiant o’r fath, a hynny’n unig.

(7)Ond os yw Atodlen 5 yn gymwys i drafodiad trethadwy mae’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(8)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo amhreswyl—

(a)os prif destun y trafodiad yw buddiant mewn tir nad yw’n eiddo preswyl, neu os yw’n cynnwys buddiant o’r fath, neu

(b)pan fo’r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os prif destun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau yw buddiant o’r fath, neu os yw neu os ydynt yn cynnwys buddiant o’r fath.

(9)Nid yw bandiau treth a chyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy i’r graddau y bo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad ar ffurf rhent (gweler paragraffau 27 a 28 o Atodlen 6 am ddarpariaeth ynghylch y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent).

(10)Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 5 drwy reoliadau.

25Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth

(1)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 24(1),

(b)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan baragraff 27(4) o Atodlen 6 (bandiau treth a chyfraddau treth: elfen rhent lesoedd preswyl), neu

(c)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan baragraff 28(1) o’r Atodlen honno (bandiau treth a chyfraddau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg),

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(2)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan adran 24(1),

(b)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan baragraff 27(4) o Atodlen 6, neu

(c)yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan baragraff 28(1) o’r Atodlen honno,

gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(3)Ond—

(a)os yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (2) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y bleidlais.

(4)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (2), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo’r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)wedi ei ddiddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

26Bandiau treth a chyfraddau treth sy’n gymwys pan fo rheoliadau yn peidio â chael effaith

(1)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “rheoliadau a wrthodir” yw rheoliadau sy’n peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o adran 25;

(b)ystyr “y cyfnod interim” yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir gan reoliadau a wrthodir fel y dyddiad y mae bandiau treth a chyfraddau treth penodedig yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy, a

(ii)sy’n dod i ben pan fydd y rheoliadau hynny yn peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o adran 25.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), os yw’r dyddiad y mae trafodiad trethadwy yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i’r trafodiad yw’r bandiau a’r cyfraddau a bennir gan y rheoliadau a wrthodir fel y rhai sy’n gymwys i’r trafodiad.

(3)Os yw—

(a)y dyddiad y mae trafodiad trethadwy yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, a

(b)is-adran (4), (5) neu (6) yn gymwys,

y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i’r trafodiad yw’r bandiau a’r cyfraddau a fyddai wedi bod yn gymwys pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol i’r prynwr, yn rhinwedd adran 44, ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r trafodiad ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, a’i fod yn methu â gwneud hynny, a

(b)pan fo’r prynwr hefyd yn methu â dychwelyd y ffurflen dreth ar y dyddiad y mae’r cyfnod interim yn dod i ben neu cyn hynny.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r ffurflen dreth gyntaf sy’n ofynnol mewn perthynas â’r trafodiad trethadwy yn ofynnol o dan un o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 47 (dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth pan fo digwyddiad dibynnol yn dod i ben neu gydnabyddiaeth yn cael ei chanfod);

(b)adran 51 (dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach);

(c)paragraff 3(4) neu 5(5) o Atodlen 6 (dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i barhad les);

(d)paragraff 13(1) o’r Atodlen honno (dychwelyd ffurflen dreth yn achos tandaliad treth pan bennir rhent wrth ailystyried).

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo—

(a)y prynwr yn y trafodiad yn gwneud hawliad o dan adran 63A o DCRhT,

(b)yn rhinwedd is-adran (5) o’r adran honno, yr asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gynhwysir mewn ffurflen dreth a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ddiwygio, ac

(c)ffurflen dreth bellach yn ofynnol mewn perthynas â’r trafodiad o dan—

(i)darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (5) o’r adran hon,

(ii)adran 49 (dychwelyd ffurflen dreth bellach pan dynnir rhyddhad yn ôl), neu

(iii)paragraff 24 o Atodlen 5 (dychwelyd ffurflen dreth pan fo trafodiad yn cael ei drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch).

(7)Ond nid yw is-adran (6) yn effeithio ar ffurflen dreth a ddychwelir cyn i’r hawliad gael ei wneud o dan adran 63A o DCRhT.

(8)Mae adran 63A o DCRhT yn gwneud darpariaeth ar gyfer hawlio rhyddhad mewn achosion pan fo is-adran (2) yn gymwys os yw swm y dreth sydd i’w godi yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

27Swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau nad ydynt yn gysylltiol

(1)Mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â thrafodiad trethadwy nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol (gweler adran 28 ynglŷn â hynny) i’w gyfrifo fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Ar gyfer pob band treth sy’n gymwys i’r trafodiad, lluosi hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd o fewn y band â’r gyfradd dreth ganrannol ar gyfer y band hwnnw.

  • Cam 2

    Cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o Gam 1.

    Y canlyniad yw swm y dreth sydd i’w godi.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo unrhyw swm o dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad trethadwy neu ran ohoni ar ffurf rhent; gweler yn lle hynny—

(a)yn achos trafodiad eiddo preswyl, baragraff 27 o Atodlen 6 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw sy’n gwneud darpariaeth ynglŷn â’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent yn achos lesoedd preswyl;

(b)yn achos trafodiad eiddo amhreswyl, baragraff 29 o’r Atodlen honno sy’n darparu ar gyfer cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent yn achos lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg.

28Swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol

(1)Pan fo trafodiad trethadwy yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad i’w bennu fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Cyfrifo’r dreth a fyddai i’w chodi yn unol ag adran 27(1), pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yr holl gydnabyddiaeth.

  • Cam 2

    Rhannu’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad â’r holl gydnabyddiaeth.

  • Cam 3

    Lluosi’r swm sy’n deillio o Gam 1 â’r ffracsiwn sy’n deillio o Gam 2.

    Y canlyniad yw’r swm o dreth sydd i’w godi.

(2)Yn is-adran (1), yr “holl gydnabyddiaeth” yw cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol (heb gynnwys unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent).

(3)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad cysylltiol, neu ran ohoni, ar ffurf rhent nid yw’r adran hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm unrhyw dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r rhent; gweler yn lle hynny—

(a)yn achos trafodiad eiddo preswyl, baragraff 27 o Atodlen 6 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y paragraff hwnnw, a

(b)yn achos trafodiad eiddo amhreswyl, baragraff 30 o’r Atodlen honno (cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: trafodiadau cysylltiol).

29Darpariaethau cyfrifo yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol ynglŷn â rhyddhadau

Mae adrannau 27 a 28 yn ddarostyngedig i—

(a)Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);

(b)paragraff 10 o Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd);

(c)Rhan 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael);

(d)paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).

Rhyddhadau

30Rhyddhadau

(1)Mae’r Atodlenni a ganlyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhyddhadau a darpariaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhyddhadau hynny—

  • Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);

  • Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall);

  • Atodlen 11 (rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall);

  • Atodlen 12 (rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig);

  • Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);

  • Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau);

  • Atodlen 15 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol);

  • Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);

  • Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael);

  • Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);

  • Atodlen 19 (rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored);

  • Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd);

  • Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);

  • Atodlen 22 (rhyddhadau amrywiol).

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon yn darparu rhyddhad rhag treth ar gyfer trafodiadau tir penodol (ac felly os hawlir rhyddhad nid yw trafodiadau o’r fath yn drafodiadau trethadwy)—

  • paragraffau 18(2) a 19(2) o Atodlen 2 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau tybiannol y mae cyswllt rhyngddynt ag aseinio hawliau a rhyddhad ar gyfer iswerthiannau penodol);

  • paragraff 1 o Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);

  • paragraffau 2 a 3 o Atodlen 10 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau cyllid eiddo arall penodol);

  • paragraffau 13(1) a 15(1) o Atodlen 11 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â bondiau buddsoddi cyllid arall);

  • paragraff 1 o Atodlen 12 (rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig);

  • paragraffau 2(1), 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 7(1) o Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau anheddau penodol);

  • paragraff 4 o Atodlen 15 (lesoedd rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer rifersiynau penodol);

  • paragraff 6(2) o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer trafodiadau cynyddu perchentyaeth penodol);

  • paragraff 13 o’r Atodlen honno (rhyddhad ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trosglwyddo ar derfyniad);

  • paragraff 14 o’r Atodlen honno (ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer trafodiadau cynyddu perchentyaeth penodol);

  • paragraff 19(1) o’r Atodlen honno (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan ddarparwyr tai cymdeithasol);

  • paragraff 2(1) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);

  • paragraff 2(1) o Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi);

  • paragraffau 3(1) a 5 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);

  • paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 19 (rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored);

  • paragraffau 1(1) a 2 o Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd);

  • paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);

  • Atodlen 22 (rhyddhadau amrywiol).

(3)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon yn darparu rhyddhad i drafodiadau trethadwy penodol yn y modd a bennir yn y ddarpariaeth berthnasol—

  • paragraff 19(3) o Atodlen 2 (rhyddhad rhannol ar gyfer iswerthiannau penodol);

  • Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);

  • paragraffau 2(3), 3(4), 4(4), 5(3), 6(4) a 7(3) o Atodlen 14 (rhyddhad rhannol ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau sy’n fwy na’r arwynebedd a ganiateir);

  • paragraff 10 o’r Atodlen honno (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd);

  • paragraff 2 o Atodlen 15 (rhyddhad sy’n gysylltiedig â chydnabyddiaeth ddibynnol yn achos trafodiad hawl i brynu);

  • paragraff 3 o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth: dewis i gymryd mai’r gwerth marchnadol yw’r gydnabyddiaeth);

  • paragraff 5 o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth pan ganiateir cynyddu perchentyaeth: dewis i’r gydnabyddiaeth fod yn seiliedig ar werth ar y farchnad agored);

  • paragraff 12 o’r Atodlen honno (ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: dewis i gymryd mai’r gwerth marchnadol yw’r gydnabyddiaeth);

  • Rhan 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael);

  • paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).

(4)Rhaid hawlio unrhyw ryddhad o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) (ac eithrio rhyddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22 (rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol)) ar y ffurflen dreth gyntaf a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad tir, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno.

(5)Mewn perthynas â rhyddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22—

(a)gellir ei hawlio ar y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad tir, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno, neu

(b)os na chaiff ei hawlio ar y ffurflen dreth neu’r ffurflen dreth ddiwygiedig a bod y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth wedi dod i ben, gellir ei hawlio drwy hawlio ad-daliad am unrhyw swm o dreth a ordalwyd (gweler Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT),

ac nid yw adran 78 o DCRhT (terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau) yn gymwys i hawliad am ryddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau er mwyn—

(a)ychwanegu rhyddhad;

(b)addasu rhyddhad;

(c)dileu rhyddhad;

(d)addasu adran 31.

31Rhyddhad: gwrthweithio osgoi trethi

(1)Nid yw rhyddhad ar gael o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 30 mewn cysylltiad â thrafodiad tir—

(a)sy’n drefniant osgoi trethi, neu

(b)sy’n rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.

(2)Mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi”—

(a)os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ymrwymo i’r trefniant, a

(b)os nad oes sylwedd economaidd na masnachol dilys i’r trefniant ac eithrio cael mantais drethiannol.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—

    (a)

    rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,

    (b)

    ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,

    (c)

    osgoi neu leihau swm y codir treth arno, neu

    (d)

    gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth;

  • mae “trefniant” (“arrangement”) yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);

  • ystyr “treth” (“tax”) yw treth trafodiadau tir, treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth dir y dreth stamp, treth gadw y dreth stamp neu’r dreth stamp.

RHAN 4LESOEDD

32Lesoedd

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “les” yw—

(a)buddiant neu hawl mewn tir neu dros dir am gyfnod o flynyddoedd (boed benodol neu gyfnodol), neu

(b)unrhyw fuddiant neu hawl arall mewn tir neu dros dir y gellir ei derfynu drwy roi cyfnod o rybudd neu hysbysiad ar unrhyw adeg (ac eithrio tenantiaeth wrth ewyllys, sy’n fuddiant esempt yn rhinwedd adran 5(1)(c)).

(2)Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch lesoedd.

RHAN 5CYMHWYSO’R DDEDDF A DCRHT I BERSONAU A CHYRFF PENODOL

33Cwmnïau

(1)Yn y Ddeddf hon, mae “cwmni”, oni ddarperir fel arall, yn golygu unrhyw gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig, ond nid yw’n cynnwys partneriaeth.

(2)Mae popeth sydd i’w wneud gan gwmni o dan y Ddeddf hon, neu o dan DCRhT fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir, i’w wneud gan y cwmni gan weithredu drwy—

(a)swyddog priodol y cwmni, neu

(b)person arall sydd ag awdurdod datganedig, ymhlyg neu ymddangosiadol y cwmni am y tro i weithredu ar ei ran at y diben.

(3)Nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys pan fo datodwr wedi ei benodi ar gyfer y cwmni.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir—

(a)swyddog priodol corff corfforaethol yw ysgrifennydd y corff, neu berson sy’n gweithredu fel ei ysgrifennydd, a

(b)swyddog priodol cymdeithas anghorfforedig, neu gorff corfforaethol nad oes ganddo swyddog priodol o fewn paragraff (a), yw trysorydd y gymdeithas neu’r corff, neu berson sy’n gweithredu fel trysorydd.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os oes datodwr neu weinyddwr wedi ei benodi ar gyfer y cwmni.

(6)Os oes datodwr neu weinyddwr wedi ei benodi ar gyfer y cwmni yna—

(a)y datodwr neu’r gweinyddwr yw’r swyddog priodol, a

(b)os penodir dau berson neu ragor i weithredu ar y cyd neu’n gydamserol fel gweinyddwr y cwmni, y swyddog priodol—

(i)yw pa un bynnag ohonynt a bennir mewn hysbysiad a roddir i ACC gan y personau hynny at ddibenion yr adran hon, neu

(ii)pan na fo ACC wedi ei hysbysu felly, yw pa un neu ragor bynnag o’r personau hynny a ddynodir gan ACC fel y swyddog priodol at y dibenion hynny.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir, i gwmnïau neu ddisgrifiad o gwmni a bennir yn y rheoliadau.

(8)Caiff rheoliadau o dan is-adran (7) ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu DCRhT (ymysg pethau eraill).

34Cynlluniau ymddiriedolaeth unedau

(1)Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (8)), a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir, yn gymwys mewn perthynas â chynllun ymddiriedolaeth unedau fel pe bai—

(a)yr ymddiriedolwyr yn gwmni, a

(b)hawliau’r deiliaid unedau yn gyfranddaliadau yn y cwmni.

(2)Ystyrir pob rhan o gynllun ambarél yn gynllun ymddiriedolaeth unedau ar wahân ac nid yw’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried felly.

(3)Yn yr adran hon ac adran 35, ystyr “cynllun ambarél” yw cynllun ymddiriedolaeth unedau—

(a)sy’n darparu trefniadau ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a’r elw neu’r incwm y mae taliadau i’w rhoi ar eu cyfer ohonynt, a

(b)y mae gan y cyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un gronfa am hawliau mewn cronfa arall oddi tano.

(4)Ystyr “rhan” o gynllun ambarél yw’r trefniadau hynny sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.

(5)Yn y Ddeddf hon, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan is-adran (6)—

  • mae i “cynllun ymddiriedolaeth unedau” yr un ystyr ag a roddir i “unit trust scheme” yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) (gweler adran 237 o’r Ddeddf honno), ac

  • ystyr “deiliad unedau” (“unit holder”) yw cyfranogwr mewn cynllun ymddiriedolaeth unedau.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod cynllun o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i’w drin fel cynllun nad yw’n gynllun ymddiriedolaeth unedau at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.

(7)Mae adran 620 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (trin cronfeydd buddsoddi llys fel ymddiriedolaethau unedau awdurdodedig) yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at “authorised unit trust” yn gyfeiriadau at “unit trust scheme”.

(8)Nid yw cynllun ymddiriedolaeth unedau i’w drin fel cwmni at ddibenion Atodlenni 16 (rhyddhad grŵp) ac 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).

35Cwmnïau buddsoddi penagored

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol er mwyn sicrhau bod darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)cwmnïau buddsoddi penagored o unrhyw ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a

(b)trafodiadau sy’n ymwneud â chwmnïau o’r fath,

mewn modd sy’n cyfateb, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, i’r modd y maent yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau ymddiriedolaeth unedau a thrafodiadau sy’n ymwneud â chynlluniau ymddiriedolaeth unedau o’r fath.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth, yn benodol—

(a)sy’n addasu’r modd y gweithredir unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y rheoliadau mewn perthynas â chwmnïau buddsoddi penagored er mwyn sicrhau bod effaith trefniadau ar gyfer trin asedau cwmni o’r fath fel asedau mewn cronfeydd ar wahân yn cyfateb i effaith trefniadau cyfatebol ar gyfer rhannau ar wahân cynllun ambarél;

(b)sy’n trin rhannau ar wahân o ymgymeriad cwmni buddsoddi penagored y gwneir darpariaeth o’r fath yn ei gylch fel cwmnïau gwahanol at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.

(3)Yn yr adran hon, mae i “cwmni buddsoddi penagored” yr ystyr a roddir i “open-ended investment company” gan adran 236 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8).

36Cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth

(1)Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (9)), a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir, yn gymwys mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth fel pe bai—

(a)y cynllun yn gwmni, a

(b)hawliau’r cyfranogwyr yn gyfranddaliadau yn y cwmni.

(2)Ystyr “CCAC ambarél” yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth—

(a)y mae ei drefniadau yn darparu ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a’r elw neu’r incwm y gwneir taliadau iddynt ohonynt (“trefniadau ar gyfer cronni”), a

(b)y mae gan y cyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un gronfa am hawliau mewn cronfa arall oddi tano.

(3)Ystyr “is-gynllun”, mewn perthynas â CCAC ambarél, yw hynny o’r trefniadau ar gyfer cronni sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.

(4)Ystyrir pob un o is-gynlluniau CCAC ambarél yn gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth ar wahân, ac nid yw’r CCAC ambarél yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried felly.

(5)Mewn perthynas ag is-gynllun CCAC ambarél—

(a)mae cyfeiriadau at fuddiannau trethadwy yn gyfeiriadau at hynny o’r buddiannau trethadwy sydd, o dan y trefniadau cronni, yn ffurfio rhan o’r gronfa ar wahân y mae’r is-gynllun yn ymwneud â hi, a

(b)mae cyfeiriadau at ddogfennau’r cynllun yn gyfeiriadau at y rhannau hynny o’r dogfennau sy’n gymwys i’r is-gynllun.

(6)Mae cyfeiriadau at gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys cynllun buddsoddi torfol—

(a)a gyfansoddir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig drwy gontract,

(b)a reolir gan gorff corfforaethol a gorfforir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE, ac

(c)a awdurdodir o dan gyfraith y Wladwriaeth AEE a grybwyllir ym mharagraff (a) mewn ffordd sy’n golygu ei fod, o dan y gyfraith honno, yn cyfateb i gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth fel y’i diffinnir yn is-adran (7),

ar yr amod, ar wahân i’r adran hon, na ellir codi unrhyw dreth ar y cynllun o dan y Ddeddf hon.

(7)Yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan is-adran (8)—

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod cynllun o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i’w drin fel cynllun nad yw’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.

(9)Nid yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth i’w drin fel cwmni at ddibenion Atodlenni 16 (rhyddhad grŵp) ac 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).

(10)Mae unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr mewn trafodiad tir, neu mewn perthynas ag ef, i’w wneud gan weithredwr cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth, neu mewn perthynas ag ef; ac yn unol â hynny nid yw adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â chynllun y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(11)Ond pan fo gweithredwr y cynllun yn gorff corfforaethol, mae adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr, ac mae’r cyfeiriadau at gwmni yn yr is-adrannau hynny yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y gweithredwr.

(12)Yn yr adran hon—

  • mae “cyfranogwr” i’w ddarllen yn unol â “participant” yn adran 235 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8);

  • mae i “cynllun buddsoddi torfol” yr ystyr a roddir i “collective investment scheme” gan adran 235 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8);

  • mewn perthynas â “gweithredwr” (“operator”)—

    (a)

    mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a gyfansoddir o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, mae i “gweithredwr” yr ystyr a roddir i “operator” gan adran 237(2) o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8), a

    (b)

    mewn perthynas â chynllun buddsoddi torfol a drinnir fel cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn rhinwedd is-adran (6) (cynlluniau cyfatebol yr AEE), ystyr “gweithredwr” yw’r corff corfforaethol sy’n gyfrifol am reoli’r cynllun (ym mha fodd bynnag y’i disgrifir).

37Cydbrynwyr: rheolau cyffredinol

(1)Mae’r adran hon ac adrannau 38 i 40 yn gymwys i drafodiad tir pan fo dau brynwr neu ragor sydd neu a fydd â’r hawl ar y cyd i’r buddiant a gaffaelir.

(2)Y rheolau cyffredinol yw—

(a)mae unrhyw rwymedigaeth ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad yn rhwymedigaeth ar ran y prynwyr ar y cyd ond caniateir i unrhyw un neu ragor ohonynt ei chyflawni,

(b)mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud gan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r prynwr gael ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd,

(c)mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’r Ddeddf hon neu DCRhT yn awdurdodi ei wneud gan y prynwr gael ei wneud ganddynt hwy i gyd, a

(d)mae unrhyw atebolrwydd ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad (yn benodol, unrhyw atebolrwydd sy’n codi yn rhinwedd y methiant i gyflawni rhwymedigaeth o fewn paragraff (a)) yn atebolrwydd ar ran y prynwyr ar y cyd ac yn unigol.

(3)Mae’r rheolau cyffredinol hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir yn adrannau 38 i 40.

(4)Mae’r adran hon ac adrannau 38 i 40 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau Atodlen 7 sy’n ymwneud â phartneriaethau, a

(b)darpariaethau Atodlen 8 sy’n ymwneud ag ymddiriedolwyr.

38Cydbrynwyr: ffurflenni treth a datganiadau

(1)Os yw’r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy, mae’n ofynnol dychwelyd un ffurflen dreth.

(2)Rhaid i’r holl brynwyr wneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).

39Cydbrynwyr: ymholiadau ac asesiadau

(1)Os yw ACC yn dyroddi hysbysiad ymholiad ynghylch ffurflen dreth o dan adran 43 o DCRhT—

(a)rhaid dyroddi’r hysbysiad i bob un o’r prynwyr y gŵyr ACC pwy ydynt;

(b)mae pwerau ACC o dan Ran 4 o DCRhT i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol at ddibenion yr ymholiad yn arferadwy ar wahân (ac yn wahanol) mewn perthynas â phob un o’r prynwyr;

(c)rhaid dyroddi unrhyw hysbysiad cau o dan adran 50 o DCRhT i bob un o’r prynwyr y gŵyr ACC pwy ydynt;

(d)caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr wneud cais o dan adran 51 o DCRhT am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi (ac mae gan bob un ohonynt yr hawl i fod yn bartïon i’r cais).

(2)Rhaid i ddyfarniad ACC o dan adran 52 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud yn erbyn yr holl brynwyr ac nid yw’n cael effaith yn erbyn unrhyw un ohonynt oni bai y dyroddir hysbysiad amdano o dan yr adran honno i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.

(3)Rhaid i asesiad ACC o dan adran 54 neu 55 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud mwen cysylltiad â’r holl brynwyr ac nid yw’n cael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw un ohonynt oni bai y dyroddir hysbysiad amdano o dan adran 61 o DCRhT i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.

40Cydbrynwyr: apelau ac adolygiadau

(1)Mae’n ofynnol cael cytundeb yr holl brynwyr os ymrwymir i gytundeb setlo sy’n ymwneud â’r trafodiad o dan adran 184 o DCRhT.

(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr roi hysbysiad am gais o dan adran 173 o DCRhT.

(3)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad o benderfyniad apeliadwy sy’n ymwneud â’r trafodiad yn dilyn cais o’r fath gan rai o’r prynwyr (ond nid pob un ohonynt)—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr adolygiad i bob un o’r prynwyr eraill y gŵyr ACC pwy ydynt;

(b)caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr eraill fod yn barti neu’n bartïon i’r adolygiad os ydynt yn hysbysu ACC am hynny yn ysgrifenedig;

(c)rhaid i hysbysiad am gasgliadau ACC o dan adran 176(5), (6) neu (7) o DCRhT gael ei ddyroddi i bob un o’r prynwyr y gŵyr ACC pwy ydynt;

(d)mae adran 177 o DCRhT (effaith casgliadau adolygiad) yn gymwys mewn perthynas â phob un o’r prynwyr.

(4)Yn achos apêl o dan Ran 8 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad—

(a)caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr wneud yr apêl;

(b)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr apêl i bob un o’r prynwyr nad ydynt yn gwneud yr apêl ac y gŵyr ACC pwy ydynt;

(c)mae gan unrhyw un neu ragor o’r prynwyr yr hawl i fod yn barti neu’n bartïon i’r apêl;

(d)mae dyfarniad y tribiwnlys o dan adran 181 o DCRhT yn rhwymo’r holl brynwyr.

41Partneriaethau

(1)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â phartneriaethau.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 7 drwy reoliadau.

42Ymddiriedolaethau

(1)Mae Atodlen 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas ag ymddiriedolaethau.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 8 drwy reoliadau.

43Personau sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr

(1)Mewn perthynas â chynrychiolwyr personol person sy’n brynwr mewn trafodiad tir—

(a)maent yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaeth ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad, a

(b)cânt ddidynnu unrhyw daliad a wneir ganddynt o dan y Ddeddf hon neu DCRhT o asedau ac eiddo’r ymadawedig.

(2)Mae derbynnydd a benodir gan lys yn y Deyrnas Unedig sy’n cyfarwyddo ac yn rheoli unrhyw eiddo yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaethau o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â thrafodiad sy’n effeithio ar yr eiddo hwnnw fel pe na bai’r eiddo o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y llys.

RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 1FFURFLENNI TRETH

Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth

44Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir hysbysadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC.

(2)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)cynnwys hunanasesiad, os yw’r trafodiad yn drafodiad trethadwy.

(3)Yn y Ddeddf hon, ystyr “hunanasesiad” mewn perthynas â ffurflen dreth, yw asesiad o swm y dreth sydd i’w godi mewn perthynas â’r trafodiad, ar sail yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y ffurflen dreth honno.

Trafodiadau hysbysadwy

45Trafodiadau hysbysadwy

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn hysbysadwy os yw—

(a)yn gaffaeliad prif fuddiant mewn tir (gweler adran 68) nad yw o fewn un o’r eithriadau a restrir yn adran 46,

(b)yn gaffaeliad buddiant trethadwy, ac eithrio prif fuddiant mewn tir—

(i)os nad yw’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, a

(ii)os yw treth i’w chodi ar gyfradd o fwy na 0%, neu y byddai treth i’w chodi felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30, mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad,

(c)yn drafodiad tir y trinnir person fel pe bai’n ymrwymo iddo yn rhinwedd adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti), neu

(d)yn drafodiad tir tybiannol neu’n drafodiad tir tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 8(1) a (3) o Atodlen 2.

(2)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)adran 10(5) (contract a throsglwyddo),

(b)paragraff 18(5) o Atodlen 4 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol),

(c)paragraff 44(1) o Atodlen 7 (trosglwyddo buddiant partneriaeth), a

(d)paragraff 2(6) o Atodlen 10 (cyllid eiddo arall).

46Eithriadau ar gyfer caffaeliadau penodol prif fuddiannau mewn tir

(1)Mae’r eithriadau y cyfeirir atynt yn adran 45 fel a ganlyn.

(2)Trafodiad sy’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3.

(3)Caffaeliad ac eithrio rhoi, aseinio neu ildio les pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy, ynghyd â’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw drafodiadau cysylltiol, yn llai na £40,000.

(4)Rhoi les am gyfnod o lai na 7 mlynedd, pan na fo’r gydnabyddiaeth drethadwy uwchlaw’r trothwy cyfradd sero.

(5)Aseinio neu ildio les—

(a)pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o lai na 7 mlynedd, a

(b)pan na fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseinio neu’r ildio uwchlaw’r trothwy cyfradd sero.

(6)Rhoi les am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor pan fo—

(a)y gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent yn llai na £40,000, a

(b)y rhent perthnasol yn llai na £1,000.

(7)Aseinio neu ildio les—

(a)pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor, a

(b)pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseinio neu’r ildio yn llai na £40,000.

(8)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffaeliad uwchlaw’r trothwy cyfradd sero os yw’n cynnwys—

(a)unrhyw swm y mae treth i’w chodi arno ar gyfradd o fwy na 0%, neu

(b)unrhyw swm y byddai treth i’w chodi arno felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30(2) neu (3).

(9)Yn is-adran (6), ystyr “rhent perthnasol” yw—

(a)y rhent blynyddol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 36(2) o Atodlen 6), neu

(b)yn achos rhoi les y mae paragraff 31 o Atodlen 7 yn gymwys iddi, y gyfran drethadwy berthnasol o’r rhent blynyddol (fel y’i cyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw).

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3), (6) neu (7) er mwyn rhoi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir yno am y tro.

Addasiadau

47Digwyddiad dibynnol yn peidio neu ganfod cydnabyddiaeth: dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth i ACC—

(a)os yw adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad, neu i unrhyw drafodiad y mae’r trafodiad yn drafodiad cysylltiol mewn perthynas ag ef,

(b)os ceir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (2), ac

(c)os effaith y digwyddiad yw—

(i)y daw’r trafodiad yn hysbysadwy,

(ii)bod treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(iii)bod treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad pan nad oedd unrhyw dreth yn daladwy.

(2)Y digwyddiadau yw—

(a)yn achos cydnabyddiaeth ddibynnol, ceir digwyddiad dibynnol neu daw’n eglur na fydd yn digwydd, neu

(b)yn achos cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod, caiff swm sy’n berthnasol i gyfrifo’r gydnabyddiaeth, neu unrhyw randaliad o gydnabyddiaeth, ei ganfod.

(3)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (2), a

(b)cynnwys hunanasesiad.

(4)Er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT (llog taliadau hwyr), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â swm—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd o dan yr adran hon fel y dreth sy’n daladwy,

(b)sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth o’r fath,

(c)sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad a wneir yn ychwanegol at ffurflen dreth o’r fath, neu

(d)sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad neu asesiad a wneir yn lle ffurflen dreth o’r fath,

yw’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf honno i’w darllen yn unol â hynny).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (4) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf⁠—

(a)rhent (gweler Atodlen 6);

(b)blwydd-dal y mae adran 21 yn gymwys iddo.

48Digwyddiad dibynnol yn peidio neu ganfod cydnabyddiaeth: ad-dalu treth

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i drafodiad tir—

(a)os yw adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad, neu i unrhyw drafodiad y mae’r trafodiad yn drafodiad cysylltiol mewn perthynas ag ef,

(b)os ceir digwyddiad a grybwyllir yn adran 47(2) (“y digwyddiad perthnasol”), ac

(c)os effaith y digwyddiad perthnasol yw bod llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad na’r hyn y mae’r prynwr eisoes wedi ei dalu yn unol â’r ffurflen dreth a ddychwelwyd ar gyfer y trafodiad (“y ffurflen dreth trafodiadau tir”).

(2)Er mwyn cael ad-daliad o swm y dreth a ordalwyd, caiff y prynwr yn y trafodiad tir—

(a)o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth trafodiadau tir, ddiwygio’r ffurflen dreth yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT);

(b)ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw (os na ddiwygir y ffurflen dreth), wneud hawliad am ad-daliad o’r swm a ordalwyd yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT fel y’i haddesir gan is-adran (3).

(3)O ran ei chymhwyso i hawliad y mae is-adran (2)(b) yn gymwys iddo, mae Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle adran 78—

78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau

Rhaid i hawliad o dan adran 63 y mae adran 48(2)(b) o DTTT yn gymwys iddo gael ei wneud cyn yr olaf o’r canlynol—

(a)diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r dreth trafodiadau tir a dalwyd eisoes yn berthnasol iddi, neu

(b)diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r digwyddiad perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 48(1)(b) o DTTT).

(4)Ond os rhoi neu aseinio les yw’r trafodiad (“y trafodiad perthnasol”), ni chaniateir gwneud unrhyw hawliad o dan is-adran (2)—

(a)mewn cysylltiad ag ad-dalu (yn llwyr neu’n rhannol) unrhyw fenthyciad neu flaendal a gaiff ei drin yn rhinwedd paragraff 19 o Atodlen 6 fel cydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad perthnasol, neu

(b)mewn cysylltiad ag ad-dalu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer y trafodiad perthnasol, mewn achos pan fo’r ad-daliad—

(i)yn cael ei wneud o dan drefniadau a wnaed mewn cysylltiad â’r trafodiad perthnasol, a

(ii)yn ddibynnol ar derfynu neu aseinio’r les neu ar roi buddiant trethadwy allan o’r les.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)i’r graddau y mae’r gydnabyddiaeth ar ffurf rhent (gweler Atodlen 6);

(b)pan fo adran 21 (blwydd-daliadau) yn gymwys.

49Dychwelyd ffurflen dreth bellach pan dynnir rhyddhad yn ôl

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth bellach i ACC os tynnir rhyddhad yn ôl i unrhyw raddau o dan—

(a)Atodlen 11 (bondiau buddsoddi cyllid arall);

(b)Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau eiddo preswyl penodol);

(c)Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);

(d)Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael);

(e)Atodlen 18 (rhyddhad elusennau).

(2)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y digwyddiad datgymhwyso, a

(b)cynnwys hunanasesiad.

(3)Y digwyddiad datgymhwyso yw—

(a)mewn perthynas â thynnu rhyddhad yn ôl o dan Atodlen 11, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 14 o’r Atodlen honno;

(b)mewn perthynas â thynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer caffaeliadau eiddo preswyl penodol o dan Atodlen 14, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 8(1), (3) neu (4) o’r Atodlen honno;

(c)mewn perthynas â thynnu rhyddhad grŵp yn ôl o dan Atodlen 16, y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o fewn ystyr yr Atodlen honno;

(d)mewn perthynas â thynnu rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn ôl o dan Atodlen 17, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(2) neu 7(2) neu (3) o’r Atodlen honno;

(e)mewn perthynas â thynnu rhyddhad elusennau yn ôl o dan Atodlen 18; digwyddiad datgymhwyso fel y’i diffinnir ym mharagraff 2(4), 5(2) neu 8(2) o’r Atodlen honno.

(4)Er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT (llog taliadau hwyr), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â swm—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd o dan is-adran (1)(a) fel y dreth sy’n daladwy,

(b)sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth o’r fath,

(c)sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad a wneir yn ychwanegol at ffurflen dreth o’r fath, neu

(d)sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad neu asesiad a wneir yn lle ffurflen dreth o’r fath,

yw’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf honno i’w darllen yn unol â hynny).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (4) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.

50Ffurflen dreth unigol mewn cysylltiad â thrafodiadau cysylltiol sy’n cael effaith ar yr un dyddiad

(1)Pan fo dau drafodiad cysylltiol neu ragor yn cael effaith ar yr un dyddiad caiff y prynwr, neu’r holl brynwyr os oes mwy nag un, ddychwelyd un ffurflen dreth fel pe bai’r holl drafodiadau hynny yn un trafodiad hysbysadwy.

(2)Pan fo dau brynwr neu ragor yn dychwelyd un ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiadau cysylltiol, mae adrannau 37 i 40 yn gymwys fel pe bai—

(a)y trafodiadau o dan sylw yn un trafodiad, a

(b)y prynwyr hynny yn brynwyr sy’n gweithredu ar y cyd.

51Dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo effaith trafodiad sy’n gysylltiol o ran trafodiad cynharach (“y trafodiad diweddarach”) fel a ganlyn—

(a)daw’r trafodiad cynharach yn hysbysadwy,

(b)mae treth ychwanegol i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach, neu

(c)mae treth i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach pan nad oedd unrhyw dreth i’w chodi cyn hynny.

(2)Rhaid i’r prynwr yn y trafodiad cynharach ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.

(3)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith, a

(b)cynnwys hunanasesiad.

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw ofyniad i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad diweddarach.

52Pŵer i ddiwygio’r cyfnod pan fo rhaid dychwelyd ffurflenni treth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio darpariaeth a restrir yn is-adran (2) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 44(2)(a);

(b)adran 47(3)(a);

(c)adran 49(2)(a);

(d)adran 51(3)(a);

(e)paragraff 24(4)(a) o Atodlen 5;

(f)paragraff 3(4) o Atodlen 6;

(g)paragraff 5(5) o’r Atodlen honno;

(h)paragraff 13(1) o’r Atodlen honno.

Datganiadau

53Datganiad

(1)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y Ddeddf hon gynnwys datganiad gan y prynwr fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y prynwr.

(2)Ond pan fo—

(a)y prynwr yn awdurdodi asiant i gwblhau’r ffurflen dreth,

(b)y prynwr yn gwneud datganiad bod yr wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen dreth, ac eithrio’r dyddiad perthnasol, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr, ac

(c)y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan yr asiant bod y dyddiad perthnasol a ddarperir ar y ffurflen dreth yn gywir hyd eithaf gwybodaeth yr asiant,

tybir bod y gofyniad yn is-adran (1) wedi ei fodloni.

(3)Y dyddiad perthnasol yw—

(a)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 47, dyddiad y digwyddiad y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad iddo,

(b)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 49, dyddiad y digwyddiad datgymhwyso,

(c)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 51, y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith,

(d)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan baragraff 24 o Atodlen 5, y dyddiad y daeth y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) o’r Atodlen honno i ben, ac

(e)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon, y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Nid oes dim yn is-adran (2) yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.

54Prynwr ag anabledd: datganiad gan y Cyfreithiwr Swyddogol

(1)Pan fo—

(a)prynwr mewn trafodiad tir yn anabl,

(b)y Cyfreithiwr Swyddogol yn gweithredu ar ran y prynwr hwnnw, ac

(c)y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan y Cyfreithiwr Swyddogol fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y Cyfreithiwr Swyddogol,

tybir bod y gofyniad yn adran 53 wedi ei fodloni.

(2)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.

(3)At ddibenion yr adran hon, mae person yn anabl os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).

(4)Yn yr adran hon, ystyr y “Cyfreithiwr Swyddogol” yw’r Cyfreithiwr Swyddogol i’r Uwchlysoedd.

55Datganiad gan berson a awdurdodir i weithredu ar ran unigolyn

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ddatganiad a grybwyllir yn adran 53 bod ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn.

(2)Pan fo’r prynwr yn unigolyn, caiff y gofyniad bod y prynwr yn gwneud datganiad o’r fath (ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw person a awdurdodir i weithredu ar ran yr unigolyn hwnnw mewn perthynas â’r materion y mae’r ffurflen dreth neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

(3)At ddibenion yr adran hon nid ystyrir bod person (“P”) wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran unigolyn oni bai bod P wedi ei awdurdodi felly gan atwrneiaeth ysgrifenedig, a lofnodwyd gan yr unigolyn hwnnw.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo unigolyn yn gweithredu’n unol ag adran 33 (personau y mae cwmni yn gweithredu drwyddynt)—

(a)fel swyddog priodol cwmni, neu

(b)fel arall ar ran cwmni.

PENNOD 2RHWYMEDIGAETH AR GYFER TRETH A THALU TRETH

Rhwymedigaeth ar gyfer treth

56Rhwymedigaeth ar gyfer treth

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad trethadwy dalu’r dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw ac felly mae’r dreth i’w chodi ar y prynwr at ddibenion DCRhT.

(2)O ran atebolrwydd prynwyr sy’n gweithredu ar y cyd, gweler—

(a)adrannau 37 i 40 (cydbrynwyr),

(b)Atodlen 7 (partneriaethau), ac

(c)Atodlen 8 (ymddiriedolaethau).

Talu treth

57Talu treth

(1)Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn dychwelyd ffurflen dreth, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy, neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy, yn ddim hwyrach na dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.

(2)Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn diwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw—

(a)os gwneir y diwygiad erbyn dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno, yn ddim hwyrach na’r dyddiad hwnnw, a

(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, pan fydd y prynwr yn hysbysu ACC am y diwygiad.

(3)Ond gweler Pennod 3 (gohirio treth).

PENNOD 3GOHIRIO TRETH

58Ceisiadau gohirio mewn achosion o gydnabyddiaeth ddibynnol neu ansicr

(1)Caiff prynwr mewn trafodiad tir pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni yn ddibynnol neu’n ansicr (gweler adrannau 19 a 20) roi hysbysiad i ACC (“cais gohirio”) yn gofyn am ohirio talu swm o dreth sy’n daladwy a ddatgenir ar y ffurflen dreth gyntaf sy’n ymwneud â’r trafodiad (“y swm a geisir”).

(2)Ond ni chaiff y swm a geisir fod yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio (gweler adran 59).

(3)Rhaid i ACC gytuno i gais gohirio—

(a)os dychwelir y ffurflen dreth ac os gwneir y cais gohirio ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno neu cyn hynny,

(b)os yw’r cais—

(i)yn pennu’r swm y ceisir ei ohirio,

(ii)yn nodi sut y cyfrifwyd y swm a geisir yn unol ag adran 59 (gan gynnwys swm y gydnabyddiaeth sydd o fewn cam 2 o’r cyfrifiad hwnnw (“y gydnabyddiaeth ohiriedig”)),

(iii)yn nodi’r rhesymau pam fod y gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol neu’n ansicr a’r rhesymau pam y mae i’w dalu neu i’w ddarparu ar un neu ragor o ddyddiadau yn y dyfodol, y bydd neu y gall o leiaf un ohonynt fod fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(iv)yn cynnig dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (gweler is-adran (8)), a

(v)yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall a all fod yn ofynnol yn rhinwedd adran 191 o DCRhT (rhoi hysbysiadau i ACC),

(c)os yw ACC yn fodlon nad yw’r swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio a gyfrifir yn unol ag adran 59, a

(d)os nad yw’r trafodiad tir yn drefniant osgoi trethi nac yn ffurfio rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.

(4)Fel arall rhaid i ACC wrthod cais gohirio (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).

(5)Ond os yw ACC o’r farn fod y swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio caiff ganiatáu’r cais gohirio er hynny mewn perthynas â hynny o’r swm a geisir nad yw’n fwy na’r swm y gellir ei ohirio.

(6)Wrth gytuno i gais gohirio—

(a)rhaid i ACC bennu swm y dreth y mae’n cytuno i’w ohirio (y “swm gohiriedig”);

(b)rhaid i ACC bennu dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (a gaiff fod yn wahanol i’r dyddiad terfyn disgwyliedig a gynigir gan y prynwr) (gweler is-adran (8));

(c)caiff ACC osod unrhyw amodau (gan gynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr dalu rhan o’r swm gohiriedig ar adegau penodedig yn ystod y cyfnod gohirio) ag y bo’n briodol ym marn ACC.

(7)Yn yr adran hon, mae i “trefniant osgoi trethi” yr un ystyr ag yn adran 31.

(8)Yn y Bennod hon—

(a)ystyr “cyfnod gohirio” yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y cyfeirir ati yn is-adran (1) ac sy’n dod i ben ar y cynharaf o’r canlynol—

(i)y dyddiad terfyn disgwyliedig, neu

(ii)y dyddiad y ceir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig;

(b)ystyr “dyddiad terfyn disgwyliedig”yw—

(i)y dyddiad y disgwylir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig, neu

(ii)os na ellir rhagfynegi’r dyddiad hwnnw, bum mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (neu, pan newidir y dyddiad terfyn disgwyliedig o dan adran 62, bum mlynedd i’r dyddiad terfyn disgwyliedig blaenorol).

(9)Y digwyddiadau yw—

(a)pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol, dyddiad y digwyddiad dibynnol neu’r dyddiad y daw’n amlwg na fydd yn digwydd;

(b)pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ansicr, y dyddiad y canfyddir y gydnabyddiaeth.

59Cyfrifo’r swm y gellir ei ohirio

Mae’r swm y gellir ei ohirio mewn cysylltiad â thrafodiad tir y mae adran 58(1) yn gymwys iddo i’w gyfrifo fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Cyfrifo swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad tir yn unol ag adran 27 neu 28.

  • Cam 2

    Pennu swm neu werth y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir—

    (a)

    nad yw eisoes wedi ei dalu neu ei ddarparu,

    (b)

    sy’n ddibynnol neu’n ansicr (gweler adrannau 19 ac 20),

    (c)

    nad yw ar ffurf—

    (i)

    rhent (o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 6), neu

    (ii)

    blwydd-dal y mae adran 21 yn gymwys iddo, a

    (d)

    sydd i’w dalu neu i’w ddarparu ar un neu ragor o ddyddiadau yn y dyfodol, y bydd neu y gall o leiaf un ohonynt fod fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

  • Y swm neu’r gwerth hwnnw o gydnabyddiaeth yw’r gydnabyddiaeth ohiriedig.

  • Cam 3

    Cyfrifo (yn unol ag adran 27 neu 28) swm y dreth a fyddai wedi bod i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad tir pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad wedi ei gostwng gan swm neu werth y gydnabyddiaeth ohiriedig.

  • Cam 4

    Didynnu swm y dreth a gyfrifwyd yng ngham 3 o’r swm a gyfrifwyd yng ngham 1.

    Swm y dreth sy’n weddill yw’r swm y gellir ei ohirio.

60Ceisiadau gohirio: hysbysiadau o benderfyniadau ACC

(1)Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr sy’n pennu—

(a)y swm gohiriedig a’r swm a wrthodir (os o gwbl),

(b)dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio,

(c)unrhyw amod y mae ACC wedi ei osod o dan adran 58(6)(c), a

(d)os yw’r swm gohiriedig yn is na’r swm gohiriedig arfaethedig, y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(2)Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn pennu’r rhesymau dros wrthod.

61Ceisiadau gohirio: effaith penderfyniad ACC

(1)Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio—

(a)rhaid i’r prynwr dalu’r swm gohiriedig cyn diwedd y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod gohirio i ben (er gwaethaf adran 57), a

(b)er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm gohiriedig yw’r dyddiad ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o DCRhT i’w darllen yn unol â hynny).

(2)Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio (neu’n cytuno i gais ond yn cytuno i swm gohiriedig sy’n is na’r swm a geisir)—

(a)mae’n ofynnol talu swm y dreth y mae ACC wedi gwrthod ei ohirio (“y swm a wrthodir”) erbyn diwedd yr hwyraf o—

(i)y dyddiad y mae’r prynwr yn cael ei hysbysu am benderfyniad ACC, neu

(ii)y dyddiad y byddai’n ofynnol talu’r swm fel arall yn unol ag adran 57, a

(b)dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm a wrthodir yw’r hwyraf o—

(i)y diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir, neu

(ii)y dyddiad a fyddai’n cael ei bennu fel arall o dan adran 157(3) o DCRhT fel dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm hwnnw.

(3)Gweler adrannau 47 a 48 am ddarpariaeth ynghylch achosion pan fo swm y dreth sy’n daladwy yn newid o ganlyniad i—

(a)digwyddiad dibynnol neu ddiffyg digwyddiad dibynnol, neu

(b)canfod cydnabyddiaeth oedd heb ei chanfod.

62Amrywio ceisiadau gohirio

(1)Pan fo ACC wedi cytuno i gais gohirio, caiff y prynwr roi hysbysiad i ACC yn gofyn am⁠—

(a)newid y dyddiad terfyn disgwyliedig;

(b)amrywio neu godi amod a orfodwyd o dan adran 58(6)(c).

(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu’r newid mewn amgylchiadau y cred y prynwr ei fod yn cyfiawnhau’r newid, neu’n cyfiawnhau amrywio neu godi’r amod.

(3)Os yw ACC o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff—

(a)cytuno i’r cais a wneir o dan is-adran (1), neu

(b)cytuno i—

(i)dyddiad terfyn disgwyliedig gwahanol i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(a);

(ii)amrywiad gwahanol i amod i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(b).

(4)Pan fo ACC yn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn nodi’r penderfyniad a’r rhesymau drosto.

63Methu â chydymffurfio â chytundeb ACC i ohirio

(1)Os yw ACC o’r farn fod y prynwr—

(a)wedi methu cydymffurfio ag amod a osodwyd o dan adran 58(6)(c) neu a amrywiwyd o dan adran 62, neu

(b)mewn perthynas â’r cais gohirio neu gais a wnaed o dan adran 62(1)—

(i)wedi darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu

(ii)wedi atal gwybodaeth,

mae’r cais gohirio i’w drin fel pe na bai erioed wedi ei wneud (ac mae adran 57 o’r Ddeddf hon ac adran 157 o DCRhT yn gymwys yn unol â hynny).

(2)Mewn achos o’r fath rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn datgan bod y cais gohirio i’w drin fel pe na bai erioed wedi ei wneud ac yn nodi canlyniadau hynny.

64Rheoliadau ynghylch gohirio treth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth i ohirio treth mewn achosion pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig ar ffurf rhent (o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 6);

(b)gwneud darpariaeth sy’n cymhwyso’r Bennod hon (gydag unrhyw addasiadau a bennir yn y rheoliadau) i achosion pa fo’r gydnabyddiaeth y mae cais gohirio yn ymwneud â hi, neu unrhyw elfen o’r gydnabyddiaeth honno, ar ffurf—

(i)gwneud gwaith adeiladu, gwella neu atgyweirio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, neu

(ii)darparu gwasanaethau (ac eithrio cyflawni gwaith o’r faith);

(c)gwneud darpariaeth i ACC wneud amrywiadau o dan adran 62 heb i’r prynwr roi hysbysiad am gais o dan is-adran (1) o’r adran honno (boed drwy gytundeb gyda’r prynwr neu drwy orfodaeth).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud unrhyw addasiadau i’r Ddeddf hon ag y bo Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus.

PENNOD 4COFRESTRU TRAFODIADAU TIR

65Cofrestru trafodiadau tir

(1)Ni chaiff y Prif Gofrestrydd Tir (“y Cofrestrydd”) gofrestru, gofnodi na dangos fel arall mewn cofnod a wneir yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Cofrestrydd drafodiad tir hysbysadwy na dogfen sy’n rhoi effaith i drafodiad o’r fath neu sy’n dystiolaeth ohono oni bai y cyflwynir tystysgrif ACC gyda’r cais i gofrestru, i gofnodi neu i ddangos y trafodiad fel arall.

(2)Tystysgrif a ddyroddir gan ACC yw “tystysgrif ACC”, sy’n datgan bod ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(3)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r graddau—

(a)y mae’n ofynnol cofrestru, cofnodi neu ddangos fel arall y trafodiad tir hysbysadwy neu ddogfen sy’n rhoi effaith i’r trafodiad hwnnw neu sy’n dystiolaeth ohono mewn cofnod a wneir yn y gofrestr teitlau heb unrhyw gais i gofrestru;

(b)y mae’r cofnod yn cofrestru, yn cofnodi neu’n dangos fel arall fuddiant neu hawl ar wahân i’r buddiant trethadwy y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ei gaffael.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)i gontract sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd—

(i)adran 10(4) (contract a throsglwyddo), neu

(ii)adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti);

(b)trafodiad tybiannol neu drafodiad tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 2;

(c)cytundeb ar gyfer les sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 20(1) o Atodlen 6;

(d)amrywiad i les sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 24(1) neu 25(1) o’r Atodlen honno.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch tystysgrifau ACC.

(6)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (5), yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth o ran yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn dyroddi tystysgrif;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrifau dyblyg;

(c)darparu ar gyfer dyroddi tystysgrifau lluosog pan ddychwelir ffurflen dreth sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad.

(7)O ran y Cofrestrydd—

(a)rhaid iddo ganiatáu i ACC archwilio unrhyw dystysgrifau a gyflwynir o dan yr adran hon, a

(b)caiff ymrwymo i drefniadau ar gyfer rhoi gwybodaeth arall a chyfleusterau eraill i ACC er mwyn gwirio y cydymffurfiwyd â gofynion y Ddeddf hon.

RHAN 7Y RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI

66Y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi

Ar ôl adran 81 o DCRhT (setliadau contract), mewnosoder—

RHAN 3AY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI

Trosolwg
81AYstyr “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi” a throsolwg ohoni

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwrthweithio manteision treth sy’n deillio o drefniadau artiffisial i osgoi trethi, gan gynnwys darpariaeth—

(a)ynghylch ystyr “trefniant osgoi trethi”, “artiffisial” a “mantais drethiannol” (adrannau 81B i 81D);

(b)ynghylch pŵer ACC i wneud addasiadau i wrthweithio manteision treth a’r camau i’w cymryd gan ACC mewn cysylltiad ag addasiadau o’r fath (adrannau 81E i 81G).

(2)Enw’r rheolau yn y Rhan hon gyda’i gilydd yw “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi”.

Trefniadau artiffisial i osgoi trethi
81BTrefniadau osgoi trethi

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi” os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae trethdalwr yn ymrwymo i’r trefniant.

(2)Wrth benderfynu ai prif ddiben trefniant, neu un o’i brif ddibenion, yw cael mantais drethiannol, caniateir ystyried yn benodol y swm o dreth ddatganoledig a fyddai i’w godi yn absenoldeb y trefniant.

(3)Yn y Rhan hon—

(a)mae “trefniant” yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw weithred, unrhyw weithrediad, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad, unrhyw ddigwyddiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);

(b)mae cyfeiriadau at drefniant i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—

(i)cyfres o drefniadau, a

(ii)unrhyw ran o drefniant neu unrhyw gam o drefniant sy’n cynnwys mwy nag un ran neu gam;

(c)ystyr “trethdalwr” yw person sy’n agored i dreth ddatganoledig neu a fyddai’n agored iddi oni bai am y trefniant osgoi trethi o dan sylw.

81CTrefniadau artiffisial i osgoi trethi

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant osgoi trethi yn “artiffisial” os nad yw ymrwymo iddo neu ei gyflawni yn weithred resymol mewn perthynas â darpariaethau deddfwriaeth drethi Cymru sy’n gymwys i’r trefniadau.

(2)Wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial, caniateir ystyried yn benodol—

(a)unrhyw sylwedd economaidd neu fasnachol dilys sydd i’r trefniant (ac eithrio cael mantais drethiannol);

(b)pa un ai canlyniad y trefniant yw bod swm o dreth i’w godi y mae’n rhesymol cymryd nad hwnnw oedd y canlyniad a ragwelwyd pan ddeddfwyd darpariaeth berthnasol deddfwriaeth drethi Cymru.

(3)Ond nid yw trefniant yn artiffisial os oedd, ar yr adeg yr ymrwymwyd iddo neu y’i cyflawnwyd—

(a)y trefniant yn gyson â’r arferion a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd, a

(b)ACC wedi mynegi ei fod yn derbyn yr arfer hwnnw.

(4)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill, rhaid rhoi sylw i’r trefniadau eraill hynny hefyd wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth drethi Cymru” yw—

(a)Deddfau Trethi Cymru, a

(b)unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan y Deddfau hynny.

81DYstyr “treth” a “mantais drethiannol

At ddibenion y Rhan hon—

  • ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—

    (a)

    rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,

    (b)

    ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,

    (c)

    osgoi swm y codir treth arno neu leihau swm y codir treth arno,

    (d)

    gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth, ac

    (e)

    osgoi rhwymedigaeth i ddidynnu treth neu roi cyfrif am dreth;

  • ystyr “treth” (“tax”) yw unrhyw dreth ddatganoledig.

Gwrthweithio manteision treth
81EAddasiadau i wrthweithio manteision treth

(1)Caiff ACC wneud unrhyw addasiadau y mae o’r farn eu bod yn deg ac yn rhesymol i wrthweithio mantais drethiannol a fyddai (gan anwybyddu’r Rhan hon) yn deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi.

(2)Caniateir gwneud addasiad mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig o dan sylw neu unrhyw dreth ddatganoledig arall.

(3)Rhaid i addasiad gael ei wneud—

(a)pan fo’r addasiad yn ymwneud â ffurflen dreth y mae ymholiad ar y gweill mewn cysylltiad ag ef, drwy ddiwygio’r ffurflen dreth mewn hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50;

(b)fel arall drwy asesiad ACC.

(4)Ni chaniateir i ACC wneud addasiad oni bai ei fod wedi cydymffurfio â gofynion adrannau 81F ac 81G.

81FHysbysiad gwrthweithio arfaethedig

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio arfaethedig”) i drethdalwr os yw ACC o’r farn—

(a)bod mantais drethiannol i berson wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi, a

(b)y dylid gwrthweithio’r fantais drethiannol drwy addasiad o dan adran 81E.

(2)Rhaid i hysbysiad gwrthweithio arfaethedig—

(a)pennu’r trefniant osgoi trethi a’r fantais drethiannol,

(b)esbonio pam fod ACC o’r farn bod mantais drethiannol wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi,

(c)nodi’r addasiad y mae ACC yn bwriadu ei wneud er mwyn gwrthweithio’r fantais drethiannol,

(d)pennu unrhyw swm y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC arfaethedig, ac

(e)hysbysu’r trethdalwr—

(i)bod hysbysiad gwrthweithio terfynol i’w ddyroddi ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig,

(ii)y caiff y trethdalwr ofyn i ACC ymestyn y cyfnod 45 diwrnod hwnnw, a

(iii)y caniateir i’r trethdalwr gyflwyno sylwadau i ACC ar unrhyw adeg cyn dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio terfynol.

81GHysbysiad gwrthweithio terfynol

(1)Rhaid i ACC, ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau a grybwyllir yn adran 81F(2)(e)(i) neu unrhyw gyfnod hwy y mae ACC wedi cytuno iddo, ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio terfynol”) i’r trethdalwr.

(2)Rhaid i hysbysiad gwrthweithio terfynol ddatgan pa un a yw’r fantais drethiannol sy’n deillio o’r trefniant osgoi trethi i’w gwrthweithio drwy addasiad o dan adran 81E.

(3)Wrth benderfynu pa un a yw’r fantais drethiannol i’w gwrthweithio rhaid i ACC ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir gan y trethdalwr.

(4)Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan bod mantais drethiannol i’w gwrthweithio drwy addasiad rhaid i’r hysbysiad hefyd—

(a)pennu’r addasiad sy’n ofynnol i roi effaith i’r gwrthweithio,

(b)pan fo’r addasiad yn ymwneud â ffurflen dreth y mae ymholiad ar y gweill mewn cysylltiad ag ef, pennu’r diwygiad i’r ffurflen dreth sydd i’w gynnwys yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50 pan fydd ACC yn llunio ei gasgliadau ar yr ymholiad,

(c)pan na fo paragraff (b) yn gymwys—

(i)cynnwys gydag ef yr asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad, neu

(ii)pan wnaed asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad, pennu’r asesiad hwnnw, a

(d)pennu unrhyw swm—

(i)y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu o ganlyniad i’r diwygiad a bennir o dan baragraff (b), neu

(ii)y mae’n ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC a grybwyllir ym mharagraff (c).

(5)Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan nad yw mantais drethiannol i’w gwrthweithio rhaid iddo ddatgan y rhesymau dros benderfyniad ACC.

Achos gerbron llys neu dribiwnlys
81HAchos mewn cysylltiad â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi

Mewn achos gerbron llys neu’r tribiwnlys mewn cysylltiad â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi, mater i ACC yw dangos—

(a)bod yna drefniant artiffisial i osgoi trethi, a

(b)bod yr addasiadau a wneir (neu sydd i’w gwneud) i wrthweithio’r fantais drethiannol sy’n deillio o’r trefniant yn deg ac yn rhesymol.

Cychwyn a darpariaeth drosiannol
81IY rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi: cychwyn a darpariaeth drosiannol

(1)Mae’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drefniant osgoi trethi yr ymrwymir iddo ar y dyddiad y daw’r Rhan hon i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill yr ymrwymwyd iddynt cyn y diwrnod hwnnw, mae’r trefniadau eraill hynny i’w hanwybyddu at ddibenion adran 81C(4) oni bai mai canlyniad ystyried y trefniadau eraill hynny fyddai penderfynu nad oedd y trefniant osgoi trethi yn un artiffisial.

RHAN 8DEHONGLI A DARPARIAETHAU TERFYNOL

Dehongli

67Ystyr treth

Ac eithrio fel y darperir fel arall, yn y Ddeddf hon, ystyr “treth” yw treth trafodiadau tir.

68Ystyr prif fuddiant mewn tir

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “prif fuddiant” mewn tir yn gyfeiriadau at—

(a)ystad mewn ffi syml absoliwt, neu

(b)cyfnod o flynyddoedd absoliwt,

pa un a yw’n bodoli mewn cyfraith neu mewn ecwiti.

69Ystyr testun a phrif destun

Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “testun” trafodiad tir yn gyfeiriadau at y buddiant trethadwy a gaffaelir (y “prif destun”), ynghyd ag unrhyw fuddiant neu hawl sy’n perthyn iddo neu sy’n ymwneud ag ef a gaffaelir gydag ef.

70Ystyr gwerth marchnadol

At ddibenion y Ddeddf hon, mae “gwerth marchnadol” i’w bennu yn yr un modd ag y pennir “market value” at ddibenion Deddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (gweler adrannau 272 i 274 o’r Ddeddf honno).

71Ystyr y dyddiad y mae trafodiad yn cael effaith

Ac eithrio fel y darperir fel arall, y dyddiad y mae trafodiad tir yn cael effaith at ddibenion y Ddeddf hon yw’r dyddiad cwblhau.

72Ystyr eiddo preswyl

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “eiddo preswyl” yw—

(a)adeilad a ddefnyddir fel un annedd neu ragor, neu sy’n addas i’w ddefnyddio felly, neu sydd yn y broses o gael ei godi neu ei addasu i’w ddefnyddio felly;

(b)tir sy’n ardd neu’n diroedd, neu’n ffurfio rhan o ardd neu diroedd adeilad o fewn paragraff (a) (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar dir o’r fath);

(c)buddiant mewn tir neu hawl dros dir sy’n bodoli er budd adeilad o fewn paragraff (a) neu dir o fewn paragraff (b).

(2)Yn unol â hynny, ystyr “eiddo amhreswyl” yw unrhyw eiddo nad yw’n eiddo preswyl.

(3)Ond gweler y rheol yn is-adran (9) yn achos trafodiad sy’n ymwneud â 6 neu ragor o anheddau.

(4)At ddibenion is-adran (1), mae adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—

(a)llety preswyl ar gyfer disgyblion ysgol;

(b)llety preswyl ar gyfer myfyrwyr, ac eithrio llety o fewn is-adran (5)(b);

(c)llety preswyl ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog;

(d)sefydliad sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa o leiaf 90% o’i breswylwyr ac nad yw o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (f) o is-adran (5).

(5)At ddibenion is-adran (1), nid yw adeilad a ddefnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn cael ei ddefnyddio fel annedd—

(a)cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl ar gyfer plant;

(b)neuadd breswyl myfyrwyr addysg bellach neu addysg uwch;

(c)cartref neu sefydliad arall sy’n darparu llety preswyl â gofal personol ar gyfer personau sydd angen gofal personol oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;

(d)ysbyty neu hosbis;

(e)carchar neu sefydliad tebyg;

(f)gwesty neu sefydliad tebyg.

(6)Pan fo adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a bennir yn is-adran (5), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a).

(7)Pan fo adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio yn addas i’w ddefnyddio at o leiaf un o’r dibenion a bennir yn is-adran (4) ac o leiaf un o’r dibenion hynny a bennir yn is-adran (5)⁠—

(a)os oes un defnydd o’r fath y mae’r adeilad yn fwyaf addas ar ei gyfer, neu os yw’r defnyddiau y mae’n fwyaf addas ar eu cyfer oll wedi eu pennu yn yr un is-adran, rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-adran (1)(a),

(b)fel arall, mae’r adeilad i’w drin at y dibenion hynny fel pe bai’n addas i’w ddefnyddio fel annedd.

(8)Yn yr adran hon, mae “adeilad” yn cynnwys rhan o adeilad.

(9)Pan fo trafodiad unigol yn ymwneud â 6 neu ragor o anheddau ac yn cynnwys trosglwyddo prif fuddiant ynddynt, neu roi les drostynt, yna, at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw, caiff yr anheddau hynny eu trin fel anheddau amhreswyl.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon.

73Ystyr annedd

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “annedd” yn gyfeiriadau at eiddo preswyl sy’n annedd unigol.

74Cyfeiriadau at bersonau cysylltiedig

(1)Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddibenion unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf hon at berson sy’n gysylltiedig â pherson arall.

(2)Ond gweler y ddarpariaeth benodol a wneir yn y darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 23(3)(b) (eithriadau i’r rheol gwerth marchnadol tybiedig mewn trafodiadau gyda chwmnïau cysylltiedig);

(b)paragraffau 16(2)(b) a 24(2)(b) o Atodlen 7 (trafodiadau partneriaeth: pennu’r partneriaid cyfatebol);

(c)paragraff 51 o’r Atodlen honno (partneriaethau: cymhwyso adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) i Atodlen 7 yn gyffredinol);

(d)paragraff 5(5) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp: cwmnïau cyd-fenter);

(e)paragraff 6(3) o’r Atodlen honno (rhyddhad grŵp: trefniadau morgais).

75Diffiniadau eraill

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sy’n, neu sydd wedi ei gynnwys mewn—

    (a)

    Deddf Seneddol,

    (b)

    Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

    (c)

    is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan⁠—

    (i)

    Deddf Seneddol, neu

    (ii)

    Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrir fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

  • ystyr “mynegai prisiau defnyddwyr” (“consumer prices index”) yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer pob eitem a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau;

  • ystyr “mynegai prisiau manwerthu” (“retail prices index”) yw Mynegai Cyffredinol Prisiau Manwerthu’r Deyrnas Unedig a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau o dan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18);

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;

  • mae “tir” (“land”) yn cynnwys—

    (a)

    adeiladau a strwythurau;

    (b)

    tir a orchuddir â dŵr.

Diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

76Diwygiadau i DCRhT

Mae Atodlen 23 yn gwneud diwygiadau i DCRhT.

Adolygiad annibynnol

77Adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o’r dreth trafodiadau tir gael ei gwblhau cyn diwedd y cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.

(2)Ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad arno.

(3)Caiff y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (1) gynnwys—

(a)talu treuliau y mae person yn mynd iddynt wrth gynnal yr adolygiad (neu wrth gynorthwyo i’w gynnal);

(b)darparu cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i berson o’r fath;

(c)cyfarwyddo ACC i gynorthwyo â’r gwaith o gynnal yr adolygiad.

Darpariaethau terfynol

78Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani, neu mewn cysylltiad â hi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani).

(3)Os yw offeryn statudol yn cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon y mae Gweinidogion Cymru o’r farn eu bod yn gwneud darpariaeth a all gael yr effaith a grybwyllir yn is-adran (4), ni chaniateir gwneud yr offeryn oni bai bod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Yr effaith yw, mewn cysylltiad â thrafodiad tir—

(a)bod swm y dreth sydd i’w godi yn fwy na’r swm a fyddai i’w godi oni wneir y rheoliadau, neu

(b)bod treth i’w chodi pan na fyddai treth i’w chodi oni wneir y rheoliadau.

79Rheoliadau

(1)Mewn perthynas ag unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid ei arfer drwy offeryn statudol, a

(b)mae’n cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo—

(a)adran 5(4) (buddiannau esempt);

(b)adran 18(2) (cydnabyddiaeth drethadwy);

(c)adran 24(11) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch);

(d)adran 30(6) (rhyddhadau);

(e)adran 33(7) (cwmnïau);

(f)adran 34(6) (cynlluniau ymddiriedolaeth unedau);

(g)adran 35(1) (cwmnïau buddsoddi penagored);

(h)adran 36(8) (cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth);

(i)adran 41(2) (partneriaethau);

(j)adran 42(2) (ymddiriedolaethau);

(k)adran 46(10) (trothwyon ar gyfer trafodiadau hysbysadwy);

(l)adran 47(5) (dyddiad dechrau llog taliadau hwyr);

(m)adran 49(5) (dyddiad dechrau llog taliadau hwyr);

(n)adran 52(1) (y cyfnod y mae’n rhaid dychwelyd ffurflen dreth o’i fewn);

(o)adran 64(1) (rheoliadau ynghylch gohirio treth);

(p)adran 72(10) (eiddo preswyl);

(q)paragraff 7 o Atodlen 3 (trafodiadau esempt);

(r)paragraff 27(2) o Atodlen 6 (codi treth ar elfen rent lesoedd preswyl);

(s)paragraff 32 o’r Atodlen honno (cyfradd disgownt amser ar gyfer lesoedd);

(t)paragraff 36(1)(b) o’r Atodlen honno (swm penodedig o rent perthnasol);

(u)paragraff 37 o’r Atodlen honno (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36);

(v)paragraff 6(7) o Atodlen 13 (rhyddhad anheddau lluosog: y ganran isaf o dreth sydd i’w phriodoli i anheddau);

(w)paragraff 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael: cyfran y dreth a ryddheir).

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon (ac eithrio offeryn a grybwyllir yn is-adran (4)) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)rheoliadau a wneir o dan adran 24(1) neu baragraff 27(4) neu 28(1) o Atodlen 6 (rheoliadau ynghylch cyfraddau treth a bandiau treth);

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 78 y mae is-adran (3) o’r adran honno yn gymwys iddynt.

80Cymhwyso i’r Goron

(1)Mae’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.

(2)Ond gweler paragraff 2 o Atodlen 3 (sy’n esemptio trafodiadau tir rhag codi treth arnynt pan fo’r prynwr yn un o gyrff penodedig y Goron).

(3)Ac nid oes unrhyw beth ym Mhennod 2 o Ran 6 (atebolrwydd ar gyfer treth a thalu treth) yn effeithio ar weithrediad adrannau 8 a 9 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37).

(4)Nid yw is-adran (1) yn gwneud y Goron yn agored i’w herlyn am drosedd.

81Dod i rym

(1)Daw’r Rhan hon (ac eithrio adran 76 ac Atodlen 23) i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan adran (2) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

82Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

(a gyflwynir gan adran 1(2))

ATODLEN 1TROSOLWG O’R ATODLENNI

Mae’r Atodlenni i’r Ddeddf hon wedi eu trefnu fel a ganlyn—

(a)mae Atodlenni 2 i 4 yn grŵp o Atodlenni sy’n gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â phrif gysyniadau’r dreth trafodiadau tir—

(i)mae Atodlen 2 yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i drafodiadau cyn-gwblhau;

(ii)mae Atodlen 3 yn pennu trafodiadau penodol sy’n esempt rhag codi’r dreth arnynt;

(iii)mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth fanwl ynghylch yr hyn sy’n cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir;

(b)mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch;

(c)mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon i lesoedd;

(d)mae Atodlenni 7 a 8 yn grŵp o Atodlenni sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon i endidau penodol, sef partneriaethau (Atodlen 7) ac ymddiriedolaethau (Atodlen 8) yn benodol;

(e)mae Atodlenni 9 i 22 yn grŵp o Atodlenni sy’n gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael rhag y dreth;

(f)mae Atodlen 23 yn gwneud diwygiadau i DCRhT.

(a gyflwynir gan adran 13)

ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU

RHAN 1RHAGARWEINIAD A CHYSYNIADAU ALLWEDDOL

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon (adran 10 (contract a throsglwyddo) yn benodol) i drafodiadau cyn-gwblhau (nodir ystyr hynny ym mharagraff 3).

(2)Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaethau rhagarweiniol sy’n nodi’r amgylchiadau pan fo’r Atodlen hon yn gymwys (paragraff 2) ac yn esbonio ystyr “trafodiad cyn-gwblhau” a thermau allweddol eraill y cyfeirir atynt yn yr Atodlen;

(b)mae Rhan 2 yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys mewn achosion pan fo’r trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau (nodir ystyr hynny ym mharagraff 6);

(c)mae Rhan 3 yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys mewn achosion sy’n ymwneud â throsglwyddiadau annibynnol (nodir ystyr hynny ym mharagraff 12);

(d)mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer rheol arbennig (“rheol isafswm y gydnabyddiaeth”) sy’n gymwys i bennu’r gydnabyddiaeth a roddir mewn achosion pan fo’r partïon i drafodiad cyn-gwblhau yn gysylltiedig â’i gilydd neu fel arall heb fod yn gweithredu hyd braich;

(e)mae Rhan 5 yn darparu i ryddhad fod ar gael i brynwyr penodol mewn achosion pan ymrwymir i drafodiadau cyn-gwblhau penodol;

(f)mae Rhan 6 yn gwneud rhai darpariaethau dehongli cyffredinol.

Cymhwyso’r Atodlen hon

2(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan fo—

(a)person (“y prynwr gwreiddiol”) yn ymrwymo i gontract (“y contract gwreiddiol”) ar gyfer caffael buddiant trethadwy gan y prynwr gwreiddiol y mae’r caffaeliad oddi tano i’w gwblhau drwy drosglwyddiad, a

(b)trafodiad cyn-gwblhau.

(2)Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at gontract yn cynnwys contract sy’n aseinio hawliau mewn perthynas â chontract arall.

(3)Ar gyfer unrhyw un contract i gaffael buddiant trethadwy nid oes ond un prynwr gwreiddiol (ac at ddibenion yr Atodlen hon mae cydbrynwyr gwreiddiol i’w trin fel un prynwr gwreiddiol).

(4)Nid yw’r Atodlen hon yn gymwys pan fo paragraff 21 o Atodlen 6 (aseinio cytundeb ar gyfer les) yn gymwys (ac yn unol â hynny, er gwaethaf paragraff 3, nid yw aseinio cytundeb ar gyfer les yn drafodiad cyn-gwblhau).

Ystyr “trafodiad cyn-gwblhau”

3(1)Mae trafodiad yn drafodiad cyn-gwblhau—

(a)os, o ganlyniad i’r trafodiad, yw person ac eithrio’r prynwr gwreiddiol (“y trosglwyddai”) yn cael yr hawl i alw am drosglwyddo i’r trosglwyddai holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono, a

(b)os, yn union cyn i’r trafodiad ddigwydd, oedd gan berson (ac eithrio’r trosglwyddai ond nid o reidrwydd y prynwr gwreiddiol) yr hawl o dan y contract gwreiddiol i alw am drosglwyddo’r holl destun hwnnw neu’r rhan honno ohono.

(2)Nid yw trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael gan berson holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono yn drafodiad cyn-gwblhau.

(3)Nid yw rhoi nac aseinio opsiwn yn drafodiad cyn-gwblhau.

(4)Nid yw’r ffaith fod trafodiad yn cael yr effaith o gyflawni’r contract gwreiddiol yn rhwystro’r trafodiad hwnnw rhag bod yn drafodiad cyn-gwblhau.

Termau allweddol eraill

4(1)Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at ran o destun y contract gwreiddiol—

(a)yn gyfeiriadau at fuddiant trethadwy sydd yr un fath â’r buddiant trethadwy y cyfeirir ato ym mharagraff 2(1)(a) ac eithrio ei fod yn ymwneud â rhan o’r tir o dan sylw yn unig, a

(b)hefyd yn cynnwys, i’r graddau y bo’n briodol, fuddiannau neu hawliau sy’n perthyn i’r buddiant trethadwy neu’n ymwneud ag ef.

(2)Yn yr Atodlen hon, ystyr “y trosglwyddwr”, mewn perthynas â thrafodiad cyn-gwblhau, yw parti i’r trafodiad cyn-gwblhau yr oedd ganddo, yn union cyn i’r trafodiad cyn-gwblhau ddigwydd, yr hawl i alw am drosglwyddo testun y trafodiad cyn-gwblhau (fel y daeth i fod).

(3)Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at “testun” trafodiad cyn-gwblhau—

(a)yn gyfeiriadau at y buddiant trethadwy y mae gan y trosglwyddai yr hawl i alw am ei drosglwyddo o ganlyniad i’r trafodiad cyn-gwblhau, a

(b)hefyd yn cynnwys, i’r graddau y bo’n briodol, fuddiannau neu hawliau sy’n perthyn i’r buddiant trethadwy neu’n ymwneud ag ef.

Ni chodir treth ar drosglwyddai oherwydd y trafodiad cyn-gwblhau

5Nid ystyrir bod y trosglwyddai yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd y trafodiad cyn-gwblhau yn unig.

RHAN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU SY’N ASEINIO HAWLIAU

Trafodiadau cyn-gwblhau sy’n aseinio hawliau

6Mae trafodiad cyn-gwblhau yn “aseinio hawliau” os yw hawl y trosglwyddai y cyfeirir ati ym mharagraff 3(1)(a) yn hawl i arfer hawliau o dan y contract gwreiddiol.

Aseinio hawliau: cymhwyso rheolau ynghylch cwblhau a chydnabyddiaeth

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau.

(2)Os trosglwyddir testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai, cymerir mai’r trosglwyddiad yw cwblhau’r contract gwreiddiol (er gwaethaf adran 10 ac is-adran (10)(a) o’r adran honno yn benodol).

(3)Mae is-baragraffau (4) i (8) yn gymwys—

(a)os trosglwyddir testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai, neu

(b)os yw’r contract gwreiddiol wedi ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai.

(4)Cymerir mai’r trosglwyddai yw’r prynwr yn y trafodiad tir y rhoddir effaith iddo fel a grybwyllir yn adran 10(3), neu y caiff ei drin fel bod effaith wedi ei rhoi iddo o dan adran 10(4).

(5)At ddiben pennu’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir hwnnw, cymerir bod y trafodiad tir yn rhoi effaith i gontract y mae’r gydnabyddiaeth oddi tano y gydnabyddiaeth a dalwyd neu a ddarparwyd gan y trosglwyddai neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai—

(a)ar gyfer testun y contract gwreiddiol, a

(b)ar gyfer aseinio’r hawliau.

(6)Mae paragraff 1 o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy: arian neu gyfwerth ariannol) yn cael effaith yn unol â hynny ond yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8) o’r paragraff hwn.

(7)Nid yw’r paragraff hwn yn caniatáu i unrhyw swm o gydnabyddiaeth a roddir gan berson gael ei gyfrif ddwywaith wrth bennu’r gydnabyddiaeth drethadwy.

(8)Mewn unrhyw achos pan fo cysylltiad perthnasol rhwng y partïon fel a grybwyllir ym mharagraff 15(2) (rheol isafswm y gydnabyddiaeth), cyfrifir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (4) o’r paragraff hwn (ni waeth pa un a cymerir mai’r gydnabyddiaeth yw’r swm ym mharagraff (a), (b) neu (c) o baragraff 15(2)) fel pe bai’r geiriau “neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr” ym mharagraff 1 o Atodlen 4 wedi eu hepgor.

(9)Cymerir bod y contract gwreiddiol “wedi ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai” pan fo trafodiad tir yn cael ei drin fel pe bai effaith wedi ei rhoi iddo o dan adran 10(4) oherwydd—

(a)bod y trosglwyddai o dan yr aseinio hawliau, neu berson sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, yn cymryd meddiant o holl destun y contract gwreiddiol, neu’r holl destun hwnnw i raddau helaeth,

(b)bod cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth wedi ei thalu neu ei darparu gan y trosglwyddai neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, neu

(c)bod cydnabyddiaeth a delir neu a ddarperir gan y trosglwyddai, neu berson sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, wrth ei chymryd gyda’r gydnabyddiaeth a delir neu a ddarperir gan berson arall, yn dod i gyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth.

(10)Mae’r cyfeiriadau yn is-baragraff (9) at feddiant ac at dalu neu ddarparu cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth i’w darllen yn unol ag is-adrannau (2) a (3) o adran 14 (ystyr cyflawni’n sylweddol).

(11)Yn is-baragraff (9), ystyr “y gydnabyddiaeth”—

(a)mewn perthynas â’r trafodiad tir, yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael testun y trafodiad tir (fel yr ystyrir iddi fod);

(b)mewn perthynas â’r contract gwreiddiol, yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael testun y contract hwnnw gan y trosglwyddai;

(c)mewn perthynas â’r aseinio hawliau, yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael gan y trosglwyddai yr hawliau y mae’r contract hwnnw yn ymwneud â hwy.

Aseinio hawliau: trin y trosglwyddwr fel pe bai’n gwneud caffaeliad ar wahân

8(1)Pan fo paragraff 7(4) i (8) yn gymwys (aseinio hawliau: cwblhau’r contract gwreiddiol neu ei gyflawni’n sylweddol) mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai—

(a)y dyddiad y mae’r trafodiad tir a grybwyllir ym mharagraff 7(4) (“trafodiad tir y trosglwyddai”) yn cael effaith yw’r dyddiad y mae trafodiad tir arall (“trafodiad tir tybiannol”) yn cael effaith hefyd, a

(b)y prynwr gwreiddiol yw’r prynwr yn y trafodiad tir tybiannol hwnnw.

(2)Cyfeirir at y trafodiad tir tybiannol yn y paragraff hwn fel trafodiad y mae “cyswllt” rhyngddo â’r aseinio hawliau y mae’r prynwr gwreiddiol yn drosglwyddwr oddi tano.

(3)Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys a’r aseinio hawliau a grybwyllir ym mharagraff 7(1) (“yr aseinio hawliau a weithredwyd”) yn cael ei ragflaenu gan un neu ragor o achosion perthynol o aseinio hawliau, yna at ddibenion y Ddeddf hon ystyrir bod, ar gyfer pob achos o aseinio hawliau (ac eithrio’r cyntaf) yn y gadwyn a ffurfir gan yr aseinio hawliau a weithredwyd a’r achosion blaenorol hynny o aseinio hawliau, drafodiad tir tybiannol ychwanegol—

(a)sy’n cael effaith ar y dyddiad y mae trafodiad tir y trosglwyddai yn cael effaith, a

(b)y mae’r trosglwyddwr o dan yr aseinio hawliau hwnnw yn brynwr oddi tano.

(4)Yn is-baragraff (3), ystyr “achosion perthynol o aseinio hawliau” yw trafodiad sy’n achos o aseinio hawliau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â’r aseinio hawliau a weithredwyd.

(5)Cyfeirir at y trafodiad tir tybiannol ychwanegol yn y paragraff hwn fel trafodiad y mae “cyswllt” rhyngddo â’r aseinio hawliau.

(6)At ddiben pennu’r gydnabyddiaeth drethadwy—

(a)ar gyfer y trafodiad tir tybiannol, mae Atodlen 4 yn cael effaith fel pe bai paragraff 1 o’r Atodlen honno yn darparu mai’r gydnabyddiaeth drethadwy (ac eithrio fel y darperir fel arall) yw swm A a B;

(b)ar gyfer unrhyw drafodiad tir tybiannol ychwanegol, mae’r Atodlen honno yn cael effaith fel pe bai paragraff 1 ohoni yn darparu mai’r gydnabyddiaeth drethadwy (ac eithrio fel y darperir fel arall) yw swm A, B ac C.

(7)A yw cyfanswm unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddir (pa un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol—

(a)y trosglwyddai o dan yr aseinio hawliau y mae cyswllt rhyngddo â’r trafodiad tir tybiannol neu’r trafodiad tir tybiannol ychwanegol;

(b)pan fo’r aseinio hawliau yn un mewn cadwyn o drafodiadau olynol sy’n drafodiadau cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol (y mae o leiaf ran o’u testun yn gyffredin rhyngddynt), y trosglwyddai o dan unrhyw drafodiad cyn-gwblhau dilynol yn y gadwyn honno;

(c)person sy’n gysylltiedig â pherson sydd o fewn paragraff (a) neu (b).

(8)B yw cyfanswm unrhyw gydnabyddiaeth arall mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddir yn gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan—

(a)y prynwr (o dan y trafodiad tir tybiannol neu’r trafodiad tir tybiannol ychwanegol), neu

(b)person sy’n gysylltiedig â’r prynwr.

(9)C yw swm unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddir ar gyfer yr aseinio hawliau blaenorol gan—

(a)y prynwr (o dan y trafodiad tir tybiannol ychwanegol), neu

(b)person sy’n gysylltiedig â’r prynwr.

(10)Yn is-baragraff (9), ystyr “yr aseinio hawliau blaenorol” yw’r aseinio hawliau y daeth y prynwr i fod â’r hawl, o ganlyniad iddo, i alw am drosglwyddo testun yr aseinio hawliau (fel y daeth i fod) y mae cyswllt rhyngddo â’r trafodiad tir tybiannol ychwanegol.

Trafodiadau tir tybiannol: effaith dadwneud etc. yn dilyn cyflawni’n sylweddol

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo paragraff 8(1) (trin y trosglwyddwr fel pe bai’n gwneud caffaeliad ar wahân) yn gymwys yn rhinwedd cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol gan y trosglwyddai.

(2)Os caiff y contract gwreiddiol ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau) wedi hynny, neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn rhinwedd paragraff 8(1), ac unrhyw dreth a dalwyd yn rhinwedd paragraff 8(3) (i’r graddau hynny).

(3)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni bai y gwneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â’r trafodiad tir tybiannol neu’r trafodiad tir tybiannol ychwanegol, yn unol ag adran 41 o DCRhT.

Aseinio hawliau mewn perthynas â rhan yn unig o’r contract gwreiddiol

10Pan fo gan y trosglwyddai o dan yr achos o aseinio hawliau y cyfeirir ato ym mharagraff 7(1) yr hawl i alw am drosglwyddo rhan o destun y contract gwreiddiol, ond nid yr holl destun hwnnw—

(a)mae paragraff 7 yn gymwys fel pe bai’r contract gwreiddiol, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r rhan honno o’i destun, yn gontract ar wahân, a

(b)mae’r cyfeiriadau ym mharagraff 8 at y contract gwreiddiol i’w darllen yn unol â hynny.

Aseinio hawliau: cyfeiriadau at “y gwerthwr”

11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)y trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau, a

(b)naill ai testun y contract gwreiddiol yn cael ei drosglwyddo i’r trosglwyddai neu’r contract gwreiddiol yn cael ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai.

(2)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r contract gwreiddiol ei hun yn drosglwyddiad annibynnol (gweler Rhan 3 o’r Atodlen hon ynghylch trin achosion o’r fath).

(3)Y rheol gyffredinol, mewn perthynas â thrafodiad tir perthnasol, yw bod cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y gwerthwr i’w darllen fel cyfeiriadau at y gwerthwr o dan y contract gwreiddiol (ond gweler is-baragraffau (4) a (5)).

(4)Mewn achosion pan fo’r contract gwreiddiol wedi ei gyflawni’n sylweddol cyn i’r trosglwyddai gael yr hawl i alw am drosglwyddo holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y gwerthwr i’w darllen fel cyfeiriadau at y person a oedd y prynwr o dan y contract gwreiddiol pan gyflawnwyd ef yn sylweddol.

(5)Mewn perthynas â thrafodiad tir perthnasol, mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y gwerthwr o dan y contract gwreiddiol a’r trosglwyddwr o dan unrhyw achos perthnasol o aseinio hawliau—

(a)paragraff 8(1)(a) o Atodlen 4 (dyled fel cydnabyddiaeth);

(b)paragraff 11(2)(c) o’r Atodlen honno (cyflawni gwaith);

(c)paragraff 14 o’r Atodlen honno (indemniad a roddir gan y prynwr);

(d)paragraff 1(1) a (2) o Atodlen 20 (trosglwyddiadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus);

(e)paragraff 2(1)(a) o Atodlen 21 (cydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunio: amodau ar gyfer rhyddhad).

(6)Mae’r canlynol yn “trafodiadau tir perthnasol”—

(a)y trafodiad tir y rhoddir effaith iddo gan y trosglwyddiad a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) neu a gaiff ei drin fel bod y cyflawni sylweddol a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw yn rhoi effaith iddo;

(b)y trafodiad tir tybiannol a grybwyllir ym mharagraff 8(1) ac unrhyw drafodiad tir tybiannol ychwanegol o dan baragraff 8(3).

(7)Wrth bennu o dan adran 8(1) pa un yw trafodiad tir perthnasol fel a grybwyllir yn is-baragraff (6)(a) a thrafodiad arall yn gysylltiol ai peidio, gellir cymryd mai unrhyw un o’r canlynol yw’r gwerthwr yn y trafodiad tir perthnasol—

(a)y gwerthwr (a bennir yn unol ag is-baragraff (3)), neu

(b)y trosglwyddwr o dan unrhyw achos perthnasol o aseinio hawliau.

(8)Mae’r canlynol yn “achos perthnasol o aseinio hawliau” mewn perthynas â thrafodiad tir perthnasol—

(a)yr achos o aseinio hawliau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a);

(b)unrhyw drafodiad arall sy’n aseinio hawliau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â’r achos o aseinio hawliau a grybwyllir ym mharagraff (a).

RHAN 3TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU SY’N DROSGLWYDDIADAU ANNIBYNNOL

Trafodiadau cyn-gwblhau sy’n drosglwyddiadau annibynnol

12Yn yr Atodlen hon cyfeirir at drafodiad cyn-gwblhau nad yw’n aseinio hawliau fel “trosglwyddiad annibynnol”.

Trosglwyddiadau annibynnol: cydnabyddiaeth a chyflawni’n sylweddol

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r trosglwyddiad cyn-gwblhau yn drosglwyddiad annibynnol.

(2)Os yw’r trosglwyddai yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol, ystyrir bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad sy’n rhoi effaith i’r caffaeliad hwnnw yn cynnwys y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trosglwyddiad annibynnol (oni fyddai’n ei gynnwys fel arall).

(3)Mae cyfeiriadau yn is-baragraff (2) at gaffaeliad yn cynnwys caffaeliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi digwydd yn rhinwedd adran 10(4) (ac mae’r cyfeiriad at y trafodiad sy’n rhoi effaith i’r caffaeliad hwnnw i’w ddarllen yn unol â hynny).

(4)Mae cam a gymerir gan y trosglwyddai (neu aseinai’r trosglwyddai) a fyddai, pe bai’r prynwr gwreiddiol yn cymryd y cam hwnnw, yn golygu (at ddibenion adran 14(1)) cymryd meddiant o holl destun y contract gwreiddiol neu’r holl destun i raddau helaeth, i’w drin fel cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol.

(5)Os yw trafodiad sy’n drosglwyddiad annibynnol mewn perthynas â chontract hefyd yn drosglwyddiad annibynnol mewn perthynas â chontract arall (pan fu trosglwyddiadau annibynnol olynol, yn benodol), ystyrir mai pob un o’r contractau hynny yw’r “contract gwreiddiol” at ddibenion cymhwyso is-baragraff (4) mewn achosion ar wahân.

(6)Yn is-baragraff (4)—

(a)mae’r cyfeiriad at y trosglwyddai yn cynnwys person sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, a

(b)mae’r cyfeiriad at aseinai’r trosglwyddai—

(i)yn gyfeiriad at berson sydd, o ganlyniad i drafodiad sy’n aseinio hawliau mewn perthynas â’r trosglwyddiad annibynnol, â’r hawl i alw am drosglwyddo holl destun y trosglwyddiad annibynnol neu ran ohono, a

(ii)yn cynnwys person sy’n gysylltiedig â pherson o’r fath.

Cyfeiriadau at “y gwerthwr” mewn achosion sy’n ymwneud â throsglwyddiadau annibynnol

14(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)y trafodiad cyn-gwblhau yn drosglwyddiad annibynnol a’r trosglwyddai yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol fel y crybwyllir ym mharagraff 13(2) (o’i ddarllen ar y cyd â pharagraff 13(3)), neu

(b)y trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau a naill ai—

(i)testun y contract gwreiddiol yn cael ei drosglwyddo i’r trosglwyddai, neu

(ii)y contract gwreiddiol yn cael ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai,

ond nid yw paragraff 11(1) (cyfeiriadau at y gwerthwr pan fo’r trosglwyddai yn aseinai o dan aseinio hawliau) yn gymwys oherwydd bod y contract gwreiddiol yn drosglwyddiad annibynnol (gweler paragraff 11(2)).

(2)Y rheol gyffredinol, mewn perthynas â’r trafodiad tir perthnasol, yw bod cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y gwerthwr i’w darllen fel cyfeiriadau at y gwerthwr o dan y trafodiad priodol cyntaf (ond gweler is-baragraff (3)).

(3)Mewn perthynas â’r trafodiad tir perthnasol, mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn y darpariaethau penodedig (gweler is-baragraff (4)) i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—

(a)y gwerthwr yn y trafodiad priodol cyntaf,

(b)y trosglwyddwr o dan y trafodiad terfynol, ac

(c)y trosglwyddwr o dan unrhyw drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n ymwneud â’r trafodiadau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â hwy.

(4)Y darpariaethau penodedig yw—

(a)paragraff 8(1)(a) o Atodlen 4 (dyled fel cydnabyddiaeth);

(b)paragraff 11(2)(c) o’r Atodlen honno (cyflawni gwaith);

(c)paragraff 14 o’r Atodlen honno (indemniad a roddir gan brynwr);

(d)paragraff 1(1) a (2) o Atodlen 20 (trosglwyddiadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus);

(e)paragraff 2(1)(a) o Atodlen 21 (cydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunio: amodau ar gyfer rhyddhad).

(5)Wrth bennu o dan adran 8(1) pa un a yw trafodiad tir perthnasol a thrafodiad arall yn gysylltiol ai peidio, gellir cymryd mai unrhyw un neu ragor o’r canlynol yw’r gwerthwr yn y trafodiad tir perthnasol—

(a)y gwerthwr yn y trafodiad priodol cyntaf,

(b)y trosglwyddwr o dan y trafodiad terfynol, ac

(c)y trosglwyddwr o dan unrhyw drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n ymwneud â’r trafodiadau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â hwy.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y trafodiad tir perthnasol” yw—

(i)y trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), neu

(ii)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(b), y trafodiad tir y rhoddir effaith iddo drwy drosglwyddo testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai neu gyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol gan y trosglwyddai;

(b)ystyr “y trafodiad terfynol” yw—

(i)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(a), y trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael testun y trosglwyddiad annibynnol gan y trosglwyddai;

(ii)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(b), y trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael testun yr aseinio hawliau gan y trosglwyddai (pa un ai drwy drosglwyddo testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai, cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol gan y trosglwyddai neu fel arall);

(c)ystyr “y trafodiad priodol cyntaf” yw’r contract gwreiddiol, oni bai bod is-baragraff (7) yn gymwys.

(7)Wrth gymhwyso’r paragraff hwn i achos pan na fo’r contract gwreiddiol yn cael ei gyflawni ar yr un pryd â chyflawni’r trafodiad terfynol nac mewn cysylltiad â hynny, ystyr “y trafodiad priodol cyntaf” yw trafodiad sy’n drafodiad cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol ac sy’n bodloni’r amodau a ganlyn.

(8)Yr amodau yw bod y trafodiad cyn-gwblhau—

(a)yn cael ei gyflawni ar yr adeg y cyflawnir y trafodiad terfynol ac (os nad y trafodiad terfynol hwnnw ydyw) y’i cyflawnir mewn cysylltiad â chyflawni’r trafodiad terfynol,

(b)yn drafodiad y mae hawl y trosglwyddai i alw am drosglwyddo testun y trafodiad terfynol yn dibynnu arno, ac

(c)yn drafodiad nas rhagflaenir gan drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (a) a (b).

(9)At ddibenion is-baragraffau (7) ac (8)—

(a)ystyrir bod contract ar gyfer trafodiad tir wedi “ei gyflawni” pan gaiff ei gyflawni’n sylweddol neu ei gwblhau (pa un bynnag sydd gynharaf);

(b)ystyrir bod trosglwyddiad annibynnol ac eithrio contract wedi “ei gyflawni” pan fydd y trosglwyddai o dan y trosglwyddiad annibynnol hwnnw (neu aseinai’r trosglwyddai hwnnw, fel y’i diffinnir ym mharagraff 13(6)(b)) yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol hwnnw.

(10)Pan fo’r trafodiad terfynol yn drafodiad cyn-gwblhau mewn perthynas â phob un o ddau gontract neu ragor fel y rhai a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(a) sydd gyda’i gilydd yn ffurfio cyfres o gontractau o’r fath (gyda phob contract â rhywfaint o destun yn gyffredin â’r holl gontractau eraill), mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at y “contract gwreiddiol” i’w darllen fel cyfeiriadau at y contract cyntaf yn y gyfres honno.

RHAN 4RHEOL ISAFSWM Y GYDNABYDDIAETH

Rheol isafswm y gydnabyddiaeth

15(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo paragraff 7(3) neu 13(2) (trafodiadau cyn-gwblhau: caffael buddiant trethadwy, neu ei drin fel pe bai wedi ei gaffael, gan y trosglwyddai) yn gymwys.

(2)Os oes cysylltiad perthnasol rhwng partïon, yna at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 4 ystyrir mai’r gydnabyddiaeth a roddir gan y prynwr ar gyfer testun y trafodiad tir y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2) yw’r uchaf o’r canlynol—

(a)y swm a fyddai oni bai am yr is-baragraff hwn,

(b)yr isafswm cyntaf (gweler paragraff 16), neu

(c)yr ail isafswm (gweler paragraff 17).

(3)Mae “cysylltiad perthnasol rhwng partïon” os yw’r trosglwyddai mewn perthynas â’r trafodiad cyn-gwblhau a grybwyllir ym mharagraff 7(1) neu 13(1) (“y trafodiad a weithredwyd”) yn gysylltiedig â’r canlynol, neu heb fod yn gweithredu hyd braich iddynt—

(a)y trosglwyddwr mewn perthynas â’r trafodiad a weithredwyd, neu

(b)trosglwyddwr mewn perthynas â thrafodiad cyn-gwblhau—

(i)sy’n un mewn cadwyn o drafodiadau cyn-gwblhau olynol (oll ag o leiaf ran o’u testun yn gyffredin a chan gynnwys y trafodiad a weithredwyd) mewn perthynas â’r contract gwreiddiol, a

(ii)sy’n rhagflaenu’r trafodiad a weithredwyd yn y gadwyn.

(4)Pan fo’r trafodiad a weithredwyd yn drafodiad cyn-gwblhau mewn perthynas ag—

(a)contract ar gyfer trafodiad tir nad yw ei hun yn drosglwyddiad annibynnol mewn perthynas ag unrhyw gontract arall, a

(b)contract, neu ddau neu ragor o gontractau olynol, sydd ei hun neu eu hunain yn drosglwyddiadau annibynnol mewn perthynas â’r contract a grybwyllir ym mharagraff (a),

mae cyfeiriadau yn y Rhan hon o’r Atodlen hon at y “contract gwreiddiol” yn gyfeiriadau at y contract a grybwyllir ym mharagraff (a) yn unig (ac mae cyfeiriadau at y “prynwr gwreiddiol” i’w darllen yn unol â hynny).

Yr isafswm cyntaf

16(1)Mae’r “isafswm cyntaf” i’w bennu yn unol ag is-baragraff (2) oni fodlonir amodau A i C yn is-baragraff (3), ac yn yr achos hwnnw mae i’w bennu yn unol â’r is-baragraff hwnnw.

(2)Yr “isafswm cyntaf” yw—

(a)os y buddiant trethadwy a gaffaelir (neu a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei gaffael) o dan y trafodiad tir y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2) yw holl destun y contract gwreiddiol, swm unrhyw gydnabyddiaeth (mewn arian neu gyfwerth ariannol) y cytunir ei rhoi, o dan delerau’r contract gwreiddiol, ar gyfer caffael y testun hwnnw, neu

(b)os nad yw paragraff (a) yn gymwys, hynny o’r swm a grybwyllir yn y paragraff hwnnw sydd i’w briodoli, ar sail dosraniad teg a rhesymol, i’r buddiant trethadwy a gaffaelir (neu a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei gaffael) o dan y trafodiad tir y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2).

(3)Os bodlonir amodau A i C, yr “isafswm cyntaf” yw swm unrhyw gydnabyddiaeth (mewn arian neu gyfwerth ariannol) y cytunir ei rhoi, o dan delerau’r trosglwyddiad i’r T cyntaf, mewn cysylltiad â thestun y trafodiad hwnnw (gan gynnwys unrhyw gydnabyddiaeth sy’n ymwneud â rhwymedigaeth y trosglwyddwr o dan y trosglwyddiad i’r T cyntaf).

  • Amod A

    Bod y trafodiad cyn-gwblhau y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2) yn un mewn cadwyn o drafodiadau olynol (oll ag o leiaf ran o’u testun yn gyffredin) sy’n drafodiadau cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol.

  • Amod B

    Mai person (“T”) yw’r trosglwyddwr mewn trafodiad cyn-gwblhau sy’n ffurfio rhan o’r gadwyn a bod T yn gysylltiedig â’r canlynol, neu heb fod yn gweithredu hyd braich iddynt—

    (a)

    y trosglwyddai o dan y trafodiad hwnnw, neu

    (b)

    y trosglwyddai mewn trafodiad dilynol yn y gadwyn (gan gynnwys y trafodiad cyn-gwblhau y cyfeirir ato ym mharagraff 7(4) neu 13(2)).

  • Amod C

    Gan ystyried yr holl amgylchiadau, nad sicrhau mantais drethiannol (ar gyfer unrhyw berson) oedd prif ddiben T, neu un o brif ddibenion T, wrth ymrwymo i unrhyw drafodiad cyn-gwblhau yn y gadwyn neu unrhyw drefniant yr oedd trafodiad o’r fath yn rhan ohono.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y T cyntaf” yw—

(i)os bodlonir amod B mewn perthynas ag un trafodiad cyn-gwblhau yn unig, T, neu

(ii)os bodlonir amod B mewn perthynas â mwy nag un trafodiad cyn-gwblhau yn y gadwyn, y trosglwyddwr mewn perthynas â’r cyntaf o’r trafodiadau cyn-gwblhau y bodlonir amod B mewn perthynas ag ef;

(b)ystyr “y trosglwyddiad i’r T cyntaf” yw—

(i)y trafodiad cyn-gwblhau y mae’r T cyntaf yn drosglwyddai oddi tano, neu

(ii)y contract gwreiddiol (os T yw’r prynwr gwreiddiol);

(c)mae i “mantais drethiannol” yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 31(3).

Yr ail isafswm

17(1)Yr “ail isafswm” yw cyfanswm symiau net y gydnabyddiaeth a roddir gan y partïon perthnasol.

(2)Swm net y gydnabyddiaeth a roddir gan unrhyw barti perthnasol yw—

CP - CPP

Ffigwr 1

pan fo—

  • CP yn gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir gan y parti ar gyfer caffael y buddiant trethadwy neu fel cydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad cyn-gwblhau;

  • CPP yn gyfanswm unrhyw symiau o gydnabyddiaeth a roddir i’r parti gan barti perthnasol arall (neu bartïon perthnasol eraill) yn gydnabyddiaeth ar gyfer caffael y buddiant trethadwy neu fel cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad cyn-gwblhau,

ac os yw CPP yn fwy na CP yna cymerir mai swm net y gydnabyddiaeth a roddir gan y parti perthnasol yw sero.

(3)Y partïon perthnasol yw—

(a)y prynwr gwreiddiol, a

(b)y trosglwyddai,

oni bai bod is-baragraff (4) yn gymwys.

(4)Os yw’r trafodiad cyn-gwblhau a grybwyllir ym mharagraff 7(1) neu 13(1) (“y trafodiad a weithredwyd”) yn un mewn cadwyn o drafodiadau olynol (oll ag o leiaf ran o’u testun yn gyffredin) sy’n drafodiadau cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol, dim ond y canlynol sy’n bartïon perthnasol—

(a)y trosglwyddwr a’r trosglwyddai mewn perthynas â’r trafodiad a weithredwyd;

(b)trosglwyddwr mewn perthynas â thrafodiad blaenorol, os yw’r trosglwyddwr hwnnw yn gysylltiedig â’r trosglwyddai o dan y trafodiad a weithredwyd, neu heb fod yn gweithredu hyd braich iddo;

(c)y trosglwyddai mewn trafodiad cyn-gwblhau pan fo’r trosglwyddwr yn barti perthnasol (boed yn rhinwedd y paragraff (c) hwn neu fel arall),

ac yn yr is-baragraff hwn ac is-baragraff (6) ystyr “trafodiad blaenorol” yw trafodiad cyn-gwblhau sy’n rhagflaenu’r trafodiad a weithredwyd yn y gadwyn.

(5)At ddibenion is-baragraff (2)—

(a)caiff symiau a roddir gan berson sy’n gysylltiedig â pharti perthnasol eu trin fel pe baent wedi eu rhoi gan y parti perthnasol;

(b)caiff symiau a roddir i berson sy’n gysylltiedig â pharti perthnasol eu trin fel pe baent wedi eu rhoi i’r parti perthnasol,

ond nid yw person sy’n barti perthnasol i’w drin, at ddibenion y paragraff hwn, fel pe bai’n gysylltiedig â pharti perthnasol arall (hyd yn oed pe bai hynny’n wir oni bai am y paragraff hwn).

(6)Os nad testun y trafodiad a weithredwyd yw holl destun y contract gwreiddiol—

(a)mae’r symiau yr ystyrir at ddibenion is-baragraff (2) eu bod wedi eu rhoi “ar gyfer caffael y buddiant trethadwy” i’w pennu ar sail deg a rhesymol, a

(b)dim ond hynny o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad blaenorol ag sydd i’w briodoli, ar sail deg a rhesymol, i destun y trafodiad a weithredwyd sydd i’w ystyried o dan is-baragraff (2).

RHAN 5RHYDDHADAU

Rhyddhad i’r trosglwyddwr: aseinio hawliau

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pe bai person, oni bai am y paragraff hwn, yn atebol am dalu treth mewn cysylltiad â thrafodiad tir tybiannol y tybir ei fod wedi digwydd o dan baragraff 8(1) neu drafodiad tir tybiannol ychwanegol y tybir ei fod wedi digwydd o dan baragraff 8(3), a

(b)os nad oedd y contract gwreiddiol wedi ei gyflawni’n sylweddol pan ymrwymwyd i’r aseinio hawliau a grybwyllir ym mharagraff 7(1).

(2)Os yw’r prynwr mewn cysylltiad â’r trafodiad tir tybiannol, neu drafodiad tir tybiannol ychwanegol, yn hawlio rhyddhad o dan y paragraff hwn, mae’r prynwr wedi ei ryddhau rhag treth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.

(3)Ond nid oes unrhyw ryddhad ar gael o dan y paragraff hwn os yw’r trafodiad tir a grybwyllir ym mharagraff 7(4) wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall).

Rhyddhad i’r prynwr gwreiddiol: iswerthiannau cymwys

19(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r trafodiad cyn-gwblhau yn is-werthiant cymwys (gweler is-baragraff (6)),

(b)pe bai’r prynwr gwreiddiol, oni bai am y paragraff hwn, yn atebol am dalu treth mewn cysylltiad â’r trafodiad tir y rhoddir effaith iddo drwy gwblhau’r contract gwreiddiol neu y caiff ei drin fel bod effaith wedi ei rhoi iddo drwy gyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol,

(c)os cyflawnir yr is-werthiant cymwys ar yr un pryd â chyflawni’r contract gwreiddiol, ac mewn cysylltiad â hynny, a

(d)os hawlir rhyddhad mewn cysylltiad â’r trafodiad tir a grybwyllir ym mharagraff (b).

(2)Os testun yr is-werthiant cymwys yw holl destun y contract gwreiddiol, mae’r prynwr gwreiddiol wedi ei ryddhau rhag treth mewn cysylltiad â’r trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b).

(3)Os yw testun yr is-werthiant cymwys yn rhan o destun y contract gwreiddiol, cymerir mai swm y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) yw⁠—

CG - IC

Ffigwr 2

pan fo—

  • CG yw’r swm y byddai’r gydnabyddiaeth oni bai am yr is-baragraff hwn, a

  • IC yw hynny o CG sydd i’w briodoli i destun yr is-werthiant cymwys,

a chaniateir gostwng CG fwy nag unwaith os oes mwy nag un is-werthiant cymwys.

(4)Ond nid oes unrhyw ryddhad ar gael o dan y paragraff hwn—

(a)os oedd y contract gwreiddiol wedi ei gyflawni’n sylweddol pan ymrwymwyd i’r is-werthiant cymwys, neu

(b)os yw’r trafodiad y rhoddir effaith iddo, neu y caiff ei drin fel bod effaith wedi ei rhoi iddo drwy gyflawni’r is-werthiant cymwys wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall).

(5)At ddibenion y paragraff hwn, cymerir bod contract ar gyfer trafodiad tir wedi “ei gyflawni” pan fydd wedi ei gyflawni’n sylweddol neu wedi ei gwblhau (pa un bynnag sydd gynharaf).

(6)Mae trafodiad cyn-gwblhau yn “is-werthiant cymwys” os yw’n gontract y mae’r prynwr gwreiddiol yn contractio oddi tano i werthu holl destun neu ran o destun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai.

(7)Os yw trafodiad yn is-werthiant cymwys mewn perthynas â mwy nag un contract fel a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(a), mae’r paragraff hwn yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob contract gwreiddiol o’r fath at ddiben pennu pa ryddhad, os o gwbl, a all fod ar gael mewn cysylltiad â’r trafodiad tir o dan sylw.

RHAN 6DEHONGLI A MYNEGAI

Dehongli

20Yn yr Atodlen hon—

  • mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gytundeb;

  • mae “trosglwyddiad” (“transfer”) yn cynnwys unrhyw offeryn.

Mynegai o’r ymadroddion a ddiffinnir yn yr Atodlen hon

21Mae’r Tabl a ganlyn yn rhestru’r ymadroddion a ddiffinnir neu a esbonnir fel arall yn yr Atodlen hon.

Tabl 1
YmadroddParagraff
“aseinio hawliau” (“assignment of rights”)Paragraff 6
“contract” (“contract”)Paragraff 20
“is-werthiant cymwys” (“qualifying subsale”)Paragraff 19(6)
“prynwr gwreiddiol” (“original buyer”) a “contract gwreiddiol” (“original contract”)Paragraff 2(1)(a) (ond gweler hefyd baragraff 15(4))
“rhan o destun y contract gwreiddiol” (“part of the subject-matter of the original contract”)Paragraff 4(1)
“testun” (“subject-matter”) (trafodiad cyngwblhau)Paragraff 4(3)
“trafodiad cyn-gwblhau” (“pre-completion transaction”)Paragraff 3
“trafodiad tir tybiannol” (“notional land transaction”)Paragraff 8(1)
“trafodiad tir tybiannol ychwanegol” (“additional notional land transaction”)Paragraff 8(3)
“y trosglwyddai” (“the transferee”) (mewn perthynas â thrafodiad cyn-gwblhau)Paragraff 3(1)(a)
“trosglwyddiad” (“transfer”)Paragraff 20
“trosglwyddiad annibynnol” (“free-standing transfer”)Paragraff 12
“y trosglwyddwr” (“the transferor”) (mewn perthynas â thrafodiad cyn-gwblhau)Paragraff 4(2)

(a gyflwynir gan adran 17)

ATODLEN 3TRAFODIADAU SY’N ESEMPT RHAG CODI TRETH ARNYNT

Dim cydnabyddiaeth drethadwy

1Mae trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno os nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (ond gweler adran 22 (gwerth marchnadol tybiedig)).

Caffaeliadau gan y Goron

2Mae trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno pan fo’r prynwr oddi tano yn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;

(b)un o Weinidogion y Goron;

(c)Gweinidogion yr Alban;

(d)adran yng Ngogledd Iwerddon;

(e)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(f)Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Arglwyddi;

(g)Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Cyffredin;

(h)Corff Corfforaethol Senedd yr Alban;

(i)Comisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Trafodiadau mewn cysylltiad ag ysgariad etc.

3Mae trafodiad rhwng un parti i briodas a’r llall (pa un a yw’r briodas yn dal mewn bod ar adeg y trafodiad ai peidio) yn esempt rhag codi treth arno os rhoddir effaith iddo—

(a)yn unol â gorchymyn llys a wneir wrth ganiatáu archddyfarniad ysgariad, dirymedd priodas neu ymwahaniad cyfreithiol mewn cysylltiad â’r partïon;

(b)yn unol â gorchymyn llys a wneir mewn cysylltiad â diddymiad neu ddirymiad y briodas, neu ymwahaniad cyfreithiol y partïon, ar unrhyw adeg ar ôl caniatáu archddyfarniad o’r fath fel y crybwyllir ym mharagraff (a);

(c)yn unol â—

(i)gorchymyn llys a wneir ar unrhyw adeg o dan adran 22A, 23A neu 24A o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18), neu

(ii)gorchymyn llys atodol a wneir o dan adran 8(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu (Yr Alban) 1985 (p. 37) yn rhinwedd adran 14(1) o’r Ddeddf honno;

(d)ar unrhyw adeg yn unol â chytundeb y partïon a wneir gan ddisgwyl diddymiad neu ddirymiad y briodas, eu hymwahaniad cyfreithiol neu wneud gorchymyn gwahanu mewn cysylltiad â hwy, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.

Trafodiadau mewn cysylltiad â diddymiad partneriaeth sifil etc.

4Mae trafodiad rhwng un parti i bartneriaeth sifil a’r llall (pa un a yw’r bartneriaeth sifil yn dal mewn bod ar adeg y trafodiad ai peidio) yn esempt rhag codi treth arno os rhoddir effaith iddo—

(a)yn unol â gorchymyn llys a wneir wrth ganiatáu gorchymyn neu archddyfarniad mewn cysylltiad â’r partïon ar gyfer diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil neu eu hymwahaniad cyfreithiol;

(b)yn unol â gorchymyn llys a wneir mewn cysylltiad â diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil, neu ymwahaniad cyfreithiol y partïon, ar unrhyw adeg ar ôl caniatáu gorchymyn neu archddyfarniad o’r fath fel y crybwyllir ym mharagraff (a);

(c)yn unol â—

(i)gorchymyn llys a wneir ar unrhyw adeg o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) sy’n cyfateb i adran 22A, 23A neu 24A o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18), neu

(ii)gorchymyn llys atodol a wneir o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) sy’n cyfateb i adran 8(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu (Yr Alban) 1985 (p. 37) yn rhinwedd adran 14(1) o’r Ddeddf 1985 honno;

(d)ar unrhyw adeg yn unol â chytundeb y partïon a wneir gan ddisgwyl diddymiad neu ddirymiad y bartneriaeth sifil, eu hymwahaniad cyfreithiol neu wneud gorchymyn gwahanu mewn cysylltiad â hwy, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.

Cydsyniadau a pherchnogiadau gan gynrychiolwyr personol

5(1)Mae caffael eiddo gan berson wrth ddiwallu hawlogaeth y person o dan neu mewn perthynas ag ewyllys person ymadawedig, neu tuag at hynny, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig, yn esempt rhag codi treth arno.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n caffael yr eiddo yn rhoi unrhyw gydnabyddiaeth amdano, ac eithrio ysgwyddo dyled sicredig.

(3)Pan na fo is-baragraff (1) yn gymwys oherwydd is-baragraff (2), pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(1) o Atodlen 4.

(4)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “dyled” (“debt”) yw rhwymedigaeth, pa un ai’n bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu ar ddyddiad yn y dyfodol, ac

  • ystyr “dyled sicredig” (“secured debt”) yw dyled a sicrheir ar yr eiddo yn union ar ôl marwolaeth y person ymadawedig.

Amrywio gwarediadau testamentaidd etc.

6(1)Pan fydd person yn marw, mae trafodiad sy’n amrywio gwarediad eiddo (pa un a roddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith mewn perthynas â diewyllysedd neu fel arall) yr oedd yr ymadawedig yn gymwys i’w waredu yn esempt rhag codi treth arno os bodlonir yr amodau a ganlyn.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y trafodiad yn cael ei gyflawni o fewn y cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth person, a

(b)na roddir unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na chyfwerth ariannol ar ei gyfer ac eithrio amrywio gwarediad arall o’r fath.

(3)Pan na fo’r amod yn is-baragraff (2)(b) wedi ei gyflawni, pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(3) o Atodlen 4.

(4)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw gweinyddiad yr ystad wedi ei gwblhau ai peidio neu pa un a yw’r eiddo wedi ei ddosbarthu yn unol â’r gwarediadau gwreiddiol ai peidio.

Pŵer i ychwanegu, i dynnu ymaith neu i amrywio esemptiadau

7Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Atodlen hon er mwyn—

(a)darparu i drafodiad tir o unrhyw ddisgrifiad arall fod yn esempt rhag codi treth arno;

(b)darparu nad yw disgrifiad o drafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno mwyach;

(c)amrywio disgrifiad o drafodiad tir sy’n esempt rhag codi treth arno.

(a gyflwynir gan adran 18(1))

ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Arian neu gyfwerth ariannol

1Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, oni ddarperir fel arall, yw unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddir am destun y trafodiad, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan y prynwr neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr.

Treth ar werth

2Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad yn cynnwys unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad, ac eithrio treth ar werth sydd i’w chodi yn rhinwedd opsiwn i drethu unrhyw dir o dan Ran 1 o Atodlen 10 i Ddeddf Treth ar Werth 1994 (p. 23) a wneir ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Cydnabyddiaeth ohiriedig

3Mae swm neu werth y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad i’w bennu heb unrhyw ddisgownt am ohirio’r hawl i’w gael neu i gael unrhyw ran ohono.

Dosrannu teg a rhesymol

4(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli—

(a)i ddau drafodiad tir neu ragor,

(b)yn rhannol i drafodiad tir ac yn rhannol i fater arall, neu

(c)yn rhannol i faterion sy’n ei gwneud yn gydnabyddiaeth drethadwy ac yn rhannol i faterion eraill,

i’w dosrannu ar sail deg a rhesymol.

(2)Os na chaiff y gydnabyddiaeth ei dosrannu felly, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei dosrannu felly.

(3)At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gydnabyddiaeth a roddir am yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn un fargen i’w thrin fel pe bai i’w phriodoli i holl elfennau’r fargen—

(a)er bod cydnabyddiaeth ar wahân yn cael ei rhoi, neu yr honnir ei bod yn cael ei rhoi, ar gyfer elfennau gwahanol o’r fargen, neu

(b)er bod, neu yr honnir bod, trafodiadau ar wahân mewn cysylltiad ag elfennau gwahanol o’r fargen.

Cyfnewidiadau

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys wrth bennu’r gydnabyddiaeth drethadwy pan fo person (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i un trafodiad tir neu ragor fel prynwr yn gydnabyddiaeth lwyr neu rannol y bydd y person hwnnw (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i un trafodiad tir neu ragor fel gwerthwr.

(2)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “trafodiad perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau hynny, a

(b)ystyr “caffaeliad perthnasol” yw trafodiad perthnasol yr ymrwymir iddo fel prynwr ac ystyr “gwarediad perthnasol” yw trafodiad perthnasol yr ymrwymir iddo fel gwerthwr.

(3)Mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys os prif fuddiant mewn tir yw testun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau perthnasol—

(a)pan wneir caffaeliad perthnasol unigol, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw—

(i)gwerth marchnadol testun y caffaeliad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(ii)os rhoi les am rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw, a

(iii)unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r caffaeliad hwnnw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;

(b)pan wneir dau gaffaeliad perthnasol neu ragor, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer pob caffaeliad perthnasol yw—

(i)gwerth marchnadol testun y caffaeliad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(ii)os rhoi les am rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw, a

(iii)unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r caffaeliad hwnnw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Wrth bennu gwerth marchnadol at ddiben is-baragraff (3)(a)(i) a (b)(i), rhaid diystyru gostyngiad yn yr hyn a fyddai, fel arall, yn werth marchnadol y testun pan fo’r gostyngiad yn deillio o unrhyw beth a wneir (boed gan y prynwr neu gan unrhyw berson arall) i osgoi treth, a bod hynny’n brif ddiben iddo, neu’n un o’i brif ddibenion.

(5)Mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys os nad prif fuddiant mewn tir yw testun unrhyw un o’r trafodiadau perthnasol—

(a)pan wneir caffaeliad perthnasol unigol yn gydnabyddiaeth ar gyfer un gwarediad perthnasol neu ragor, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw swm neu werth unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ac eithrio’r gwarediad neu’r gwarediadau a roddir am y caffaeliad;

(b)pan wneir dau gaffaeliad perthnasol neu ragor yn gydnabyddiaeth ar gyfer un gwarediad perthnasol neu ragor, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer pob caffaeliad perthnasol yw’r gyfran briodol o swm neu werth unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ac eithrio’r gwarediad neu’r gwarediadau a roddir am y caffaeliadau.

(6)At ddibenion is-baragraff (5)(b) y gyfran briodol yw—

Ffigwr 3

pan—

  • GM yw gwerth marchnadol testun y caffaeliad y pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar ei gyfer, ac

  • CGM yw cyfanswm gwerth marchnadol testun yr holl gaffaeliadau perthnasol.

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 6 (darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol).

(8)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos y mae paragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol) yn gymwys iddo.

Darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol

6Yn achos trafodiad tir sy’n rhoi effaith i ddarnddosbarthu neu rannu buddiant trethadwy y mae gan bersonau hawl iddo ar y cyd, nid yw’r gyfran o’r buddiant a ddelir gan y prynwr yn union cyn y darnddosbarthu neu’r rhannu yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Prisio cydnabyddiaeth anariannol

7Oni ddarperir fel arall, cymerir mai gwerth unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir, ac eithrio—

(a)arian (boed mewn sterling neu mewn arian arall), neu

(b)dyled fel y’i diffinnir at ddibenion paragraff 8 (dyled fel cydnabyddiaeth),

yw ei werth marchnadol ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Dyled fel cydnabyddiaeth

8(1)Pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf⁠—

(a)ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus i’r prynwr neu gan y gwerthwr, neu

(b)ysgwyddo dyled bresennol gan y prynwr,

cymerir mai swm y ddyled a ad-delir, a ollyngir neu a ysgwyddir yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, yn ôl y digwydd.

(2)Ond pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf y canlynol ill dau—

(a)ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus gan y gwerthwr, a

(b)ysgwyddo’r ddyled honno gan y prynwr,

tybir mai swm y ddyled a ysgwyddir yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni, yn ôl y digwydd.

(3)Pan fo—

(a)dyled yn cael ei sicrhau ar destun trafodiad tir yn union cyn y trafodiad ac yn union ar ei ôl, a

(b)hawliau neu rwymedigaethau, mewn perthynas â’r ddyled honno, unrhyw barti i’r trafodiad yn newid o ganlyniad i’r trafodiad neu mewn cysylltiad â’r trafodiad,

yna at ddibenion y paragraff hwn mae’r prynwr yn ysgwyddo’r ddyled honno, ac mae’r ysgwyddo dyled hwnnw yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

(4)Mewn achos y mae is-baragraff (1)(b) neu (2) yn gymwys iddo—

(a)pan fo’r ddyled a ysgwyddir yn ddyled, neu’n cynnwys dyled, a sicrheir ar yr eiddo sy’n ffurfio testun y trafodiad, a

(b)pan oedd, yn union cyn y trafodiad, ddau berson neu ragor yn dal cyfran anrhanedig o’r eiddo hwnnw bob un, neu pan fo dau berson neu ragor o’r fath yn union ar ei ôl,

mae swm y ddyled sicredig a ysgwyddir i’w bennu fel pe bai swm y ddyled honno sy’n ddyledus gan bob un o’r personau hynny, ar adeg benodol, y gyfran ohono sy’n cyfateb i gyfran anrhanedig y person o’r eiddo ar yr adeg honno.

(5)At ddibenion is-baragraff (4), caiff pob cyd-denant eiddo ei drin fel pe bai’n dal cyfran anrhanedig gyfartal ohono.

(6)Os effaith y paragraff hwn fyddai bod swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn fwy na gwerth marchnadol testun y trafodiad, mae swm y gydnabyddiaeth drethadwy i’w drin fel pe bai wedi ei gyfyngu i’r gwerth hwnnw.

(7)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyled” yw rhwymedigaeth, boed yn bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu yn y dyfodol,

(b)ystyr “dyled bresennol”, mewn perthynas â thrafodiad, yw dyled a grëwyd neu a oedd yn codi cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, ac nad oedd wedi ei chreu neu nad oedd yn codi mewn cysylltiad â’r trafodiad, ac

(c)mae cyfeiriadau at swm dyled yn gyfeiriadau at y prif swm sy’n daladwy neu, yn ôl y digwydd, gyfanswm y prif symiau sy’n daladwy, ynghyd â swm unrhyw log cronedig sy’n ddyledus ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith neu cyn hynny.

Achosion pan na fodlonir amodau ar gyfer esemptiad yn llawn

9(1)Pe byddai trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno o dan baragraff 5 o Atodlen 3 (cydsyniadau a pherchnogiadau gan gynrychiolwyr personol) oni bai am is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw (achosion pan fo person sy’n caffael eiddo yn rhoi cydnabyddiaeth amdano), nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn cynnwys swm unrhyw ddyled sicredig a ysgwyddir.

(2)Yn is-baragraff (1) mae i “dyled sicredig” yr un ystyr ag ym mharagraff 5 o Atodlen 3.

(3)Pe byddai trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno o dan baragraff 6 o Atodlen 3 (amrywio gwarediadau testamentaidd etc.) oni bai am fethiant i fodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b) o’r paragraff hwnnw (dim cydnabyddiaeth ac eithrio amrywio gwarediad arall), nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn cynnwys gwneud unrhyw amrywiad a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.

Cyfnewid symiau mewn arian tramor

10(1)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swm neu werth y gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad yn gyfeiriadau at ei swm neu ei gwerth mewn sterling.

(2)At ddibenion y Ddeddf, hon mae gwerth sterling cyfatebol swm a fynegir mewn arian arall i’w ganfod drwy gyfeirio at gyfradd gyfnewid derfynol Llundain ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (oni bai bod y partïon wedi defnyddio cyfradd wahanol at ddibenion y trafodiad).

Gwneud gwaith

11(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir ar ffurf gwneud gwaith adeiladu, gwella neu drwsio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, yna—

(a)i’r graddau y bodlonir yr amodau a bennir yn is-baragraff (2), nid yw gwerth y gwaith yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, a

(b)i’r graddau na fodlonir yr amodau hynny, mae gwerth y gwaith i’w ystyried fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(2)Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)y gwneir y gwaith ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(b)y gwneir y gwaith ar dir a gaffaelir neu sydd i’w gaffael o dan y trafodiad neu ar dir arall a ddelir gan y prynwr neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, ac

(c)nad yw’n un o amodau’r trafodiad bod y gwerthwr neu berson sy’n gysylltiedig â’r gwerthwr yn gwneud y gwaith.

(3)Pan fo, yn rhinwedd—

(a)adran 10(5) (contract a throsglwyddo), neu

(b)paragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les),

ddau drafodiad hysbysadwy (gyda’r contract neu’r cytundeb yn drafodiad cyntaf a’r trafodiad y rhoddir effaith iddo wrth gwblhau neu, yn ôl y digwydd, roi’r les, yn ail drafodiad), caiff yr amod yn is-baragraff (2)(a) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni mewn perthynas â’r ail drafodiad os bodlonir ef mewn perthynas â’r cyntaf.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael tir yn gyfeiriadau at gaffael prif fuddiant ynddo;

(b)cymerir mai gwerth y gwaith yw’r swm y byddai’n rhaid ei dalu ar y farchnad agored am wneud y gwaith o dan sylw, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gan gynnwys unrhyw dreth ar werth a fyddai i’w chodi mewn cysylltiad â gwneud y gwaith).

(5)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol).

Darparu gwasanaethau

12(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir ar ffurf darparu gwasanaethau (ac eithrio gwneud gwaith y mae paragraff 11 yn gymwys iddo), cymerir mai gwerth y gydnabyddiaeth honno yw’r swm y byddai’n rhaid ei dalu ar y farchnad agored ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith er mwyn cael y gwasanaethau hynny.

(2)Mae’r swm hwnnw yn cynnwys unrhyw dreth ar werth a fyddai i’w chodi mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaethau.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol).

Trafodiad tir yr ymrwymir iddo o ganlyniad i gyflogaeth

13Pan ymrwymir i drafodiad tir o ganlyniad i gyflogaeth y prynwr, neu gyflogaeth person sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yna—

(a)os yw’r trafodiad yn arwain at godi treth o dan Bennod 5 o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) (buddion trethadwy: llety preswyl) ac—

(i)nad oes unrhyw rent yn daladwy gan y prynwr, neu

(ii)bod y rhent sy’n daladwy gan y prynwr yn llai na swm cyfwerth ag arian parod y budd wedi ei gyfrifo o dan adran 105 neu 106 o’r Ddeddf honno,

cymerir bod swm yn daladwy gan y prynwr fel rhent sy’n hafal â’r swm cyfwerth ag arian parod sydd i’w godi o dan yr adrannau hynny;

(b)pe bai’r trafodiad yn arwain at godi treth o dan y Bennod honno oni bai am adran 99 o’r Ddeddf honno (llety a ddarperir am gyflawni dyletswyddau), y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yw’r gydnabyddiaeth wirioneddol (os oes un);

(c)os nad yw paragraff (a) na pharagraff (b) yn gymwys, cymerir nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yn ddim llai na gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Indemniad a roddir gan brynwr

14Pan fo’r prynwr yn cytuno i indemnio’r gwerthwr mewn cysylltiad ag atebolrwydd i drydydd parti sy’n codi o dorri rhwymedigaeth ar ran y gwerthwr mewn perthynas â’r tir y mae’r trafodiad yn ymwneud ag ef, nid yw’r cytundeb nac unrhyw daliad a wneir yn unol ag ef yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Prynwr yn agored i dalu treth etifeddiant

15Pan fo—

(a)trafodiad tir—

(i)yn drosglwyddiad gwerth o fewn adran 3 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 (p. 51) (trosglwyddiadau gwerth), neu

(ii)yn warediad, y rhoddir effaith iddo gan ewyllys neu o dan y gyfraith diewyllysedd, o fuddiant trethadwy a gynhwyswyd yn ystad person yn union cyn iddo farw,

a

(b)y prynwr yn agored i dalu neu’n dod yn agored i dalu, yn cytuno i dalu neu’n talu mewn gwirionedd unrhyw dreth etifeddiant sy’n ddyledus mewn perthynas â’r trosglwyddiad neu’r gwarediad,

nid yw atebolrwydd, cytundeb na thaliad y prynwr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

Prynwyr yn agored i dreth ar enillion cyfalaf

16(1)Pan fo—

(a)trafodiad tir y mae’r buddiant trethadwy o dan sylw, oddi tano—

(i)yn cael ei gaffael mewn modd ac eithrio bargen a wneir hyd braich, neu

(ii)yn cael ei drin gan adran 18 o Ddeddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (trafodiadau rhwng personau cysylltiedig) fel pe bai wedi ei gaffael yn y modd hwnnw,

a

(b)y prynwr yn agored i dalu neu’n dod yn agored i dalu, neu’n talu mewn gwirionedd, unrhyw dreth ar enillion cyfalaf sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad cyfatebol o’r buddiant trethadwy,

nid yw atebolrwydd neu daliad y prynwr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os oes cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (gan ddiystyru’r atebolrwydd neu’r taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b)).

Costau breinio

17Nid yw costau y mae’r prynwr yn mynd iddynt o dan adran 9(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) neu adran 33 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (costau breinio) yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn unrhyw achos pan ymrwymir i drefniadau—

(a)lle trosglwyddir tir, neu y rhoddir neu yr aseinir les ar gyfer tir, gan gorff cymwys (“A”) i berson nad yw’n gorff cymwys (“B”) (“y prif drosglwyddiad”),

(b)lle rhoddir, yn gydnabyddiaeth (boed lwyr neu rannol) ar gyfer y prif drosglwyddiad, les neu is-les gan B i A ar gyfer yr holl dir hwnnw, neu’r holl dir i raddau helaeth (“yr adles”),

(c)pan fo B yn ymrwymo i wneud gwaith neu ddarparu gwasanaethau i A, a

(d)pan fo peth o’r gydnabyddiaeth neu’r holl gydnabyddiaeth a roddir gan A i B am wneud y gwaith hwnnw neu ddarparu’r gwasanaethau hynny yn gydnabyddiaeth mewn arian,

pa un a drosglwyddir, neu y rhoddir neu yr aseinir les, ar gyfer unrhyw dir arall yn ogystal gan A i B ai peidio (“trosglwyddiad o dir dros ben”).

(2)Mae’r canlynol yn gyrff cymwys—

(a)cyrff cyhoeddus o fewn paragraff 1 o Atodlen 20 neu a bennir mewn rheoliadau o dan y paragraff hwnnw (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus);

(b)sefydliadau o fewn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch o fewn ystyr adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13);

(c)corfforaethau addysg bellach o fewn ystyr adran 17 o’r Ddeddf honno;

(d)corfforaethau addysg uwch o fewn ystyr adran 90 o’r Ddeddf honno.

(3)Nid yw’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y prif drosglwyddiad nac unrhyw drosglwyddiad o dir dros ben—

(a)yr adles,

(b)B yn gwneud gwaith adeiladu i A, neu

(c)B yn darparu gwasanaethau i A.

(4)Nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr adles yn cynnwys—

(a)y prif drosglwyddiad,

(b)unrhyw drosglwyddiad o dir dros ben, neu

(c)y gydnabyddiaeth mewn arian a delir gan A i B am y gwaith adeiladu neu’r gwasanaethau eraill y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3).

(5)Mae is-baragraffau (3) a (4) i’w diystyru at ddibenion pennu a yw’r trafodiad tir o dan sylw yn un hysbysadwy.

(a gyflwynir gan adran 24(10))

ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r prynwr yn unigolyn a’r trafodiad yn ymwneud ag annedd;

(b)mae Rhan 3 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r prynwr yn unigolyn a’r trafodiad yn ymwneud ag anheddau lluosog;

(c)mae Rhan 4 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan na fo’r prynwr yn unigolyn;

(d)mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth atodol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch dychwelyd ffurflenni treth ac ynghylch cymhwyso’r darpariaethau yn Rhannau 2, 3 a 4 o dan amgylchiadau penodedig;

(e)mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaeth ddehongli.

RHAN 2PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANNEDD UNIGOL

Rhagarweiniad

2Mae’r Rhan hon yn nodi pa bryd y mae trafodiad trethadwy yn “trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch” at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) yn achos trafodiad sy’n ymwneud ag annedd pan fo’r prynwr yn unigolyn.

Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch

3(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

(b)os yw paragraff 5 yn gymwys.

(2)Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

(c)os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw trafodiad yn dod o fewn is-baragraff (2)—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—

(a)paragraff 7 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un annedd), a

(b)paragraff 8 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).

(6)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr annedd a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).

4Pan fo paragraff 9 yn gymwys, mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan y paragraff hwnnw) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

Prynwr â phrif fuddiant mewn annedd arall

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad—

(a)os oes gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd ar wahân i’r annedd a brynir, a

(b)os yw gwerth marchnadol y buddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor,

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(2)Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r buddiant a ddisgrifir yn is-baragraff (1) yn rifersiwn ar les—

(a)nad yw’n cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)sydd â chyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(3)Pan fo gan y prynwr hawl ar y cyd ag un person neu ragor i’r prif fuddiant y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(b) at werth marchnadol y buddiant yn gyfeiriad at werth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn y buddiant fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5).

(4)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel tenant ar y cyd, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

GM × CB

Ffigwr 4

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CB yn—

    (a)

    canran y buddiant y mae gan y prynwr hawl iddo, neu

    (b)

    pan fo—

    (i)

    y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

    (ii)

    hawl fel tenantiaid ar y cyd gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr, o’u cymryd gyda’i gilydd,

    canran y buddiant y mae gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr hawl iddi felly.

(5)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel cyd-denant, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

Ffigwr 5

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CD yn nifer y cyd-denantiaid sydd â hawl i’r buddiant.

(6)At ddiben is-baragraff (5), mae’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr i’w trin fel un cyd-denant—

(a)os ydynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

(b)os oes ganddynt hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid.

Dau brynwr neu ragor

6Pan fo dau brynwr neu ragor sy’n unigolion mewn trafodiad—

(a)mae’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 3 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr;

(b)mae rhyng-drafodiad (o fewn ystyr paragraff 9(2)) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 9 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr.

Eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfa

7Nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan baragraff 3 os yw prif destun y trafodiad yn brif fuddiant—

(a)mewn annedd yr oedd gan y prynwr, yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, brif fuddiant arall ynddi, a

(b)mewn annedd sydd, yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

Eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa

8(1)Nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan baragraff 3 os yw’r annedd a brynir yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae’r annedd a brynir yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os yw’r prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd a brynir fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr ar y pryd, mewn trafodiad tir arall (“y trafodiad blaenorol”) a oedd yn cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oedd gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith, unrhyw brif fuddiant yn yr annedd a werthir,

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (b), ac

(e)os nad yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith ac sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi caffael prif fuddiant mewn unrhyw annedd arall gyda’r bwriad iddi fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad oedd y ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad yr oedd y trafodiad o dan sylw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(4)At ddibenion y paragraff hwn, caiff yr annedd a brynir ddod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os oedd y prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd a brynir fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr, mewn trafodiad tir arall sy’n cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, yn gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oes gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith, brif fuddiant yn yr annedd a werthir, a

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad ag annedd sy’n dod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr, gweler paragraff 23.

Disodli prif breswylfa: trafodiadau yn ystod y cyfnod interim

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r prynwr mewn rhyng-drafodiad yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall, a

(b)pan fo’r rhyng-drafodiad yn cael effaith ar ddyddiad sydd yn ystod y cyfnod interim.

(2)Mae rhyng-drafodiad yn drafodiad—

(a)sy’n dod o fewn paragraff 3(2), a

(b)nad yw paragraff 5 yn gymwys iddo.

(3)Wrth benderfynu pa un a yw trafodiad yn dod o fewn paragraff 3(2) at ddibenion y paragraff hwn, mae’r cyfeiriad ym mharagraff 3(3) at ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at ddiwedd y dydd ar y naill neu’r llall o’r dyddiadau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—

(a)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;

(b)y dyddiad y daw’r cyfnod interim i ben.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae prynwr yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall—

(a)mewn perthynas ag annedd yng Nghymru, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 8(2) mewn cysylltiad â’r trafodiad,

(b)mewn perthynas ag annedd yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 3(6) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(c)mewn perthynas ag annedd yn yr Alban, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11) mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr y cyfnod interim yw—

(a)pan fo is-baragraff (4)(a) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(2)(b), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(2)(a);

(b)pan fo is-baragraff (4)(b) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol, o fewn yr ystyr a roddir i “the previous transaction” gan baragraff 3(6)(b) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), yn cael effaith, a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw, o fewn yr ystyr a roddir i “the transaction concerned” gan baragraff 3(6)(a) o’r Atodlen honno, yn cael effaith;

(c)pan fo is-baragraff (4)(c) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y gwaredodd y prynwr berchenogaeth annedd fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael effaith.

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin rhyng-drafodiad fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, gweler paragraff 24.

RHAN 3PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANHEDDAU LLUOSOG

Rhagarweiniad

10Mae’r Rhan hon yn nodi pa bryd y mae trafodiad trethadwy yn “trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch” at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) yn achos trafodiad sy’n ymwneud ag anheddau lluosog pan fo’r prynwr yn unigolyn.

Trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch

11(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

(b)os yw paragraff 13 neu 15 yn gymwys.

(2)Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os yw’r prynwr yn unigolyn, a

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”).

(3)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr anheddau a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).

(4)Pan fo paragraff 18 yn gymwys, mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan y paragraff hwnnw) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(5)Nid yw trafodiad o fewn adran 72(9) yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch ac eithrio pan fo Atodlen 13 yn gymwys (gweler yn benodol baragraff 6(6) o’r Atodlen honno).

Dau brynwr neu ragor

12Pan fo dau brynwr neu ragor sy’n unigolion mewn trafodiad—

(a)mae’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 11 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr;

(b)mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 18(2)) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 18 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr.

Dwy annedd gymwys neu ragor

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw o leiaf ddwy o’r anheddau a brynir yn anheddau cymwys.

(2)Mae annedd a brynir yn annedd gymwys at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r annedd a brynir yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys os yw’r eithriad a ddarperir ym mharagraff 14 yn gymwys (eithriad ar gyfer is-annedd).

Eithriad ar gyfer is-annedd

14(1)Nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys os yw’n is-annedd i unrhyw un neu ragor o’r anheddau eraill a brynir.

(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae un o’r anheddau a brynir (“annedd A”) yn is-annedd i un arall o’r anheddau a brynir (“annedd B”)—

(a)os yw annedd A wedi ei lleoli o fewn tiroedd annedd B, neu o fewn yr un adeilad ag annedd B, a

(b)os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i annedd B yn hafal i ddwy ran o dair o swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu’n fwy na dwy ran o dair o’r swm hwnnw, sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r anheddau a ganlyn ar y cyd—

(i)annedd A,

(ii)annedd B, a

(iii)pob un o’r anheddau eraill a brynir (os oes rhai) sydd wedi eu lleoli o fewn tiroedd annedd B, neu o fewn yr un adeilad ag annedd B.

Prynwr â phrif fuddiant mewn annedd arall

15(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os un yn unig o’r anheddau a brynir sy’n annedd gymwys, a

(b)os, ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(i)oes gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd ar wahân i un o’r anheddau a brynir, a

(ii)yw gwerth marchnadol y buddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor.

(2)Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r buddiant a ddisgrifir yn is-baragraff (1)(b) yn rifersiwn ar les—

(a)nad yw’n cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)sydd â chyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(3)Pan fo gan y prynwr hawl ar y cyd ag un person neu ragor i’r prif fuddiant y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b)(i), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(b)(ii) at werth marchnadol y buddiant yn gyfeiriad at werth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn y buddiant fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5).

(4)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel tenant ar y cyd, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

GM × CB

Ffigwr 6

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CB yn—

    (a)

    canran y buddiant y mae gan y prynwr hawl iddo, neu

    (b)

    pan fo—

    (i)

    y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

    (ii)

    hawl fel tenantiaid ar y cyd gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr, o’u cymryd gyda’i gilydd,

    canran y buddiant y mae gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr hawl iddi felly.

(5)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel cyd-denant, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

Ffigwr 7

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CD yn nifer y cyd-denantiaid sydd â hawl i’r buddiant.

(6)At ddiben is-baragraff (5), mae’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr i’w trin fel un cyd-denant—

(a)os ydynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

(b)os oes ganddynt hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid.

(7)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—

(a)paragraff 16 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfa), a

(b)paragraff 17 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).

Eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfa

16Nid yw paragraff 15 yn gymwys os yw prif destun y trafodiad yn brif fuddiant yn yr annedd gymwys y cyfeirir ati ym mharagraff 15(1)(a), a bod yr annedd honno yn—

(a)annedd yr oedd gan y prynwr brif fuddiant arall ynddi, yn union cyn y dyddiad yr oedd y trafodiad yn cael effaith, a

(b)annedd sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr, yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa

17(1)Nid yw paragraff 15 yn gymwys os yw’r annedd gymwys y cyfeirir ati ym mharagraff 15(1)(a) yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae annedd gymwys yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os yw’r prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd gymwys fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr ar y pryd, mewn trafodiad tir arall (“y trafodiad blaenorol”) a oedd yn cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oedd gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith, unrhyw brif fuddiant yn yr annedd a werthir,

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (b), ac

(e)os nad yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith ac sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi caffael prif fuddiant mewn unrhyw annedd arall gyda’r bwriad iddi fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad oedd y ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad yr oedd y trafodiad o dan sylw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(4)At ddibenion y paragraff hwn, caiff yr annedd a brynir ddod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os oedd y prynwr, ar y dyddiad yr oedd y trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd gymwys fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr, mewn trafodiad tir arall sy’n cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad o dan sylw yn cael effaith, yn gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oes gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith, brif fuddiant yn yr annedd a werthir, a

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad ag annedd sy’n dod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr, gweler paragraff 23.

Disodli prif breswylfa: trafodiadau yn ystod y cyfnod interim

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r prynwr mewn rhyng-drafodiad yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall, a

(b)pan fo’r rhyng-drafodiad yn cael effaith ar ddyddiad sydd yn ystod y cyfnod interim.

(2)Mae rhyng-drafodiad yn drafodiad—

(a)sy’n dod o fewn paragraff 11(2),

(b)pan fo un yn unig o’r anheddau a brynir yn annedd gymwys, ac

(c)nad yw paragraff 15 yn gymwys iddo.

(3)Wrth benderfynu pa un a yw annedd a brynir yn annedd gymwys at ddibenion y paragraff hwn, mae’r cyfeiriad ym mharagraff 13(3) at ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at ddiwedd y dydd ar y naill neu’r llall o’r dyddiadau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—

(a)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;

(b)y dyddiad y daw’r cyfnod interim i ben.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae prynwr yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall—

(a)mewn perthynas ag annedd yng Nghymru, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 17(2) mewn cysylltiad â’r trafodiad,

(b)mewn perthynas ag annedd yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 3(6) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(c)mewn perthynas ag annedd yn yr Alban, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11) mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr y cyfnod interim yw—

(a)pan fo is-baragraff (4)(a) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 17(2)(b), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 17(2)(a);

(b)pan fo is-baragraff (4)(b) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol, o fewn yr ystyr a roddir i “the previous transaction” gan baragraff 3(6)(b) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), yn cael effaith, a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw, o fewn yr ystyr a roddir i “the transaction concerned” gan baragraff 3(6)(a) o’r Atodlen honno, yn cael effaith;

(c)pan fo is-baragraff (4)(c) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y gwaredodd y prynwr berchenogaeth annedd fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael effaith.

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin rhyng-drafodiad fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, gweler paragraff 24.

RHAN 4PRYNWR NAD YW’N UNIGOLYN

Rhagarweiniad

19Mae’r Rhan hon yn nodi pa bryd y mae trafodiad trethadwy pan na fo’r prynwr yn unigolyn yn “trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch” at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b).

Trafodiad sy’n ymwneud ag annedd

20(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os nad yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

(c)os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr annedd yn £40,000 neu ragor.

(2)Ond nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan is-baragraff (1) os yw, ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(a)yr annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)y les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (3).

(3)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

Trafodiad sy’n ymwneud ag anheddau lluosog

21(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os nad yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”), ac

(c)os yw o leiaf un o’r anheddau a brynir yn annedd y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd a brynir os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r annedd a brynir yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i annedd a brynir—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Nid yw trafodiad o fewn adran 72(9) yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch ac eithrio pan fo Atodlen 13 yn gymwys (gweler yn benodol baragraff 6(6) o’r Atodlen honno).

Dau brynwr neu ragor

22Pan fo dau brynwr neu ragor mewn trafodiad, mae’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 20 neu 21 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr.

RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL

Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa

23(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y trafodiad o dan sylw”), oherwydd paragraff 8(4) neu 17(4), yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b).

(2)Ni chaniateir ystyried y trafodiad tir (“y trafodiad dilynol”) a oedd yn bodloni’r amod ym mharagraff 8(4)(b) neu 17(4)(b) at ddibenion paragraff 8(2)(b) neu 17(2)(b) wrth benderfynu pa un a yw unrhyw drafodiad trethadwy arall yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fo’r trafodiad dilynol yn cael effaith ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw, neu cyn hynny, a

(b)pan na fo’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.

(4)Caiff y prynwr, wrth ddychwelyd y ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw, drin yr annedd a brynir y cyfeirir ati ym mharagraff 8(4) neu 17(4) fel pe bai wedi disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith; ac mewn achos o’r fath mae’r trafodiad o dan sylw i’w drin fel pe na bai erioed wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(5)Mae is-baragraff (6) yn gymwys os effaith bod y trafodiad o dan sylw yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch yw bod llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad na’r hyn y mae’r prynwr eisoes wedi ei dalu yn unol â ffurflen dreth a ddychwelwyd ar gyfer y trafodiad hwnnw.

(6)Er mwyn cael ad-daliad o swm y dreth a ordalwyd, caiff y prynwr—

(a)o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT);

(b)ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw (os na ddiwygir y ffurflen dreth felly), wneud hawliad am ad-daliad o’r swm a ordalwyd yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT.

Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin trafodiadau fel trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch

24(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y rhyng-drafodiad”), oherwydd cymhwyso paragraff 9 neu 18, yn cael ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(2)Caiff y rhyng-drafodiad ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddibenion y Ddeddf hon o ddiwedd y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5).

(3)Rhaid i’r prynwr yn y rhyng-drafodiad ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.

(4)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y paragraff hwn—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) i ben, a

(b)cynnwys hunanasesiad.

Priodau a phartneriaid sifil yn prynu ar eu pen eu hunain

25(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—

(a)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(b)os yw’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad hwnnw, ac

(c)os nad yw priod neu bartner sifil y prynwr yn brynwr yn y trafodiad.

(2)Mae’r trafodiad i’w drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai priod neu bartner sifil y prynwr wedi bod yn brynwr.

(3)Caiff unigolion sy’n briod â’i gilydd, neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd, eu trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe baent yn cyd-fyw oni bai—

(a)eu bod wedi gwahanu o dan orchymyn llys sydd ag awdurdodaeth gymwys,

(b)eu bod wedi gwahanu drwy weithred wahanu, neu

(c)eu bod wedi gwahanu mewn gwirionedd mewn amgylchiadau lle mae’r gwahanu yn debygol o fod yn barhaol.

Ad-drefnu eiddo ar ôl ysgariad, diddymiad partneriaeth sifil etc.

26(1)At ddiben penderfynu pa un a yw paragraffau 5 neu 15 yn gymwys i drafodiad trethadwy, nid yw’r prynwr i’w drin fel pe bai ganddo brif fuddiant mewn annedd arall y mae is-baragraff (2) a (3) yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd y mae’r buddiant ynddi yn cael ei ddal gan y prynwr fel tenant ar y cyd o ganlyniad i—

(a)gorchymyn o dan adran 24(1)(b) o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad ag achosion priodasol),

(b)gorchymyn o dan adran 17(1)(a)(ii) o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) (gorchmynion ad-drefnu eiddo ar ôl ysgariad tramor) sy’n cyfateb i orchymyn o’r fath a grybwyllir ym mharagraff (a),

(c)gorchymyn o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â diddymiad etc. partneriaeth sifil), neu

(d)gorchymyn o dan baragraff 9 o Atodlen 7 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â diddymiad tramor etc. partneriaeth sifil) sy’n cyfateb i orchymyn o’r fath a grybwyllir ym mharagraff (c).

(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa person y gwneir gorchymyn y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) er ei fudd.

Setliadau ac ymddiriedolaethau noeth

27(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—

(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,

(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad, ac

(c)os bydd gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.

(2)Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—

(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf cyfnod o flynyddoedd absoliwt mewn annedd, a

(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr ymddiriedolaeth noeth (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraffau 2(1) a (2) o Atodlen 8).

(3)Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, mae buddiolwr y setliad neu’r ymddiriedolaeth noeth (yn hytrach na’r ymddiriedolwr) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr (neu fel un ohonynt).

(4)Mae paragraffau 3(3) a 4 o Atodlen 8 (trin ymddiriedolwyr fel y prynwr) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).

28(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo person yn fuddiolwr o dan setliad,

(b)pan fo prif fuddiant mewn annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth, ac

(c)pan fo gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd.

(2)Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys—

(a)pan fo person yn fuddiolwr o dan ymddiriedolaeth noeth (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 2(1) a 2 o Atodlen 8), a

(b)pan fo cyfnod o flynyddoedd absoliwt mewn annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth.

(3)Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai’n dal y buddiant yn yr annedd, a

(b)os yw ymddiriedolwr y setliad neu’r ymddiriedolaeth noeth yn gwaredu’r buddiant, mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai wedi ei waredu.

29(1)Pan fo—

(a)prif destun trafodiad tir ar ffurf buddiant ar wahân i brif fuddiant mewn annedd, a

(b)is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys mewn perthynas â’r trafodiad,

yna, i osgoi unrhyw amheuaeth, effaith paragraff 28 o’r Atodlen hon neu, yn ôl y digwydd, paragraff 3(1) o Atodlen 8, yw fod prif destun y trafodiad i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ar ffurf prif fuddiant mewn annedd.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—

(a)prif fuddiant yn yr annedd yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth noeth ar gyfer buddiolwr (“B”),

(b)holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,

(c)yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(i)mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn B, neu

(ii)mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, a

(d)yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(i)mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn y prynwr, neu

(ii)mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.

(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—

(a)person (“B”) yn fuddiolwr o dan setliad pan fo prif fuddiant yn yr annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth,

(b)gan B, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd,

(c)holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,

(d)yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, ac

(e)yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.

(4)Wrth bennu a yw is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys i drafodiad, anwybydder paragraffau 30 a 35(5).

30(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pe bai plentyn person (“P”) (oni bai am y paragraff hwn), oherwydd paragraff 27 neu 28 neu baragraff 3(1) o Atodlen 8 (ymddiriedolaethau noeth), yn cael ei drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai—

(a)y prynwr mewn perthynas â thrafodiad tir,

(b)yn dal buddiant mewn annedd, neu

(c)wedi gwaredu buddiant mewn annedd.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mae P ac unrhyw briod neu bartner sifil i P i’w trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai neu pe baent y prynwr, yn dal y buddiant neu (yn ôl y digwydd) wedi gwaredu’r buddiant, a

(b)nid yw’r plentyn i’w drin felly.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys i briod neu bartner sifil P os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr hynny).

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)person (“D”) yn caffael, yn dal neu’n gwaredu prif fuddiant mewn annedd yn enw plentyn neu ar ran y plentyn,

(b)D yn gwneud hynny drwy arfer pwerau a roddir i D fel dirprwy i’r plentyn, ac

(c)D yn dal y buddiant hwnnw ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn, neu yn achos gwaredu, wedi ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn.

(5)Yn is-baragraff (4), ystyr “dirprwy” yw—

(a)person a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9), neu

(b)person a benodir i swydd gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr (ac felly mae’r cyfeiriad at fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth gan berson o’r fath yn gyfeiriad at ei ddal ar sail gyfatebol o dan y gyfraith honno).

31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—

(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,

(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad,

(c)os yw’r prynwr hwnnw yn unigolyn, a

(d)os nad oes gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.

(2)Wrth benderfynu pa un a yw paragraff 20 neu 21 yn gymwys i’r trafodiad—

(a)os y prynwr a grybwyllir yn is-baragraff (1) yw’r unig brynwr, anwybydder is-baragraff (1)(a) o’r paragraffau hynny, a

(b)os nad y prynwr hwnnw yw’r unig brynwr, anwybydder is-baragraff (1)(a) o’r paragraffau hynny wrth ystyried y prynwr hwnnw.

Partneriaethau

32(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy y mae ei destun ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor—

(a)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn bartner mewn partneriaeth, ond

(b)os nad yw’r prynwr yn ymrwymo i’r trafodiad at ddibenion y bartneriaeth.

(2)At ddibenion penderfynu pa un a yw paragraff 5 neu 15 yn gymwys i’r trafodiad, nid yw unrhyw brif fuddiant mewn unrhyw annedd arall a ddelir gan y bartneriaeth neu ar ei rhan at ddibenion masnach a gyflawnir gan y bartneriaeth i’w drin fel pe bai’n cael ei ddal gan y prynwr neu ar ei ran.

(3)Mae paragraff 4(1)(a) o Atodlen 7 (trin buddiannau trethadwy a ddelir gan bartneriaethau fel pe baent yn cael eu dal gan y partneriaid) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (2).

Trefniadau cyllid arall

33(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy sydd y trafodiad cyntaf o dan drefniant cyllid arall yr ymrwymir iddo rhwng person a sefydliad ariannol.

(2)Mae’r person (yn hytrach na’r sefydliad) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr mewn perthynas â’r trafodiad.

(3)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “sefydliad ariannol” (“financial institution”) yr ystyr a roddir gan baragraff 8 o Atodlen 10 (rhyddhadau cyllid eiddo arall);

  • mae i “trafodiad cyntaf” (“first transaction”), mewn perthynas â threfniant cyllid arall, yr ystyr a roddir gan baragraff 2(1)(a) neu 3(1)(a) o’r Atodlen honno;

  • ystyr “trefniant cyllid arall” (“alternative finance arrangement”) yw trefniant o fath a grybwyllir ym mharagraff 2(1) neu 3(1) o’r Atodlen honno.

Prif fuddiannau mewn anheddau a gyd-etifeddir

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys, yn rhinwedd etifeddiant—

(a)pan fo person (“P”) yn cael hawl ar y cyd gydag un neu ragor o bersonau eraill i brif fuddiant mewn annedd, a

(b)pan na fo cyfran lesiannol P yn y buddiant yn fwy na 50% (gweler is-baragraff (4)).

(2)Nid yw P i’w drin at ddibenion paragraff 5(1)(a) neu 15(1)(b) fel pe bai ganddo’r prif fuddiant ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad yr etifeddiant.

(3)Ond os, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw o 3 blynedd, y daw P i fod yr unig berson sydd â hawl lesiannol i’r buddiant cyfan, neu os yw cyfran lesiannol P yn y buddiant yn fwy na 50%, mae P i’w drin, o’r adeg honno, fel pe bai ganddo’r prif fuddiant at ddibenion cymhwyso paragraffau 5(1)(a) a 15(1)(b) (yn ddarostyngedig i unrhyw warediad gan P).

(4)Mae cyfran P yn y buddiant yn fwy na 50%—

(a)os oes gan P hawl lesiannol fel tenant ar y cyd neu gydetifedd i fwy na hanner y buddiant,

(b)os oes gan P a phriod neu bartner sifil P, gyda’i gilydd, hawl lesiannol i fwy na hanner y buddiant fel tenantiaid ar y cyd neu gydetifeddion, neu

(c)os oes gan P a phriod neu bartner sifil P hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid, ac nad oes mwy nag un cyd-denant arall sydd â hawl o’r fath.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(b) ac (c) yn gymwys os nad yw P a phriod neu bartner sifil P yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”) ar y dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 5 neu 15 yn cael effaith.

(6)Yn y paragraff hwn ystyr “etifeddiant” yw caffael buddiant mewn hawlogaeth, neu tuag at ddiwallu hawlogaeth, o dan ewyllys person ymadawedig neu mewn perthynas ag ewyllys o’r fath, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig.

(7)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â buddiant a gaffaelir yn dilyn marwolaeth person o ganlyniad i amrywio gwarediad (pa un ai y rhoddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith sy’n ymwneud â diewyllysedd, neu fel arall) eiddo a gynhwysir yn ystad y person hwnnw a wneir o fewn y cyfnod o 2 flynedd ar ôl marwolaeth y person, fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag etifeddiant; ac mewn achos o’r fath mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (2) at ddyddiad yr etifeddiant yn golygu dyddiad caffael y buddiant yn unol â’r amrywiad.

RHAN 6DEHONGLI

Anheddau y tu allan i Gymru

35(1)Yn narpariaethau’r Atodlen hon a bennir yn is-baragraff (4), mae cyfeiriadau at “annedd” yn cynnwys cyfeiriadau at annedd a leolir y tu allan i Gymru.

(2)O ran annedd a leolir yn Lloegr, mae’r darpariaethau hynny i’w dehongli yn unol â darpariaethau Deddf Cyllid 2003 (p. 14).

(3)Wrth gymhwyso’r darpariaethau hynny mewn perthynas ag annedd a leolir mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr—

(a)mae cyfeiriadau at “prif fuddiant” yn yr annedd yn gyfeiriadau at fuddiant cyfatebol yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno,

(b)mae cyfeiriadau at bersonau sydd â hawl lesiannol i fuddiant yn yr annedd fel cyd-denantiaid, tenantiaid ar y cyd neu gydetifeddion yn gyfeiriadau at bersonau sydd â hawl gyfatebol i’r buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu diriogaeth honno,

(c)mae cyfeiriadau at “trafodiad tir” mewn perthynas â’r annedd yn gyfeiriadau at gaffael buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno,

(d)mae cyfeiriadau at “dyddiad cael effaith” trafodiad tir mewn perthynas â’r annedd yn gyfeiriadau at y dyddiad y caffaelir y buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno, ac

(e)mae cyfeiriadau at “etifeddiant” yn gyfeiriadau at gaffael buddiant o ystad person ymadawedig yn unol â chyfreithiau’r wlad neu’r diriogaeth honno ynghylch etifeddu eiddo.

(4)Darpariaethau’r Atodlen hon y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1), (2) a (3) yw—

(a)paragraff 5(1)(a),

(b)paragraffau 8(2)(b), (c), (d) ac (e) a (4)(b), (c) a (d),

(c)paragraff 9(4),

(d)paragraff 15(1)(b),

(e)paragraffau 17(2)(b), (c), (d) ac (e) a (4)(b), (c) a (d),

(f)paragraffau 18(4),

(g)paragraff 26,

(h)paragraff 28,

(i)paragraff 32(2), a

(j)paragraff 34.

(5)Pan fo gan blentyn person (“P”) fuddiant mewn annedd a leolir mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru—

(a)mae P ac unrhyw briod neu bartner sifil i P i’w trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ganddo neu ganddynt y buddiant hwnnw, a

(b)nid yw’r plentyn i’w drin felly.

(6)Nid yw is-baragraff (5)(a) yn gymwys i briod neu bartner sifil i P os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr hynny).

(7)Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys pan fo—

(a)person (“D”) yn caffael, yn dal neu’n gwaredu prif fuddiant mewn annedd yn enw plentyn neu ar ran y plentyn,

(b)D yn gwneud hynny drwy arfer pwerau a roddir i D fel dirprwy’r plentyn, ac

(c)D yn dal y buddiant hwnnw ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn neu, yn achos gwaredu, wedi ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn.

(8)Yn is-baragraff (7), ystyr “dirprwy” yw—

(a)person a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9), neu

(b)person a benodir i swydd gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr (ac felly mae’r cyfeiriad at fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth gan berson o’r fath yn gyfeiriad at ei ddal ar sail gyfatebol o dan y gyfraith honno).

Yr hyn sy’n cyfrif fel annedd

36(1)Mae’r paragraff hwn yn nodi rheolau ar gyfer penderfynu beth sy’n cyfrif fel annedd at ddibenion yr Atodlen hon.

(2)Mae adeilad neu ran o adeilad yn cyfrif fel annedd—

(a)os yw’n cael ei ddefnyddio fel annedd neu’n addas i’w ddefnyddio fel annedd, neu

(b)os yw yn y broses o gael ei adeiladu neu ei addasu at ddefnydd o’r fath.

(3)Cymerir bod tir sy’n cael ei feddiannu neu ei fwynhau gydag annedd, neu dir a fydd yn cael ei feddiannu neu ei fwynhau gydag annedd, fel gardd neu diroedd (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar y tir hwnnw) yn rhan o’r annedd honno.

(4)Cymerir bod tir sy’n bodoli er budd annedd, neu dir a fydd yn bodoli er budd annedd, yn rhan o’r annedd honno.

(5)Cymerir hefyd fod prif destun trafodiad yn fuddiant mewn annedd, neu’n cynnwys buddiant mewn annedd—

(a)os dyddiad cyflawni contract yn sylweddol yw’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yn rhinwedd darpariaeth dybio berthnasol,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn ffurfio neu’n cynnwys buddiant mewn adeilad, neu ran o adeilad, sydd i’w adeiladu neu i’w addasu o dan y contract ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd, ac

(c)os nad yw’r gwaith o adeiladu neu addasu’r adeilad, neu’r rhan o adeilad, wedi dechrau erbyn yr adeg y caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

(6)Yn is-baragraff (5)—

  • mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gytundeb;

  • mae i “cyflawni’n sylweddol” (“substantially performed”) yr un ystyr ag yn adran 14;

  • ystyr “darpariaeth dybio berthnasol” (“relevant deeming provision”) yw unrhyw un neu ragor o adrannau 10 i 13 neu baragraffau 8(1) i (5) o Atodlen 2 (trafodiadau cyn-gwblhau) neu baragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les).

(7)Nid yw adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir at ddiben a bennir yn adran 72(4) neu (5) yn cael ei ddefnyddio fel annedd at ddibenion is-baragraffau (2) na (5).

(8)Pan fo adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a grybwyllir yn is-baragraff (7), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-baragraff (2).

Prif fuddiant i beidio â chynnwys lesoedd penodol

37At ddibenion yr Atodlen hon, nid yw unrhyw gyfnod o flynyddoedd absoliwt neu ystad lesddaliad yn “prif fuddiant” os nad yw cyfnod y les yn fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad y’i rhoddir.

(a gyflwynir gan adran 32(2))

ATODLEN 6LESOEDD

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon mewn perthynas â lesoedd.

(2)Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch pennu hyd les at ddibenion y Ddeddf hon a darpariaeth gysylltiedig ynghylch lesoedd y mae eu cyfnodau yn gorgyffwrdd;

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin cydnabyddiaeth mewn perthynas â lesoedd, gan gynnwys rhent a chydnabyddiaeth ar wahân i rent, ac mae’n gwneud darpariaeth ynghylch peidio â thrin cydnabyddiaeth benodol fel cydnabyddiaeth drethadwy;

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cytundebau ar gyfer les a’r modd y caiff aseiniadau penodol ac amrywiadau penodol i lesoedd eu trin at ddibenion y Ddeddf hon;

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth nad oes dim treth i’w chodi ar yr elfen rhent o lesoedd preswyl, yn nodi sut y mae’r swm y codir treth arno i’w gyfrifo ar yr elfen rhent o lesoedd eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo’r dreth a godir ar gydnabyddiaeth ar wahân i rent.

RHAN 2HYD LES A THRIN LESOEDD SY’N GORGYFFWRDD

Les cyfnod penodol

2Wrth gymhwyso unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon i les cyfnod penodol rhaid diystyru—

(a)unrhyw ddigwyddiad dibynnol sy’n peri y gall y les gael ei therfynu cyn diwedd y cyfnod penodol, neu

(b)unrhyw hawl gan y naill barti neu’r llall i derfynu’r les neu i’w hadnewyddu.

Lesoedd sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)les a roddir am gyfnod penodol ac wedi hynny hyd y caiff ei therfynu, neu

(b)les a roddir am gyfnod penodol a all barhau y tu hwnt i’r cyfnod penodol yn sgil gweithredu’r gyfraith.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon (ac eithrio adran 46 (trafodiadau hysbysadwy: eithriadau)) caiff les y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi ei thrin—

(a)yn y lle cyntaf fel pe bai’n les am y cyfnod penodol gwreiddiol a dim mwy na hynny;

(b)os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, fel pe bai’n les am gyfnod penodol sydd flwyddyn yn hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol;

(c)os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod yn sgil cymhwyso paragraff (b), fel pe bai’n les cyfnod penodol sydd ddwy flynedd yn hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol,

ac yn y blaen (ond gweler is-baragraff (5)).

(3)At ddibenion adran 46 (trafodiadau hysbysadwy: eithriadau) caiff les y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi ei thrin fel pe bai wedi ei rhoi am gyfnod sy’n cyfateb i’r cyfnod penodol gwreiddiol.

(4)Pan fo—

(a)les yn cael ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (2), fel pe bai’n parhau am gyfnod hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol, a

(b)o ganlyniad, treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir neu dreth yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir pan nad oedd dim yn daladwy cyn hynny,

rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach (gan gynnwys hunanasesiad) mewn cysylltiad â’r trafodiad tir cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y caiff y les ei thrin fel pe bai’n parhau hyd-ddo.

(5)O ran les—

(a)pe câi ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (2), fel pe bai’n parhau am gyfnod (neu gyfnod pellach) o flwyddyn, ond

(b)pan fo’n terfynu mewn gwirionedd ar adeg yn ystod y cyfnod hwnnw o flwyddyn,

nid yw’r les i’w thrin fel pe bai’n parhau o dan is-baragraff (2) ond hyd iddi derfynu; ac mae is-baragraff (4) yn gymwys yn unol â hynny.

(6)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraffau 4 ac 8 (rhent o dan les sy’n parhau i’w drin fel rhent o dan les newydd).

Lesoedd sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol: rhoi les newydd

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pe bai paragraff 3 (gan anwybyddu’r paragraff hwn) yn gymwys er mwyn trin les (“y les wreiddiol”) fel pe bai’n les cyfnod penodol sydd flwyddyn yn hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol,

(b)pan fo les newydd ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, yn cael ei rhoi i’r tenant o dan y les honno yn ystod y cyfnod hwnnw o flwyddyn,

(c)pan fo cyfnod y les newydd yn dechrau yn ystod y cyfnod hwnnw o flwyddyn, a

(d)pan na fo paragraff 8 (tenant yn dal drosodd: ôl-ddyddio les newydd i flwyddyn flaenorol) yn gymwys.

(2)Nid yw paragraff 3 yn gymwys i drin y les fel pe bai’n parhau ar ôl y cyfnod penodol gwreiddiol.

(3)Caiff cyfnod y les newydd ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod penodol gwreiddiol.

(4)Mae unrhyw rhent a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn daladwy o dan y les wreiddiol mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o flwyddyn i’w drin fel pe bai’n daladwy o dan y les newydd (ac nid yw paragraff 9(3) yn gymwys i’r rhent hwnnw).

(5)Pan fo cyfnod penodol les wedi ei drin yn flaenorol fel pe bai wedi ei ymestyn (ar un achlysur neu ragor) o dan baragraff 3, mae’r paragraff hwn yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at y cyfnod penodol gwreiddiol yn gyfeiriadau at y cyfnod penodol a ymestynnwyd yn flaenorol.

Lesoedd am gyfnod amhenodol

5(1)At ddibenion y Ddeddf hon (ac eithrio adran 46 (trafodiadau hysbysadwy: eithriadau))—

(a)caiff les cyfnod amhenodol ei thrin yn y lle cyntaf fel pe bai’n les am gyfnod penodol o flwyddyn;

(b)os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod sy’n deillio o gymhwyso paragraff (a), caiff ei thrin fel pe bai’n les am gyfnod penodol o 2 flynedd;

(c)os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod sy’n deillio o gymhwyso paragraff (b), caiff ei thrin fel pe bai’n les am gyfnod penodol o 3 blynedd,

ac yn y blaen.

(2)Ond—

(a)pan gaiff les ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (1), fel pe bai’n les am gyfnod penodol o 2 flynedd neu ragor, a

(b)pan fo’n terfynu mewn gwirionedd cyn diwedd y cyfnod penodol hwnnw,

nid yw’r les i’w thrin fel pe bai’n parhau o dan is-baragraff (1) ond hyd iddi derfynu; ac mae is-baragraff (5) yn gymwys yn unol â hynny.

(3)At ddibenion adran 46 (trafodiadau hysbysadwy: eithriadau) caiff les cyfnod amhenodol ei thrin fel pe bai wedi ei rhoi am gyfnod o lai na 7 mlynedd.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, rhaid diystyru unrhyw ddeddfiad arall sy’n tybio bod les cyfnod amhenodol yn les am gyfnod gwahanol.

(5)Pan fo—

(a)les yn cael ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (1), fel pe bai’n les cyfnod penodol,

(b)y les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw ac felly yn cael ei thrin fel pe bai’n les am gyfnod penodol hwy, ac

(c)o ganlyniad i’r ffaith fod y les yn parhau, treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir neu dreth yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir pan nad oedd dim yn daladwy cyn hynny,

rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach (gan gynnwys hunanasesiad) mewn cysylltiad â’r trafodiad tir cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod penodol hwy y caiff y les ei thrin fel pe bai’n parhau hyd-ddo.

(6)O ran les—

(a)pan gaiff ei thrin, yn rhinwedd is-baragraff (1), fel pe bai’n les am gyfnod penodol o flwyddyn,

(b)pan fo’n terfynu mewn gwirionedd cyn diwedd y cyfnod penodol hwnnw, ac

(c)pe byddai’r les wedi ei rhoi am gyfnod penodol sy’n terfynu ar y dyddiad y mae’n terfynu mewn gwirionedd, byddai llai o dreth i’w chodi na’r swm a aseswyd felly ar y ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â rhoi’r les,

caiff y prynwr, o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT am ddarpariaeth ynghylch diwygio ffurflenni treth).

Lesoedd cysylltiol olynol

6(1)At ddibenion y Ddeddf hon caiff cyfres o lesoedd cysylltiol ei thrin fel un les—

(a)a roddwyd ar adeg rhoi’r les gyntaf yn y gyfres,

(b)am gyfnod sy’n cyfateb i gyfnodau’r holl lesoedd gyda’i gilydd, ac

(c)yn gydnabyddiaeth am y rhent sy’n daladwy o dan yr holl lesoedd.

(2)Mae dwy les neu ragor yn ffurfio “cyfres o lesoedd cysylltiol” os ydynt—

(a)yn lesoedd olynol a roddir neu a gaiff eu trin fel pe baent wedi eu rhoi (boed ar yr un pryd neu ar adegau gwahanol) ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, a

(b)yn drafodiadau cysylltiol.

(3)Yn unol â hynny caiff rhoi lesoedd diweddarach yn y gyfres ei ddiystyru at ddibenion y Ddeddf hon oni bai am adran 51 (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach).

Rhent ar gyfer cyfnod o orgyffwrdd os rhoddir les bellach

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)y tenant o dan les (“yr hen les”) yn ei hildio i’r landlord ac yn gydnabyddiaeth ar gyfer yr ildio hwnnw mae’r landlord yn rhoi les i’r tenant ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth (“y les newydd”),

(b)y tenant o dan les (“yr hen les”) ar gyfer eiddo y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (p. 56) (sicrwydd deiliadaeth ar gyfer tenantiaid busnes, tenantiaid proffesiynol a thenantiaid eraill) yn gymwys iddo, yn gwneud cais am denantiaeth newydd (“y les newydd”) a gyflawnir wedi hynny,

(c)ar derfynu les (“y brif les”), les (“y les newydd”) yn cael ei rhoi i is-denant ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, â’r eiddo a oedd yn gynwysedig yn les wreiddiol yr is-denant (“yr hen les”) yn unol ag—

(i)gorchymyn llys ar gais am ymwared rhag ailfynediad neu fforffediad, neu

(ii)hawl contractiol sy’n codi yn achos terfynu’r brif les, neu

(d)les (“y les newydd”) ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, yn cael ei rhoi i berson sydd wedi gwarantu rhwymedigaethau tenant o dan les a derfynwyd (“yr hen les”) yn unol â’r warant.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, caiff y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod sydd o fewn y cyfnod o orgyffwrdd ei drin fel pe bai wedi ei ostwng gan swm y rhent trethadwy a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o dan yr hen les (ond ni ellir ei drin fel pe bai wedi ei ostwng i swm negyddol).

(3)At ddibenion is-baragraff (2)—

(a)y “cyfnod o orgyffwrdd” yw’r cyfnod rhwng dyddiad rhoi’r les newydd a’r hyn a fyddai wedi bod yn ddiwedd cyfnod yr hen les pe na bai wedi ei therfynu;

(b)mae rhent yn “trethadwy” os caiff ei ystyried wrth bennu’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chaffael yr hen les, neu i’r graddau y caiff ei ystyried mewn achos o’r fath.

Tenant yn dal drosodd: ôl-ddyddio les newydd i flwyddyn flaenorol

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r tenant o dan les (“yr hen les”) yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad y mae’r les, o dan ei thelerau, yn terfynu (“y dyddiad terfynu contractiol”),

(b)pan roddir les i’r tenant ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth (“y les newydd”),

(c)pan roddir y les newydd ar ddyddiad sydd fwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad terfynu contractiol, a

(d)pan fynegir bod cyfnod y les newydd yn dechrau ar ddyddiad sydd o fewn y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad terfynu contractiol, a

(ii)sy’n dod i ben â blwydd-ddydd diweddaraf y dyddiad hwnnw sydd cyn y dyddiad y rhoddir y les newydd,

(“y blynyddoedd dal drosodd cyfan”).

(2)Caiff cyfnod y les newydd ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n dechrau â’r dyddiad y mynegir ei fod yn dechrau.

(3)Caiff y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd mewn cysylltiad â’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad y mynegir bod y les newydd yn dechrau, a

(b)sy’n dod i ben ar ddiwedd y blynyddoedd dal drosodd cyfan,

ei drin, at ddibenion y Ddeddf hon, fel pe bai wedi ei ostwng gan swm y rhent trethadwy sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r denantiaeth dal drosodd ar gyfer y cyfnod hwnnw (ond ni ellir ei drin fel pe bai wedi ei ostwng i swm negyddol).

(4)Caiff y denantiaeth dal drosodd ei thrin at ddibenion y Ddeddf hon fel les cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddiwedd y blynyddoedd dal drosodd cyfan.

(5)At ddibenion y paragraff hwn—

(a)“tenantiaeth dal drosodd” yw—

(i)yr hen les os yw’n parhau y tu hwnt i’r dyddiad terfynu contractiol (boed yn rhinwedd rhoi’r les am gyfnod penodol ac wedi hynny hyd y’i terfynir neu yn sgil gweithredu’r gyfraith), neu

(ii)unrhyw denantiaeth arall ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, y mae’r tenant o dan yr hen les yn parhau i’w feddiannu ar ôl y dyddiad terfynu contractiol yn rhinwedd y denantiaeth;

(b)mae rhent yn “trethadwy” os caiff ei ystyried wrth bennu’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chaffael y denantiaeth dal drosodd, neu i’r graddau y caiff ei ystyried mewn achos o’r fath.

RHAN 3RHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL

Rhent

9(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae un swm y mynegir ei fod yn daladwy mewn cysylltiad â rhent a materion eraill ond nas dosrannwyd i’w drin yn gyfan gwbl fel rhent.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn cael effaith ar gymhwyso paragraff 4 o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy: dosrannu teg a rhesymol) pan fynegir bod symiau ar wahân yn daladwy mewn cysylltiad â rhent a materion eraill.

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw “rhent” yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi les sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod cyn rhoi’r les.

Rhent amrywiol neu ansicr

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo swm y rhent sy’n daladwy o dan les—

(a)yn amrywio yn unol â darpariaeth yn y les, neu

(b)yn ddibynnol, yn ansicr neu heb ei ganfod.

(2)O ran rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod cyn diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les—

(a)mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chydnabyddiaeth drethadwy arall, a

(b)yn unol â hynny mae adrannau 19 a 20 yn gymwys os yw’r swm yn ddibynnol, yn ansicr neu heb ei ganfod.

(3)O ran rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod ar ôl diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, tybir bod swm blynyddol y rhent, ym mhob achos, yn cyfateb i’r swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod 5 mlynedd gyntaf y cyfnod.

(4)Wrth bennu’r swm hwnnw—

(a)diystyrier paragraffau 7(2) ac 8(3) (pan roddir les bellach, gostyngiad tybiedig mewn rhent ar gyfer y cyfnod o orgyffwrdd), a

(b)os oes angen, ystyrier unrhyw symiau a bennir yn unol ag is-baragraff (2)(b).

(5)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 12 (addasiad pan fo rhent yn peidio â bod yn ansicr).

(6)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 12, mae’r achosion pan fo swm y rhent sy’n daladwy o dan les yn ansicr neu heb ei ganfod yn cynnwys achosion pan fo posibilrwydd y caiff y swm hwnnw ei amrywio o dan—

(a)adran 12, 13 neu 33 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) (darpariaethau sy’n ymwneud â chynnydd, gostyngiad neu amrywiadau eraill mewn rhent), neu

(b)Rhan 2 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8) (adolygiad rhent o dan denantiaeth busnes fferm).

(7)At ddibenion y Ddeddf hon, rhaid diystyru unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addasu rhent yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg arall a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant.

Adolygiad rhent cyntaf yn chwarter olaf y bumed flwyddyn

11Pan fo—

(a)les yn cynnwys darpariaeth y caniateir addasu’r rhent oddi tani,

(b)o dan y ddarpariaeth honno, yr addasiad cyntaf o’r fath (neu’r unig addasiad o’r fath)—

(i)yn addasiad i swm sydd (cyn yr addasiad hwnnw) yn ansicr, a

(ii)yn cael effaith o ddyddiad (y “dyddiad adolygu”) a fynegir fel un sydd 5 mlynedd ar ôl dyddiad penodedig, ac

(c)y dyddiad penodedig o fewn y cyfnod o 3 mis cyn dechrau cyfnod y les,

mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les yn gyfeiriadau at y cyfnod sy’n dechrau â dechrau’r cyfnod ac sy’n dod i ben â’r dyddiad adolygu ac mae cyfeiriadau at bumed flwyddyn cyfnod y les i’w darllen yn unol â hynny.

Addasu treth pan bennir y rhent ar y dyddiad ailystyried

12(1)Pan fo, yn achos trafodiad tir sy’n ymwneud â les—

(a)adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 10, a

(b)y dyddiad ailystyried yn cyrraedd,

rhaid i’r prynwr yn y trafodiad bennu, ar y dyddiad ailystyried, y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les.

(2)Mae paragraffau 13 a 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch addasu’r dreth sy’n daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir (ac unrhyw drafodiad cysylltiol o ran trafodiad o’r fath) o ganlyniad i bennu rhent felly.

(3)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 13 a 14, y dyddiad ailystyried yw—

(a)y dyddiad sydd ar ddiwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, neu

(b)unrhyw ddyddiad cynharach pan fo swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les yn peidio â bod yn ansicr.

(4)At ddibenion is-baragraff (3)(b) a pharagraff 13(2), mae swm y rhent sy’n daladwy yn peidio â bod yn ansicr—

(a)yn achos rhent dibynnol, pan geir y digwyddiad dibynnol neu pan ddaw’n amlwg na fydd yn digwydd;

(b)yn achos rhent ansicr neu heb ei ganfod, pan gaiff y swm ei ganfod.

Tandaliad treth pan bennir rhent ar y dyddiad ailystyried

13(1)Os yw, o ganlyniad i bennu ar y dyddiad ailystyried y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les—

(a)trafodiad tir yn dod yn drafodiad hysbysadwy, neu

(b)treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir neu dreth yn daladwy pan nad oedd dim yn daladwy cyn hynny,

rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach (gan gynnwys hunanasesiad) mewn cysylltiad â’r trafodiad tir cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ailystyried.

(2)Pan fo—

(a)ffurflen dreth yn cael ei dychwelyd o dan is-baragraff (1) o ganlyniad i bennu’r rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les ar y dyddiad sydd ar ddiwedd pumed flwyddyn y cyfnod hwnnw,

(b)ar adeg dychwelyd y ffurflen dreth, y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy yn parhau i fod yn ansicr, ac

(c)yn ddim hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, y rhent hwnnw yn peidio â bod yn ansicr,

rhaid i’r prynwr ddiwygio’r ffurflen dreth yn unol ag adran 41 o DCRhT.

Gordaliad treth pan bennir rhent ar y dyddiad ailystyried

14(1)Os yw llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir na’r hyn a dalwyd eisoes, o ganlyniad i bennu ar y dyddiad ailystyried y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les—

(a)caiff y prynwr, o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny;

(b)ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, caiff y prynwr (os na ddiwygir y ffurflen dreth) wneud hawliad i’r swm a ordalwyd gael ei ad-dalu yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT fel y’i haddesir gan is-baragraff (2).

(2)O ran ei chymhwyso i hawliad y mae is-baragraff (1)(b) yn gymwys iddo, mae Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle adran 78—

78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau

Rhaid i hawliad o dan adran 63 y mae paragraff 14(1)(b) o Atodlen 6 i DTTT yn gymwys iddo, gael ei wneud cyn diwedd yr olaf o’r canlynol—

(a)y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r dreth trafodiadau tir a dalwyd eisoes yn ymwneud â hi, neu

(b)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad ailystyried (o fewn ystyr paragraff 12(3) o’r Atodlen honno).

Premiymau gwrthol

15(1)Nid yw premiwm gwrthol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy yn achos rhoi, aseinio neu ildio les.

(2)Ystyr “premiwm gwrthol” yw—

(a)mewn perthynas â rhoi les, premiwm sy’n symud oddi wrth y landlord i’r tenant;

(b)mewn perthynas ag aseinio les, premiwm sy’n symud oddi wrth yr aseiniwr i’r aseinai;

(c)mewn perthynas ag ildio les, premiwm sy’n symud oddi wrth y tenant i’r landlord.

Rhwymedigaethau etc. tenantiaid nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy

16(1)Yn achos rhoi les nid oes yr un o’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy—

(a)unrhyw ymgymeriad gan y tenant i atgyweirio, i gynnal a chadw neu i yswirio’r eiddo sydd ar les;

(b)unrhyw ymgymeriad gan y tenant i dalu unrhyw swm mewn cysylltiad â gwasanaethau, atgyweiriadau, cynnal a chadw neu yswiriant neu gostau rheoli’r landlord;

(c)unrhyw rwymedigaeth arall ar ran y tenant nad yw’n effeithio ar y rhent y byddai tenant yn fodlon ei dalu ar y farchnad agored;

(d)unrhyw warant am dalu’r rhent neu gyflawni unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau eraill y tenant o dan y les;

(e)unrhyw rent penydiol, neu rent uwch o natur rhent penydiol, sy’n daladwy mewn cysylltiad â thorri unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau’r tenant o dan y les;

(f)unrhyw atebolrwydd ar ran y tenant ar gyfer costau o dan adran 14(2) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) neu adran 60 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (costau i’w hysgwyddo gan berson sy’n arfer hawliau statudol i gael les);

(g)unrhyw rwymedigaeth arall ar ran y tenant i ysgwyddo costau neu dreuliau rhesymol y landlord wrth roi’r les neu’n atodol i hynny;

(h)unrhyw rwymedigaeth o dan y les i drosglwyddo i’r landlord, pan derfynir y les, hawliau i daliadau a roddwyd i’r tenant o dan gynllun y taliad sengl (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Theitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009) mewn cysylltiad â thir sy’n ddarostyngedig i’r les.

(2)Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â rhwymedigaeth, nid yw taliad a wneir i gyflawni’r rhwymedigaeth yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(3)Nid yw gollwng rhwymedigaeth fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy mewn perthynas ag ildio’r les.

Ildio les bresennol am les newydd

17(1)Pan roddir les yn gydnabyddiaeth am ildio les bresennol rhwng yr un partïon—

(a)nid yw rhoi’r les newydd yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr ildio, a

(b)nid yw’r ildio yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les newydd.

(2)Nid yw paragraff 5 (cyfnewidiadau) o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy) yn gymwys mewn achos o’r fath.

Aseinio les: aseinai yn ymgymryd â rhwymedigaethau

18Yn achos aseinio les nid yw’r ffaith fod yr aseinai yn ysgwyddo’r rhwymedigaeth—

(a)i dalu rhent, neu

(b)i gyflawni neu gadw at unrhyw un neu ragor o ymgymeriadau eraill y tenant o dan y les,

yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseiniad.

Benthyciad neu flaendal mewn cysylltiad â rhoi neu aseinio les

19(1)Pan fo, o dan drefniadau a wneir mewn cysylltiad â rhoi les—

(a)y tenant, neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig â’r tenant neu’n gweithredu ar ei ran, yn talu blaendal neu’n rhoi benthyciad i unrhyw berson, a

(b)ad-dalu’r blaendal neu’r benthyciad cyfan, neu ran o’r blaendal neu’r benthyciad, yn dibynnu ar unrhyw beth a wneir gan y tenant neu unrhyw beth na wneir ganddo, neu ar ei farwolaeth,

mae swm y blaendal neu’r benthyciad (gan ddiystyru unrhyw ad-daliad) i’w gymryd at ddibenion y Ddeddf hon i fod yn gydnabyddiaeth heblaw am rent a roddir am y les.

(2)Pan fo, o dan drefniadau a wneir mewn cysylltiad ag aseinio les—

(a)yr aseinai, neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag ef neu’n gweithredu ar ei ran, yn talu blaendal neu’n rhoi benthyciad i unrhyw berson, a

(b)ad-dalu’r blaendal neu’r benthyciad cyfan, neu ran o’r blaendal neu’r benthyciad, yn dibynnu ar unrhyw beth a wneir gan yr aseinai neu unrhyw beth na wneir ganddo, neu ar ei farwolaeth,

mae swm y blaendal neu’r benthyciad (gan ddiystyru unrhyw ad-daliad) i’w gymryd at ddibenion y Ddeddf hon i fod yn gydnabyddiaeth heblaw am rent a roddir am aseinio’r les.

(3)Nid yw is-baragraff (1) na (2) yn gymwys mewn perthynas â blaendal os nad yw’r swm a fyddai, fel arall, yn dod o fewn yr is-baragraff o dan sylw mewn perthynas â rhoi’r les neu aseinio’r les yn fwy na dwywaith yr uchafswm rhent perthnasol.

(4)Yr uchafswm rhent perthnasol yw—

(a)mewn perthynas â rhoi les, y swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les;

(b)mewn perthynas ag aseinio les, y swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol sydd o fewn 5 mlynedd gyntaf y cyfnod sy’n dal yn weddill ar ddyddiad yr aseiniad.

(5)Wrth bennu y swm uchaf o rent at ddibenion is-baragraff (4)—

(a)diystyrier paragraffau 7(2) ac 8(3) (pan roddir les bellach, gostyngiad tybiedig mewn rhent ar gyfer y cyfnod o orgyffwrdd), a

(b)os oes angen, ystyrier unrhyw symiau a bennir yn unol â pharagraff 10(2)(b) (pennu rhent dibynnol, ansicr neu heb ei ganfod).

(6)Nid yw treth i’w chodi yn rhinwedd y paragraff hwn pe na byddai i’w chodi ond o ganlyniad i gymhwyso paragraff 34 (sy’n eithrio’r band cyfradd sero mewn achosion pan na fo’r rhent perthnasol sydd i’w briodoli i eiddo amhreswyl yn llai na £1,000 y flwyddyn) i swm o gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) neu (2).

RHAN 4CYTUNDEBAU AR GYFER LES, ASEINIADAU AC AMRYWIADAU

Cytundeb ar gyfer les

20(1)Pan fo’r canlynol yn gymwys—

(a)ymrwymir i gytundeb ar gyfer les, a

(b)mae’r cytundeb wedi ei gyflawni’n sylweddol ond heb ei gwblhau,

caiff y cytundeb ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n achos o roi les yn unol â’r cytundeb (“y les dybiedig”), gan ddechrau â dyddiad ei gyflawni’n sylweddol.

(2)Y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad y caiff y cytundeb ei gyflawni’n sylweddol.

(3)At ddibenion y paragraff hwn mae’r cytundeb wedi ei gwblhau pan roddir les (“y les wirioneddol”) i gydymffurfio’n sylweddol â’r cytundeb.

(4)Pan roddir y les wirioneddol yn dilyn hynny, caiff y les dybiedig ei thrin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n les a roddir—

(a)ar ddyddiad cyflawni’r cytundeb yn sylweddol,

(b)am gyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw ac sy’n dod i ben ar ddiwedd cyfnod y les wirioneddol, ac

(c)yn gydnabyddiaeth am gyfanswm y rhent sy’n daladwy yn ystod y cyfnod hwnnw ac unrhyw gydnabyddiaeth arall a roddir ar gyfer y cytundeb neu’r les wirioneddol.

(5)Pan fo is-baragraff (4) yn gymwys caiff rhoi’r les wirioneddol ei ddiystyru at ddibenion y Ddeddf hon ac eithrio adran 51 (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach).

(6)At ddibenion adran 51—

(a)mae rhoi’r les dybiedig a rhoi’r les wirioneddol yn gysylltiol (pa un a fyddent yn gysylltiol yn rhinwedd adran 8 ai peidio),

(b)mae’r tenant o dan y les wirioneddol (yn hytrach na’r tenant o dan y les dybiedig) yn atebol am unrhyw dreth neu dreth ychwanegol sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r les dybiedig o ganlyniad i is-baragraff (4), ac

(c)mae’r cyfeiriad yn adran 51(2) at “y prynwr yn y trafodiad cynharach” i’w ddarllen, mewn perthynas â’r les dybiedig, fel cyfeiriad at y tenant o dan y les wirioneddol.

(7)Pan fo—

(a)is-baragraff (1) yn gymwys, a

(b)o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad cyflawni’r cytundeb yn sylweddol, y cytundeb yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau), neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, ac

(c)o ganlyniad, y ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â’r cytundeb yn cael ei diwygio,

rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn rhinwedd yr is-baragraff hwnnw (i’r graddau hynny).

(8)At ddibenion cymhwyso adran 14(1) (cyflawni’n sylweddol) i’r paragraff hwn a pharagraff 21 mae unrhyw gytundeb ar gyfer les i’w drin fel contract.

Aseinio cytundeb ar gyfer les

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo person (“P”) yn aseinio buddiant P fel tenant o dan gytundeb ar gyfer les.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys nid yw Atodlen 2 (trafodiadau yr ymrwymir iddynt cyn cwblhau contract) yn gymwys.

(3)Os digwydd yr aseinio heb i’r cytundeb fod wedi ei gyflawni’n sylweddol, mae adran 10 (contract a throsglwyddo) yn cael effaith fel pe bai—

(a)y cytundeb gyda’r aseinai (“A”) ac nid gyda P, a

(b)y gydnabyddiaeth a roddir gan A am ymrwymo i’r cytundeb yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth a roddir gan A ar gyfer yr aseiniad.

(4)Os digwydd yr aseinio ar ôl cyflawni’r cytundeb yn sylweddol—

(a)mae’r aseiniad yn drafodiad tir ar wahân, a

(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw dyddiad yr aseiniad.

(5)Pan fo aseiniadau olynol, mae’r paragraff hwn yn cael effaith mewn perthynas â phob un ohonynt.

Achosion pan gaiff aseinio les ei drin fel rhoi les

22(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhoi les wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn is-baragraff (4).

(2)Caiff yr aseiniad cyntaf o’r les nad yw wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn is-baragraff (4), ac nad yw’r aseinai yn caffael y les fel ymddiriedolwr noeth yr aseiniwr mewn perthynas ag ef, ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r aseiniwr yn rhoi les—

(a)am gyfnod sy’n cyfateb i’r cyfnod o’r les sydd heb ddod i ben, y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), a

(b)ar yr un telerau â’r rheini y mae’r aseinai yn dal y les arnynt ar ôl yr aseiniad.

(3)Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys pe bai aseinio les, oni bai am gymhwyso’r is-baragraff hwnnw, wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 11 (bondiau buddsoddi cyllid arall).

(4)Y darpariaethau yw—

(a)Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);

(b)paragraffau 13 a 15 o Atodlen 11 (rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall);

(c)Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);

(d)Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael);

(e)Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);

(f)paragraff 1 o Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus).

(5)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r rhyddhad o dan sylw yn rhyddhad grŵp, yn rhyddhad atgyfansoddi, yn rhyddhad caffael neu’n rhyddhad elusennau ac os caiff ei dynnu’n ôl o ganlyniad i ddigwyddiad datgymhwyso cyn y dyddiad y mae’r aseiniad yn cael effaith.

(6)At ddibenion is-baragraff (5), ystyr “digwyddiad datgymhwyso” yw—

(a)mewn perthynas â thynnu rhyddhad grŵp yn ôl, y digwyddiad sydd o fewn paragraff 8(2)(a) o Atodlen 16 (prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr) fel y’i darllenir ar y cyd â pharagraff 9 o’r Atodlen honno;

(b)mewn perthynas â thynnu rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn ôl, y newid rheolaeth dros y cwmni sy’n caffael a grybwyllir ym mharagraff 5(2) o Atodlen 17 neu, yn ôl y digwydd, y digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 7(2) neu (3) o’r Atodlen honno;

(c)mewn perthynas â thynnu rhyddhad elusennau yn ôl, digwyddiad datgymhwyso fel y’i diffinnir ym mharagraff 2(4) neu 5(2)(b) o Atodlen 18.

Aseinio les

23(1)Pan gaiff les ei haseinio, rhaid i unrhyw beth y byddai, oni bai am yr aseiniad, yn ofynnol ei wneud neu yr awdurdodid ei wneud gan yr aseiniwr neu mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd—

(a)adran 47 (digwyddiad dibynnol yn peidio, a chydnabyddiaeth yn cael ei chanfod: dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth),

(b)adran 51 (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach),

(c)paragraff 3 neu 5 o’r Atodlen hon (ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach yn ofynnol pan fo les cyfnod penodol neu gyfnod amhenodol yn parhau), neu

(d)paragraffau 12, 13 a 14 o’r Atodlen hon (addasiad pan fo rhent yn peidio â bod yn ansicr),

gael ei wneud yn lle hynny gan yr aseinai neu mewn perthynas ag ef, os yw’r digwyddiad sy’n arwain at yr addasiad neu at ddychwelyd y ffurflen dreth yn codi ar ôl y dyddiad y mae’r aseiniad yn cael effaith.

(2)I’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol er mwyn rhoi effaith i is-baragraff (1) mae unrhyw beth a wnaed yn flaenorol gan yr aseiniwr neu mewn perthynas ag ef i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan yr aseinai neu mewn perthynas ag ef.

(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os caiff yr aseiniad ei drin fel rhoi les gan yr aseiniwr (gweler paragraff 22).

Gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio les mewn ffordd arall

24(1)Pan gaiff les ei hamrywio fel bod swm y rhent yn gostwng, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r tenant yn caffael buddiant trethadwy.

(2)Pan fo’r tenant yn rhoi unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol (ac eithrio cynnydd mewn rhent) ar gyfer unrhyw amrywiad i les, ac eithrio amrywio swm y rhent neu gyfnod y les, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r tenant yn caffael buddiant trethadwy.

(3)Pan gaiff les ei hamrywio fel bod ei chyfnod yn lleihau, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’r landlord yn caffael buddiant trethadwy.

Trin cynnydd mewn rhent fel rhoi les newydd: amrywio les yn ystod y 5 mlynedd gyntaf

25(1)Pan gaiff les ei hamrywio fel bod swm y rhent yn cynyddu o ddyddiad cyn diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n achos o roi les yn gydnabyddiaeth am y rhent ychwanegol a wnaed yn daladwy ganddo.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i gynnydd mewn rhent yn unol ag—

(a)darpariaeth a gynhwyswyd yn y les cyn ei hamrywio, neu

(b)darpariaeth a grybwyllir ym mharagraff 10(6)(a) neu (b) (amrywiadau i lesoedd amaethyddol penodol).

RHAN 5CYFRIFO’R DRETH SYDD I’W CHODI

Lesoedd preswyl, lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg

26At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae trafodiad—

(a)yn gaffael les breswyl—

(i)os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn gyfan gwbl ar ffurf eiddo preswyl, neu

(ii)pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun pob trafodiad yn gyfan gwbl ar ffurf eiddo preswyl;

(b)yn gaffael les amhreswyl—

(i)os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn gyfan gwbl ar ffurf tir nad yw’n eiddo preswyl, neu

(ii)pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun pob trafodiad yn gyfan gwbl ar ffurf tir nad yw’n eiddo preswyl;

(c)yn gaffael les gymysg—

(i)os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn cynnwys tir nad yw’n eiddo preswyl, neu

(ii)pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau yn cynnwys tir nad yw’n eiddo preswyl.

Dim treth i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: lesoedd preswyl

27(1)Yn achos caffael les breswyl, nid oes treth i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r paragraff hwn drwy reoliadau er mwyn rhoi, yn lle is-baragraff (1), gyfrifiad o’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent yn achos caffael les breswyl.

(3)O ran rheoliadau o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddynt bennu’r dull cyfrifo (gan gynnwys y dull sy’n gymwys i achos pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae pob un ohonynt yn achos o gaffael les breswyl), a

(b)cânt wneud unrhyw addasiadau cysylltiedig, atodol neu ganlyniadol eraill i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Os gwneir rheoliadau o dan is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys i’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.

(5)Rhaid i reoliadau o dan is-baragraff (4) bennu—

(a)band treth y mae’r gyfradd dreth gymwys ar ei gyfer yn 0% (“band cyfradd sero LP”),

(b)dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero LP,

(c)y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero LP fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a

(d)dyddiad y mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (4) bennu—

(a)bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â gwahanol gategorïau o gaffael les breswyl;

(b)dyddiadau gwahanol o dan is-baragraff (5)(d) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.

Cyfraddau treth a bandiau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg

28(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau bennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer pob band sy’n gymwys i gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent mewn achosion o gaffael les amhreswyl neu les gymysg.

(2)Rhaid i reoliadau o dan is-baragraff (1) bennu—

(a)band treth y mae’r gyfradd dreth gymwys ar ei gyfer yn 0% (“band cyfradd sero LA”),

(b)dau fand treth neu ragor uwchlaw’r band cyfradd sero LA,

(c)y gyfradd dreth ar gyfer pob band uwchlaw’r band cyfradd sero LA fel bod y gyfradd ar gyfer pob band yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y band oddi tano, a

(d)dyddiad y mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth yn gymwys mewn perthynas â thrafodiadau sy’n cael effaith ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1) bennu—

(a)bandiau treth a chyfraddau treth gwahanol mewn cysylltiad â gwahanol gategorïau o gaffael les amhreswyl neu les gymysg;

(b)dyddiadau gwahanol o dan is-baragraff (2)(d) mewn cysylltiad â phob band treth penodedig neu gyfradd dreth benodedig.

Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg

29Yn achos caffael les amhreswyl neu les gymysg, mae swm y dreth sydd i’w godi ar hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent i’w gyfrifo fel a ganlyn (oni bai bod paragraff 30 (trafodiadau cysylltiol) yn gymwys).

  • Cam 1

    Cyfrifo gwerth net presennol (“GNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les (gweler paragraff 31).

  • Cam 2

    Ar gyfer pob band treth sy’n gymwys i’r caffaeliad, lluosi hynny o’r GNP sydd o fewn y band gyda’r gyfradd dreth ar gyfer y band hwnnw.

  • Cam 3

    Cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o Gam 2.

    Y canlyniad yw swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent.

Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: trafodiadau cysylltiol

30Pan fo caffael les amhreswyl neu les gymysg yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer ar ffurf rhent neu’n cynnwys rhent, mae swm y dreth sydd i’w godi mewn cyswllt â’r rhent i’w gyfrifo fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Cyfrifo cyfanswm gwerthoedd net presennol (“CGNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnodau pob un o’r lesoedd cysylltiol (gweler paragraff 31).

  • Cam 2

    Ar gyfer pob band treth sy’n gymwys i’r caffaeliad, lluosi hynny o’r CGNP sydd o fewn y band gyda’r gyfradd dreth ar gyfer y band hwnnw.

  • Cam 3

    Cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o Gam 2.

    Y canlyniad yw cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent.

  • Cam 4

    Rhannu GNP y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les o dan sylw gyda’r CGNP.

  • Cam 5

    Lluosi cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent gyda’r ffracsiwn sy’n deillio o Gam 4.

    Y canlyniad yw cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent ar gyfer y les o dan sylw.

Gwerth net presennol

31Cyfrifir GNP y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod les drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—

Ffigwr 8

pan fo—

  • rhi y rhent sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn i,

  • i y flwyddyn gyntaf, yr ail flwyddyn, y drydedd flwyddyn etc. o gyfnod y les,

  • n yn gyfnod y les, a

  • A y gyfradd disgownt amser (gweler paragraff 32).

Y gyfradd disgownt amser

32At ddibenion paragraff 31 y “gyfradd disgownt amser” yw 3.5% neu unrhyw gyfradd arall y caiff Gweinidogion Cymru ei phennu drwy reoliadau.

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: cyffredinol

33(1)Pan fo cydnabyddaeth drethadwy ar wahân i rent yn achos caffael les, mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn gymwys mewn perthynas â’r gydnabyddaeth honno fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chydnabyddiaeth drethadwy arall (ond gweler paragraffau 34 a 35).

(2)Mae treth sydd i’w chodi o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon mewn cysylltiad â rhent yn ychwanegol at unrhyw dreth sydd i’w chodi o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent.

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: dim band cyfradd sero ar gyfer lesoedd amhreswyl

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos caffael les amhreswyl pan fo—

(a)cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a

(b)adran 27 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau nad ydynt yn gysylltiol) neu 28 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol) yn gymwys i’r caffaeliad.

(2)Os y swm penodedig o leiaf yw’r rhent perthnasol, nid yw’r band cyfradd sero yn gymwys mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent ac felly, caiff unrhyw achos a fyddai wedi bod o fewn y band hwnnw ei drin fel pe bai o fewn y band treth nesaf.

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: lesoedd cymysg

35(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos caffael les gymysg pan fo—

(a)cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a

(b)y rhent perthnasol sydd i’w briodoli i’r tir nad yw’n eiddo preswyl, ar sail dosraniad teg a rhesymol, yn cyfateb i’r swm penodedig o leiaf.

(2)At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent, caiff y trafodiad (neu os yw’n un o gyfres o drafodiadau cysylltiol, y set honno o drafodiadau) ei drin (neu ei thrin) fel pe bai’n ddau drafodiad ar wahân ond cysylltiol (neu’n ddwy set ar wahân o drafodiadau cysylltiol sydd eu hunain yn gysylltiol) sef—

(a)un y mae ei destun yn cynnwys yr holl dir sy’n eiddo preswyl (ac mae adran 28 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol) yn gymwys yn unol â hynny), a

(b)un y mae ei destun yn cynnwys yr holl dir nad yw’n eiddo preswyl (ac mae’r adran honno fel y’i diwygiwyd gan baragraff 34 yn gymwys yn unol â hynny).

(3)At y diben hwnnw, y gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i bob un o’r trafodiadau (neu setiau o drafodiadau cysylltiol) ar wahân hynny yw’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli ar sail deg a rhesymol.

Y rhent perthnasol

36(1)Ym mharagraffau 34 a 35—

(a)ystyr “y rhent perthnasol” yw—

(i)y rhent blynyddol mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw, neu

(ii)os yw’r trafodiad hwnnw yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer yn rhent neu’n cynnwys rhent, cyfanswm y rhenti blynyddol mewn perthynas â’r holl drafodiadau hynny;

(b)ystyr “y swm penodedig” yw swm o rent perthnasol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(2)Yn is-baragraff (1)(a) ystyr “y rhent blynyddol” yw—

(a)y rhent blynyddol cyfartalog yn ystod cyfnod y les, neu

(b)os yw—

(i)symiau gwahanol o rent yn daladwy ar gyfer gwahanol rannau o’r cyfnod, a

(ii)y symiau hynny (neu unrhyw un neu ragor ohonynt) yn rhai y gellir eu canfod ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

y rhent blynyddol cyfartalog yn ystod y cyfnod y mae’r rhent uchaf y gellir ei ganfod yn daladwy.

Pŵer i ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36

37Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu paragraffau 34 i 36.

(a gyflwynir gan adran 41(1))

ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â phartneriaethau.

2Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch trin partneriaethau;

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau cyffredin y mae partneriaeth yn ymwneud â hwy;

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i bartneriaeth o bartner neu o bersonau penodol eraill;

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau o bartneriaeth i bartner neu i bersonau penodol eraill;

(e)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau rhwng partneriaethau ac ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â phartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol;

(f)mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddiadau i bartneriaeth neu o bartneriaeth pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys rhent;

(g)mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddiadau buddiant mewn partneriaethau buddsoddi mewn eiddo, a thrafodiadau sy’n ymwneud â hynny;

(h)mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag esemptiadau a rhyddhadau i drafodiadau penodol sy’n ymwneud â phartneriaethau, ynghylch cymhwyso darpariaethau penodol yn DCRhT i drafodiadau penodol sy’n ymwneud â phartneriaethau, ac ynghylch hysbysu am drafodiadau o’r fath;

(i)mae Rhan 10 yn diffinio ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

RHAN 2DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Partneriaethau

3Yn y Ddeddf hon, ystyr “partneriaeth” yw—

(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39);

(b)partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24);

(c)partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p. 12);

(d)ffyrm neu endid o gymeriad tebyg i unrhyw un neu ragor o’r rhai a enwir uchod a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Trin buddiannau trethadwy fel pe baent yn cael eu dal gan bartneriaid etc.

4(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)caiff buddiant trethadwy a ddelir gan neu ar ran partneriaeth ei drin fel pe bai’n cael ei ddal gan neu ar ran y partneriaid, a

(b)caiff trafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion partneriaeth ei drin fel pe ymrwymir iddo gan neu ar ran y partneriaid,

ac nid gan neu ar ran y bartneriaeth fel y cyfryw.

(2)Mae is-baragraff (1) yn gymwys er gwaethaf y ffaith yr ystyrir bod partneriaeth yn berson cyfreithiol, neu’n gorff corfforaethol, o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth y’i ffurfir oddi tani.

Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drethadwy ac eithrio pan ddarperir yn arbennig ar gyfer hynny

5Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drafodiad trethadwy er gwaethaf y ffaith fod eiddo’r bartneriaeth yn cynnwys tir, ac eithrio fel a ddarperir gan—

(a)paragraff 18 (trosglwyddo buddiant yn unol â threfniadau cynharach);

(b)paragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo).

Parhad partneriaethau

6At ddibenion y Ddeddf hon, caiff partneriaeth ei thrin fel yr un bartneriaeth er gwaethaf newid mewn aelodaeth os yw unrhyw berson a oedd yn aelod cyn y newid yn parhau i fod yn aelod ar ôl y newid.

Nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau etc.

7At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau nac yn gwmni buddsoddi penagored.

RHAN 3TRAFODIADAU CYFFREDIN GAN BARTNERIAETH

Rhagarweiniad

8Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gymwys i drafodiadau tir yr ymrwymir iddynt fel prynwyr gan neu ar ran aelodau partneriaeth, ac eithrio trafodiadau o fewn Rhannau 4 i 8 o’r Atodlen hon.

Cyfrifoldeb partneriaid

9(1)Mewn perthynas ag unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr yn y trafodiad, neu mewn perthynas ag ef, rhaid i’r holl bartneriaid cyfrifol ei wneud neu rhaid ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd.

(2)Y partneriaid cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad yw—

(a)y personau sy’n bartneriaid ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn aelod o’r bartneriaeth ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(3)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 10 (partneriaid cynrychiadol).

Partneriaid cynrychiadol

10(1)Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn cysylltiad â’r trafodiad gan y partneriaid cyfrifol, neu mewn perthynas â hwy, gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw bartner neu bartneriaid cynrychiadol, neu mewn perthynas â hwy.

(2)Mae hyn yn cynnwys gwneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).

(3)Ystyr “partner cynrychiadol” yw partner a enwebir gan fwyafrif o’r partneriaid i weithredu fel cynrychiolydd y bartneriaeth at ddibenion y Ddeddf hon.

(4)Nid yw unrhyw enwebiad o’r fath, neu ddirymiad enwebiad o’r fath, ond yn cael effaith ar ôl i ACC gael ei hysbysu am yr enwebiad neu’r dirymiad.

Rhwymedigaeth partneriaid cyfrifol ar y cyd ac yn unigol

11(1)Pan fo rhwymedigaeth ar y partneriaid cyfrifol i dalu—

(a)treth neu log taliadau hwyr ar y dreth honno,

(b)swm o dan adran 55 o DCRhT (adennill ad-daliad gormodol) neu log taliadau hwyr ar y swm hwnnw, neu

(c)cosb o dan Ran 5 o DCRhT neu log taliadau hwyr ar y gosb honno,

mae’r rhwymedigaeth yn rhwymedigaeth i’r partneriaid hynny ar y cyd ac yn unigol.

(2)Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) gan berson na ddaeth yn bartner cyfrifol hyd ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad y mae treth yn daladwy mewn perthynas ag ef yn cael effaith.

(3)Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(c) gan berson na ddaeth yn bartner hyd ar ôl yr adeg berthnasol.

(4)Yr adeg berthnasol—

(a)mewn perthynas â hynny o gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, neu â llog taliadau hwyr ar hynny o gosb sy’n daladwy felly, yw dechrau’r diwrnod hwnnw;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gosb arall, neu log taliadau hwyr ar y gosb, yw’r adeg y digwyddodd y weithred neu’r anwaith a achosodd i’r gosb ddod yn daladwy.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “llog taliadau hwyr” yw llog taliadau hwyr o dan Ran 6 o DCRhT.

RHAN 4TRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU I BARTNERIAETH

Rhagarweiniad

12Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)mae paragraffau 13 i 17 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth, a

(b)mae paragraffau 18 a 19 yn darparu ar gyfer trin digwyddiadau penodol yn dilyn trafodiadau o’r fath fel trafodiadau tir.

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: cyffredinol

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth,

(b)person yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn gyfnewid am fuddiant yn y bartneriaeth, neu

(c)person sy’n gysylltiedig ag—

(i)partner, neu

(ii)person sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef,

yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth.

(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw’r trosglwyddiad mewn cysylltiad â ffurfio’r bartneriaeth neu’n drosglwyddiad i bartneriaeth bresennol.

(3)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i—

Formula - MV multiplied by (100 minus SLP)%

Ffigwr 9

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac

  • SCI yn swm y cyfrannau is.

(4)Mae paragraff 14 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.

(5)Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.

(6)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, ond y partneriaid cyfrifol yw—

(a)y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad ag ef.

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: swm y cyfrannau is

14Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 15).

  • Cam 2

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 16).

    Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.

  • Cam 3

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan y perchennog hawl iddi yn union cyn y trafodiad.

    Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.

  • Cam 4

    Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—

    (a)

    y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 17);

    (b)

    cyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad.

  • Cam 5

    Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.

    Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.

Perchennog perthnasol

15(1)At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—

(a)os oedd gan y person, yn union cyn y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a

(b)os yw’r person, yn union ar ôl y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.

(2)At ddibenion paragraff 14 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.

Partner cyfatebol

16(1)At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 2), mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union ar ôl y trafodiad—

(a)yw’r person yn bartner, a

(b)y person yw’r perchennog perthnasol neu os yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.

(2)At ddiben is-baragraff (1)(b), mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—

(a)os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol

17At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—

(a)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;

(b)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.

Trosglwyddo buddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi trethi

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);

(c)pan drosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth wedi hynny (“trosglwyddiad y bartneriaeth”);

(d)pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth—

(i)os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), gan y person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir;

(ii)os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), gan y partner o dan sylw;

(e)pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth yn unol â threfniadau sy’n drefniadau osgoi trethi, neu’n rhan ohonynt a oedd yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad tir;

(f)pan nad yw trosglwyddiad y bartneriaeth (oni bai am y paragraff hwn) yn drafodiad trethadwy.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, o ran trosglwyddiad y bartneriaeth—

(a)cymerir ei fod yn drafodiad tir, a

(b)mae’n drafodiad trethadwy.

(3)Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr yn y trafodiad.

(4)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol, ar ddyddiad y trafodiad, y buddiant a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir.

(5)Y gyfran honno—

(a)os nad yw’r person sy’n gwneud trosglwyddiad y bartneriaeth yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth yn union cyn y trosglwyddiad hwnnw;

(b)os yw’r person yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad hwnnw ac ar ei ôl.

(6)Cymerir bod trosglwyddiad y bartneriaeth a’r trosglwyddiad tir yn drafodiadau cysylltiol.

(7)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â throsglwyddiad y bartneriaeth, ond y partneriaid cyfrifol yw—

(a)y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

(8)Yn y paragraff hwn, mae i “trefniadau osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.

Tynnu arian etc. o bartneriaeth ar ôl trosglwyddo buddiant trethadwy

19(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);

(c)pan geir digwyddiad cymwys o fewn is-baragraff (2) yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir yn cael effaith;

(d)pan fo’r digwyddiad cymwys yn drefniant osgoi trethi, neu’n rhan ohono;

(e)pan na fo dewis wedi ei wneud, ar adeg y digwyddiad cymwys, mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad tir o dan baragraff 36.

(2)Ystyr digwyddiad cymwys yw—

(a)tynnu o’r bartneriaeth arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n cynrychioli elw incwm, drwy fod y person perthnasol—

(i)yn tynnu cyfalaf o gyfrif cyfalaf y person perthnasol,

(ii)yn lleihau buddiant y person perthnasol yn y bartneriaeth, neu

(iii)yn peidio â bod yn bartner, neu

(b)mewn achos pan fo’r person perthnasol wedi rhoi benthyciad i’r bartneriaeth—

(i)y bartneriaeth yn ad-dalu’r benthyciad (i unrhyw raddau), neu

(ii)y person perthnasol yn tynnu o’r bartneriaeth arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n cynrychioli elw incwm.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), y person perthnasol—

(a)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), yw’r person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), yw’r partner o dan sylw neu berson sy’n gysylltiedig â’r partner hwnnw.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, o ran y digwyddiad cymwys—

(a)cymerir ei fod yn drafodiad tir, a

(b)mae’n drafodiad trethadwy.

(5)Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr o dan y trafodiad.

(6)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad.

(7)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad—

(a)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(a), yn hafal i werth yr arian neu’r cyfwerth ariannol a dynnir o’r bartneriaeth;

(b)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b)(i), yn hafal i’r swm a ad-delir;

(c)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b)(ii), yn hafal i hynny o werth yr arian neu’r cyfwerth ariannol a dynnir o’r bartneriaeth nad yw’n fwy na swm y benthyciad.

(8)Ond nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan is-baragraff (7) i fod yn fwy na gwerth marchnadol, ar y dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir yn cael effaith, y buddiant trethadwy a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir, wedi ei ostwng yn ôl unrhyw swm yr oedd treth i’w chodi arno cyn hynny.

(9)Pan fo—

(a)digwyddiad cymwys yn arwain at godi treth o dan y paragraff hwn, a

(b)yr un digwyddiad yn arwain at godi treth o dan baragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo),

caiff swm y dreth a godir o dan y paragraff hwn ei ostwng (ond nid islaw sero) yn ôl swm y dreth a godir o dan y paragraff hwnnw.

(10)Yn y paragraff hwn, mae i “trefniant osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.

RHAN 5TRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU O BARTNERIAETH

Rhagarweiniad

20Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trin trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth.

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinol

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan drosglwyddir buddiant trethadwy—

(a)o bartneriaeth i berson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid, neu

(b)o bartneriaeth i berson sy’n gysylltiedig â pherson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid.

(2)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (yn ddarostyngedig i baragraff 30) yn hafal i—

Formula - MV multiplied by (100 minus SLP)%

Ffigwr 10

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir, ac

  • SCI yn swm y cyfrannau is.

(3)Mae paragraff 22 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.

(4)Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.

(5)At ddibenion y paragraff hwn, mae eiddo a oedd yn eiddo’r bartneriaeth cyn i’r bartneriaeth gael ei diddymu neu cyn iddi beidio â bodoli fel arall i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn eiddo’r bartneriaeth hyd nes y caiff ei ddosbarthu.

(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: swm y cyfrannau is

22Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 23).

  • Cam 2

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 24).

    Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.

  • Cam 3

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy y mae gan y perchennog hwnnw hawl iddo yn union ar ôl y trafodiad.

    Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.

  • Cam 4

    Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—

    (a)

    y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 25);

    (b)

    y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner (gweler paragraffau 26 a 27).

  • Cam 5

    Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.

    Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.

Perchennog perthnasol

23(1)At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—

(a)os oes gan y person, yn union ar ôl y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a

(b)os oedd y person, yn union cyn y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.

(2)At ddibenion paragraff 22 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.

Partner cyfatebol

24(1)At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 2) mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union cyn y trafodiad—

(a)oedd y person yn bartner, a

(b)y person oedd y perchennog perthnasol neu os oedd yn unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(b) mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—

(a)os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol

25At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—

(a)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;

(b)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.

Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith cyn 20 Hydref 2003

26(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith cyn 20 Hydref 2003.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol i’w bennu fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.

    Y dyddiad perthnasol—

    (a)

    os oedd y partner yn bartner ar 19 Hydref 2003, yw’r dyddiad hwnnw;

    (b)

    os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.

  • Cam 2

    Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—

    (a)

    sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a

    (b)

    sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (5)).

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.

  • Cam 3

    Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

(3)Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(4)Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn 19 Hydref 2003, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(5)Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw’r offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem.

(6)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 27 y buddiant trethadwy perthnasol—

(a)yw’r buddiant trethadwy sy’n peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth o ganlyniad i’r trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, neu

(b)os creu buddiant trethadwy yw’r trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, yw’r buddiant trethadwy y crëir y buddiant hwnnw ohono.

Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny

27(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys ac nad yw’r naill na’r llall o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;

(b)bod unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.

(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, a bod un o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi ei fodloni, pennir y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner fel a ganlyn⁠—

  • Cam 1

    Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.

    Y dyddiad perthnasol—

    (a)

    os oedd y partner yn bartner ar y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, yw’r dyddiad hwnnw;

    (b)

    os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.

  • Cam 2

    Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—

    (a)

    sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a

    (b)

    sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (7)).

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.

  • Cam 3

    Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

(5)Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(6)Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(7)Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw—

(a)pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny, yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;

(b)pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar ôl y dyddiad hwnnw, unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.

RHAN 6TRAFODIADAU ERAILL SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU

Rhagarweiniad

28Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiad o bartneriaeth i bartneriaeth, a

(b)trafodiadau pan ffurfir partneriaeth yn llwyr gan gyrff corfforaethol.

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth

29(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad—

(i)yn drafodiad y mae paragraff 13 (trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth) yn gymwys iddo, a

(ii)hefyd yn drafodiad y mae paragraff 21 (trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth) yn gymwys iddo.

(2)Nid yw paragraffau 13(3) ac 21(2) yn gymwys.

(3)Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw’r hyn a fyddai pe bai paragraff 13(3) yn gymwys neu, os yw’n fwy na hynny, yr hyn a fyddai pe bai paragraff 21(2) yn gymwys.

(4)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent⁠—

(a)nid yw paragraff 31 yn gymwys;

(b)cymerir mai’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent yw’r mwyaf o—

(i)y dreth a fyddai i’w chodi pe bai paragraff 31 yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, neu

(ii)y dreth a fyddai i’w chodi pe bai paragraff 31 yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;

(c)mae datgymhwyso’r band cyfradd sero y darperir ar ei gyfer gan baragraff 34 o Atodlen 6 yn cael effaith pe bai wedi cael effaith pe bai paragraff 31(6) o’r Atodlen hon yn gymwys.

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol

30(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan geir trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;

(b)pan fo, yn union cyn y trafodiad, yr holl bartneriaid yn gyrff corfforaethol;

(c)pan fo swm y cyfrannau is yn 75 neu’n fwy.

(2)Mae paragraffau 21 ac 31 yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3)Mae paragraff 21 yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (2) a (3)—

(2)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir.

(4)Mae paragraff 31(2) yn cael effaith fel pe bai “is-baragraff (5)” wedi ei roi yn lle “is-baragraffau (3) i (6)”.

(5)Mae paragraff 31 yn cael effaith fel pe bai is-baragraffau (3), (4), (6) a (7) wedi eu hepgor.

RHAN 7CYMHWYSO RHANNAU 5 A 6 MEWN PERTHYNAS Â LESOEDD

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth neu o bartneriaeth: cydnabyddiaeth drethadwy sy’n cynnwys rhent

31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 neu 21 yn gymwys iddo pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.

(2)Mae Rhan 5 o Atodlen 6 (lesoedd: cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi) yn cael effaith gyda’r addasiadau a nodir yn is-baragraffau (3) i (6).

(3)Mae paragraff 29 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yng Ngham 1, “ y gyfran drethadwy berthnasol o werth net presennol (“GNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les” yn cael ei roi yn lle “gwerth net presennol (“GNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les”;

(b)yng Ngham 2, “o’r gyfran drethadwy berthnasol” yn cael ei roi yn lle “o’r GNP”.

(4)Mae paragraff 30 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yng Ngham 1, “cyfanswm y cyfrannau trethadwy perthnasol o werthoedd net presennol (“CGNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnodau pob un o’r lesoedd” yn cael ei roi yn lle “cyfanswm gwerthoedd net presennol (“CGNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnodau pob un o’r lesoedd cysylltiol”;

(b)yng Ngham 2, “o gyfanswm y cyfrannau trethadwy perthnasol” yn cael ei roi yn lle “o’r CGNP”;

(c)yng Ngham 4, “cyfran drethadwy berthnasol o’r rhent” yn cael ei roi yn lle “GNP y rhent” a “gyda chyfanswm y cyfrannau trethadwy perthnasol” yn cael ei roi yn lle “gyda’r CGNP”.

(5)Mae paragraff 33(1) yn cael effaith fel pe bai “paragraffau 13 ac 21 o Atodlen 7 a pharagraffau 34 a 35 o’r Atodlen hon” yn cael ei roi yn lle “paragraffau 34 a 35”.

(6)Mae paragraff 36(1)(a) yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (i), “y gyfran drethadwy berthnasol o’r rhent blynyddol” yn cael ei roi yn lle “y rhent blynyddol”;

(b)yn is-baragraff (ii), “y gyfran drethadwy berthnasol o gyfanswm y rhenti blynyddol” yn cael ei roi yn lle “cyfanswm y rhenti blynyddol”.

(7)At ddibenion paragraffau 29, 30 a 36 o Atodlen 6 fel y’u haddaswyd gan y paragraff hwn, y gyfran drethadwy berthnasol yw—

Formula - (100 minus SCI)%

Ffigwr 11

pan fo SCI yn swm y cyfrannau is.

(8)Mae’r paragraffau a ganlyn yn gymwys wrth bennu swm y cyfrannau is—

(a)yn achos trafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, paragraff 14, a

(b)yn achos trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo, paragraff 22.

(9)Yn achos trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo, mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 30.

RHAN 8TROSGLWYDDIADAU SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU BUDDSODDI MEWN EIDDO

Rhagarweiniad

32Mae’r Rhan hon o’r Atodlen yn gwneud darpariaeth—

(a)ynghylch trafodiadau penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a

(b)i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo ddewis datgymhwyso paragraff 13 mewn perthynas â thrafodiadau tir penodol.

Ystyr partneriaethau buddsoddi mewn eiddo

33(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr “partneriaeth buddsoddi mewn eiddo” yw partneriaeth y mae ei hunig weithgaredd neu ei phrif weithgaredd yn fuddsoddi neu ddelio mewn buddiannau trethadwy (pa un a yw’r gweithgaredd hwnnw yn cynnwys cynnal gweithrediadau adeiladu ar y tir o dan sylw ai peidio).

(2)Yn is-baragraff (1), mae i “gweithrediadau adeiladu” yr un ystyr ag a roddir i “construction operations” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12) (gweler adran 74 o’r Ddeddf honno).

(3)At ddibenion is-baragraff (1), mae “buddiannau trethadwy” yn cynnwys unrhyw fuddiant a fyddai’n fuddiant trethadwy oni bai am y ffaith ei fod yn ymwneud â thir y tu allan i Gymru.

Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a

(b)pan fo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)cymerir bod y trosglwyddiad yn drafodiad tir, a

(b)mae’r trosglwyddiad yn drafodiad trethadwy.

(3)Y prynwr yn y trafodiad yw’r person sy’n caffael cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth neu, yn ôl y digwydd, sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad.

(4)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol eiddo perthnasol y bartneriaeth.

(5)Y gyfran honno—

(a)os nad oedd y person sy’n caffael y buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad;

(b)os oedd y person yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad ac ar ei ôl.

(6)Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math A o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—

(a)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,

(b)les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi, ac

(c)unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir.

(7)Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math B o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—

(a)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,

(b)les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi,

(c)unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir,

(d)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny,

(e)unrhyw fuddiant trethadwy y gwnaed dewis yn ei gylch o dan baragraff 36, mewn cysylltiad â’i drosglwyddiad i’r bartneriaeth, ac

(f)unrhyw fuddiant trethadwy arall nad oedd ei drosglwyddiad i’r bartneriaeth o fewn paragraff 13(1).

(8)Ystyr trosglwyddiad Math A yw—

(a)trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—

(i)holl fuddiant partner fel partner, neu ran ohono, yn cael ei gaffael gan berson arall (a gaiff fod yn bartner presennol), a

(ii)cydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei rhoi gan y person sy’n caffael y buddiant, neu ar ei ran, neu

(b)trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—

(i)person yn dod yn bartner,

(ii)buddiant partner presennol yn y bartneriaeth yn cael ei ostwng neu bartner presennol yn peidio â bod yn bartner, a

(iii)arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei dynnu o’r bartneriaeth gan y partner presennol a grybwyllir ym mharagraff (ii) (ac eithrio arian neu gyfwerth ariannol a dalwyd o’r adnoddau a oedd ar gael i’r bartneriaeth cyn y trosglwyddiad).

(9)Mae unrhyw drosglwyddiad arall y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn drosglwyddiad Math B.

(10)Mae buddiant mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel buddiant trethadwy at ddibenion paragraff 8(2) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’r graddau y bo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn fuddiant trethadwy.

Eithrio lesoedd rhent marchnadol

35(1)Nid yw les a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl trosglwyddo buddiant yn y bartneriaeth yn eiddo perthnasol y bartneriaeth at ddibenion paragraff 34(6) na (7) os bodlonir y pedwar amod a ganlyn.

(2)Amod 1 yw—

(a)nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent wedi ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad i unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent gael ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les.

(3)Amod 2 yw bod y rhent sy’n daladwy o dan y les fel y’i rhoddwyd yn rhent marchnadol ar adeg rhoi’r les.

(4)Amod 3 yw—

(a)bod cyfnod y les yn 5 mlynedd neu lai, neu

(b)os yw cyfnod y les yn fwy na 5 mlynedd—

(i)bod y les yn darparu y bydd y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 5 mlynedd o’r cyfnod, a

(ii)ei bod yn ofynnol i’r rhent sy’n daladwy o dan y les o ganlyniad i adolygiad fod yn rent marchnadol ar y dyddiad adolygu.

(5)Amod 4 yw na chafwyd unrhyw newid i’r les ers iddi gael ei rhoi sy’n golygu, yn union ar ôl i’r newid gael effaith, fod y rhent sy’n daladwy o dan y les yn llai na rhent marchnadol.

(6)Rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les ei ddenu ar y farchnad agored ar yr adeg honno.

(7)Dyddiad adolygu yw dyddiad y mae’r rhent a bennir o ganlyniad i adolygiad rhent yn daladwy ohono.

Dewis gan bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo i ddatgymhwyso paragraff 13

36(1)Nid yw paragraff 13 yn gymwys i drosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo os yw’r prynwr yn y trafodiad yn dewis i’r paragraff hwnnw beidio â bod yn gymwys.

(2)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â thrafodiad—

(a)mae paragraff 21 (trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinol) hefyd wedi ei ddatgymhwyso,

(b)cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw gwerth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac

(c)mae’r trafodiad o fewn Rhan 3 (trafodiadau cyffredin gan bartneriaeth) o’r Atodlen hon.

(3)Rhaid i ddewis o dan y paragraff hwn gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno (gweler adran 41 o DCRhT am ddarpariaeth ynghylch diwygio ffurflenni treth).

(4)Mae’r dewis yn un di-alw’n-ôl, felly ni chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(5)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â thrafodiad (y “prif drafodiad”) mewn diwygiad i ffurflen dreth—

(a)mae’r dewis yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth, a

(b)caniateir diwygio unrhyw ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad yr effeithir arno (o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth honno) er mwyn adlewyrchu’r dewis hwnnw.

(6)Yn is-baragraff (5), ystyr “trafodiad yr effeithir arno” mewn perthynas â’r prif drafodiad yw trafodiad—

(a)yr oedd paragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo) yn gymwys iddo, a

(b)sy’n cael effaith ar y dyddiad, neu ar ôl y dyddiad, y mae’r prif drafodiad yn cael effaith.

Buddiannau partneriaethau: cymhwyso darpariaethau ynghylch cyfnewid

37(1)Pan fo adran 16 (cyfnewidiadau) yn gymwys i gaffael buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn gydnabyddiaeth am ymrwymo i drafodiad tir â phartner presennol, mae’r buddiant yn y bartneriaeth i’w drin fel prif fuddiant mewn tir, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 4 os yw eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys prif fuddiant mewn tir.

(2)Yn is-baragraff (1), mae i “eiddo perthnasol y bartneriaeth” yr ystyr a roddir gan baragraffau 34(6) neu (7) (fel y bo’n briodol, ac fel y’u darllenir ar y cyd â pharagraff 35).

(3)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraff 6 o Atodlen 4 (darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol) yn gymwys.

RHAN 9CYMHWYSO ESEMPTIADAU, RHYDDHADAU, DARPARIAETHAU DCRHT A DARPARIAETHAU HYSBYSU

Rhagarweiniad

38Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)mae paragraff 39 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso esemptiadau a rhyddhadau i drafodiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt;

(b)mae paragraffau 40 a 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso rhyddhad grŵp i drafodiadau penodol a grybwyllir yn Rhan 4 o’r Atodlen hon;

(c)mae paragraff 42 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso rhyddhad elusennau i drosglwyddiadau penodol buddiant mewn partneriaeth;

(d)mae paragraff 43 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaethau penodol yn DCRhT i bartneriaethau;

(e)mae paragraff 44 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysu am drosglwyddiadau penodol buddiant mewn partneriaeth.

Cymhwyso esemptiadau a rhyddhadau

39(1)Nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptiad ar gyfer trafodiadau nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys i drafodiadau y mae paragraffau 13, 18, 21 neu 34 yn gymwys iddynt.

(2)Ond (yn ddarostyngedig i baragraffau 40 a 42) mae’r Atodlen hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.

Cymhwyso rhyddhad grŵp

40(1)Mae Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) yn gymwys i—

(a)trafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, a

(b)trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18,

gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2)Mae paragraff 8 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (2)(a), “pan fo partner a oedd yn bartner ar y dyddiad yr oedd y trafodiad a ryddheir yn cael effaith (“y partner perthnasol”)” yn cael ei roi yn lle “pan fo’r prynwr”;

(b)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (2)(b)—

(b)ar yr adeg y mae’r partner perthnasol yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo buddiant trethadwy yn cael ei ddal gan aelodau’r bartneriaeth neu ar eu rhan a bod y buddiant trethadwy hwnnw—

(i)wedi ei gaffael gan y bartneriaeth neu ar ei rhan o dan y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)yn deillio o fuddiant trethadwy a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.;

(c)yn is-baragraff (4), “a ddelir gan neu ar ran y bartneriaeth ac i’r gyfran y mae gan y partner perthnasol hawl iddi ar yr adeg berthnasol wrth rannu elw incwm y bartneriaeth” yn cael ei roi yn lle’r geiriau o “y mae’r cwmni” hyd y diwedd;

(d)yn is-baragraff (5), y diffiniad o “cwmni cyswllt perthnasol” wedi ei hepgor.

(3)Mae paragraffau 9 i 14 yn cael effaith fel pe bai “y partner perthnasol” yn cael ei roi yn lle “y prynwr”(bob tro y mae’n digwydd).

Swm y cyfrannau is: cwmni cysylltiedig

41(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys, wrth gyfrifo swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad (yn unol â pharagraff 14)—

(a)pe bai cwmni (“y cwmni cysylltiedig”) wedi bod yn bartner cyfatebol i berchennog perthnasol (“y perchennog gwreiddiol”) oni bai am y ffaith nad yw Cam 2, yn rhinwedd paragraff 16(1)(b), yn cynnwys personau cysylltiedig onid ydynt yn unigolion, a

(b)pan fo’r cwmni cysylltiedig a’r perchennog gwreiddiol yn aelodau o’r un grŵp.

(2)Mae’r dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad i’w gostwng i’r swm a fyddai wedi bod yn daladwy pe bai’r cwmni cysylltiedig wedi bod yn bartner cyfatebol i’r perchennog gwreiddiol at ddibenion cyfrifo swm y cyfrannau is.

(3)Mae darpariaethau Atodlen 16 yn gymwys i ryddhad o dan is-baragraff (2) fel y maent yn gymwys i ryddhad grŵp o dan baragraff 2(1) o’r Atodlen honno, ond—

(a)fel pe bai paragraff 4(3)(a) wedi ei hepgor,

(b)fel pe bai, ym mharagraff 8(2)(a), “pan fo partner a oedd, ar y dyddiad yr oedd y trafodiad yn cael effaith, yn bartner ac yn aelod o’r un grŵp â’r trosglwyddwr (“y partner perthnasol”)” yn cael ei roi yn lle “pan fo’r prynwr”, ac

(c)gyda’r addasiadau eraill a bennir ym mharagraff 40.

Cymhwyso rhyddhad elusennau

42(1)Mae Atodlen 18 (rhyddhad elusennau) yn gymwys i drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2)Mae paragraff 1(b) yn cael effaith fel pe bai “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7,” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”.

(3)Mae paragraff 2 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (1), “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”;

(b)yn is-baragraff (1)(a), “os yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad yn cael ei ddal” yn cael ei roi yn lle “os yw E yn bwriadu dal testun y trafodiad”;

(c)is-baragraff (1)(b) wedi ei hepgor;

(d)yn is-baragraff (2), “mae buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn cael ei ddal” yn cael ei roi yn lle “mae E yn dal testun y trafodiad”;

(e)y canlynol yn cael ei fewnosod ar ôl is-baragraff (2)—

(2A)Trosglwyddir buddiant mewn partneriaeth at ddibenion yr Atodlen hon os oes trosglwyddiad o’r fath at ddibenion Atodlen 7 (gweler paragraff 48 o’r Atodlen honno).

(2B)Mae paragraff 45(1) o Atodlen 7 (ystyr cyfeiriadau at eiddo partneriaeth) yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon fel y bo’n gymwys at ddibenion yr Atodlen honno.;

(f)yn is-baragraff (4), “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”;

(g)yn is-baragraff (4)(b), “unrhyw fuddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad” yn cael ei roi yn lle “testun y trafodiad”.

(4)Mae paragraff 3 yn cael effaith fel pe bai—

(a)“trosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “trafodiad tir”;

(b)“y trosglwyddai” yn cael ei roi yn lle “y prynwr”.

(5)Mae paragraff 4 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (1)(a), “trosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “trafodiad tir”;

(b)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (4)—

(4)Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso mae eiddo’r bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy—

(a)a oedd yn cael ei ddal fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad a ryddheir, neu

(b)sy’n deillio o fuddiant a oedd yn cael ei ddal fel eiddo’r bartneriaeth ar yr adeg honno.;

(c)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (6)—

(6)Ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—

(a)y buddiannau trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad a ryddheir a’r buddiannau trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a

(b)i ba raddau y mae unrhyw fuddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth ar yr adeg honno yn dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.

Addasiadau i DCRhT mewn perthynas â phartneriaethau

43(1)Mae DCRhT yn gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir mewn cysylltiad â thrafodiad tir yr ymrwymir iddo fel prynwyr gan neu ar ran aelodau partneriaeth gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2)Mae adran 58 (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC) yn cael effaith fel pe bai is-adran (2)(c) wedi ei hepgor.

(3)Mae adran 59 (terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC) yn cael effaith fel pe bai paragraff (b) yn y diffiniad o “person cysylltiedig” yn is-adran (7) wedi ei hepgor.

(4)Mae adran 79 (yr hawlydd: partneriaethau) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—

79Yr hawlydd: partneriaethau mewn perthynas â thrafodiadau tir

(1)Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adrannau 63 a 63A mewn achos pan fo—

(a)(mewn achos sydd o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth (o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 7 i DTTT),

(b)(mewn achos sydd o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud ar y person, neu’r dyfarniad yn ymwneud â rhwymedigaeth y person, yn rhinwedd y ffaith honno, neu

(c)(mewn achos sydd o fewn adran 63A(1)) y prynwr yn y trafodiad tir yn berson sy’n gweithredu yn rhinwedd y ffaith honno.

(2)Mewn achos o’r fath, dim ond partner cynrychiadol o fewn ystyr paragraff 10 o Atodlen 7 i DTTT gaiff wneud hawliad o dan adran 63 neu 63A mewn cysylltiad â’r swm o dan sylw.

(5)Mae adran 80 (asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliad) yn cael effaith fel pe bai “partner cyfrifol o fewn ystyr paragraff 9 o Atodlen 7 i DTTT” wedi ei roi yn lle “unrhyw berson perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 79(3))” yn is-adran (2).

(6)Mae adran 91 (gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ymwneud â phartneriaeth yn ofynnol) yn cael effaith fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phartneriaeth o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 7 i DTTT.;

(b)yn is-adran (2)—

(i)“un o’r partneriaid cyfrifol” wedi ei roi yn lle “un o’r partneriaid” (yn y ddau lle) yn y geiriau agoriadol;

(ii)“i’r partner cynrychiadol, neu os nad oes partner cynrychiadol, i un o’r partneriaid cyfrifol o leiaf” wedi ei roi yn lle “i un o’r partneriaid o leiaf” ym mharagraffau (a)(iii) ac (c);

(c)y canlynol wedi ei roi ar ôl is-adran (2)—

(3)Mae i “partner cyfrifol” a “partner cynrychiadol” yr ystyron a roddir gan baragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i DTTT.

(7)Mae adran 100 (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (6)—

(6)Pan fo unrhyw bartner cyfrifol mewn partneriaeth wedi dychwelyd ffurflen dreth, mae’r adran hon yn cael effaith fel pe bai’r ffurflen dreth honno wedi ei dychwelyd gan bob un o’r partneriaid cyfrifol.

(6A)Mae i “partneriaeth” a “partner cyfrifol” yr ystyron a roddir gan baragraffau 3 a 9 o Atodlen 7 i DTTT.

Hysbysu am drosglwyddo buddiant partneriaeth

44(1)Nid yw trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 (trosglwyddo buddiant partneriaeth) yn drafodiad hysbysadwy onid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero.

(2)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero os yw’n cynnwys—

(a)unrhyw swm y mae treth ar raddfa uwchlaw 0% i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, neu

(b)unrhyw swm y byddai treth i’w chodi felly mewn cysylltiad ag ef oni bai am ryddhad.

RHAN 10DEHONGLI

Eiddo’r bartneriaeth a chyfranddaliad yn y bartneriaeth

45(1)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at eiddo’r bartneriaeth yn gyfeiriad at fuddiant neu hawl a ddelir gan bartneriaeth neu ar ei rhan, neu gan aelodau partneriaeth, at ddibenion y busnes partneriaeth.

(2)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at gyfranddaliad person yn y bartneriaeth ar unrhyw adeg yn gyfeiriad at y cyfranddaliad y mae gan y person hawl iddo ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.

Trosglwyddo buddiant trethadwy

46Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at drosglwyddo buddiant trethadwy yn cynnwys—

(a)creu buddiant trethadwy,

(b)amrywio buddiant trethadwy, ac

(c)ildio neu ollwng buddiant trethadwy.

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth

47At ddibenion yr Atodlen hon, trosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth mewn unrhyw achos pan fo buddiant trethadwy yn dod yn eiddo’r bartneriaeth.

Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth

48At ddibenion yr Atodlen hon, pan fo person yn caffael neu’n cynyddu cyfranddaliad yn y bartneriaeth trosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth (i’r partner hwnnw ac o’r partneriaid eraill).

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth

49At ddibenion yr Atodlen hon, trosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth mewn unrhyw achos pan fo—

(a)buddiant trethadwy a oedd yn eiddo’r bartneriaeth yn peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth, neu

(b)buddiant trethadwy yn cael ei roi neu ei greu o eiddo’r bartneriaeth ac nad eiddo’r bartneriaeth yw’r buddiant.

Gwerth marchnadol lesoedd

50(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â les at ddibenion yr Atodlen hon—

(a)os yw, neu os oedd, rhoi’r les yn drafodiad y mae, neu yr oedd, adran 13 yn gymwys iddo (neu’n drafodiad y byddai paragraff 13 yn gymwys iddo pe bai’r paragraff hwnnw wedi bod mewn grym ar adeg rhoi’r les), neu

(b)os yw rhoi’r les yn drafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo.

(2)Wrth bennu gwerth marchnadol y les, mae rhwymedigaeth ar ran y tenant o dan y les i’w hystyried os yw (ond dim ond os yw)—

(a)yn rhwymedigaeth megis y rhai a grybwyllir ym mharagraff 16(1) o Atodlen 6 (rhwymedigaethau tenant nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy), neu

(b)yn rhwymedigaeth i roi taliad i berson.

Personau cysylltiedig

51(1)Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn cael effaith at ddibenion yr Atodlen hon.

(2)Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1), mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (7) (partneriaid sy’n gysylltiedig â’i gilydd).

(3)Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1) at ddibenion paragraffau 15, 16, 23 a 24, mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e) (ymddiriedolwr sy’n gysylltiedig â setliad).

Trefniadau

52Yn yr Atodlen hon mae i “trefniadau” yr ystyr a roddir gan adran 31(3).

(a gyflwynir gan adran 42(1))

ATODLEN 8YMDDIRIEDOLAETHAU

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas ag ymddiriedolaethau.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae paragraff 2 yn diffinio termau allweddol;

(b)mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau y mae ymddiriedolaethau noeth yn ymwneud â hwy;

(c)mae paragraffau 4 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â setliadau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr setliad;

(d)mae paragraff 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin buddiannau buddiolwyr o dan ymddiriedolaethau penodol.

Termau allweddol

2(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr “ymddiriedolaeth noeth” yw ymddiriedolaeth y mae person yn dal eiddo fel ymddiriedolwr oddi tani—

(a)ar ran person sydd â hawl absoliwt mewn perthynas â’r ymddiriedolwr, neu a fyddai â’r hawl honno oni bai am y ffaith ei fod o dan 18 oed neu heb fod â galluedd (o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9)) i weinyddu a rheoli eiddo a materion y person, neu

(b)ar ran dau berson neu ragor sydd neu a fyddai â’r hawl honno ar y cyd,

ac mae’n cynnwys achos pan fo person yn dal eiddo fel enwebai ar ran rhywun arall.

(2)Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at berson sydd â hawl absoliwt mewn perthynas â’r ymddiriedolwr yn gyfeiriad at achos pan fo gan y person yr hawl unigryw, yn ddarostyngedig yn unig i fodloni unrhyw arwystl, hawlrwym neu hawl arall sy’n ddyledus gan yr ymddiriedolwr—

(a)i ddefnyddio’r eiddo i dalu tollau, trethi, costau neu alldaliadau eraill, neu

(b)i gyfarwyddo sut i ymdrin â’r eiddo.

(3)Yn yr Atodlen hon, ystyr “setliad” yw ymddiriedolaeth nad yw’n ymddiriedolaeth noeth.

Ymddiriedolaethau noeth

3(1)Pan fo person (“Y”) yn caffael buddiant trethadwy neu fuddiant mewn partneriaeth fel ymddiriedolwr noeth, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai’r buddiant wedi ei freinio yn y person neu’r personau y mae Y yn ymddiriedolwr iddo neu iddynt, a gweithredoedd Y mewn perthynas â’r buddiant yn weithredoedd ganddo neu ganddynt.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â rhoi les.

(3)Pan roddir les i berson fel ymddiriedolwr noeth, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â rhoi’r les, fel prynwr y buddiant cyfan a gaffaelir.

(4)Pan roddir les gan berson fel ymddiriedolwr noeth, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â rhoi’r les, fel gwerthwr y buddiant cyfan a waredir.

Ymddiriedolwyr yn caffael setliad

4Pan fo personau yn caffael buddiant trethadwy neu fuddiant mewn partneriaeth fel ymddiriedolwyr setliad, maent i’w trin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r caffaeliad hwnnw, fel prynwyr yr holl fuddiant a gaffaelir (gan gynnwys y buddiant llesiannol).

Cydnabyddiaeth am arfer pŵer penodi neu ddisgresiwn

5(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan gaffaelir buddiant trethadwy yn rhinwedd—

(a)arfer pŵer penodi, neu

(b)arfer disgresiwn a freinir yn ymddiriedolwyr setliad.

(2)Mae unrhyw gydnabyddiaeth a roddir am fod y person y gwnaethpwyd y penodiad neu yr arferwyd y disgresiwn o’i blaid yn dod yn destun y pŵer neu’r disgresiwn i’w drin fel cydnabyddiaeth ar gyfer caffael y buddiant.

Ailddyrannu eiddo ymddiriedolaeth rhwng buddiolwyr

6Pan fo—

(a)ymddiriedolwyr setliad yn ailddyrannu eiddo ymddiriedolaeth fel bod buddiolwr yn caffael buddiant mewn eiddo ymddiriedolaeth penodol ac yn peidio â bod â buddiant mewn eiddo ymddiriedolaeth arall, a

(b)y buddiolwr yn cydsynio i beidio â bod â buddiant yn yr eiddo arall hwnnw,

nid yw’r ffaith fod y buddiolwr yn cydsynio yn golygu bod cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad.

Cyfrifoldeb ymddiriedolwyr setliad

7(1)Pan fo rhwymedigaeth ar ymddiriedolwyr setliad i dalu—

(a)treth neu log taliadau hwyr ar y dreth honno,

(b)swm o dan adran 55 o DCRhT (adennill ad-daliad gormodol) neu log taliadau hwyr ar y swm hwnnw, neu

(c)cosb o dan Ran 5 o DCRhT neu log taliadau hwyr ar y gosb honno,

caniateir adennill y taliad, y gosb neu’r llog (ond unwaith yn unig) gan unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr cyfrifol.

(2)Ni chaniateir adennill unrhyw swm yn rhinwedd is-baragraff (1)(c) gan berson na ddaeth yn ymddiriedolwr cyfrifol hyd ar ôl yr adeg berthnasol.

(3)Yr ymddiriedolwyr cyfrifol, mewn perthynas â thrafodiad tir, yw’r personau sy’n ymddiriedolwyr ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith ac unrhyw berson sy’n dod yn ymddiriedolwr wedi hynny.

(4)Yr adeg berthnasol—

(a)mewn perthynas â hynny o gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, neu â llog taliadau hwyr ar hynny o gosb sy’n daladwy felly, yw dechrau’r diwrnod hwnnw;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gosb arall, neu â llog taliadau hwyr ar y gosb, yw’r adeg y digwyddodd y weithred neu’r anwaith a achosodd i’r gosb ddod yn daladwy.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “llog taliadau hwyr” yw llog taliadau hwyr o dan Ran 6 o DCRhT.

Ymddiriedolwyr perthnasol at ddibenion ffurflen dreth etc.

8(1)Caniateir i unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr sy’n ymddiriedolwyr cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r trafodiad.

(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at yr ymddiriedolwyr sy’n dychwelyd ffurflen dreth o’r fath fel “yr ymddiriedolwyr perthnasol”.

(3)Rhaid i’r holl ymddiriedolwyr perthnasol wneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).

Ymddiriedolwyr perthnasol: ymholiadau ac asesiadau

9(1)Os yw ACC yn dyroddi hysbysiad ymholiad ynghylch y ffurflen dreth o dan adran 43 o DCRhT—

(a)rhaid dyroddi’r hysbysiad i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol y gŵyr ACC pwy ydynt;

(b)mae pwerau ACC o dan Ran 4 o DCRhT i wneud dogfennau a gwybodaeth yn ofynnol at ddibenion yr ymholiad yn arferadwy ar wahân (ac yn wahanol) mewn perthynas â phob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol;

(c)caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol wneud cais o dan adran 51 o DCRhT am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi (ac mae gan bob un ohonynt yr hawl i fod yn bartïon i’r cais);

(d)rhaid dyroddi unrhyw hysbysiad cau o dan adran 50 o DCRhT i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol y gŵyr ACC pwy ydynt.

(2)Rhaid i ddyfarniad ACC o dan adran 52 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud yn erbyn yr holl ymddiriedolwyr perthnasol ac nid yw’n cael effaith yn erbyn unrhyw un ohonynt oni bai bod hysbysiad amdano yn cael ei ddyroddi i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.

(3)Rhaid i asesiad ACC o dan adran 54 neu 55 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud mewn cysylltiad â’r holl ymddiriedolwyr perthnasol ac nid yw’n cael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw un ohonynt oni bai y dyroddir hysbysiad amdano o dan adran 61 o DCRhT i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.

Ymddiriedolwyr perthnasol: apelau ac adolygiadau

10(1)Mae’n ofynnol cael cytundeb yr holl ymddiriedolwyr perthnasol os ymrwymir i gytundeb setlo sy’n ymwneud â’r trafodiad o dan adran 184 o DCRhT.

(2)Caniateir i unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol roi hysbysiad am gais o dan adran 173 o DCRhT.

(3)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad o benderfyniad apeliadwy mewn perthynas â’r trafodiad yn dilyn cais o’r fath gan rai (ond nid pob un) o’r ymddiriedolwyr perthnasol⁠—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr adolygiad i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol eraill y gŵyr ACC pwy ydynt;

(b)caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol eraill fod yn barti neu’n bartïon i’r adolygiad os ydynt yn hysbysu ACC am hynny yn ysgrifenedig;

(c)rhaid i hysbysiad am gasgliadau ACC o dan adran 176(5), (6) neu (7) o DCRhT gael ei ddyroddi i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol y gŵyr ACC pwy ydynt;

(d)mae adran 177 o DCRhT (effaith casgliadau adolygiad) yn gymwys mewn perthynas â phob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol.

(4)Yn achos apêl o dan Ran 8 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad—

(a)caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol wneud yr apêl;

(b)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr apêl i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol nad ydynt yn gwneud yr apêl ac y gŵyr ACC pwy ydynt;

(c)mae gan unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol yr hawl i fod yn bartïon i’r apêl;

(d)mae dyfarniad y tribiwnlys o dan adran 181 o DCRhT yn rhwymo’r holl ymddiriedolwyr perthnasol.

Buddiannau buddiolwyr o dan ymddiriedolaethau penodol

11(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan ddelir eiddo mewn ymddiriedolaeth o dan gyfraith yr Alban, neu gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, o dan delerau sy’n golygu, pe bai’r ymddiriedolaeth yn cael effaith o dan gyfraith Cymru a Lloegr, yr ystyrid bod gan fuddiolwr fuddiant ecwitïol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

(2)Mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai ganddo fuddiant ecwitïol yn eiddo’r ymddiriedolaeth er gwaethaf y ffaith na chydnabyddir unrhyw fuddiant o’r fath gan gyfraith yr Alban nac, yn ôl y digwydd, y wlad neu’r diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(3)Mae caffael buddiant buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth i’w drin fel pe bai’n ymwneud â chaffael buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 9RHYDDHAD GWERTHU AC ADLESU

Y rhyddhad

1Mae’r elfen adlesu o drefniant gwerthu ac adlesu wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau cymhwyso.

Trefniadau gwerthu ac adlesu

2Trefniant gwerthu ac adlesu yw trefniant pan fo—

(a)person (“A”) yn trosglwyddo neu’n rhoi i berson arall (“B”) brif fuddiant mewn tir (“gwerthu”), a

(b)B yn rhoi les i A allan o’r buddiant hwnnw (“adlesu”).

Amodau cymhwyso

3(1)Yr amodau cymhwyso yw—

(a)yr ymrwymir i’r trafodiad gwerthu yn llwyr neu’n rhannol mewn cydnabyddiaeth yr ymrwymir i’r trafodiad adlesu,

(b)mai’r unig gydnabyddiaeth arall (os o gwbl) ar gyfer y gwerthu yw talu arian (boed mewn sterling neu mewn arian arall) neu ysgwyddo, fodloni neu ollwng dyled (neu’r ddau),

(c)nad yw’r gwerthu yn drosglwyddiad hawliau o fewn ystyr adran 12 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddo hawliau) nac yn drafodiad cyn-gwblhau o fewn ystyr Atodlen 2 (trafodiadau cyn-gwblhau), a

(d)pan fo A a B ill dau yn gyrff corfforaethol ar y dyddiad y mae’r trafodiad adlesu yn cael effaith, nad ydynt yn aelodau o’r un grŵp at ddibenion rhyddhad grŵp (gweler Atodlen 16) ar y dyddiad hwnnw.

(2)Yn is-baragraff (1)(b), ystyr “dyled” yw rhwymedigaeth, boed yn bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu yn y dyfodol.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 10RHYDDHADAU CYLLID EIDDO ARALL

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad yn achos trafodiadau tir penodol sy’n gysylltiedig â threfniadau cyllid eiddo arall.

(2)Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn nodi’r amgylchiadau pan fo trafodiadau penodol wedi eu rhyddhau rhag treth;

(b)mae Rhan 3 yn nodi’r amgylchiadau pan na fo rhyddhad ar gael;

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth i fuddiant a ddelir gan sefydliad ariannol gael ei drin fel buddiant esempt mewn amgylchiadau penodol;

(d)mae Rhan 5 yn diffinio termau penodol at ddibenion yr Atodlen hon.

RHAN 2Y RHYDDHADAU

Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—

(a)y sefydliad yn prynu prif fuddiant mewn tir neu gyfran anrhanedig o brif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”),

(b)os yw’r buddiant a brynir yn gyfran anrhanedig, y prif fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y sefydliad a P fel tenantiaid ar y cyd llesiannol,

(c)y sefydliad (neu’r person sy’n dal y tir ar ymddiriedolaeth fel y crybwyllir ym mharagraff (b)) yn rhoi les i P allan o’r prif fuddiant (os yw’r prif fuddiant yn rhydd-ddaliad) neu is-les (os yw’r prif fuddiant yn lesddaliad) (“yr ail drafodiad”), a

(d)y sefydliad a P yn ymrwymo i gytundeb y mae gan P hawl oddi tano i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliad neu i’w olynydd yn y teitl drosglwyddo i P (mewn un trafodiad neu mewn cyfres o drafodiadau) yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf.

(2)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os P yw’r gwerthwr, neu

(b)os sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.

(3)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf (gan gynnwys unrhyw ofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf).

(4)Mae trosglwyddiad i P sy’n deillio o arfer yr hawl a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) (“trafodiad pellach”) wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad, a

(b)os, ar bob adeg rhwng yr ail drafodiad a’r trafodiad pellach—

(i)delir y buddiant a brynwyd o dan y trafodiad cyntaf gan sefydliad ariannol i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol, a

(ii)delir y les neu’r is-les a roddir o dan yr ail drafodiad gan P.

(5)Nid yw’r cytundeb a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) i’w drin—

(a)fel pe bai wedi ei gyflawni’n sylweddol oni bai bod yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf wedi ei drosglwyddo i P, a hyd hynny (ac felly nid yw adran 14(1) yn gymwys), neu

(b)fel trafodiad tir ar wahân yn rhinwedd adran 15 (opsiynau a hawliau rhagbrynu).

(6)Nid yw trafodiad pellach sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd is-baragraff (4) yn drafodiad hysbysadwy oni bai ei fod yn ymwneud â throsglwyddo’r holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf i P, i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol.

Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a ailwerthir i berson

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—

(a)y sefydliad—

(i)yn prynu prif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”), a

(ii)yn gwerthu’r buddiant hwnnw i P (“yr ail drafodiad”), a

(b)P yn rhoi morgais cyfreithiol (fel y diffinnir “legal mortgage” yn adran 205(1)(xvi) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20)) i’r sefydliad dros y buddiant hwnnw.

(2)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth os—

(a)P yw’r gwerthwr, neu

(b)sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau eraill o’r math a grybwyllir ym mharagraff 2(1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.

(3)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r sefydliad ariannol yn cydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf, a phan fo hynny’n cynnwys gofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf, rhaid i’r dreth sydd i’w chodi fod yn seiliedig ar gydnabyddiaeth drethadwy nad yw’n llai na gwerth marchnadol y buddiant, ac yn achos rhoi les ar rent, y rhent marchnadol.

(4)At ddibenion is-baragraff (3), rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les fynd amdano ar y farchnad agored ar yr adeg honno.

Cyfeiriadau at P pan fo P yn unigolyn sydd wedi marw

4Mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 2 a 3 at P i’w darllen, mewn perthynas ag adegau ar ôl marwolaeth P, fel cyfeiriadau at gynrychiolwyr personol P.

RHAN 3AMGYLCHIADAU PAN NA FO TREFNIADAU WEDI EU RHYDDHAU

Dim rhyddhad pan fo rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar y trafodiad cyntaf

5Nid yw paragraffau 2 na 3 yn gymwys i drefniadau y mae rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar eu cyfer ar y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl wedi hynny).

Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson: trefniadau i drosglwyddo rheolaeth dros sefydliad

6(1)Nid yw paragraff 2 yn gymwys i drefniadau cyllid eraill os yw’r trefniadau hynny, neu unrhyw drefniadau cysylltiedig, yn cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

(2)Mae hynny’n cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol dim ond os bodlonir un neu ragor o amodau (megis digwyddiad neu gyflawni gweithred).

(3)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “sefydliad ariannol perthnasol” (“relevant financial institution”) yw’r sefydliad ariannol sy’n ymrwymo i’r trefniadau cyllid eraill;

  • ystyr “trefniadau cyllid eraill” (“alternative finance arrangements”) yw’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1);

  • ystyr “trefniadau cysylltiedig” (“connected arrangements”) yw unrhyw drefniadau yr ymrwymir iddynt mewn cysylltiad â gwneud trefniadau cyllid eraill (gan gynnwys trefniadau sy’n ymwneud ag un neu ragor o bersonau nad ydynt yn bartïon i’r trefniadau cyllid eraill).

(4)Mae adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn gymwys at ddibenion penderfynu pwy sydd â rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

RHAN 4BUDDIANT ESEMPT

Buddiant a ddelir gan sefydliad ariannol yn fuddiant esempt

7(1)Mae buddiant a ddelir gan sefydliad ariannol o ganlyniad i’r trafodiad cyntaf o fewn ystyr paragraff 2(1)(a) yn fuddiant esempt (ond gweler yr hyn a ganlyn).

(2)Mae’r buddiant yn peidio â bod yn fuddiant esempt—

(a)os yw’r les a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(c) yn peidio â chael effaith, neu

(b)os yw’r hawl o dan baragraff 2(1)(d) yn peidio â chael effaith neu’n dod yn ddarostyngedig i gyfyngiad.

(3)Nid yw’r buddiant yn fuddiant esempt os yw rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl wedi hynny).

(4)Er gwaethaf is-baragraff (1), nid yw’r buddiant yn fuddiant esempt mewn cysylltiad ag—

(a)y trafodiad cyntaf ei hun, neu

(b)trafodiad pellach o fewn ystyr paragraff 2(4).

RHAN 5DEHONGLI

Ystyr “sefydliad ariannol”

8Yn yr Atodlen hon, ystyr “sefydliad ariannol” yw—

(a)sefydliad ariannol o fewn ystyr “financial institution” yn adran 564B o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3) (trefniadau cyllid eraill: ystyr “sefydliad ariannol”) ac eithrio person y cyfeirir ato yn is-adran (1)(d) o’r adran honno (personau sydd â chaniatâd i ymrwymo i gytundebau credyd a chontractau ar gyfer llogi nwyddau);

(b)person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) i gyflawni’r gweithgaredd a reoleiddir a bennir yn erthygl 63F(1) o Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol (Gweithgareddau a Reoleiddir) 2001 (O.S. 2001/544) (ymrwymo i gynlluniau prynu cartrefi a reoleiddir fel darparwyr prynu cartrefi).

Ystyr “trefniadau”

9Yn yr Atodlen hon, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw gynllun, unrhyw drafodiad neu unrhyw gyfres o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio).

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad yn achos trafodiadau tir penodol sy’n gysylltiedig â bondiau buddsoddi cyllid arall.

(2)Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae’r Rhan hon yn cynnwys diffiniadau o dermau allweddol (paragraff 2);

(b)mae Rhan 2 yn darparu nad yw digwyddiadau penodol sy’n ymwneud â bond buddsoddi cyllid arall i’w trin fel trafodiadau trethadwy (paragraff 3) ac yn darparu ar gyfer eithriadau i hynny (paragraff 4);

(c)mae Rhan 3 yn nodi’r amodau cyffredinol sy’n gymwys i weithrediad y darpariaethau rhyddhad yn Rhan 4;

(d)mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol (paragraffau 13 a 15) yn ogystal â gwneud darpariaeth ynghylch tynnu rhyddhad yn ôl (paragraff 14) ac amgylchiadau pan na fo rhyddhad ar gael (paragraff 17);

(e)mae Rhan 5 yn nodi sut i gymhwyso’r darpariaethau rhyddhad mewn achosion pan fo’r ased sylfaenol yn cael ei ddisodli gan ased arall (paragraff 18) ac yn gosod dyletswydd ar ACC i hysbysu’r Prif Gofrestrydd Tir pan gaiff pridiant tir a gofrestrir o dan yr Atodlen hon ei gollwng (paragraff 19).

Dehongli

2Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “asedau bond”, “deiliad bond”, “dyroddwr bond” a “cyfalaf” yr ystyron a roddir i “bond assets”, “bond-holder”, “bond-issuer” a “capital” yn adran 564G o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3);

  • ystyr “bond buddsoddi cyllid arall” (“alternative finance investment bond”) yw trefniadau y mae adran 564G o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3) (trefniadau o ran bondiau buddsoddi) yn gymwys iddynt;

  • ystyr “buddiant cymwys” (“qualifying interest”) yw prif fuddiant mewn tir ac eithrio les am gyfnod o 21 mlynedd neu lai;

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

  • mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw gynllun, unrhyw drafodiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio).

RHAN 2NID YW DYRODDI, TROSGLWYDDO NAC ADBRYNU HAWLIAU O DAN FOND I’W TRIN FEL TRAFODIADAU TRETHADWY

Deiliad bond ddim i’w drin fel pe bai ganddo fuddiant yn asedau’r bond

3At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)nid yw’r deiliad bond o dan fond buddsoddi cyllid arall i’w drin fel bod ganddo fuddiant yn asedau’r bond;

(b)nid yw’r dyroddwr bond o dan fond o’r fath i’w drin fel ymddiriedolwr asedau’r bond.

Trin deiliad bond fel pe bai ganddo fuddiant os caffaelir rheolaeth dros ased sylfaenol

4(1)Nid yw paragraff 3 yn gymwys os caffaelir rheolaeth dros yr ased sylfaenol gan—

(a)deiliad bond, neu

(b)grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig.

(2)Mae deiliad bond (“DB”), neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol—

(a)os yw hawliau deiliaid bond o dan fond buddsoddi cyllid arall yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael hawliau digonol i alluogi DB, neu aelodau’r grŵp yn gweithredu ar y cyd, i arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond eraill.

(3)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gweithredu i ddatgymhwyso paragraff 3 yn y naill na’r llall o’r achosion a ganlyn.

(4)Yr achos cyntaf yw—

(a)ar yr adeg y caffaelwyd yr hawliau nid oedd DB (neu’r holl ddeiliaid bond cysylltiedig) yn gwybod, ac nid oedd ganddo (neu ganddynt) unrhyw reswm i amau bod y caffaeliad yn galluogi arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i DB (neu unrhyw un neu ragor o’r deiliaid bond) ddod yn ymwybodol bod y caffaeliad yn galluogi arfer yr hawliau hynny, bod DB (neu rai deiliaid bond neu’r holl ddeiliaid bond) yn trosglwyddo hawliau digonol fel na fo’n bosibl arfer yr hawliau hynny mwyach.

(5)Yr ail achos yw—

(a)pan fo DB yn tanysgrifennu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a

(b)pan na fo DB yn arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.

(6)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwarantu”, mewn perthynas â chynnig hawliau o dan fond, yw cytuno i wneud taliadau cyfalaf o dan y bond os nad yw personau eraill yn gwneud y taliadau hynny.

RHAN 3AMODAU AR GYFER GWEITHREDU RHYDDHADAU ETC.

Rhagarweiniad

5Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn diffinio amodau 1 i 7 at ddibenion paragraffau 13 i 16 a 18.

Amod 1

6Amod 1 yw bod un person (“A”) a pherson arall (“B”) yn ymrwymo i drefniadau—

(a)y mae A yn trosglwyddo buddiant cymwys mewn tir i B (“y trafodiad cyntaf”) oddi tanynt, a

(b)y mae A ac B yn cytuno oddi tanynt, pan fo B yn peidio â dal y buddiant fel y crybwyllir ym mharagraff 7(b), y bydd B yn trosglwyddo’r buddiant i A.

Amod 2

7Amod 2 yw—

(a)bod B, fel dyroddwr bond, yn ymrwymo i fond buddsoddi cyllid arall (pa un ai cyn neu ar ôl ymrwymo i’r trefniadau a grybwyllir yn amod 1), a

(b)bod y buddiant mewn tir y mae’r trefniadau a grybwyllir yn amod 1 yn ymwneud â hwy yn cael ei ddal gan B fel ased bond.

Amod 3

8(1)Amod 3 yw, at ddiben cynhyrchu incwm neu enillion ar gyfer y bond buddsoddi cyllid arall—

(a)bod B ac A yn ymrwymo i gytundeb adlesu, neu

(b)bod unrhyw amod arall neu amodau eraill a ragnodir wedi ei fodloni neu wedi eu bodloni.

(2)At ddibenion amod 3, mae B ac A yn ymrwymo i gytundeb adlesu os yw B yn rhoi i A, allan o’r buddiant a drosglwyddir i B—

(a)les (os yw’r buddiant a drosglwyddir yn rhydd-ddaliad), neu

(b)is-les (os yw’r buddiant a drosglwyddir yn lesddaliad).

Amod 4

9(1)Amod 4 yw bod B, cyn diwedd y cyfnod o 120 ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith, yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod pridiant tir cyfreithiol boddhaol wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitl a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p. 9).

(2)Mae pridiant tir yn foddhaol at ddibenion amod 4 os yw—

(a)yn bridiant tir cyntaf ar y buddiant a drosglwyddir i B,

(b)o blaid ACC, ac

(c)ar gyfer cyfanswm—

(i)y swm o dreth a fyddai (oni bai am baragraff 13) i’w godi ar y trafodiad cyntaf pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn werth marchnadol y buddiant ar y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith, a

(ii)unrhyw log a chosbau a fyddai am y tro yn daladwy ar y swm hwnnw o dreth neu mewn perthynas ag ef, pe bai’r dreth wedi bod yn daladwy (ond heb ei thalu) mewn cysylltiad â’r trafodiad cyntaf.

Amod 5

10Amod 5 yw nad yw cyfanswm y taliadau cyfalaf a wneir i B cyn terfynu’r bond yn llai na 60% o werth marchnadol y buddiant yn y tir ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith.

Amod 6

11Amod 6 yw bod B yn dal y buddiant yn y tir fel ased bond hyd derfyn y bond.

Amod 7

12Amod 7 yw—

(a)bod B, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r buddiant yn y tir yn peidio â chael ei ddal fel ased bond, yn trosglwyddo’r buddiant i A (“yr ail drafodiad”), a

(b)y rhoddir effaith i’r ail drafodiad o fewn 10 mlynedd (neu unrhyw gyfnod arall a ragnodir) i’r trafodiad cyntaf.

RHAN 4RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL

Rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntaf

13(1)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir pob un o amodau 1 i 3 cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith.

(2)Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).

(3)Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).

Tynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer y trafodiad cyntaf

14(1)Mae rhyddhad o dan baragraff 13 wedi ei dynnu’n ôl—

(a)os yw B yn trosglwyddo’r buddiant cymwys mewn tir i A heb fod amodau 5 na 6 wedi eu bodloni,

(b)os daw’r cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 12(b) (neu a ragnodir oddi tano) i ben a bod unrhyw un o’r amodau hynny heb ei fodloni, neu

(c)os daw’n amlwg unrhyw bryd am unrhyw reswm arall na ellir bodloni unrhyw un o amodau 5 i 7 neu na chaiff ei fodloni.

(2)Mae rhyddhad o dan baragraff 13 hefyd wedi ei dynnu’n ôl oni fodlonir amod 4.

(3)Pan gaiff rhyddhad o dan baragraff 13 ei dynnu’n ôl, swm y dreth sydd i’w godi ar y trafodiad cyntaf yw’r dreth y byddid wedi ei chodi oni bai am y rhyddhad pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad wedi bod yn werth marchnadol y buddiant cymwys ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Rhyddhad ar gyfer yr ail drafodiad

15(1)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os bodlonir pob un o amodau 1 i 7, a

(b)os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf.

(2)Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).

(3)Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).

Gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad

16Os yw B, ar ôl y dyddiad y mae’r ail drafodiad yn cael effaith, yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni, mae’r tir yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4.

Rhyddhad heb fod ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol

17(1)Nid yw rhyddhad a ddarperir o dan baragraff 13 neu 15 (gan gynnwys pan ddarperir y rhyddhad o dan y naill baragraff neu’r llall fel y’u haddesir gan baragraff 18) ar gael os caiff rheolaeth dros yr ased sylfaenol ei gaffael gan—

(a)y deiliad bond, neu

(b)grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig.

(2)Mae deiliad bond (“DB”), neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol—

(a)os yw hawliau deiliaid bond o dan fond buddsoddi cyllid arall yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael hawliau digonol i alluogi DB, neu aelodau’r grŵp yn gweithredu ar y cyd, i arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond eraill.

(3)Os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith, effaith is-baragraff (1) yw nad yw paragraff 13 yn gymwys i’r trafodiad hwnnw.

(4)Os yw DB, neu’r grŵp, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw a bod amodau 1 i 3 wedi eu bodloni, effaith is-baragraff (1) yw y caiff unrhyw ryddhad o dan baragraff 13 ei drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl o dan baragraff 14.

(5)Ond nid yw is-baragraff (1) yn rhwystro’r rhyddhadau rhag bod ar gael yn y naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn.

(6)Yr achos cyntaf yw—

(a)ar yr adeg y caffaelwyd yr hawliau, nid oedd DB (neu’r holl ddeiliaid bond cysylltiedig) yn gwybod, ac nid oedd ganddo neu ganddynt unrhyw reswm i amau bod y caffaeliad yn galluogi arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond, a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i DB (neu unrhyw un neu ragor o’r deiliaid bond) ddod yn ymwybodol bod y caffaeliad yn galluogi arfer yr hawliau hynny, bod DB (neu rai deiliaid bond neu’r holl ddeiliaid bond) yn trosglwyddo hawliau digonol fel na fo’n bosibl arfer yr hawliau hynny mwyach.

(7)Yr ail achos yw—

(a)pan fo DB yn gwarantu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a

(b)pan na fo DB yn arfer yr hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.

(8)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwarantu”, mewn perthynas â chynnig hawliau o dan fond, yw cytuno i wneud taliadau cyfalaf o dan y bond os nad yw personau eraill yn gwneud y taliadau hynny.

RHAN 5ATODOL

Disodli ased

18(1)Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn is-baragraff (2) neu (yn ôl y digwydd) (3)—

(a)os bodlonir amodau 1 i 3 a 7 mewn perthynas â buddiant mewn tir (“y tir gwreiddiol”),

(b)os yw B yn peidio â dal y tir gwreiddiol fel ased bond (ac yn unol â hynny, yn ei drosglwyddo i A) cyn terfyn y bond buddsoddi cyllid arall,

(c)os yw A a B yn ymrwymo i drefniadau pellach sy’n bodloni amod 1 mewn perthynas â buddiant mewn tir arall (“y tir amnewid”), a

(d)os yw gwerth y buddiant yn y tir amnewid ar yr adeg y mae A yn ei drosglwyddo i B yn fwy na gwerth marchnadol y buddiant yn y tir gwreiddiol ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol yn cael effaith, neu’n hafal â’r gwerth marchnadol hwnnw.

(2)Mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, nid oes angen bodloni amod 6 os bodlonir amodau 1, 2, 3, 6 a 7 (fel y’u haddesir gan is-baragraff (3)) mewn perthynas â’r tir amnewid.

(3)O ran y tir amnewid—

(a)mae amod 5 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at y buddiant mewn tir yn gyfeiriad at y buddiant yn y tir gwreiddiol, a

(b)mae amod 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 12(b) at y trafodiad cyntaf yn gyfeiriad at y trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol.

(4)Os yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fo—

(a)B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a

(b)amod 4 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.

(5)Os nad yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fydd B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod—

(a)amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a

(b)pob un o amodau 1 i 3 wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.

(6)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys pan fo’r tir amnewid yn cael ei ddisodli gan dir cyfnewid pellach; ac os digwydd hynny—

(a)mae cyfeiriadau at y tir gwreiddiol (ac eithrio’r rheini yn is-baragraff (3)) i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid, a

(b)mae cyfeiriadau at y tir amnewid i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid pellach.

ACC i hysbysu’r Cofrestrydd ynghylch gollwng pridiant tir

19(1)Pan gaiff pridiant tir ei ollwng yn unol â pharagraff 16 neu 18(4) neu (5), rhaid i ACC hysbysu’r Prif Gofrestrydd Tir ynghylch y gollyngiad hwnnw yn unol â rheolau cofrestru tir (o fewn ystyr “land registration rules” yn Neddf Cofrestru Tir 2002 (p.9)).

(2)Rhaid i ACC wneud hynny o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae B yn darparu’r dystiolaeth o dan sylw.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 12RHYDDHAD AR GYFER YMGORFFORI PARTNERIAETH ATEBOLRWYDD CYFYNGEDIG

Y rhyddhad

1Mae trafodiad pan fo person (“y trosglwyddwr”) yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig mewn cysylltiad â’i ymgorffori wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir amodau A i C.

Amod A

2Amod A yw nad yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith fwy na blwyddyn ar ôl dyddiad ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Amod B

3Amod B yw bod y trosglwyddwr, ar yr adeg berthnasol—

(a)yn bartner mewn partneriaeth sy’n cynnwys yr holl bersonau sy’n aelodau o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu a fydd yn aelodau ohoni (a neb arall), neu

(b)yn dal y buddiant trethadwy fel enwebai neu ymddiriedolwr noeth i un partner neu ragor mewn partneriaeth o’r fath.

Amod C

4Amod C yw—

(a)bod y cyfrannau o’r buddiant trethadwy y mae gan y personau a grybwyllir ym mharagraff 3(a) yr hawl iddynt yn union ar ôl y trosglwyddiad yr un fath â’r rheini yr oedd ganddynt hawl iddynt ar yr adeg berthnasol, neu

(b)nad yw yr un o’r gwahaniaethau yn y cyfrannau hynny wedi codi fel rhan o drefniadau y mae osgoi atebolrwydd i dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion.

Dehongli

5(1)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “yr adeg berthnasol” (“the relevant time”) yw—

    (a)

    pan fu i’r trosglwyddwr gaffael y buddiant trethadwy ar ôl ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yn union ar ôl i’r trosglwyddwr ei gaffael, a

    (b)

    mewn unrhyw achos arall, yn union cyn ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

  • ystyr “partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig” (“limited liability partnership”) yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p.12).

(2)Ym mharagraff 4(b) mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 13RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU SY’N YMWNEUD AG ANHEDDAU LLUOSOG

Trosolwg

1Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad sydd ar gael ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog.

2Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae paragraff 3 yn dynodi’r trafodiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt,

(b)mae paragraff 4 yn diffinio termau allweddol,

(c)mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer swm y dreth sydd i’w godi,

(d)mae paragraffau 6 a 7 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch sut y cyfrifir y dreth, ac

(e)mae paragraff 8 yn darparu ar gyfer trin adeiladau penodol sydd eto i’w hadeiladu neu i’w haddasu fel anheddau at ddibenion yr Atodlen hon.

Trafodiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt

3(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i drafodiad perthnasol.

(2)Ystyr “trafodiad perthnasol” yw trafodiad trethadwy—

(a)sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4), a

(b)nad yw wedi ei eithrio gan is-baragraff (5).

(3)Mae trafodiad o fewn yr is-baragraff hwn os ei brif destun yw—

(a)buddiant mewn o leiaf ddwy annedd, neu

(b)buddiant mewn o leiaf ddwy annedd ac eiddo arall.

(4)Mae trafodiad o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os ei brif destun yw—

(i)buddiant mewn annedd, neu

(ii)buddiant mewn annedd ac eiddo arall,

(b)os yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, ac

(c)os prif destun o leiaf un o’r trafodiadau cysylltiol eraill yw—

(i)buddiant mewn rhyw annedd arall neu ryw anheddau eraill, neu

(ii)buddiant mewn rhyw annedd arall neu ryw anheddau eraill ac eiddo arall.

(5)Mae trafodiad wedi ei eithrio gan yr is-baragraff hwn—

(a)os yw paragraff 10 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd) o Atodlen 14 yn gymwys iddo, neu

(b)os yw rhyddhad o dan Atodlen 16 (rhyddhad grŵp), Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael) neu Atodlen 18 (rhyddhad elusennau) ar gael ar ei gyfer (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl).

(6)Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at fuddiant mewn annedd yn gyfeiriad at unrhyw fuddiant trethadwy mewn annedd neu dros annedd.

(7)Ond, yn achos annedd sy’n ddarostyngedig i les a roddir am dymor cychwynnol o fwy na 21 o flynyddoedd, nid yw unrhyw fuddiant sy’n uwchfuddiant mewn perthynas â’r les i’w drin fel buddiant mewn annedd at ddibenion paragraffau 4 a 5.

(8)Nid yw is-baragraff (7) yn gymwys—

(a)pan fo’r gwerthwr yn gorff cymwys o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 9(3) o Atodlen 15 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau eiddo preswyl penodol gan denantiaid),

(b)pan fo’r trafodiad yn werthiant o dan drefniant gwerthu ac adlesu o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 9 (trefniadau gwerthu ac adlesu),

(c)os rhoi buddiant lesddaliad yw’r gwerthiant hwnnw, a

(d)pan fo’r elfen adlesu o’r trefniant hwnnw wedi ei rhyddhau rhag treth o dan Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu).

Termau allweddol

4(1)Ystyr “y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau”—

(a)ar gyfer trafodiad annedd unigol, yw hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli i’r annedd;

(b)ar gyfer trafodiad anheddau lluosog, yw hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli i’r anheddau gyda’i gilydd.

(2)Ystyr “y gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad llai’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.

(3)Mae trafodiad perthnasol yn “trafodiad annedd unigol” os ei brif destun yw—

(a)buddiant mewn annedd, neu

(b)buddiant mewn annedd ac eiddo arall.

(4)Mae trafodiad perthnasol yn “trafodiad anheddau lluosog” os ei brif destun yw—

(a)buddiant mewn o leiaf ddwy annedd, neu

(b)buddiant mewn o leiaf ddwy annedd ac eiddo arall.

(5)Ystyr “priodoli” yw priodoli ar sail dosraniad teg a rhesymol.

Swm y dreth sydd i’w godi

5(1)Os hawlir rhyddhad o dan yr Atodlen hon am drafodiad perthnasol, y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad yw swm—

(a)y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau, a

(b)y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddill (os o gwbl).

(2)Os rhent yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad perthnasol, neu ran ohoni, mae is-baragraff (1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i Ran 5 o Atodlen 6 (lesoedd: cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi).

Pennu’r dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau

6(1)At ddibenion paragraff 5(1)(a), pennir “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau” fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Pennu swm y dreth a fyddai i’w godi o dan adran 27 gan ragdybio—

    (a)

    bod y trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl, a

    (b)

    mai’r gydnabyddiaeth drethadwy yw’r ffracsiwn a gynhyrchir drwy rannu cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau â chyfanswm yr anheddau.

  • Cam 2

    Lluosi’r swm a bennir yng Ngham 1 â chyfanswm yr anheddau.

  • Cam 3

    Os yw’r trafodiad perthnasol yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, mynd i Gam 4.

    Fel arall, y swm a geir yng Ngham 2 yw’r dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.

  • Cam 4

    Lluosi’r swm a geir yng Ngham 2 â—

    Ffigwr 12

    pan fo—

    • “CA” y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad perthnasol, a

    • “CCA” yn gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau.

(2)Ond os yw’r swm a geir yng Ngham 2 o is-baragraff (1) yn llai nag 1% o gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau, at ddibenion paragraff 5(1)(a) “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau” yw swm sy’n gyfwerth ag 1% o’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.

(3)Ystyr “cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau” yw—

(a)ar gyfer trafodiad nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw;

(b)ar gyfer un o nifer o drafodiadau cysylltiol—

(i)cyfanswm y gydnabyddiaeth sydd i’w briodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw a’r holl drafodiadau cysylltiol eraill sy’n drafodiadau perthnasol, plws

(ii)hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau cysylltiol (boed hwy’n drafodiadau perthnasol ai peidio) nad yw wedi ei gynnwys yn y cyfrifiad o dan baragraff (i) ond sydd i’w briodoli i’r un anheddau y cyfeirir atynt wrth wneud y cyfrifiad hwnnw.

(4)Ystyr “cyfanswm yr anheddau” yw cyfanswm yr anheddau y cyfeirir atynt wrth gyfrifo cydnabyddiaeth cyfanswm yr anheddau.

(5)Wrth gymhwyso is-baragraff (1), rhaid diystyru—

(a)adran 72(9) (trin trosglwyddo 6 annedd unigol neu ragor fel eiddo amhreswyl), a

(b)paragraff 34 (treth sydd i’w chodi am gydnabyddiaeth ar wahân i rent: lesoedd cymysg) o Atodlen 6 (lesoedd).

(6)Wrth gymhwyso is-baragraff (1), pan fo trafodiad perthnasol yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch (fel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 5), mae swm y dreth a fyddai i’w godi o dan adran 27 i’w bennu ar y sail honno.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-baragraff (2) drwy reoliadau er mwyn rhoi canrannau gwahanol yn lle’r canrannau a bennir yno am y tro.

Pennu’r dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddill

7(1)At ddibenion paragraff 5(1)(b), “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw’r ffracsiwn priodol o swm y dreth a fyddai’n ddyledus (oni bai am yr Atodlen hon) mewn cysylltiad â’r trafodiad perthnasol.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “y ffracsiwn priodol” yw—

Ffigwr 13

pan fo—

  • “CSW” y gydnabyddiaeth sy’n weddill ar gyfer y trafodiad perthnasol,

  • “CCA” yn gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau, a

  • “CCSW” yn gyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill.

(3)Ystyr “cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw—

(a)ar gyfer trafodiad nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, y gydnabyddiaeth sy’n weddill ar gyfer y trafodiad hwnnw;

(b)ar gyfer un o nifer o drafodiadau cysylltiol—

(i)cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr holl drafodiadau hynny, llai

(ii)cydnabyddiaeth cyfanswm yr anheddau.

Adeiladau penodol sydd eto i’w hadeiladu neu i’w haddasu i gyfrif fel annedd

8(1)At ddibenion yr Atodlen hon, cymerir mai prif destun y trafodiad yw buddiant mewn annedd neu ei fod yn cynnwys buddiant mewn annedd—

(a)os dyddiad cyflawni contract yn sylweddol yw’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yn rhinwedd darpariaeth dybio berthnasol,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn ffurfio neu’n cynnwys buddiant mewn adeilad, neu ran o adeilad, sydd i’w adeiladu neu i’w addasu o dan y contract i’w ddefnyddio fel annedd, ac

(c)os nad yw’r gwaith o adeiladu neu addasu’r adeilad, neu’r rhan o adeilad, wedi dechrau erbyn i’r contract gael ei gyflawni’n sylweddol.

(2)Yn is-baragraff (1)—

  • mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gytundeb;

  • mae i “cyflawni’n sylweddol” (“substantially performed”) yr ystyr a roddir gan adran 14;

  • ystyr “darpariaeth dybio berthnasol” (“relevant deeming provision”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    (a)

    adran 10 (contract a throsglwyddo),

    (b)

    adran 11 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti),

    (c)

    paragraff 8(1) i (5) o Atodlen 2 (aseinio hawliau: trin y trosglwyddwr fel pe bai’n gwneud caffaeliad ar wahân), neu

    (d)

    paragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les).

(3)Mae is-adrannau (4) i (7) o adran 72 (ystyr eiddo preswyl) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn fel y maent yn gymwys at ddibenion is-adran (1)(a) o’r adran honno.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 14RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan adeiladwyr tai, masnachwyr eiddo a chyflogwyr, ac mae wedi ei threfnu fel a ganlyn⁠—

(i)mae paragraff 2 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo adeiladwr tai yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,

(ii)mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,

(iii)mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri,

(iv)mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan gynrychiolwyr personol,

(v)mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,

(vi)mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo cyflogwr yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,

(vii)mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu’n ôl y rhyddhadau sydd ar gael i fasnachwyr eiddo, ac

(viii)mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli geiriau ac ymadroddion sy’n gymwys i Ran 2 o’r Atodlen hon;

(b)mae Rhan 3 yn darparu rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan berson neu bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd.

RHAN 2RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

Adeiladwr tai yn caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd

2(1)Pan fo adeiladwr tai yn caffael annedd (“yr hen annedd”) gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (3) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)bod yr unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill) yn caffael annedd newydd gan yr adeiladwr tai,

(b)bod yr unigolyn—

(i)wedi meddiannu’r hen annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r adeiladwr tai yn ei gaffael, a

(ii)yn bwriadu meddiannu’r annedd newydd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa,

(c)yr ymrwymir i’r naill gaffaeliad yn gydnabyddiaeth ar gyfer y llall, a

(d)nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (c) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr hen annedd.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd newydd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy roi neu drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd,

(b)mae cyfeiriadau at gaffael yr hen annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, ac

(c)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr hen annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd

3(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd (“yr hen annedd”) gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (4) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion sy’n caffael anheddau newydd gan adeiladwyr tai, neu’n ymwneud â hynny,

(b)bod yr unigolyn (boed ar ei ben eu hun neu ynghyd ag unigolion eraill) yn caffael annedd newydd gan adeiladwr tai,

(c)bod yr unigolyn—

(i)wedi meddiannu’r hen annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael, a

(ii)yn bwriadu meddiannu’r annedd newydd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa,

(d)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd,

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r hen annedd, ac

(e)nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan y masnachwr eiddo yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(d)(ii) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(4)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (d) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir gan y masnachwr eiddo yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr hen annedd.

(5)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael annedd newydd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy roi neu drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd,

(b)mae cyfeiriadau at gaffael yr hen annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, ac

(c)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr hen annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri

4(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd (“yr hen annedd”) gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (4) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)bod yr unigolyn wedi gwneud trefniadau i werthu’r hen annedd a chaffael annedd arall (“yr ail annedd”),

(b)bod y trefniadau i werthu’r hen annedd yn methu,

(c)bod yr hen annedd yn cael ei gaffael at y diben o alluogi’r unigolyn i fynd ymlaen i gaffael yr ail annedd,

(d)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion o dan yr amgylchiadau hynny, neu’n ymwneud â hynny,

(e)bod yr unigolyn—

(i)wedi meddiannu’r hen annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael, a

(ii)yn bwriadu meddiannu’r ail annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa,

(f)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd,

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r hen annedd, ac

(g)nad yw arwynebedd y tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(f)(ii) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(4)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (f) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr hen annedd.

(5)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr ail annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy roi neu drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd,

(b)mae cyfeiriadau at gaffael yr hen annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, ac

(c)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr hen annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael gan gynrychiolwyr personol

5(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan gynrychiolwyr personol unigolyn ymadawedig, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (3) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan gynrychiolwyr personol unigolion ymadawedig, neu’n ymwneud â hynny,

(b)bod yr unigolyn ymadawedig wedi meddiannu’r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y bu farw’r unigolyn,

(c)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd, a

(d)nad yw arwynebedd y tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (c) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr annedd.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, a

(b)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Masnachwr eiddo yn caffael mewn achos o adleoli cyflogaeth

6(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (4) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion mewn cysylltiad â newid preswylfa o ganlyniad i adleoli cyflogaeth, neu’n ymwneud â hynny,

(b)bod yr unigolyn wedi meddiannu’r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael,

(c)y gwneir y caffaeliad mewn cysylltiad â newid preswylfa’r unigolyn o ganlyniad i adleoli cyflogaeth,

(d)nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn fwy na gwerth marchnadol yr annedd,

(e)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd, na

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd, ac

(f)nad yw arwynebedd y tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(e)(ii) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(4)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (e) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr annedd.

(5)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, a

(b)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Cyflogwr yn caffael mewn achos o adleoli cyflogaeth

7(1)Pan fo cyflogwr unigolyn yn caffael annedd gan yr unigolyn (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unigolion eraill), mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (3) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)bod yr unigolyn wedi meddiannu’r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r cyflogwr yn ei gaffael,

(b)y gwneir y caffaeliad mewn cysylltiad â newid preswylfa’r unigolyn o ganlyniad i adleoli cyflogaeth,

(c)nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn fwy na gwerth marchnadol yr annedd, a

(d)nad yw arwynebedd y tir y mae’r cyflogwr yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (c) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr annedd.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd,

(b)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd, a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw, ac

(c)mae cyfeiriadau at gyflogwr unigolyn yn cynnwys darpar gyflogwr.

Tynnu’n ôl ryddhadau sydd ar gael i fasnachwyr eiddo

8(1)Caiff rhyddhad o dan baragraffau 3 (masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd) a 4 (masnachwr eiddo yn caffael gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

(a)yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd,

(b)yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd, neu

(c)yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r hen annedd.

(2)Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn sy’n caffael yr annedd newydd neu’r ail annedd am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(3)Caiff rhyddhad o dan baragraff 5 (rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael gan gynrychiolwyr personol) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

(a)yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

(b)yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, neu

(c)yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd.

(4)Caiff rhyddhad o dan baragraff 6 (masnachwr eiddo yn caffael mewn achos o adleoli cyflogaeth) ei dynnu’n ôl os yw’r masnachwr eiddo—

(a)yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

(b)yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, neu

(c)yn caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(b) yn gymwys o ran rhoi les neu drwydded i’r unigolyn sy’n adleoli am gyfnod o ddim mwy na 6 mis.

(6)Pan dynnir rhyddhad yn ôl, swm y dreth sydd i’w godi yw swm y dreth a fyddai i’w godi mewn cysylltiad â’r caffaeliad oni bai am y rhyddhad.

Dehongli

9(1)At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)ystyr “adeiladwr tai” yw

(i)cwmni,

(ii)partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu

(iii)partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig,

sy’n cyflawni’r busnes o adeiladu neu addasu adeiladau neu rannau o adeiladau i’w defnyddio fel anheddau ac mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at adeiladwr tai yn cynnwys unrhyw gwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gysylltiedig ag ef;

(b)ystyr “annedd newydd” yw adeilad neu ran o adeilad—

(i)sydd wedi ei adeiladu i’w ddefnyddio fel annedd unigol ac nad yw wedi ei feddiannu yn flaenorol, neu

(ii)sydd wedi ei addasu i’w ddefnyddio fel annedd unigol ac nad yw wedi ei feddiannu ers iddo gael ei addasu;

(c)ystyr “man cyflogaeth newydd” yw’r fan lle mae unigolyn fel arfer yn cyflawni dyletswyddau cyflogaeth ar ôl adleoli cyflogaeth, neu lle bydd yn cyflawni dyletswyddau o’r fath fel arfer;

(d)ystyr “swm a ganiateir”, mewn perthynas ag adnewyddu annedd, yw—

(i)£10,000, neu

(ii)5% o’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael yr annedd,

pa un bynnag sydd fwyaf, ond yn ddarostyngedig i uchafswm o £20,000;

(e)ystyr “arwynebedd a ganiateir”, mewn perthynas ag annedd, yw’r rhan honno o’r annedd sy’n dir sy’n cael ei feddiannu a’i fwynhau gyda’r adeilad, neu’r rhan o’r adeilad sy’n cael ei feddiannu fel annedd, fel ei ardd neu ei dir, nad yw’n fwy nag⁠—

(i)arwynebedd (gan gynnwys safle’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad) o 0.5 hectar, neu

(ii)unrhyw arwynebedd mwy sy’n angenrheidiol er mwyn mwynhau’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad yn rhesymol fel annedd, o ystyried ei faint a’i gymeriad;

ond pan fo paragraff (ii) yn gymwys, cymerir mai’r arwynebedd a ganiateir yw’r rhan honno o’r tir a fyddai fwyaf addas i’w meddiannu a’i mwynhau gyda’r adeilad neu’r rhan o’r adeilad fel ei ardd neu ei dir pe bai gweddill y tir wedi ei feddiannu ar wahân;

(f)ystyr “prif arferydd”, mewn perthynas â masnachwr eiddo—

(i)yn achos cwmni, yw cyfarwyddwr;

(ii)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yw aelod;

(iii)yn achos partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, yw aelod neu berson sy’n brif arferydd i aelod;

(g)ystyr “masnachwr eiddo” yw—

(i)cwmni,

(ii)partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu

(iii)partneriaeth y mae ei holl aelodau naill ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig,

sy’n cyflawni’r busnes o brynu a gwerthu anheddau;

(h)ystyr “adnewyddu” annedd yw cyflawni gwaith sy’n cynyddu gwerth yr annedd, neu y bwriedir iddo gynyddu gwerth yr annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(i)glanhau’r annedd, na

(ii)gwaith sy’n angenrheidiol yn unig at y diben o sicrhau bod yr annedd yn cyrraedd safonau diogelwch gofynnol;

(i)ystyr “adleoli cyflogaeth” yw newid ym man cyflogaeth unigolyn o ganlyniad i—

(i)yr unigolyn yn cael ei gyflogi gan gyflogwr newydd,

(ii)newid dyletswyddau cyflogaeth yr unigolyn, neu

(iii)newid y fan lle mae’r unigolyn yn cyflawni’r dyletswyddau hynny fel arfer.

(2)At ddibenion paragraffau 6 a 7, mae newid preswylfa yn newid “o ganlyniad i” adleoli cyflogaeth—

(a)os gwneir y newid yn llwyr neu’n bennaf er mwyn caniatáu i’r unigolyn fyw o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i fan cyflogaeth newydd yr unigolyn, a

(b)os nad yw preswylfa flaenorol yr unigolyn o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’r fan honno.

(3)At ddibenion Rhan 2—

(a)caiff unrhyw beth a wneir gan gwmni sy’n gysylltiedig â masnachwr eiddo, neu mewn perthynas â chwmni o’r fath, ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan y masnachwr eiddo hwnnw, neu mewn perthynas ag ef, a

(b)mae cyfeiriadau at brif arferyddion neu gyflogeion masnachwr eiddo yn cynnwys prif arferyddion neu gyflogeion unrhyw gwmni o’r fath.

RHAN 3RHYDDHAD AR GYFER PERSONAU SY’N ARFER HAWLIAU AR Y CYD

Rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo person neu bersonau a enwebir neu a benodir gan denantiaid cymwys fflatiau a gynhwysir mewn mangre yn ymrwymo i drafodiad trethadwy drwy arfer—

(a)hawl o dan Ran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) (hawl i gael y cynnig cyntaf), neu

(b)hawl o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (hawl i ryddfreiniad ar y cyd).

(2)Pennir swm y dreth sydd i’w godi fel a ganlyn.

  • Cam 1

    Pennu’r ffracsiwn o’r gydnabyddiaeth drethadwy a gynhyrchir drwy rannu cyfanswm y gydnabyddiaeth honno â nifer y fflatiau cymwys sydd yn y fangre.

  • Cam 2

    Pennu swm y dreth sydd i’w godi o dan adran 27 fel pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad trethadwy y ffracsiwn o’r gydnabyddiaeth drethadwy a gyfrifwyd o dan Gam 1.

  • Cam 3

    Lluosi’r swm a bennwyd yng Ngham 2 â nifer y fflatiau cymwys sydd yn y fangre.

(3)Yn y paragraff hwn—

(a)mae i “fflat” a “tenant cymwys” yr un ystyron â “flat” a “qualifying tenant” yn y Bennod neu’r Rhan o’r Ddeddf sy’n rhoi’r hawl sy’n cael ei harfer;

(b)ystyr “fflat gymwys” yw fflat a ddelir gan denant cymwys sy’n cyfranogi o ran arfer yr hawl.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad sydd ar gael ar gyfer trafodiadau hawl i brynu,

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dreth sydd i’w chodi a’r rhyddhad sydd ar gael pan ymrwymir i les ranberchnogaeth neu drafodiad rhent i les ranberchnogaeth,

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dreth sydd i’w chodi a’r rhyddhad sydd ar gael pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth a phan ymrwymir i gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth,

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad sydd ar gael ar gyfer trafodiad rhent i forgais, ac

(e)mae Rhan 6 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

RHAN 2RHYDDHAD HAWL I BRYNU

Rhyddhad ar gyfer trafodiad hawl i brynu

2(1)Yn achos trafodiad hawl i brynu—

(a)nid yw adran 19(1) (cydnabyddiaeth ddibynnol i’w chynnwys mewn cydnabyddiaeth drethadwy gan ragdybio y ceir digwyddiad dibynnol) yn gymwys, a

(b)nid yw unrhyw gydnabyddiaeth na fyddai ond yn daladwy pe bai digwyddiad dibynnol, neu sydd ond yn daladwy oherwydd digwyddiad dibynnol, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(2)Ystyr “trafodiad hawl i brynu” yw—

(a)gwerthu annedd am ddisgownt, neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt, gan gorff sector cyhoeddus perthnasol, neu

(b)gwerthu annedd, neu roi les ar gyfer annedd, yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd.

(3)Mae’r canlynol yn gyrff sector cyhoeddus perthnasol at ddibenion y paragraff hwn—

(a)un neu ragor o Weinidogion y Goron;

(b)Gweinidogion Cymru;

(c)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

(d)landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p.50);

(f)corff plismona lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local policing body” gan adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16);

(g)person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)At ddibenion is-baragraff (2)(b), mae gwerthu annedd, neu roi les ar gyfer annedd, yn cael ei wneud yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd—

(a)os yw’r gwerthwr yn berson y mae’r hawl i brynu o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) yn arferadwy yn ei erbyn yn rhinwedd adran 171A o’r Ddeddf honno,

(b)os y prynwr yw’r person cymwys at ddibenion yr hawl i brynu a gadwyd, ac

(c)os yr annedd yw’r tŷ annedd cymwys mewn perthynas â’r prynwr.

(5)Nid yw grant gan Weinidogion Cymru o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (grantiau prynu mewn cysylltiad â gwarediadau am ddisgownt gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) yn cyfrif fel rhan o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad hawl i brynu y mae’r gwerthwr yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat mewn perthynas ag ef.

(6)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

  • mae i “tŷ annedd cymwys” a “person cymwys” yr ystyron a roddir i “qualifying dwelling-house” a “qualifying person” gan adran 171B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68).

RHAN 3LESOEDD RHANBERCHNOGAETH

Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)les yn cael ei rhoi—

(i)gan gorff cymwys, neu

(ii)yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd,

(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac

(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;

(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;

(c)bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;

(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—

(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu

(ii)swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;

(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—

(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu

(ii)y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;

y cyfrifir y premiwm ar ei sail.

(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).

(5)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.

(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.

Les ranberchnogaeth: trosglwyddo rifersiwn pan ddewisir triniaeth gwerth marchnadol

4Mae trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau les y mae paragraff 3 yn gymwys iddi (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 3, a

(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les.

Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol ar gyfer premiwm pan ganiateir cynyddu perchentyaeth

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)les yn cael ei rhoi—

(i)gan gorff cymwys, neu

(ii)yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd,

(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac

(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;

(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;

(c)bod rhaid i’r les ddarparu y caiff y tenant, ar ôl talu swm, ei gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng;

(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—

(i)y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored am roi les sy’n cynnwys yr un telerau â’r les ond gan roi’r isafswm rhent yn lle’r rhent sy’n daladwy o dan y les, neu

(ii)swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw;

(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o’r isafswm rhent ynghyd ag—

(i)y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored, neu

(ii)y swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw,

y cyfrifir y premiwm ar ei sail.

(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—

(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(4)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les ar wahân i rent yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “isafswm rhent” yw’r rhent isaf a allai ddod yn daladwy o dan y les pe bai’n cael ei hamrywio fel a grybwyllir yn is-baragraff (2)(c) ar y dyddiad y rhoddir y les.

Les ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaeth

6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan les ranberchnogaeth—

(a)y tenant â’r hawl, ar ôl talu swm, i’w gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng, a

(b)y tenant, drwy arfer yr hawl honno, yn caffael buddiant, yn ychwanegol at un a ddelir eisoes, a gyfrifir ar sail gwerth marchnadol yr annedd ac a fynegir fel canran o’r annedd honno neu ei gwerth (“cyfran o’r annedd”).

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) neu baragraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les wedi ei thalu, neu

(b)os nad yw, yn union ar ôl y caffaeliad, gyfanswm cyfran y tenant o’r annedd yn fwy nag 80%.

(3)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at werth marchnadol yr annedd.

Les ranberchnogaeth: rhoi les a thrafodiadau cynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiol

7At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi wrth roi les ranberchnogaeth ar gyfer annedd, mae rhoi’r les i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—

(a)unrhyw gaffaeliad buddiant yn yr annedd y mae paragraff 6 yn gymwys iddo, na

(b)trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau’r les.

Rhent i les ranberchnogaeth: y swm y codir treth arno

8(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i les ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ystyr “cynllun rhent i les ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant y mae corff cymwys, oddi tano—

(a)yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu i bersonau (“y tenantiaid”), a

(b)yn rhoi, wedi hynny, les ranberchnogaeth ar gyfer yr annedd neu annedd arall i’r tenant neu i un neu ragor o’r tenantiaid.

(3)Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—

(a)rhoi’r contract meddiannaeth;

(b)rhoi’r les ranberchnogaeth;

(c)unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.

(4)At ddibenion pennu’r dyddiad y mae rhoi’r les ranberchnogaeth yn cael effaith, mae’r ffaith fod y tenant neu’r tenantiaid yn meddiannu’r annedd o dan y contract meddiannaeth i’w diystyru.

(5)Yn y paragraff hwn, mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).

Lesoedd rhanberchnogaeth: dehongli

9(1)At ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, ystyr “les ranberchnogaeth” yw les a roddir—

(a)gan gorff cymwys, neu

(b)yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd,

y bodlonir yr amodau ym mharagraff 3(2) neu 5(2) mewn perthynas â hi.

(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i baragraffau 3 i 8.

(3)Ystyr “corff cymwys” yw—

(a)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

(b)cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

(4)Rhoddir les yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd—

(a)os yw’r gwerthwr yn berson y mae’r hawl i brynu o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) yn arferadwy yn ei erbyn yn rhinwedd adran 171A o’r Ddeddf honno (cadw’r hawl i brynu wrth waredu i landlord sector preifat),

(b)os y tenant yw’r person cymwys at ddibenion yr hawl i brynu a gadwyd, ac

(c)os yw’r les ar gyfer annedd sydd y tŷ annedd cymwys mewn perthynas â’r prynwr.

(5)Yn is-baragraff (4), mae i “person cymwys” a “tŷ annedd cymwys” yr ystyron a roddir i “qualifying person” a “qualifying dwelling-house” gan adran 171B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68).

RHAN 4YMDDIRIEDOLAETHAU RHANBERCHNOGAETH

Ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: ystyr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth a thermau allweddol eraill

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i baragraffau 11 i 17.

(2)Ystyr “ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw ymddiriedolaeth tir o fewn yr ystyr a roddir i “trust of land” gan adran 1 o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn.

(3)Amod 1 yw bod eiddo’r ymddiriedolaeth—

(a)yn annedd, a

(b)yng Nghymru.

(4)Amod 2 yw bod un o’r buddiolwyr (“y landlord cymdeithasol”) yn gorff cymwys.

(5)Amod 3 yw bod telerau’r ymddiriedolaeth—

(a)yn darparu y caiff un neu ragor o’r buddiolwyr unigol (“y prynwr”), a neb arall, ddefnyddio eiddo’r ymddiriedolaeth fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliad cychwynnol i’r landlord cymdeithasol (“y cyfalaf cychwynnol”),

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliadau ychwanegol i’r landlord cymdeithasol ar ffurf taliadau digolledu o dan adran 13(6)(a) o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (“y taliadau cyfwerth â rhent”),

(d)yn galluogi’r prynwr i wneud taliadau ychwanegol eraill i’r landlord cymdeithasol (“taliadau caffael ecwiti”),

(e)yn pennu buddiannau llesiannol cychwynnol y landlord cymdeithasol a’r prynwr y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar eu sail,

(f)yn pennu swm, sy’n gyfwerth neu’n gysylltiedig â gwerth marchnadol yr annedd, y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar ei sail, ac

(g)yn darparu y bydd buddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth yn cynyddu, a buddiant llesiannol y landlord cymdeithasol yn lleihau neu’n cael ei ddiddymu, wrth i daliadau caffael ecwiti gael eu gwneud.

(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.

(7)Yn Amod 1, mae “annedd” yn cynnwys tir sydd i’w ddefnyddio i adeiladu annedd.

(8)Yn Amod 2, ystyr “corff cymwys” yw—

(a)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

(b)cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: y prynwr

11At ddibenion y Ddeddf hon, y person neu’r personau a ddynodir fel y prynwr yn unol â pharagraff 10, ac nid y landlord cymdeithasol nac unrhyw fuddiolwr arall, sydd i’w drin (neu i’w trin) fel prynwyr eiddo’r ymddiriedolaeth.

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a

(b)pan fo’r prynwr yn gwneud dewis o dan y paragraff hwn.

(2)O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—

(a)rhaid i hynny gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(3)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yw’r swm a nodir yn unol â pharagraff 10(5)(f), a

(b)rhaid diystyru’r taliadau cyfwerth â rhent.

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trosglwyddo buddiant pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i ben

13Mae trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i ben wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 12, a

(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth.

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaeth

14(1)Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, i’w ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis am ryddhad o dan baragraff 12, a

(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth.

(2)Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, hefyd i’w ryddhau rhag treth os nad yw buddiant llesiannol y prynwr, yn dilyn y cynnydd, yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trin taliadau ychwanegol pan na wneir dewis

15Pan na wnaed dewis o dan baragraff 12 mewn cysylltiad ag ymddiriedolaeth ranberchnogaeth—

(a)mae’r cyfalaf cychwynnol i’w drin fel cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a

(b)mae unrhyw daliad cyfwerth â rhent gan y prynwr i’w drin fel taliad rhent.

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: datganiad a chynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiol

16At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, mae’r datganiad i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—

(a)unrhyw daliad caffael ecwiti o dan yr ymddiriedolaeth nac unrhyw gynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth o ganlyniad i hynny, na

(b)trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben.

Rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: y swm y codir treth arno

17(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ystyr “cynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant pan fo, oddi tano—

(a)corff cymwys yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu bersonau (“y tenantiaid”), a

(b)y tenant, neu un neu ragor o’r tenantiaid, yn dod wedi hynny yn brynwr yr annedd, neu annedd arall, o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth y mae’r corff cymwys yn landlord cymdeithasol oddi tani.

(3)Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—

(a)rhoi’r contract meddiannaeth,

(b)datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, ac

(c)unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.

(4)Yn y paragraff hwn mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).

RHAN 5RHENT I FORGAIS

Rhent i forgais: cydnabyddiaeth drethadwy

18(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad rhent i forgais yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ystyr trafodiad rhent i forgais yw—

(a)trosglwyddo annedd i berson, neu

(b)rhoi les ar gyfer annedd i berson,

yn unol â’r ffaith fod y person hwnnw yn arfer yr hawl i gaffael ar delerau rhent i forgais o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68).

(3)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad rhent i forgais yn gyfwerth â’r pris a fyddai’n daladwy yn rhinwedd adran 126 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68), ar gyfer—

(a)trosglwyddo’r annedd i’r person pan fo’r trafodiad rhent i forgais yn drosglwyddiad, neu

(b)rhoi les ar gyfer yr annedd i’r person pan fo’r trafodiad rhent i forgais yn achos o roi les,

os oedd y prynwr yn arfer yr hawl i brynu o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno.

RHAN 6RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL GAN LANDLORDIAID CYMDEITHASOL COFRESTREDIG

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

19(1)Mae trafodiad tir y mae’r prynwr oddi tano yn landlord cymdeithasol cofrestredig wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os caiff y landlord cymdeithasol cofrestredig ei reoli gan ei denantiaid,

(b)os yw’r gwerthwr yn gorff cymwys, neu

(c)os defnyddir cymhorthdal cyhoeddus i ariannu’r trafodiad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n cael “ei reoli gan ei denantiaid” yn gyfeiriad at landlord cymdeithasol cofrestredig y mae mwyafrif aelodau ei fwrdd yn denantiaid sy’n meddiannu eiddo y mae’r darparwr tai cymwys yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.

(3)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “aelod o’r bwrdd” (“board member”), mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig—

    (a)

    os yw’n gwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni,

    (b)

    os yw’n gorff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, yw aelod,

    (c)

    os yw’n gorff o ymddiriedolwyr, yw ymddiriedolwr, neu

    (d)

    os nad yw o fewn paragraffau (a) i (c), yw aelod o’r pwyllgor rheoli neu o gorff arall sy’n gyfrifol am gyfarwyddo materion y landlord cymdeithasol cofrestredig;

  • ystyr “corff cymwys” (“qualifying body”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    (a)

    landlord cymdeithasol cofrestredig;

    (b)

    ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50);

    (c)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);

    (d)

    cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o’r Ddeddf honno;

    (e)

    Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “cymhorthdal cyhoeddus” (“public subsidy”) yw unrhyw grant neu gymorth ariannol arall—

    (a)

    a wneir neu a roddir ar ffurf dosbarthiad yn unol ag adran 25 o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 (p. 39) (cymhwyso arian gan gyrff dosbarthu),

    (b)

    a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (grantiau tai cymdeithasol), neu

    (c)

    o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53) (cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch y rhyddhad sydd ar gael ar gyfer trafodiadau penodol pan fo’r gwerthwr a’r prynwr yn gwmnïau sy’n aelodau o’r un grŵp.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael ac yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r Atodlen hon,

(b)mae Rhan 3 yn cyfyngu ar argaeledd y rhyddhad,

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch tynnu’r rhyddhad yn ôl, a

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill treth nas talwyd gan bersonau penodol.

RHAN 2Y RHYDDHAD

Rhyddhad grŵp

2(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r gwerthwr a’r prynwr yn gwmnïau sy’n aelodau o’r un grŵp ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at ryddhad o dan y paragraff hwn fel “rhyddhad grŵp”.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 4 (cyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp) a pharagraffau 8 a 12 (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl).

Rhyddhad grŵp: dehongli

3(1)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys at ddibenion rhyddhad grŵp.

(2)Ystyr “cwmni” yw corff corfforaethol.

(3)Mae cwmnïau yn aelodau o’r un grŵp os yw un yn is-gwmni 75% i’r llall neu os yw’r ddau yn is-gwmnïau 75% i drydydd cwmni.

(4)Mae cwmni (“cwmni A”) yn is-gwmni 75% i gwmni arall (“cwmni B”)—

(a)os yw cwmni B yn berchennog llesiannol ar ddim llai na 75% o gyfalaf cyfranddaliadau cyffredin cwmni A,

(b)os oes gan gwmni B hawl lesiannol i ddim llai na 75% o unrhyw elw sydd ar gael i’w ddosbarthu i ddeiliaid ecwiti cwmni A, ac

(c)pe bai gan gwmni B hawl lesiannol i ddim llai na 75% o unrhyw asedau cwmni A sydd ar gael i’w dosbarthu i’w ddeiliaid ecwiti mewn achos o ddirwyn i ben.

(5)At ddibenion is-baragraff (4)(a)—

(a)y berchnogaeth y cyfeirir ati yw perchnogaeth naill ai’n uniongyrchol neu drwy gwmni arall neu gwmnïau eraill, a

(b)mae swm cyfalaf cyfranddaliadau cyffredin cwmni A y mae cwmni B yn berchen arno drwy gwmni arall neu gwmnïau eraill i’w bennu yn unol ag adrannau 1155 i 1157 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(6)Yn is-baragraffau (4)(a) a (5)(b), ystyr “cyfalaf cyfranddaliadau cyffredin”, mewn perthynas â chwmni, yw holl gyfalaf cyfranddaliadau dyroddedig (o ba enw bynnag) y cwmni, ac eithrio cyfalaf y mae gan ei ddeiliaid hawl i ddifidend arno ar gyfradd benodedig ond heb unrhyw hawl arall i rannu yn elw’r cwmni.

(7)Mae Pennod 6 o Ran 5 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (rhyddhad grŵp: deiliaid ecwiti ac elw neu asedau sydd ar gael i’w dosbarthu) yn gymwys at ddibenion is-baragraff (4)(b) ac (c) fel y mae’n gymwys at ddibenion adran 151(4)(a) a (b) o’r Ddeddf honno.

(8)Ond mae adrannau 171(1)(b) a (3), 173, 174 a 176 i 178 o’r Ddeddf honno i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor at ddibenion is-baragraff (4)(b) ac (c).

RHAN 3CYFYNGIADAU AR ARGAELEDD RHYDDHAD

Cyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp

4(1)Nid yw rhyddhad grŵp ar gael os oes trefniadau ar waith, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, sy’n golygu—

(a)bod gan berson neu y gallai person gael, ar yr adeg honno neu ar ryw adeg ddiweddarach, reolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr, neu

(b)bod gan unrhyw bersonau neu y gallai unrhyw bersonau gael, gyda’i gilydd, ar yr adeg honno neu ar ryw adeg ddiweddarach, reolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i drefniadau yr ymrwymir iddynt gyda’r nod o gaffael cyfranddaliadau gan gwmni (“y cwmni caffael”)—

(a)y bydd adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) (y dreth stamp: rhyddhad caffael) yn gymwys iddo,

(b)y bydd yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan yr adran honno yn cael eu bodloni mewn perthynas ag ef, ac

(c)y bydd y prynwr, o ganlyniad iddo, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael.

(3)Nid yw rhyddhad grŵp ar gael os rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â threfniadau, neu mewn cysylltiad â threfniadau pan fo—

(a)y gydnabyddiaeth, neu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, ar gyfer y trafodiad i’w darparu neu i’w derbyn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp, neu

(b)y gwerthwr a’r prynwr i beidio â bod yn aelodau o’r un grŵp am fod y prynwr yn peidio â bod yn is-gwmni 75% i’r gwerthwr neu i drydydd cwmni.

(4)Mae trefniadau o fewn is-baragraff (3)(a)—

(a)os yw’r gwerthwr neu’r prynwr, neu un arall o gwmnïau’r grŵp, i gael ei alluogi i ddarparu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, neu i roi’r gorau i unrhyw ran ohoni, drwy wneud neu o ganlyniad i wneud trafodiad neu drafodiadau, a

(b)os yw’r trafodiad neu’r trafodiadau, neu unrhyw rai ohonynt, yn cynnwys taliad neu warediad arall gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp.

(5)Yn is-baragraffau (3)(a) a (b), ystyr “un o gwmnïau’r grŵp” yw cwmni sydd, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr neu’r prynwr.

(6)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “rheolaeth” yr ystyr a roddir i “control” gan adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);

  • mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 5 a 6 (trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4).

Trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4: cwmnïau cyd-fenter

5(1)Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni cyd-fenter y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—

(a)os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau o fewn is-baragraff (2), a

(b)os na fu, a chyhyd na fu, unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3) y mae’r trefniadau’n ymwneud â hwy.

(2)Mae trefniadau o fewn yr is-baragraff hwn os ydynt—

(a)yn gytundeb sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter i un aelod neu ragor o’r cwmni hwnnw pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3), neu o ganlyniad i hynny, neu

(b)yn ddarpariaeth yn un o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter sy’n darparu ar gyfer atal dros dro hawliau pleidleisio aelod pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol hynny, neu o ganlyniad i hynny.

(3)Y digwyddiadau dibynnol y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1)(b) a (2) yw—

(a)ymadawiad aelod yn wirfoddol,

(b)cychwyn trafodiadau datod, gweinyddu, derbynyddiad gweinyddol neu dderbynyddiad ar gyfer aelod, neu aelod yn ymrwymo i drefniant gwirfoddol, o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45) neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989 (O.S.1989/2405 (G.I.19)) neu gychwyn, neu ymrwymo i, achos neu drefniadau cyfatebol o dan gyfraith unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

(c)dirywiad difrifol yng nghyflwr ariannol aelod,

(d)rheolaeth dros aelod yn newid,

(e)methiant ar ran aelod i gyflawni ei rwymedigaethau o dan unrhyw gytundeb rhwng yr aelodau neu â’r cwmni cyd-fenter (sydd, at y diben hwn, yn cynnwys unrhyw un neu ragor o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter),

(f)newid allanol yn yr amgylchiadau masnachol y mae’r cwmni cyd-fenter yn gweithredu ynddynt i’r graddau bod bygythiad i’w hyfywedd,

(g)anghytundeb heb ei ddatrys rhwng yr aelodau, a

(h)unrhyw ddigwyddiad dibynnol tebyg i’r rhai a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g) y darperir ar ei gyfer, ond na fwriadwyd iddo ddigwydd, pan ymrwymwyd i’r trefniadau o dan sylw.

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pe gallai aelod, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad—

(a)trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau, neu

(b)atal dros dro hawliau pleidleisio aelod,

cyn un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol.

(5)At ddibenion is-baragraff (4), nid yw aelodau yn gysylltiedig â’i gilydd yn unig oherwydd eu bod yn aelodau o’r cwmni cyd-fenter.

(6)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “aelod” (“member”) yw deiliad cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter;

  • ystyr “cwmni cyd-fenter” (“joint venture company”) yw cwmni—

    (a)

    sydd â dau neu ragor o aelod-gwmnïau, a

    (b)

    sy’n ymgymryd â gweithgarwch masnachol a lywodraethir gan gytundeb sy’n rheoleiddio materion ei aelodau;

  • ystyr “dogfen gyfansoddiadol” (“constitutional document”) yw memorandwm cymdeithasu, erthyglau cymdeithasu neu unrhyw ddogfen arall debyg sy’n rheoleiddio materion y cwmni cyd-fenter.

Trefniadau morgais penodol nad ydynt o fewn paragraff 4

6(1)Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—

(a)os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau yn forgais, a sicrheir gan gyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni, sydd yn achos drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad arall yn caniatáu i’r morgeisai arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr, a

(b)os nad yw, a chyhyd nad yw, y morgeisai wedi arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

(2)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r morgeisai yn meddu ar fwy o hawliau mewn cysylltiad â’r cyfranddaliadau neu’r gwarannau y mae’r morgais yn ymwneud â hwy nag y bo’n ofynnol ganddo er mwyn gwarchod ei fuddiant fel morgeisai, neu

(b)pe gallai’r morgeisai, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad y drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad sy’n caniatáu iddo arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

(3)At ddibenion is-baragraff (2)(b), nid yw morgeisai, yn unig oherwydd y morgais, yn gysylltiedig â chwmni y mae’r morgais yn ymwneud â’i gyfranddaliadau neu ei warannau.

(4)Yn y paragraff hwn ystyr “morgais”—

(a)yng Nghymru a Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon, yw unrhyw arwystl cyfreithiol neu ecwitïol, a

(b)yn yr Alban, yw unrhyw hawl sicrhad.

RHAN 4TYNNU RHYDDHAD YN ÔL

Dehongli: trafodiad a ryddheir

7Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, cyfeirir at drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd paragraff 2 (rhyddhad grŵp) fel “trafodiad a ryddheir”.

Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl

8(1)Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, mae rhyddhad grŵp wedi ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad a ryddheir, neu gyfran briodol ohono, ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys, yn achos trafodiad a ryddheir—

(a)pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—

(i)a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(3)Y swm sydd i’w godi yw’r dreth y byddid wedi ei chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad a ryddheir oni bai am ryddhad grŵp pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn swm cyfwerth ag⁠—

(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad, a

(b)os rhoi les am rent oedd y caffaeliad, y rhent hwnnw,

neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r dreth y byddid wedi ei chodi.

(4)Yn is-baragraffau (1) a (3), ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i destun y trafodiad a ryddheir a’r hyn y mae’r cwmni sy’n drosglwyddai neu, yn ôl y digwydd, y cwmni hwnnw a’i gwmnïau cyswllt perthnasol yn ei ddal ar yr adeg berthnasol.

(5)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “cwmni cyswllt perthnasol” (“relevant associated company”), mewn cysylltiad â’r prynwr, yw cwmni—

    (a)

    sy’n aelod o’r un grŵp â’r prynwr yn union cyn i’r prynwr beidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr, a

    (b)

    sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod;

  • mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 9 ac 10 (achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl) a pharagraff 12 (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol).

Achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl

9(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 yn yr achosion a ganlyn.

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

(a)o ganlyniad i unrhyw beth a wneir at ddibenion, neu yng nghwrs, dirwyn i ben y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, neu

(b)am fod y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp yn peidio â bodoli fel arall.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.

(4)Yr ail achos yw—

(a)pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith fod cwmni arall (“y cwmni caffael”) wedi caffael cyfranddaliadau a bod, mewn perthynas â’r caffaeliad—

(i)adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) yn gymwys (y dreth stamp: rhyddhad caffael), a

(ii)yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan yr adran honno wedi eu bodloni, a

(b)bod y prynwr, yn union ar ôl y caffaeliad hwnnw, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael.

(5)Ond mewn achos sydd o fewn is-baragraff (4), mae is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)os yw’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael, os yw’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—

(i)a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(6)Mae darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr.

(7)Yn is-baragraff (5)—

  • ystyr “cwmni cyswllt perthnasol” (“relevant associated company”), mewn perthynas â’r prynwr, yw cwmni sy’n aelod o’r un grŵp â’r prynwr sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael o ganlyniad i’r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod;

  • mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl pan fo gwerthwr yn gadael grŵp

10(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr am fod y gwerthwr yn gadael y grŵp.

(2)Ystyrir bod y gwerthwr yn gadael y grŵp os yw’r cwmnïau yn peidio â bod yn aelodau o’r un grŵp oherwydd trafodiad sy’n ymwneud â chyfranddaliadau—

(a)yn y gwerthwr, neu

(b)mewn cwmni arall—

(i)sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, a

(ii)sydd, o ganlyniad i’r trafodiad, yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr.

(3)At ddiben is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.

(4)Ond os yw rheolaeth dros y prynwr yn newid ar ôl i’r gwerthwr adael y grŵp, mae paragraffau 8, 9(4) a (6), 13 a 14 yn cael effaith fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (ond gweler is-baragraff (7)).

(5)At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros y prynwr yn newid os yw—

(a)person sydd â rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,

(b)person yn cael rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu

(c)y prynwr yn cael ei ddirwyn i ben.

(6)At ddibenion is-baragraff (5), nid oes gan berson (“P”) reolaeth dros y prynwr, ac nid yw’n cael rheolaeth dros y prynwr, os oes gan berson arall neu bersonau eraill reolaeth dros P.

(7)Nid yw is-baragraff (4) yn gymwys pan fo—

(a)rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a

(b)y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.

(8)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at “rheolaeth” i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (yn ddarostyngedig i is-baragraff (6)).

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o ganlyniad i drosglwyddiadau penodol busnes etc. gan gymdeithasau cydfuddiannol

11(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8—

(a)pan fo trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad,

(b)pan fu trafodiad a ryddheir cyn dyddiad y trosglwyddiad perthnasol, ac

(c)o ganlyniad i’r trosglwyddiad hwnnw, pan fo’r prynwr yn y trafodiad a ryddheir yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad” yw—

(a)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 10(1)(a) a (b) o Atodlen 22 (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau adeiladu);

(b)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraffau 11(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cyfeillgar);

(c)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 12(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol neu undebau credyd).

Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol

12(1)Yn achos trafodiad a ryddheir—

(a)pan fo rheolaeth dros y prynwr yn newid,

(b)pan fo’r newid hwnnw yn digwydd—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy,

(c)pe na byddai rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir, oni bai am y paragraff hwn, yn cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8, a

(d)pan fo unrhyw drafodiad blaenorol yn dod o fewn is-baragraff (3),

mae paragraffau 8, 9 ac 10 yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir fel pe bai’r gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf sydd o fewn is-baragraff (3) yn werthwr yn y trafodiad a ryddheir.

(2)Mae is-baragraff (1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (6).

(3)Mae trafodiad blaenorol o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os yw’r trafodiad blaenorol yn drafodiad a ryddheir neu os yw wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael),

(b)os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith lai na 3 blynedd cyn dyddiad y digwyddiad sydd o fewn is-baragraff (1)(a),

(c)os yw’r buddiant trethadwy a gaffaelir o dan y trafodiad a ryddheir gan y prynwr yn y trafodiad hwnnw yr un fath â’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad blaenorol gan y prynwr yn y trafodiad blaenorol, neu’n ei ffurfio, yn ffurfio rhan ohono, neu’n deillio ohono, a

(d)os nad yw, ers y trafodiad blaenorol, y buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad hwnnw wedi ei gaffael gan unrhyw berson mewn trafodiad nad yw’n drafodiad a ryddheir nac wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael).

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros gwmni yn newid os yw—

(a)unrhyw berson sydd â rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,

(b)person yn cael rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu

(c)y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben.

(5)Mae cyfeiriadau at “rheolaeth” yn y paragraff hwn i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(6)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo—

(a)rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a

(b)y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.

(7)Os dau drafodiad neu ragor y rhoddwyd effaith iddynt ar yr un pryd yw’r trafodiadau blaenorol cynharaf o fewn is-baragraff (3), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at y gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf yn gyfeiriad at y personau sy’n werthwyr yn y trafodiadau blaenorol cynharaf.

(8)Yn y paragraff hwn, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

RHAN 5ADENNILL RHYDDHAD GAN BERSONAU PENODOL

Adennill rhyddhad grŵp gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gan gyfarwyddwr â rheolaeth

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo treth i’w chodi o dan baragraff (8) (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl),

(b)pan fo’r swm sydd i’w godi felly wedi ei bennu’n derfynol, ac

(c)pan na fo’r holl swm neu ran o’r swm sydd i’w godi felly wedi ei dalu 6 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn daladwy.

(2)Gall fod yn ofynnol i’r personau a ganlyn, drwy hysbysiad o dan baragraff 14, dalu’r dreth nas talwyd (ynghyd ag unrhyw log sy’n daladwy)—

(a)y gwerthwr;

(b)unrhyw gwmni a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr ac a oedd uwchlaw iddo yn strwythur y grŵp;

(c)unrhyw berson a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn gyfarwyddwr â rheolaeth dros y prynwr neu’n gwmni â rheolaeth dros y prynwr.

(3)At ddibenion is-baragraff (2)(b)—

(a)ystyr “adeg berthnasol” yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith a phan fydd y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr;

(b)mae cwmni (“cwmni A”) “uwchlaw” cwmni arall (“cwmni B”) o fewn strwythur grŵp os yw cwmni B, neu gwmni arall sydd uwchlaw cwmni B yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i gwmni A.

(4)Yn is-baragraff (2)(c)—

(5)At ddibenion y paragraff hwn, nid yw hawliad wedi ei bennu’n derfynol hyd na ellir amrywio—

(a)yr hawliad, neu

(b)y swm y mae’n ymwneud ag ef,

mwyach (boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).

Adennill rhyddhad grŵp: atodol

14(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad i berson sydd o fewn paragraff 13(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm sy’n parhau heb ei dalu cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(2)Rhaid dyroddi hysbysiad o dan is-baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad pennu’r swm terfynol a grybwyllir ym mharagraff 13(1)(b).

(3)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person y dyroddir yr hysbysiad iddo ei dalu.

(4)Mae’r swm hwnnw yn “swm perthnasol” sy’n daladwy gan y person y dyroddir yr hysbysiad iddo at ddibenion Rhan 7 o DCRhT (talu a gorfodi).

(5)Caiff person sydd wedi talu swm yn unol â hysbysiad o dan y paragraff hwn adennill y swm hwnnw gan y prynwr.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 17RHYDDHAD ATGYFANSODDI A RHYDDHAD CAFFAEL

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt yn unol â chynllun atgyfansoddi,

(b)mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer swm y dreth sydd i’w godi pan ymrwymir i drafodiad tir mewn cysylltiad â chwmni sy’n caffael holl ymgymeriad cwmni arall, neu ran ohono,

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael, a

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill treth nas talwyd gan bersonau penodol.

RHAN 2RHYDDHAD ATGYFANSODDI

Rhyddhad atgyfansoddi

2(1)Pan fo—

(a)cwmni (“y cwmni caffael”) yn caffael holl ymgymeriad cwmni arall (“y cwmni targed”), neu ran o’i ymgymeriad, yn unol â chynllun i atgyfansoddi’r cwmni targed, a

(b)yr amod cyntaf a’r ail amod a bennir isod wedi eu bodloni,

mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion trosglwyddo ymgymeriad neu ran o ymgymeriad, neu mewn cysylltiad â hynny, wedi ei ryddhau rhag treth.

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at ryddhad o dan y paragraff hwn fel “rhyddhad atgyfansoddi”.

(3)Yr amod cyntaf yw bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy yn y cwmni caffael i holl gyfranddalwyr y cwmni targed.

(4)Pan fo’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy, ni fodlonir yr amod hwnnw oni bai bod gweddill y gydnabyddiaeth yn llwyr ar ffurf ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau’r cwmni targed gan y cwmni caffael.

(5)Yn is-baragraffau (3) a (4), ystyr “cyfranddaliadau anatbrynadwy” yw cyfranddaliadau nad ydynt yn gyfranddaliadau atbrynadwy.

(6)Yr ail amod yw bod, ar ôl i’r caffaeliad gael ei wneud—

(a)pob cyfranddaliwr ym mhob un o’r cwmnïau yn gyfranddaliwr yn y cwmni arall, a

(b)y gyfran o gyfranddaliadau un o’r cwmnïau sy’n cael ei dal gan unrhyw gyfranddaliwr yr un fath, neu bron iawn yn union yr un fath, â’r gyfran o gyfranddaliadau sy’n cael ei dal gan y cyfranddaliwr hwnnw yn y cwmni arall.

(7)Os yw’r cwmni targed neu’r cwmni caffael, yn union cyn y caffaeliad, yn dal unrhyw un neu ragor o’i gyfranddaliadau ei hun, mae’r cyfranddaliadau i’w trin at ddibenion is-baragraffau (3) a (6) fel pe baent wedi eu canslo cyn y caffaeliad (ac felly, mae’r cwmni i’w drin fel pe na bai’n gyfranddaliwr ynddo’i hun).

(8)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 5 (tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).

RHAN 3RHYDDHAD CAFFAEL

Rhyddhad caffael

3(1)Pan fo—

(a)cwmni (“y cwmni caffael”) yn caffael holl ymgymeriad cwmni arall (“y cwmni targed”) neu ran o’i ymgymeriad, a

(b)pob un o’r amodau a bennir isod wedi eu bodloni,

mae swm y dreth sydd i’w godi ar drafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion neu mewn cysylltiad â throsglwyddo’r ymgymeriad neu’r rhan o ymgymeriad wedi ei gyfyngu i 0.5% o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (neu unrhyw gyfran arall o’r gydnabyddiaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan y paragraff hwn.)

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at ryddhad o dan y paragraff hwn fel “rhyddhad caffael”.

(3)Yr amod cyntaf yw bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy yn y cwmni caffael—

(a)i’r cwmni targed, neu

(b)i holl gyfranddalwyr y cwmni targed, neu i unrhyw un neu ragor ohonynt.

(4)Pan fo’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy, ni fodlonir yr amod hwnnw oni bai bod gweddill y gydnabyddiaeth yn llwyr ar ffurf—

(a)arian parod heb fod uwchlaw 10% o werth nominal y cyfranddaliadau anatbrynadwy a ddyroddir felly,

(b)y cwmni caffael yn ysgwyddo neu’n cyflawni rhwymedigaethau’r cwmni targed, neu

(c)y ddau beth hynny.

(5)Yn is-baragraffau (3) a (4), ystyr “cyfranddaliadau anatbrynadwy” yw cyfranddaliadau nad ydynt yn gyfranddaliadau atbrynadwy.

(6)Yr ail amod yw nad oes cyswllt rhwng y cwmni caffael a chwmni arall sy’n barti i drefniadau gyda’r cwmni targed yn ymwneud â chyfranddaliadau’r cwmni caffael a ddyroddir mewn cysylltiad â throsglwyddo’r ymgymeriad neu’r rhan o ymgymeriad.

(7)At y diben hwn, mae cyswllt rhwng cwmnïau os oes gan un reolaeth dros y llall neu os caiff y naill a’r llall eu rheoli gan yr un person neu bersonau; ac mae’r cyfeiriad at “rheolaeth” i’w ddehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(8)Y trydydd amod yw mai prif weithgaredd yr ymgymeriad neu’r rhan o ymgymeriad a gaffaelir gan y cwmni caffael yw cynnal masnach nad yw’n llwyr neu’n bennaf ar ffurf delio mewn buddiannau trethadwy.

(9)Yn is-baragraff (8), mae i “masnach” yr un ystyr â “trade” yn adran 1119 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(10)Yn y paragraff hwn, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw drefniant neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

(11)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 5 (tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).

RHAN 4TYNNU’N ÔL RYDDHAD ATGYFANSODDI NEU RYDDHAD CAFFAEL

Dehongli

4Yn y Rhan hon ac yn Rhan 5 o’r Atodlen hon, cyfeirir at drafodiad—

(a)sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd rhyddhad atgyfansoddi, neu

(b)y mae treth i’w chodi arno yn unol â pharagraff 3 (rhyddhad caffael),

fel “trafodiad a ryddheir”.

Tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael

5(1)Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, mae rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael mewn perthynas â thrafodiad a ryddheir, neu gyfran briodol ohono, wedi ei dynnu’n ôl ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â threfniadau o’r fath, a

(b)ar yr adeg y mae rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid (“yr adeg berthnasol”), y cwmni hwnnw neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—

(i)a gaffaelwyd gan y cwmni caffael o dan y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(3)Y swm sydd i’w godi yw’r dreth y byddid wedi ei chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad a ryddheir oni bai am ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn swm cyfwerth ag—

(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad, a

(b)os rhoi les am rent oedd y caffaeliad, y rhent hwnnw,

neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r dreth y byddid wedi ei chodi.

(4)Yn is-baragraffau (1) a (3), ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i destun y trafodiad a ryddheir a’r hyn y mae’r cwmni caffael neu, yn ôl y digwydd, y cwmni hwnnw ac unrhyw gwmnïau cyswllt perthnasol yn ei ddal ar yr adeg berthnasol.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “cwmni cyswllt perthnasol”, mewn perthynas â’r cwmni caffael, yw cwmni—

(a)sydd dan reolaeth y cwmni caffael yn union cyn bod rheolaeth dros y cwmni hwnnw yn newid, a

(b)y mae rheolaeth drosto yn newid o ganlyniad i’r newid yn rheolaeth y cwmni hwnnw.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio;

(b)mae “rheolaeth” i’w ddehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);

(c)mae cyfeiriadau at reolaeth dros gwmni yn newid yn gyfeiriadau at y cwmni yn dod i gael ei reoli—

(i)gan berson gwahanol,

(ii)gan nifer gwahanol o bersonau, neu

(iii)gan ddau neu ragor o bersonau nad yw o leiaf un ohonynt y person, neu un o’r personau, a oedd â rheolaeth dros y cwmni yn flaenorol.

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 6 (achosion pan na chaiff rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ei dynnu’n ôl).

Achosion pan na chaiff rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ei dynnu’n ôl

6(1)Ni chaiff rhyddhad atgyfansoddi na rhyddhad caffael ei dynnu’n ôl o dan baragraff 5 yn yr achosion a ganlyn.

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drafodiad cyfranddaliadau sy’n cael effaith fel a grybwyllir—

(a)yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o baragraff 3 o Atodlen 3 (trafodiadau mewn cysylltiad ag ysgariad etc.), neu

(b)yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o baragraff 4 o’r Atodlen honno (trafodiadau mewn cysylltiad â diddymu partneriaeth sifil etc.).

(3)Yr ail achos yw pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drafodiad cyfranddaliadau—

(a)sy’n cael effaith fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) o baragraff 6 o Atodlen 3 (amrywio gwarediadau testamentaidd etc.), a

(b)sy’n bodloni’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw.

(4)Y trydydd achos yw pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drosglwyddiad esempt oddi mewn i’r grŵp.

(5)Ystyr “trosglwyddiad esempt oddi mewn i’r grŵp” yw trosglwyddo cyfranddaliadau sy’n cael effaith yn sgil offeryn sydd wedi ei esemptio rhag treth stamp yn rhinwedd adran 42 o Ddeddf Cyllid 1930 (p. 28) neu adran 11 o Ddeddf Cyllid (Gogledd Iwerddon) 1954 (p. 23 (G.I.)) (trosglwyddiadau rhwng cyrff corfforaethol cyswllt).

(6)Ond gweler paragraff 7 (tynnu rhyddhad yn ôl yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt).

(7)Y pedwerydd achos yw pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drosglwyddo cyfranddaliadau i gwmni arall y mae rhyddhad caffael cyfranddaliadau yn gymwys iddo.

(8)Ystyr “rhyddhad caffael cyfranddaliadau” yw rhyddhad o dan adran 77 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) ac mae trosglwyddiad yn un y mae’r rhyddhad hwnnw yn gymwys iddo os yw offeryn sy’n rhoi effaith i’r trosglwyddiad yn esempt rhag treth stamp yn rhinwedd y ddarpariaeth honno.

(9)Ond gweler paragraff 7 (tynnu rhyddhad yn ôl yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt).

(10)Y pumed achos yw pan fo—

(a)rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i gredydwr benthyciadau yn dod i gael ei drin, neu’n peidio â chael ei drin, fel pe bai ganddo reolaeth dros y cwmni, a

(b)y personau eraill a oedd yn cael eu trin fel pe bai ganddynt reolaeth dros y cwmni cyn hynny yn parhau i gael eu trin felly.

(11)Mae i “credydwr benthyciadau” yma yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

Tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt

7(1)Mae rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael mewn perthynas â thrafodiad a ryddheir, neu gyfran briodol ohono, wedi ei dynnu’n ôl ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn yn yr achosion a ganlyn.

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo paragraff 6(4) (rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drosglwyddiad esempt oddi mewn i’r grŵp) yn cael effaith er mwyn atal tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid, ond—

(a)bod cwmni sy’n dal cyfranddaliadau yn y cwmni caffael yr oedd y trosglwyddiad esempt oddi mewn i’r grŵp yn berthnasol iddo, neu sy’n deillio o gyfranddaliadau yr oedd y trosglwyddiad hwnnw yn berthnasol iddynt, yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni targed—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)bod y cwmni caffael neu gwmni cyswllt perthnasol, ar yr adeg honno (“yr adeg berthnasol”), yn dal buddiant trethadwy—

(i)a drosglwyddwyd i’r cwmni caffael gan y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a drosglwyddwyd felly,

ac nad yw wedi ei drosglwyddo wedi hynny am ei werth marchnadol gan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(3)Yr ail achos yw pan fo paragraff 6(7) (rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drosglwyddiad y mae rhyddhad caffael cyfranddaliadau yn gymwys iddo) yn cael effaith er mwyn atal tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid, ond—

(a)bod rheolaeth dros y cwmni arall a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno yn newid⁠—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy,

ar adeg pan fo’r cwmni hwnnw yn dal unrhyw gyfranddaliadau a drosglwyddwyd iddo gan y trosglwyddiad esempt, neu unrhyw gyfranddaliadau sy’n deillio o gyfranddaliadau a drosglwyddwyd felly, a

(b)bod y cwmni caffael neu gwmni cyswllt perthnasol, ar yr adeg honno (“yr adeg berthnasol”), yn dal buddiant trethadwy—

(i)a drosglwyddwyd i’r cwmni caffael gan y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a drosglwyddwyd felly,

ac nad yw wedi ei drosglwyddo wedi hynny am ei werth marchnadol gan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(4)Y swm sydd i’w godi yw’r dreth y byddid wedi ei chodi mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir oni bai am ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn swm cyfwerth â gwerth marchnadol testun y trafodiad neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r dreth y byddid wedi ei chodi.

(5)Yn is-baragraffau (1) a (4), ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i destun y trafodiad a ryddheir a’r hyn y mae’r cwmni caffael neu, yn ôl y digwydd, y cwmni hwnnw ac unrhyw gwmnïau cyswllt perthnasol, yn ei ddal ar yr adeg berthnasol.

(6)Yn y paragraff hwn, ystyr “cwmni cyswllt perthnasol”, mewn perthynas â’r cwmni caffael, yw cwmni—

(a)sydd dan reolaeth y cwmni caffael yn union cyn bod rheolaeth dros y cwmni hwnnw yn newid, a

(b)y mae rheolaeth drosto yn newid o ganlyniad i’r newid yn rheolaeth y cwmni hwnnw.

(7)Yn y paragraff hwn—

(a)mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio;

(b)mae “rheolaeth” i’w ddehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);

(c)mae cyfeiriadau at reolaeth dros gwmni yn newid yn gyfeiriadau at y cwmni yn dod i gael ei reoli—

(i)gan berson gwahanol,

(ii)gan nifer gwahanol o bersonau, neu

(iii)gan ddau neu ragor o bersonau nad yw o leiaf un ohonynt y person, neu un o’r personau, a oedd â rheolaeth dros y cwmni yn flaenorol.

RHAN 5ADENNILL RHYDDHAD ATGYFANSODDI NEU RYDDHAD CAFFAEL

Adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gan gyfarwyddwr â rheolaeth

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo treth i’w chodi o dan baragraff 5 neu 7 (tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael),

(b)pan fo’r swm sydd i’w godi felly wedi ei bennu’n derfynol, ac

(c)pan na fo’r holl swm neu ran o’r swm sydd i’w godi felly wedi ei dalu 6 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn daladwy.

(2)Gall fod yn ofynnol i’r personau a ganlyn, drwy hysbysiad o dan baragraff 9, dalu’r dreth nas talwyd (ynghyd ag unrhyw log sy’n daladwy)—

(a)unrhyw gwmni a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael ac a oedd uwchlaw iddo yn strwythur y grŵp;

(b)unrhyw berson a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn gyfarwyddwr â rheolaeth dros y cwmni caffael neu’n gwmni â rheolaeth dros y cwmni caffael.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), ystyr “adeg berthnasol” yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith a’r newid rheolaeth sy’n golygu bod treth i’w chodi yn ei sgil.

(4)At ddibenion is-baragraff (2)(a), mae cwmni (“cwmni A”) “uwchlaw” cwmni arall (“cwmni B”) o fewn strwythur grŵp os yw cwmni B, neu gwmni arall sydd uwchlaw cwmni B yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i gwmni A.

(5)At ddibenion is-baragraff (2)(b)—

(a)mae i “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chwmni, yr ystyr a roddir i “director” gan adran 67(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) (a ddarllenir ar y cyd ag is-adran (2) o’r adran honno) ac mae’n cynnwys unrhyw berson sydd o fewn adran 452(1) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);

(b)ystyr “cyfarwyddwr â rheolaeth”, mewn perthynas â chwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni sydd â rheolaeth drosto; ac mae “rheolaeth” yma i’w ddehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(6)At ddibenion y paragraff hwn, nid yw hawliad wedi ei bennu’n derfynol hyd na ellir amrywio—

(a)yr hawliad, neu

(b)y swm y mae’n ymwneud ag ef,

mwyach (boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).

Adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: atodol

9(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad i berson o fewn paragraff 8(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm sy’n parhau heb ei dalu cyn diwedd y cyfnod 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(2)Rhaid dyroddi hysbysiad o dan is-baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad pennu’r swm terfynol a grybwyllir ym mharagraff 8(1)(b).

(3)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person y dyroddir yr hysbysiad iddo ei dalu.

(4)Mae’r swm hwnnw yn “swm perthnasol” sy’n daladwy gan y person y dyroddir yr hysbysiad iddo at ddibenion Rhan 7 o DCRhT (talu a gorfodi).

(5)Caiff person sydd wedi talu swm yn unol â hysbysiad o dan y paragraff hwn adennill y swm hwnnw gan y cwmni caffael.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 18RHYDDHAD ELUSENNAU

Trosolwg

1Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae paragraff 2 yn diffinio termau allweddol,

(b)mae paragraff 3 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael i elusen sy’n brynwr mewn trafodiad tir ac o dan ba amgylchiadau y mae ar gael,

(c)mae paragraff 4 yn disgrifio’r amgylchiadau pan gaiff y rhyddhad ei dynnu’n ôl,

(d)mae paragraff 5 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan na fo elusen yn gymwys i gael rhyddhad o dan baragraff 3 ond ei bod yn bodloni meini prawf eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl,

(e)mae paragraff 6 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan fo o leiaf un elusen ac o leiaf un person nad yw’n elusen yn brynwyr mewn trafodiad tir,

(f)mae paragraff 7 yn disgrifio’r amgylchiadau pan gaiff y rhyddhad hwnnw ei dynnu’n ôl,

(g)mae paragraff 8 yn disgrifio’r rhyddhad sydd ar gael pan na fo elusen yn gymwys i gael rhyddhad o dan baragraff 6 ond ei bod yn bodloni meini prawf eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl, a

(h)mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhyddhadau sydd ar gael i ymddiriedolaethau elusennol.

Termau allweddol

2(1)Yn yr Atodlen hon, mae elusen (“E”) sy’n brynwr mewn trafodiad tir yn “elusen gymwys”—

(a)at ddibenion paragraffau 3, 4 a 5, os yw E yn bwriadu dal holl destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys;

(b)at ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, os yw E yn bwriadu dal ei holl gyfran anrhanedig o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.

(2)At ddibenion yr Atodlen hon, mae E yn dal testun y trafodiad “at ddibenion elusennol cymwys” os yw E yn ei ddal—

(a)i’w ddefnyddio er mwyn hybu dibenion elusennol E neu elusen arall, neu

(b)fel buddsoddiad y defnyddir yr elw ohono at ddibenion elusennol E.

(3)Yn yr Atodlen hon—

(a)mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13), a

(b)mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” gan adran 2 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25).

(4)Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas ag E sy’n brynwr mewn trafodiad tir, ceir “digwyddiad datgymhwyso” pan fo—

(a)E yn peidio â bod yn sefydledig at ddibenion elusennol yn unig, neu

(b)holl destun neu unrhyw ran o destun y trafodiad a ryddheir rhag treth o dan yr Atodlen hon, neu unrhyw fuddiant neu hawl sy’n deillio ohono, yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan E at ddibenion heblaw dibenion elusennol cymwys.

Y rhyddhad

3(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth pan fo’r prynwr yn elusen gymwys.

(2)Ond gweler paragraff 4 (tynnu rhyddhad yn ôl).

Tynnu rhyddhad elusennau yn ôl

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 3 (“y trafodiad a ryddheir”),

(b)digwyddiad datgymhwyso mewn perthynas ag elusen (“E”) a oedd y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, ac

(c)y digwyddiad datgymhwyso o dan yr amgylchiadau sy’n ofynnol gan is-baragraffau (3) a (4).

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff rhyddhad o dan baragraff 3 ei dynnu’n ôl, neu gyfran briodol ohono ei thynnu’n ôl, ac mae treth i’w chodi (gweler is-baragraff (5)).

(3)Rhaid i’r digwyddiad datgymhwyso fod—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(b)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.

(4)Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, rhaid i E ddal buddiant trethadwy—

(a)a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir, neu

(b)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly.

(5)Y swm sydd i’w godi yw swm y dreth a fyddai wedi bod i’w godi oni bai am baragraff 3 neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r swm hwnnw.

(6)Ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—

(a)yr hyn a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir a’r hyn a ddelir gan E ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a

(b)i ba raddau y mae’r hyn a ddelir gan E ar yr adeg honno yn cael neu’n dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.

Elusen nad yw’n elusen gymwys

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan na fo trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 3 am nad yw’r prynwr yn elusen gymwys, ond

(b)bod y prynwyr yn elusen (“E”) sy’n bwriadu dal y rhan fwyaf o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.

(2)Mewn achos o’r fath—

(a)mae paragraffau 3 a 4 yn cael effaith fel pe bai E yn elusen gymwys, ond

(b)at ddibenion paragraff 4, mae “digwyddiad datgymhwyso” yn cynnwys y canlynol os cânt eu gwneud at ddiben ac eithrio hybu dibenion elusennol E⁠—

(i)unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono;

(ii)unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono.

(3)Mewn perthynas â throsglwyddiad neu les a roddir sydd, yn rhinwedd is-baragraff (2)(b), yn ddigwyddiad datgymhwyso at ddibenion paragraff 4—

(a)dyddiad y digwyddiad datgymhwyso at y dibenion hynny yw’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, a

(b)mae paragraff 4 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn is-baragraff (4).

(4)Yr addasiadau i baragraff 4 yw—

(a)mae is-baragraff (4) i gael effaith fel pe bai “Yn union cyn” yn cael ei roi yn lle “Ar adeg”;

(b)mae is-baragraff (6)(a) i gael effaith fel pe bai “yn union cyn ac yn union ar ôl” yn cael ei roi yn lle “ar adeg”;

(c)mae is-baragraff (6) i gael effaith fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.

(5)At ddibenion y paragraff hwn—

(a)rhoddir les “am bremiwm” os oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent, a

(b)mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol (os oes un) yn llai na £1,000 y flwyddyn.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)mae i “rhent blynyddol” yr ystyr a roddir gan baragraff 36(2) Atodlen 6, a

(b)mae i “rhent” yr ystyr ag a roddir yn yr Atodlen honno.

Pryniant ar y cyd gan elusen gymwys a pherson arall: rhyddhad rhannol

6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo dau brynwr neu ragor mewn trafodiad tir,

(b)pan fo’r prynwyr yn caffael testun y trafodiad fel tenantiaid ar y cyd, ac

(c)pan fo o leiaf un o’r prynwyr yn elusen gymwys ac o leiaf un o’r prynwyr yn berson arall nad yw’n elusen gymwys.

(2)Caiff y dreth a godir mewn cysylltiad â’r trafodiad ei gostwng yn ôl swm y rhyddhad o dan is-baragraff (3) (ond gweler paragraff 7 (tynnu rhyddhad rhannol yn ôl)).

(3)Mae’r rhyddhad yn gyfwerth â’r gyfran berthnasol o’r dreth y byddid wedi ei chodi fel arall, gan anwybyddu paragraff 3, mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(4)Yn achos elusen gymwys, “y gyfran berthnasol” yw’r isaf o C1 a C2, pan fo—

  • C1 y gyfran o destun y trafodiad a gaffaelir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad (gyda’i gilydd);

  • C2 y gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad a roddir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad (gyda’i gilydd).

Tynnu rhyddhad rhannol yn ôl

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 6 (“y trafodiad a ryddheir”),

(b)digwyddiad datgymhwyso mewn perthynas ag elusen (“E”) a oedd y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, a

(c)y digwyddiad datgymhwyso o dan yr amgylchiadau sy’n ofynnol gan is-baragraffau (3) a (4).

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff rhan E o’r rhyddhad, neu gyfran briodol o ran E o’r rhyddhad hwnnw, ei thynnu’n ôl ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn (gweler is-baragraff (5)).

(3)Rhaid i’r digwyddiad datgymhwyso fod—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(b)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.

(4)Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, rhaid i E ddal buddiant trethadwy—

(a)a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir, neu

(b)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly.

(5)Mae’r swm trethadwy yn gyfwerth â rhan E o’r rhyddhad neu, yn ôl y digwydd, y gyfran briodol o ran E o’r rhyddhad.

(6)Mae rhan E o’r rhyddhad yn dibynnu ar ba un ai C1 neu C2 oedd isaf yn y cyfrifiad o dan baragraff 6.

(7)Os C1 oedd isaf, mae rhan E o’r rhyddhad yn gyfwerth â—

Ffigwr 14

pan fo—

  • c1 y gyfran o destun y trafodiad a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad;

  • C1 â’r un ystyr ag ym mharagraff 6(4);

  • Rh yn swm y rhyddhad.

(8)Os C2 oedd isaf, mae rhan E o’r rhyddhad yn gyfwerth â—

Ffigwr 15

pan fo—

  • c2 y gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad a roddwyd gan E;

  • C2 â’r un ystyr ag ym mharagraff 6(4);

  • Rh yn swm y rhyddhad.

(9)Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—

(a)yr hyn a gaffaelwyd gan E o dan y trafodiad a ryddheir a’r hyn a ddelir gan E ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a

(b)i ba raddau y mae’r hyn a ddelir gan E ar yr adeg honno yn cael neu’n dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.

Rhyddhad rhannol: elusen nad yw’n elusen gymwys

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo elusen (“E”) yn un o ddau brynwr neu ragor sy’n caffael testun trafodiad tir fel tenantiaid ar y cyd,

(b)pan na fo E yn elusen gymwys,

(c)pan fyddai paragraff 6(2) i (4) yn gymwys pe bai E yn elusen gymwys, a

(d)pan fo E yn bwriadu dal y rhan fwyaf o’i chyfran anrhanedig o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys.

(2)Mewn achos o’r fath—

(a)mae paragraffau 6 a 7 yn cael effaith fel pe bai E yn elusen gymwys, ond

(b)at ddibenion paragraff 7 mae “digwyddiad datgymhwyso” yn cynnwys y canlynol os cânt eu gwneud at ddiben ac eithrio hybu dibenion elusennol E⁠—

(i)unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono;

(ii)unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono.

(3)Mewn perthynas â throsglwyddiad neu les a roddir sydd, yn rhinwedd is-baragraff (2)(b), yn ddigwyddiad datgymhwyso at ddibenion paragraff 7—

(a)dyddiad y digwyddiad at y dibenion hynny yw’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, a

(b)mae paragraff 7 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn is-baragraff (4).

(4)Yr addasiadau i baragraff 7 yw—

(a)mae is-baragraff (4) i gael effaith fel pe bai “Yn union cyn” yn cael ei roi yn lle “Ar adeg”;

(b)mae is-baragraff (9)(a) i gael effaith fel pe bai “yn union cyn ac yn union ar ôl” yn cael ei roi yn lle “ar adeg”;

(c)mae is-baragraff (9) i gael effaith fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.

(5)At ddibenion y paragraff hwn—

(a)rhoddir les “am bremiwm” os oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent, a

(b)mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol (os oes un) yn llai na £1,000 y flwyddyn.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)mae i “rhent blynyddol” yr ystyr a roddir gan baragraff 36(2) Atodlen 6, a

(b)mae i “rhent” yr un ystyr ag a roddir yn yr Atodlen honno.

Cymhwyso’r Atodlen hon i ymddiriedolaethau penodol

9(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r ymddiriedolaethau a ganlyn fel y mae’n gymwys i elusen ond yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn is-baragraff (2)—

(a)ymddiriedolaeth y mae’r holl fuddiolwyr ynddi yn elusennau, neu

(b)cynllun ymddiriedolaeth unedau y mae’r holl ddeiliaid unedau ynddo yn elusennau.

(2)Yr addasiadau i’r Atodlen hon yw—

(a)mae’r cyfeiriadau ym mharagraff 2(2) at ddibenion elusennol E i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at rai’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt;

(b)mae’r cyfeiriadau at E ym mharagraff 2(4) i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at unrhyw un neu ragor o’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau;

(c)mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 5(2)(b) ac 8(2)(b) at ddibenion elusennol E i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at rai’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 19RHYDDHAD I GWMNÏAU BUDDSODDI PENAGORED

Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: trosi ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn gwmni buddsoddi penagored

1(1)Mae trafodiad tir sy’n trosglwyddo unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig (“yr ymddiriedolaeth darged”) i gwmni buddsoddi penagored (“y cwmni caffael”) wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r amodau a nodir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y trosglwyddiad yn rhan o drefniant ar gyfer trosi ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn gwmni buddsoddi penagored, ac o ganlyniad i hynny, daw’r holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged yn holl eiddo’r cwmni caffael,

(b)bod yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth darged yn cael eu diddymu o dan y trefniant,

(c)bod y gydnabyddiaeth o dan y trefniant ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau neu’n cynnwys dyroddi cyfranddaliadau (“cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth”) yn y cwmni caffael i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd,

(d)bod cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth yn cael eu dyroddi i’r personau hynny yn ôl y gyfran o’r unedau a ddiddymwyd yr oeddent yn eu dal, ac

(e)nad yw’r gydnabyddiaeth o dan y trefniant yn cynnwys unrhyw beth arall, ar wahân i ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged gan y cwmni caffael.

Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored

2(1)Mae trafodiad tir sy’n trosglwyddo unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig (“yr ymddiriedolaeth darged”) i gwmni buddsoddi penagored (“y cwmni caffael”) wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r amodau a nodir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y trosglwyddiad yn rhan o drefniant ar gyfer cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored, ac o ganlyniad i hynny, daw’r holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged yn rhan o eiddo’r cwmni caffael (ond nid ei holl eiddo),

(b)bod yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth darged yn cael eu diddymu o dan y trefniant,

(c)bod y gydnabyddiaeth o dan y trefniant ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau neu’n cynnwys dyroddi cyfranddaliadau (“cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth”) yn y cwmni caffael i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd,

(d)bod cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth yn cael eu dyroddi i’r personau hynny yn ôl y gyfran o’r unedau a ddiddymwyd yr oeddent yn eu dal, ac

(e)nad yw’r gydnabyddiaeth o dan y trefniant yn cynnwys unrhyw beth arall, ar wahân i ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged gan y cwmni caffael.

Dehongli

3(1)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “yr holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged” yw’r holl eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau’r ymddiriedolaeth darged, ar wahân i unrhyw eiddo a gedwir at ddiben cyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged (ac mae i “ymddiriedolaeth darged” yr ystyr a roddir gan baragraff 1 neu 2, yn ôl y digwydd).

(2)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod pob un o rannau cynllun ambarél (ac nid y cynllun yn ei gyfanrwydd) yn ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig; ac mae gan “cynllun ambarél” yr un ystyr ag “umbrella scheme” yn adran 619 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(3)Yn yr Atodlen hon, ystyr “ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig” (“authorised unit trust”) yw cynllun ymddiriedolaeth unedau y mae gorchymyn o dan adran 243 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) mewn grym ar ei gyfer.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 20RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU GAN GYRFF CYHOEDDUS A CHYRFF IECHYD

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus

1(1)Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo wrth ad-drefnu, o ganlyniad i ad-drefnu, neu mewn cysylltiad ag ad-drefnu, y rhoddir effaith iddo gan neu o dan ddeddfiad, wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr a’r gwerthwr ill dau yn gyrff cyhoeddus.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod trafodiad tir nad ymrwymir iddo fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os rhoddir effaith i’r trafodiad gan ddeddfiad a bennir yn y rheoliadau, neu oddi tano, a

(b)os yw naill ai’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff cyhoeddus.

(3)Ystyr “ad-drefnu” yw newidiadau sy’n golygu—

(a)sefydlu, diwygio neu ddiddymu un corff cyhoeddus neu ragor,

(b)creu, addasu neu ddiddymu swyddogaethau (a gyflawnir, neu sydd i’w cyflawni) gan un corff cyhoeddus neu ragor, neu

(c)trosglwyddo swyddogaethau o un corff cyhoeddus i un arall.

(4)Mae’r canlynol yn gyrff cyhoeddus at ddibenion y paragraff hwn—

(a)un o Weinidogion y Goron;

(b)Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;

(c)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(d)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);

(e)cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o’r Ddeddf honno;

(f)cyngor un o fwrdeistrefi Llundain;

(g)unrhyw awdurdod arall sy’n awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

(h)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) neu adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41);

(i)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(j)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) neu adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41);

(k)panel cynllunio strategol a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5);

(l)person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(5)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at gorff cyhoeddus yn cynnwys—

(a)cwmni y mae corff o’r fath yn berchen ar ei holl gyfranddaliadau;

(b)is-gwmni dan berchnogaeth lwyr cwmni o’r fath.

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff penodol y gwasanaeth iechyd

2Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr yn unrhyw un o’r canlynol⁠—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(b)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o’r Ddeddf honno;

(c)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno;

(d)person a bennwyd at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 21RHYDDHAD PRYNU GORFODOL A RHYDDHAD RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIO

Rhyddhad i bryniant gorfodol sy’n hwyluso datblygiad

1(1)Mae pryniant gorfodol sy’n hwyluso datblygiad wedi ei ryddhau rhag treth.

(2)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (gweler adran 55 o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “pryniant gorfodol sy’n hwyluso datblygiad (“compulsory purchase facilitating development”) yw trafodiad tir y mae’r prynwr, oddi tano, yn caffael buddiant trethadwy yn unol â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan y prynwr at ddiben hwyluso datblygiad gan berson arall.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), nid oes wahaniaeth sut y rhoddir effaith i’r caffaeliad (fel bod y ddarpariaeth yn gymwys pan roddir effaith i’r caffaeliad drwy gytundeb).

Rhyddhad am gydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunio

2(1)Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gynllunio neu addasiad i rwymedigaeth gynllunio wedi ei ryddhau rhag treth os yw—

(a)y rhwymedigaeth gynllunio neu’r addasiad yn orfodadwy yn erbyn y gwerthwr,

(b)y prynwr yn gorff cyhoeddus, ac

(c)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad yr ymrwymwyd i’r rhwymedigaeth gynllunio neu y’i haddaswyd.

(2)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “addasiad” (“modification”) i rwymedigaeth gynllunio yw addasiad a grybwyllir yn adran 106A(1) (addasu a chyflawni rhwymedigaethau cynllunio) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

  • ystyr “rhwymedigaeth gynllunio” yw rhwymedigaeth gynllunio o fewn yr ystyr a roddir i “planning obligation” gan adran 106 o’r Ddeddf honno yr ymrwymir iddi yn unol ag is-adran (9) o’r adran honno (materion sy’n ymwneud â ffurf a gweithrediad yr offeryn sy’n rhoi effaith i’r rhwymedigaeth gynllunio).

(3)Mae’r canlynol yn gyrff cyhoeddus at ddibenion y paragraff hwn—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);

(b)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(c)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf honno;

(d)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno;

(e)person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 22RHYDDHADAU AMRYWIOL

Rhyddhadau goleudai

1Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rhoi effaith i Ran 8 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21) (goleudai) wedi ei ryddhau rhag treth.

2(1)Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan gyfarwyddyd Trinity House at ddiben cyflawni’r gwasanaethau y cyfeirir atynt yn adran 221(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21) wedi ei ryddhau rhag treth.

(2)Yn y paragraff hwn, mae i “Trinity House” yr ystyr a roddir gan adran 223 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21).

Rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol

3Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo gyda’r nod o—

(a)adeiladu neu ehangu barics neu wersylloedd ar gyfer llu arfog sy’n ymweld,

(b)hwyluso hyfforddi llu arfog sy’n ymweld, neu

(c)hybu iechyd neu effeithlonrwydd llu arfog sy’n ymweld,

wedi ei ryddhau rhag treth.

4(1)Mae paragraff 3 yn cael effaith mewn perthynas â phencadlys milwrol rhyngwladol dynodedig fel pe bai—

(a)y pencadlys yn lu arfog sy’n ymweld o wlad ddynodedig, a

(b)aelodau’r llu arfog hwnnw yn cynnwys y personau hynny sy’n gwasanaethu yn y pencadlys, neu sy’n gysylltiedig ag ef, sy’n aelodau o luoedd arfog gwlad ddynodedig.

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “dynodedig” yw dynodedig at y diben o dan sylw drwy neu o dan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir i roi effaith i gytundeb rhyngwladol.

5Ym mharagraffau 3 a 4, ystyr “llu arfog sy’n ymweld” yw unrhyw gorff, mintai neu ddidoliad o luoedd arfog gwlad sydd am y tro yn bresennol, neu a fydd yn bresennol, yn y Deyrnas Unedig drwy wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.

Rhyddhad ar gyfer eiddo a dderbynnir i dalu treth

6Mae trafodiad tir—

(a)yr ymrwymir iddo o dan adran 9 o Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 (p. 17) (gwaredu eiddo a dderbynnir gan y Comisiynwyr Cyllid a Thollau i dalu treth etifeddiant) ac y trosglwyddir eiddo drwyddo i berson a grybwyllir yn is-adran (2) o’r adran honno, neu

(b)yr ymrwymir iddo o dan is-adran (4) o’r adran honno,

wedi ei ryddhau rhag treth.

Rhyddhad cefnffyrdd

7(1)Mae trafodiad tir y mae Gweinidogion Cymru yn barti iddo, neu y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn barti iddo, wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os yw’n ymwneud â phriffordd neu briffordd arfaethedig sy’n gefnffordd neu a fydd yn gefnffordd, a

(b)oni bai am y paragraff hwn, pe byddai treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad fel traul yr eir iddo gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66).

(2)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “cefnffordd” yr ystyr a roddir i “trunk road” gan adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66);

  • mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 328 o’r Ddeddf honno;

  • mae i “priffordd arfaethedig” yr ystyr a roddir i “proposed highway” gan adran 329(1) o’r Ddeddf honno.

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff a sefydlir at ddibenion cenedlaethol

8Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr yn un neu ragor o’r canlynol—

(a)Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig;

(b)Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol;

(c)Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Astudiaethau Natur.

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau o ganlyniad i ad-drefnu etholaethau seneddol

9(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth pan wneir Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (p. 56) (gorchmynion sy’n pennu etholaethau seneddol newydd) ac—

(a)pan fo’r gwerthwr yn gymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes, a

(b)pan fo’r prynwr—

(i)yn gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes, neu

(ii)yn gorff perthynol i’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes sy’n trosglwyddo’r buddiant neu’r hawl, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, i gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes,

(2)Pan fo is-baragraff (1)(b)(ii) yn gymwys, mae’r trafodiad tir sy’n rhoi effaith i’r trosglwyddiad a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw wedi ei ryddhau hefyd.

(3)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “corff perthynol” (“related body”), mewn perthynas â chymdeithas etholaeth leol, yw corff (pa un ai’n gorfforedig neu’n anghorfforedig) sy’n gweithredu ar ran y blaid wleidyddol o dan sylw;

  • ystyr “cymdeithas etholaeth leol” (“local constituency association”) yw cymdeithas anghorfforedig (pa un a yw wedi ei disgrifio fel cymdeithas, cangen neu fel arall) sydd â’r prif ddiben o hybu nodau plaid wleidyddol mewn ardal sydd neu a oedd yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol neu ddwy neu ragor o etholaethau seneddol;

  • ystyr “cymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes” (“existing local constituency association”) yw cymdeithas etholaeth leol yr oedd ei hardal yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol flaenorol neu ddwy neu ragor o etholaethau o’r fath yn union cyn y dyddiad perthnasol;

  • ystyr “cymdeithas newydd” (“new association”) yw cymdeithas etholaeth leol y mae ei hardal yr un ardal, neu’r un ardal i raddau helaeth, ag ardal etholaeth seneddol newydd neu ddwy neu ragor o etholaethau o’r fath yn union ar ôl y dyddiad perthnasol;

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y daw’r Gorchymyn a grybwyllir yn is-baragraff (1) i rym (gweler adran 4(6) o Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (p. 56));

  • ystyr “etholaeth seneddol flaenorol” (“former parliamentary constituency”) yw ardal a oedd, at ddibenion etholiadau seneddol, yn etholaeth yn union cyn y dyddiad perthnasol ond nad yw mwyach yn etholaeth o’r fath ar ôl y dyddiad hwnnw;

  • ystyr “etholaeth seneddol newydd” (“new parliamentary constituency”) yw ardal sydd, at ddibenion etholiadau seneddol, yn etholaeth o’r fath ar ôl y dyddiad perthnasol ond nad oedd yn etholaeth o’r fath yn union cyn y dyddiad hwnnw.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae cymdeithas newydd yn olynydd i gymdeithas sy’n bodoli eisoes os yw unrhyw ran o ardal y gymdeithas sy’n bodoli eisoes wedi ei chynnwys yn ardal y gymdeithas newydd.

Rhyddhad cymdeithasau adeiladu

10(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

(a)cyfuno dwy gymdeithas adeiladu neu ragor o dan adran 93 o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 (p. 53) (cyfuno), neu

(b)trosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau adeiladu o dan adran 94 o’r Ddeddf honno (trosglwyddo ymrwymiadau).

(2)Yn y paragraff hwn, mae i “cymdeithas adeiladu” yr ystyr a roddir i “building society” gan adran 119(1) o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 (p. 53).

Rhyddhad cymdeithasau cyfeillgar

11(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

(a)cyfuno dwy gymdeithas gofrestredig neu ragor o dan adran 82 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974 (p. 46) (“Deddf 1974”) (cyfuno a throsglwyddo ymrwymiadau),

(b)trosglwyddo ymrwymiadau o dan yr adran honno,

(c)cyfuno dwy gymdeithas gyfeillgar neu ragor o dan adran 85 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992 (p. 40) (“Deddf 1992”) (cyfuno cymdeithasau cyfeillgar),

(d)trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar o dan adran 86 o Ddeddf 1992 (trosglwyddo ymrwymiadau gan gymdeithas gyfeillgar neu iddi), neu

(e)trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar yn unol â chyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod priodol o dan adran 90 o Ddeddf 1992 (pŵer awdurdod priodol i roi effaith i drosglwyddo ymrwymiadau).

(2)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “awdurdod priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan adran 119 o Ddeddf 1992;

  • mae i “cymdeithas gyfeillgar” yr ystyr a roddir i “friendly society” gan adran 116 o Ddeddf 1992;

  • mae i “cofrestredig”, mewn perthynas â chymdeithas, yr ystyr a roddir i “registered” gan adran 111 o Ddeddf 1974.

Rhyddhad cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol a rhyddhad undebau credyd

12(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—

(a)cymdeithas gofrestredig yn trosglwyddo ei hymrwymiadau i gymdeithas gofrestredig arall yn unol ag adran 110 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (p. 14) (“Deddf 2014”) (trosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau),

(b)trosi cymdeithas gofrestredig yn gwmni yn unol ag adran 112 o Ddeddf 2014 (trosi cymdeithas yn gwmni, cyfuno â chwmni etc.),

(c)cyfuno cymdeithas gofrestredig gyda chwmni yn unol â’r adran honno, neu

(d)trosglwyddo gan gymdeithas gofrestredig ei holl ymrwymiadau i gwmni yn unol â’r adran honno.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “cymdeithas gofrestredig” yw cymdeithas gofrestredig o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1(1) o Ddeddf 2014, ond ym mharagraffau (b) i (d) o’r is-baragraff hwnnw nid yw’n cynnwys cymdeithas a gofrestrwyd fel undeb credyd o dan y Ddeddf honno yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Undebau Credyd 1979 (p. 34) (“Deddf 1979”).

(3)I’r graddau y mae’n berthnasol i undeb credyd, mae is-baragraff (1)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at adran 110 o Ddeddf 2014 yn gyfeiriad at yr adran honno fel y mae’n cael effaith yn ddarostyngedig i adran 21 o Ddeddf 1979 (darpariaethau ychwanegol yn ymwneud â chyfuno a throsglwyddo ymrwymiadau).

(a gyflwynir gan adran 76)

ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

1Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2Yn adran 1 (trosolwg o’r Ddeddf), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)mae Rhan 3A yn gwneud darpariaeth ynghylch gwrthweithio trefniadau osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig;.

3Yn y testun Cymraeg, yn adran 37 (trosolwg o’r Rhan), ym mharagraff (f), yn lle “ymwared” rhodder “ryddhad”.

4Ym Mhennod 2 o Ran 3, ym mhennawd y bennod hepgorer “TRETHDALWR”.

5Yn adran 38 (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle’r geiriau o “ddychwelyd” i’r diwedd rhodder “ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,”;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “diwrnod”, yn y tri lle y mae’n ymddangos, rhodder “dyddiad”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “pan fydd” i’r diwedd rhodder “fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).”;

(c)yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad ffeilio, a

(b)os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.

(3A)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.;

(d)yn is-adran (4)—

(i)yn lle “diwrnodau” rhodder “dyddiadau”;

(ii)yn lle “(3)(b)” rhodder “(3A)”;

(e)yn lle is-adran (5) rhodder—

(5)Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).;

(f)hepgorer is-adrannau (6) i (8);

(g)mae pennawd yr adran yn newid i “Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth”.

6Ar ôl adran 38 mewnosoder—

38ADyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: trafodiadau tir nad oes angen dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â hwy

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, ac eithrio trafodiad o fath a restrir yn adran 65(4) o DTTT, nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad ag ef.

(2)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo—

(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen i alluogi’r prynwr i ddangos nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth, a

(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.

(3)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y dyddiad perthnasol.

(4)Y “dyddiad perthnasol” yw chwe mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(5)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.

(6)Caniateir pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran (5).

(7)Yn is-adran (4), mae i’r “dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith” yr un ystyr ag yn DTTT.

7Yn adran 39 (storio gwybodaeth etc. yn ddiogel), ar ôl “38” mewnosoder “neu 38A”.

8Ar ôl adran 39 mewnosoder—

39APŵer i wneud rheoliadau ynghylch cofnodion

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan y Bennod hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath.

9Yn adran 40 (ystyr dyddiad ffeilio), yn lle “Yn y Ddeddf hon” rhodder “Yn Neddfau Trethi Cymru”.

10Yn adran 41 (trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth), yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad ffeilio.

(3A)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn rhagnodi dyddiad arall mewn rheoliadau o dan yr is-adran hon, y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad hwnnw.

11Yn adran 42 (ACC yn cywiro ffurflen dreth)—

(a)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Os yw swm neu swm ychwanegol o dreth ddatganoledig yn daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir o dan yr adran hon, rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu’r swm, neu’r swm ychwanegol, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad.;

(b)yn is-adran (5)(a), ar ôl “ffurflen dreth” mewnosoder “o dan adran 41”.

12Yn adran 43 (hysbysiad ymholiad)—

(a)yn is-adran (1), yn lle’r geiriau o “o 12 mis” i’r diwedd rhodder “ymholiad (ond gweler is-adran (1B)).”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Y cyfnod ymholiad ar gyfer ffurflen dreth yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(1B)Ond caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth ar ôl i’r cyfnod ymholiad ddod i ben—

(a)os dychwelir y ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad tir,

(b)ar ôl dychwelyd y ffurflen dreth, os dychwelir ffurflen dreth bellach mewn cysylltiad â’r un trafodiad tir,

(c)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth bellach, a

(d)os yw ACC yn credu bod angen gwneud ymholiad i’r ffurflen dreth a grybwyllir ym mharagraff (a).;

(c)yn is-adran (2), ar y dechrau, mewnosoder “At ddibenion is-adran (1A),”;

(d)yn is-adran (3), yn lle’r geiriau “o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41” rhodder—

(a)o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41, neu

(b)yn rhinwedd is-adran (1B);

(e)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)Yn is-adran (1B), ystyr “ffurflen dreth bellach” yw ffurflen dreth bellach a ddychwelir o dan DTTT.

13Yn adran 45 (diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli treth)—

(a)yn is-adran (1)(a), yn lle “sy’n daladwy” rhodder “sydd i’w godi”;

(b)yn is-adran (5), yn lle “adran 46” rhodder “adrannau 45A a 46”.

14Ar ôl adran 45 mewnosoder—

45ATrethdalwr yn diwygio ffurflen dreth pan fydd ymholiad yn mynd rhagddo

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn ei diwygio yn ystod y cyfnod pan fydd ymholiad i’r ffurflen dreth yn mynd rhagddo.

(2)At ddibenion adran 44 (cwmpas ymholiad), mae’r diwygiad i’w drin fel rhywbeth a gynhwysir ar y ffurflen dreth.

(3)Mae’r diwygiad yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r ymholiad yn cael ei gwblhau oni bai bod ACC yn datgan yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50—

(a)bod y diwygiad wedi ei ystyried wrth lunio’r diwygiadau sy’n ofynnol i roi effaith i gasgliadau ACC, neu

(b)mai casgliad ACC yw bod y diwygiad yn anghywir.

15Yn adran 50 (cwblhau ymholiad), yn is-adran (4), yn lle “sydd i’w godi” rhodder “sy’n daladwy”.

16Yn adran 52 (dyfarniad o’r dreth sydd i’w chodi os na ddychwelir ffurflen dreth), yn is-adran (5), yn lle “o ganlyniad i ddyfarniad” rhodder “yn unol â dyfarniad”.

17Yn y testun Cymraeg, yn adran 54 (asesu treth a gollir), ym mharagraff (c), yn lle “ymwared” rhodder “rhyddhad”.

18Yn adran 58 (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC)—

(a)yn is-adran (1)(a)—

(i)yn lle “ddau” rhodder “tri”;

(ii)yn lle “(2) a (3)” rhodder “(2), (3) a (3A)”;

(b)yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,

(b)pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac

(c)ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.;

(c)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).;

(d)yn is-adran (4)—

(i)ar ôl “ACC”, mewnosoder “yn yr achos cyntaf na’r ail achos”;

(ii)ym mharagraff (a), yn lle “yn y ffurflen dreth” rhodder “mewn ffurflen dreth”.

19Yn adran 59 (terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC), yn is-adran (7), yn y diffiniad o “dyddiad perthnasol”—

(a)cyn paragraff (a), mewnosoder—

(za)os na ddychwelwyd ffurflen dreth, y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth,;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “y ffurflen dreth”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “ffurflen dreth”.

20Yn adran 61 (y weithdrefn asesu), hepgorer is-adran (3).

21Yn y testun Cymraeg, ym mhennawd Pennod 7 o Ran 3 (ymwared yn achos asesiad gormodol neu dreth a ordalwyd), yn lle “YMWARED” rhodder “RHYDDHAD”.

22Yn y testun Cymraeg, yn adran 62 (hawlio ymwared yn achos asesiad dwbl)—

(a)yn lle “ymwared” rhodder “ryddhad”;

(b)ym mhennawd yr adran, yn lle “ymwared” rhodder “rhyddhad”.

23Yn adran 63 (hawlio ymwared rhag treth a ordalwyd etc.)—

(a)yn is-adran (1)(b), ar ôl “dyfarniad” rhodder “ACC”;

(b)yn y testun Cymraeg, yn is-adran (2), yn lle “ei ryddhau ohono” rhodder “ollwng y swm”;

(c)yn is-adran (3)—

(i)yn y testun Cymraeg, yn lle “ymwared” rhodder “rhyddhad”;

(ii)yn lle “y Ddeddf hon” rhodder “Deddfau Trethi Cymru”;

(d)yn is-adran (4), yn lle “64” rhodder “63A”;

(e)yn y testun Cymraeg, ym mhennawd yr adran, yn lle “ymwared” rhodder “rhyddhad”.

24Ar ôl adran 63 mewnosoder—

63AHawlio rhyddhad mewn cysylltiad â threth trafodiadau tir: rheoliadau yn peidio â chael effaith

(1)Os yw—

(a)yn rhinwedd adran 26(2) o DTTT, y bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau a wrthodir yn gymwys i drafodiad trethadwy, a

(b)o ganlyniad, swm y dreth trafodiadau tir sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,

caiff y prynwr yn y trafodiad wneud hawliad i ACC am ollwng neu ad-dalu’r swm o dreth trafodiadau tir na fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

(2)Pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i hawliad o dan is-adran (1) rhaid iddo hefyd ollwng neu ad-dalu unrhyw gosb neu log sy’n perthyn i’r swm o dreth a ollyngir neu a ad-delir.

(3)Mae unrhyw gosb neu log yn perthyn i swm o dreth at y diben hwn i’r graddau⁠—

(a)y mae i’w phriodoli neu i’w briodoli i’r swm, a

(b)na fyddid wedi mynd iddo oni bai am gymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir i’r trafodiad o dan sylw.

(4)Rhaid i hawliad o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r hwyraf o—

(a)y dyddiad y mae’r rheoliadau a wrthodir yn peidio â chael effaith, neu

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth sy’n cynnwys asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gyfrifir gan ddefnyddio’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir.

(5)Mae hawliad o dan is-adran (1) i’w drin fel pe bai’n ddiwygiad a wneir o dan adran 41 i’r asesiad o’r dreth sydd i’w chodi sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae i “rheoliadau a wrthodir” (“rejected regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 26(1)(a) o DTTT;

  • mae i “trafodiad trethadwy” (“chargeable transaction”) yr ystyr a roddir gan adran 17 o’r Ddeddf honno.

25(1)Yn adran 64 (gwrthod hawliadau am ymwared oherwydd cyfoethogi anghyfiawn)—

(a)ar ôl “63” mewnosoder “neu 63A”;

(b)yn y testun Cymraeg—

(i)yn lle “ymwared” rhodder “ryddhad”;

(ii)yn lle “ryddhau’r” rhodder “ollwng y”.

(2)Enw newydd pennawd yr adran yw “Gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn”.

26Yn y testun Cymraeg, yn adran 65 (cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellach)—

(a)yn is-adran (1)(a), yn lle “y byddai person o’r fath i’w ryddhau ohono” rhodder “i’w ollwng”;

(b)yn is-adran (2)(a), yn lle “ei ryddhau ohono” rhodder “ollwng y swm”.

27Yn adran 66 (cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôl)—

(a)yn is-adran (2), ar ôl “63” mewnosoder “neu 63A”;

(b)yn y testun Cymraeg, yn is-adran (2)(a), yn lle “ryddhau” rhodder “ollwng”.

28Yn adran 67 (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad)—

(a)yn y testun Cymraeg, yn is-adran (1), yn lle “ymwared” rhodder “ryddhad”;

(b)yn is-adran (2)(a), ar ôl “hawliad” mewnosoder “neu ddewis”;

(c)yn is-adran (2)(b), yn lle “hawliad, neu fethu â gwneud hawliad” rhodder “hawliad neu ddewis, neu fethu â gwneud hawliad neu ddewis”;

(d)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Yn is-adran (2), ystyr “dewis” yw dewis a wneir o dan baragraff 3, 5 neu 12 o Atodlen 15 i DTTT (rhyddhadau sy’n ymwneud â thai cymdeithasol).;

(e)yn y testun Cymraeg, yn is-adran (3), yn lle “ymwared” rhodder “rhyddhad”;

(f)yn y testun Cymraeg, yn is-adran (4), yn lle “ymwared” rhodder “rhyddhad” (yn y ddau le y mae’n ymddangos).

29Yn adran 68 (gwneud hawliadau)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “neu 63” rhodder “, 63 neu 63A”;

(b)yn y testun Cymraeg, yn is-adran (3)(a), yn lle “ryddhau” rhodder “ollwng”.

30Yn adran 69 (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel), yn is-adran (1), yn lle “neu 63” rhodder “, 63 neu 63A”.

31Yn adran 71 (hawlydd yn diwygio hawliad), yn is-adran (1), yn lle “neu 63” rhodder “, 63 neu 63A”.

32Yn y testun Cymraeg, yn adran 73 (rhoi effaith i hawliadau a diwygiadau), yn is-adran (1)(b), yn lle “ryddhau’r hawlydd o dreth ddatganoledig neu ei had-dalu iddo” rhodder “ollwng y swm o dreth ddatganoledig neu ei ad-dalu i’r hawlydd”.

33Yn y testun Cymraeg, yn adran 77 (rhoi effaith i ddiwygiadau o dan adran 75), yn is-adran (1)(b), yn lle “ryddhau’r hawlydd ohoni” rhodder “ei gollwng”.

34Yn adran 81 (setliadau contract)—

(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Yn adran 63A(1), mae’r cyfeiriad at ad-dalu swm o dreth trafodiadau tir yn cynnwys ad-dalu swm a delir gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â’r swm hwnnw o dreth trafodiadau tir.;

(b)yn is-adran (4), ar ôl “63” mewnosoder “neu 63A”.

35Yn adran 90 (gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol mewn perthynas â grŵp o ymgymeriadau)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “ymgymeriad arall (“is-ymgymeriad”)” rhodder “is-ymgymeriad”;

(b)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “adran 1162” i’r diwedd rhodder “adrannau 1161 a 1162 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46) ac Atodlen 7 iddi, ond o ran cymhwyso’r adran hon i dreth trafodiadau tir, mae adran 1161(1)(b) o’r Ddeddf 2006 honno yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “carrying on a trade or business, with or without a view to profit” wedi eu hepgor.”

36Yn adran 95, (cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth), yn is-adran (1)(a) ar ôl “hysbysiad” mewnosoder “(neu unrhyw gyfnod hwy y bydd ACC a’r person yn cytuno arno)”.

37Yn y testun Cymraeg, yn adran 100 (hysbysiadau trethdalwyr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth), yn is-adran (5)(c), yn lle “ymwared” rhodder “rhyddhad”.

38Yn adran 116(1) (dim adolygu nac apelio yn erbyn cymeradwyaeth y tribiwnlys), yn lle “Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15)” rhodder “DTLlG”.

39Yn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny), ar ôl “Mae person” mewnosoder “y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth”.

40Yn adran 119 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 6 mis wedi’r dyddiad ffeilio), yn is-adran (1), ar ôl “Mae person” mewnosoder “y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth”.

41Yn adran 120 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis wedi’r dyddiad ffeilio)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “Mae person” mewnosoder “y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth”, a

(b)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “yw’r mwyaf o” i’r diwedd rhodder yw—

(a)£300, neu

(b)swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.

42Yn lle adran 122 rhodder—

122Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd

(1)Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.

(2)Y gosb yw 5% o swm y dreth nas talwyd.

(3)Yn yr adran hon ac yn adran 122A, y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.

TABL A1

EitemY dreth ddatganoledigSwm y drethY dyddiad cosbi
1Treth trafodiadau tirSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
2Treth gwarediadau tirlenwiSwm a ddatgenir mewn ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
3Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
4Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
5Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
6Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
7Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
8Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig.
9Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir.
10Treth gwarediadau tirlenwiSwm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 48 neu 49 o DTGT.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm.
11Unrhyw dreth ddatganoledigSwm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio).

(4)Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.

122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.

(2)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.

(3)Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

(4)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.

(5)Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

43Hepgorer adrannau 123 a 124.

44Yn adran 125 (gostyngiad arbennig i’r gosb), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.

45Yn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth), yn is-adran (2), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122A”.

46Yn adran 127 (asesu cosbau)—

(a)yn is-adran (5), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122A”, a

(b)yn is-adran (6), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122A”.

47Yn adran 128 (terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer y geiriau “mewn cysylltiad ag unrhyw swm”;

(b)yn is-adran (4), yn lle “122(2)” rhodder “122(3)”;

(c)yn is-adran (5), yn lle’r geiriau “yw’r diweddaraf o’r cyfnodau a ganlyn” rhodder “yw”.

48Yn adran 130 (swm y gosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “am anghywirdeb bwriadol yw” mewnosoder “swm heb fod yn fwy na”, a

(b)yn is-adran (2), ar ôl “am anghywirdeb diofal yw” mewnosoder “swm heb fod yn fwy na”.

49Yn adran 132 (cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arall), yn is-adran (4), ar ôl “o dan yr adran hon yw” mewnosoder “swm heb fod yn fwy na”.

50Yn adran 133 (cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad), yn is-adran (3), ar ôl “o dan yr adran hon yw” mewnosoder “swm heb fod yn fwy na”.

51Yn adran 141 (asesu cosbau o dan Bennod 3), yn is-adran (5), yn lle’r geiriau “yw’r diweddaraf o’r cyfnodau a ganlyn” rhodder “yw”.

52Yn y testun Cymraeg, yn adran 142 (dehongli Pennod 3), ym mharagraff (c), yn lle “ymwared” rhodder “ryddhad” (yn y ddau le y mae’n ymddangos).

53Yn adran 143 (cosb am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogel), yn is-adran (1), ar ôl “38” mewnosoder “, 38A”.

54Yn adran 144 (esgus rhesymol am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogel), yn is-adran (1), ar ôl “38” mewnosoder “, 38A”.

55Yn adran 145 (asesu cosbau o dan adran 143), yn is-adran (2), ar ôl “38” mewnosoder “, 38A”.

56Ar ôl adran 154 (talu cosbau) mewnosoder—

154AAtebolrwydd cynrychiolwyr personol

(1)Os yw person sy’n agored i gosb (“P”) wedi marw, caniateir i unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu mewn perthynas â P gael ei hasesu mewn perthynas â chynrychiolwyr personol P.

(2)Mae unrhyw gosb a asesir felly i’w thalu o ystad P.

57Hepgorer y croes-bennawd mewn llythrennau italig yn union cyn adran 157.

58Yn lle adrannau 157 a 158 rhodder—

157Llog taliadau hwyr ar drethi datganoledig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o dreth ddatganoledig—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth fel—

(i)y dreth sydd i’w chodi, neu

(ii)os yw’r ffurflen dreth yn ffurflen dreth bellach a wneir gan y prynwr mewn trafodiad tir, y dreth trafodiadau tir (neu’r dreth trafodiadau tir ychwanegol) sy’n daladwy;

(b)sy’n daladwy—

(i)o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth o dan adran 41, 45 neu 50;

(ii)o ganlyniad i gywiriad i ffurflen dreth o dan adran 42;

(iii)yn unol ag asesiad a wnaed yn ychwanegol at ffurflen dreth o dan adran 54 neu 55, neu

(c)sy’n daladwy yn unol ag—

(i)dyfarniad o dan adran 52, neu

(ii)asesiad o dan adran 54 neu 55,

a wnaed yn lle ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.

(2)Os na chaiff y swm ei dalu cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(a) neu (b), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(c), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.

(4)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.

157ALlog taliadau hwyr ar gosbau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o gosb y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon.

(2)Os na thelir y swm ar y dyddiad y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod canlynol, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.

158Llog taliadau hwyr: atodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 157 a 157A.

(2)Nid yw llog taliadau hwyr yn daladwy ar log taliadau hwyr.

(3)Caiff dyddiad dechrau llog taliadau hwyr fod yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn ystyr adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

(4)Mae’r dyddiad talu, mewn perthynas â swm, yn cynnwys y dyddiad y caiff y swm ei osod yn erbyn swm sy’n daladwy gan ACC.

(5)Mae i “cyfradd llog taliadau hwyr” yr ystyr a roddir gan adran 163(1).

59Hepgorer adran 159 (dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: diwygiadau i asesiadau etc.) a’r croes-bennawd mewn llythrennau italig sy’n union cyn yr adran honno.

60Yn adran 169 (achos yn llys yr ynadon), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm o dreth trafodiadau tir y mae ACC wedi cytuno y gellir gohirio ei dalu, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan Bennod 3 o Ran 6 o DTTT) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).

(5B)Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm a gaiff ei drin fel swm gohiriedig yn rhinwedd adran 181G, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan yr adran honno) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).

61Yn adran 170(1) (gorfodi drwy atafaelu nwyddau), yn lle “Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15)” rhodder “DTLlG”.

62Yn adran 172(2) (rhestr o benderfyniadau apeliadwy), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 14 o Atodlen 16 i DTTT (adennill rhyddhad grŵp: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);

(g)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 9 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno (adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth).

63Ar ôl adran 181, mewnosoder—

PENNOD 3ATALU AC ADENNILL TRETH DDATGANOLEDIG SY’N DESTUN ADOLYGIAD NEU APÊL

181ANid yw adolygiad neu apêl i effeithio ar y gofyniad i dalu

Nid yw’r ffaith fod person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—

(a)wedi gwneud cais am adolygiad o’r penderfyniad, neu

(b)wedi apelio yn ei erbyn,

yn effeithio ar unrhyw ofyniad ar y person i dalu swm o dreth ddatganoledig (a llog ar y swm hwnnw).

181BCeisiadau i ohirio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—

(a)yn rhoi hysbysiad am gais i adolygu penderfyniad apeliadwy, neu

(b)yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad o’r fath.

(2)Os yw’r person yn credu bod swm gormodol o dreth ddatganoledig wedi ei godi ar y person o ganlyniad i’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i ACC ohirio adennill y swm o dreth ddatganoledig y mae’r person yn credu ei fod yn ormodol (a llog ar y swm hwnnw) (“cais i ohirio”).

(3)Rhaid i gais i ohirio bennu—

(a)y swm o dreth ddatganoledig y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, a

(b)y rhesymau pam fod y person sy’n gwneud y cais yn credu bod y swm yn ormodol.

(4)Os yw ACC yn credu bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio seiliau rhesymol dros gredu bod y swm o dreth ddatganoledig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol, caiff ACC ganiatáu’r cais i ohirio.

(5)Os yw ACC yn credu mai dim ond mewn perthynas â rhan o’r swm y mae gan y person seiliau rhesymol dros gredu bod y swm yn ormodol, caiff ganiatáu’r cais mewn cysylltiad â’r rhan honno yn unig.

(6)Caiff ACC gymeradwyo’r cais i ohirio (yn llwyr neu’n rhannol) yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol.

(7)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad o’i benderfyniad i’r person a wnaeth y cais i ohirio.

181CTerfyn amser ar gyfer gwneud cais i ohirio

(1)Rhaid gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig ag adolygiad drwy roi hysbysiad o’r cais i ACC cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174 ar gyfer gofyn am yr adolygiad.

(2)Ond os gwneir cais hwyr am adolygiad o dan adran 175, rhaid gwneud y cais i ohirio yr un pryd â’r cais hwyr.

(3)Rhaid gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig ag apêl drwy roi hysbysiad i ACC cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179 ar gyfer gwneud yr apêl.

(4)Ond os yw’r tribiwnlys yn rhoi caniatâd i wneud apêl hwyr o dan adran 180, rhaid gwneud y cais i ohirio yr un pryd ag y ceisir caniatâd ar gyfer yr apêl hwyr.

(5)Mae is-adrannau (1) a (3) yn ddarostyngedig i adran 181D.

181DCais hwyr i ohirio

(1)Pan fo person—

(a)yn gwneud cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174, a

(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r adolygiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,

ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.

(2)Pan fo person—

(a)yn gwneud apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179, a

(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r apêl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,

ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio esgus rhesymol dros beidio â gwneud y cais yn ystod y cyfnod a bennir yn adran 174 neu 179, yn ôl y digwydd, a

(b)wedi hynny, bod y person sy’n gwneud y cais i ohirio wedi gwneud y cais heb oedi afresymol.

181ECais am adolygiad tribiwnlys o benderfyniad ar gais i ohirio

(1)Caiff person sy’n gwneud cais i ohirio, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o’i benderfyniad ynglŷn â’r cais, wneud cais i’r tribiwnlys am adolygiad o benderfyniad ACC.

(2)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu bod penderfyniad ACC—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w ganslo, neu

(c)i’w ddisodli â phenderfyniad arall y gallai ACC fod wedi ei wneud.

181FAmrywio ar ôl caniatáu cais i ohirio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)ACC neu’r tribiwnlys wedi caniatáu cais i ohirio,

(b)newid mewn amgylchiadau wedi hynny, ac

(c)o ganlyniad i’r newid hwnnw, naill ai ACC neu’r person a wnaeth y cais yn credu—

(i)y dylid amrywio’r swm o dreth ddatganoledig y caniatawyd y cais mewn cysylltiad ef;

(ii)pan fo caniatáu’r cais yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol, y dylid amrywio’r amod.

(2)Caiff y naill barti neu’r llall geisio cytundeb ei gilydd drwy ddyroddi hysbysiad sy’n pennu’r amrywiad arfaethedig i’r parti arall.

(3)Os ceir cytundeb, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n cadarnhau’r amrywiad i’r person.

(4)Mae’r amrywiad yn cael effaith o’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o dan is-adran (3).

(5)Os na cheir cytundeb o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o dan is-adran (2), caiff y naill barti neu’r llall wneud cais i’r tribiwnlys am ddyfarniad.

(6)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu ar gais o’r fath drwy—

(a)cadarnhau’r amrywiad arfaethedig,

(b)gwrthod yr amrywiad arfaethedig, neu

(c)gwneud unrhyw amrywiad arall sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.

181GEffaith gohirio

(1)Ni chaiff ACC gymryd unrhyw gamau i adennill swm gohiriedig yn ystod y cyfnod gohirio.

(2)Ystyr swm gohiriedig yw—

(a)swm o dreth ddatganoledig a bennir mewn cais i ohirio (oni bai bod y cais yn gais hwyr a wneir yn unol ag adran 181C(2) neu (4) neu adran 181D), neu

(b)swm o dreth ddatganoledig y mae ACC neu’r tribiwnlys yn caniatáu cais i ohirio mewn cysylltiad ag ef.

(3)Yn achos swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(a), mae’r cyfnod gohirio ar gyfer y swm—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y gwneir y cais i ohirio, a

(b)yn dod i ben—

(i)os caniateir y cais, â’r diwrnod y’i caniateir,

(ii)os na chaniateir y cais ac os na wneir cais i’r tribiwnlys am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud cais o’r fath, neu

(iii)os na chaniateir y cais ac y gwneir cais i’r tribiwnlys am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn gwneud ei ddyfarniad.

(4)Yn achos swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(b) mae’r cyfnod gohirio ar gyfer y swm—

(a)yn dechrau â’r dyddiad y mae ACC neu’r tribiwnlys yn caniatau’r cais i ohirio, a

(b)yn dod i ben—

(i)os gwnaed y cais i ohirio mewn cysylltiad ag adolygiad o benderfyniad apeliadwy, â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad o gasgliadau’r adolygiad, neu

(ii)os gwnaed y cais i ohirio mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, â’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn dyfarnu’r apêl.

(5)Pan gaiff swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(b) ei amrywio o dan adran 181F, mae’r swm a amrywiwyd i’w drin fel y swm gohiriedig o ddyddiad yr amrywiad.

(6)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ganiatáu cais i ohirio yn cynnwys achosion pan gaiff y cais ei ganiatáu’n rhannol.

181HCeisiadau i ohirio sy’n ymwneud ag apelau pellach

(1)Pan fo person yn gwneud (yn unol â DTLlG) apêl bellach yn erbyn dyfarniad y tribiwnlys ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, mae adrannau 181B, 181C, 181E, 181F a 181G yn gymwys i’r apêl bellach fel y maent yn gymwys i apêl, ond fel pe bai’r addasiadau a ganlyn wedi eu gwneud.

(2)Mae adran 181B yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adrannau (3), (4) a (5)—

(3)Rhaid i gais i ohirio bennu—

(a)y swm o dreth ddatganoledig y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef,

(b)y rhesymau pam fod y person sy’n gwneud y cais o’r farn fod y swm yn ormodol, a

(c)y rhesymau pam fod y person o’r farn y byddai adennill y swm (a llog ar y swm) yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person.

(4)Os yw ACC—

(a)yn credu bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio seiliau rhesymol dros gredu bod y swm o dreth ddatganoledig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol, a

(b)â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm) yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais.

(5)Ond os yw ACC—

(a)yn credu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm y mae gan y person seiliau rhesymol dros gredu bod y swm yn ormodol, neu

(b)â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.

(3)Mae adran 181C yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-adran (3), “ar y diwrnod y gwneir yr apêl bellach neu cyn hynny” wedi ei roi yn lle “cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179 ar gyfer gwneud yr apêl”, a

(b)is-adran (4) wedi ei hepgor.

(4)Mae adran 181F yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (a) yn is-adran (1)—

(a)cais i ohirio wedi ei ganiatáu gan—

(i)yr Uwch Dribiwnlys pan fo’r cais yn ymwneud ag apêl bellach a wneir o dan adran 11 o DTLlG, neu

(ii)y llys apeliadol perthnasol a bennir o dan is-adran (11) o adran 13 o DTLlG pan fo’r cais yn ymwneud ag apêl bellach a wneir o dan yr adran honno.

(5)Mae adran 181G yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-adran (2)(a) y geiriau “(oni bai bod y cais yn gais hwyr a wneir yn unol ag adran 181C(2) neu (4) neu adran 181D)” wedi eu hepgor, a

(b)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (4)(b)—

(b)yn dod i ben ar y diwrnod y dyfernir yr apêl bellach.

(6)Mae’r cyfeiriadau at “y tribiwnlys” yn adrannau 181E(1) a (2), 181F(5) a (6) a 181G(2), (3) a (4) i’w darllen fel cyfeiriadau at—

(a)yr Uwch Dribiwnlys mewn achos pan wneir yr apêl bellach o dan adran 11 o DTLlG, neu

(b)y llys apeliadol perthnasol a bennir o dan is-adran (11) o adran 13 o DTLlG mewn achos pan wneir yr apêl bellach o dan yr adran honno.

181IDim apêl bellach nac adolygiad o benderfyniadau tribiwnlys sy’n ymwneud â cheisiadau i ohirio

(1)Yn adran 11(5) o DTLlG (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys), ar ôl paragraff (cb) (fel y’i mewnosodir gan adran 116(1) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(cc)any decision of the First-tier Tribunal under section 181E or 181F of that Act (appeals relating to postponement requests),.

(2)Yn adran 13(8) o DTLlG (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i Lys Apêl etc.), ar ôl paragraff (bb) (fel y’i mewnosodir gan adran 116(2) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(bc)any decision of the Upper Tribunal under section 181E or 181F of that Act (appeals relating to postponement requests),.

64Yn adran 182 (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl), yn is-adran (3) ar ôl “176(5)” mewnosoder “, (6)”.

65Ar ôl adran 183 mewnosoder—

183AAtal ad-daliad pan fo apêl bellach yn yr arfaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, y tribiwnlys yn dyfarnu bod ACC i ad-dalu swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson, a

(b)ACC yn gwneud cais o dan adran 11(4) neu 13(4) o DTLlG am ganiatâd i wneud apêl bellach.

(2)Wrth wneud cais am ganiatâd caiff ACC ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ohirio ad-dalu’r swm hyd—

(a)y dyfernir ar yr apêl bellach, neu

(b)y mae ACC yn cael sicrhad digonol ar gyfer y swm.

(3)Rhaid i’r tribiwnlys neu’r llys perthnasol ganiatáu cais ACC—

(a)os yw’n rhoi caniatâd i’r apêl bellach gael ei chynnal, a

(b)os yw’n credu bod angen caniatáu’r cais er mwyn diogelu’r refeniw.

(4)Os na roddir caniatâd i wneud apêl bellach—

(a)gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn dilyn cais o dan adran 11(4)(a) o DTLlG, neu

(b)gan yr Uwch Dribiwnlys yn dilyn cais o dan adran 13(4)(a) o’r Ddeddf honno,

nid yw’r ffaith fod ACC wedi gwneud cais o dan is-adran (2) wrth wneud y cais am ganiatâd yn rhwystro ACC rhag gwneud cais arall o dan yr is-adran honno os yw ACC yn gwneud cais am ganiatâd i wneud apêl bellach o dan adran 11(4)(b) neu 13(4)(b) o DTLlG.

(5)Ond fel arall, mae penderfyniad y tribiwnlys neu’r llys perthnasol ynglŷn â chais o dan adran (2) yn derfynol.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “tribiwnlys neu lys perthnasol” (“relevant tribunal or court”) yw pa un bynnag o’r canlynol y mae ACC yn gwneud cais iddo am ganiatâd i wneud apêl bellach—

    (a)

    Tribiwnlys yr Haen Gyntaf;

    (b)

    yr Uwch Dribiwnlys;

    (c)

    y llys apeliadol perthnasol;

  • ystyr “llys apeliadol perthnasol” (“relevant appellate court”) yw’r llys a bennir felly o dan adran 13(11) o DTLlG.

66O flaen adran 188 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.) mewnosoder—

187ACymhwyso i’r Goron at ddibenion Treth Trafodiadau Tir

(1)I’r graddau y mae darpariaethau canlynol y Ddeddf hon yn gymwys i dreth trafodiadau tir, maent yn rhwymo’r Goron—

(a)Rhan 3;

(b)Rhan 4 (ac eithrio Pennod 6);

(c)Rhan 6 (ac eithrio adrannau 157A, 160 a 161(2)(b));

(d)Rhan 7 (ac eithrio adrannau 168, 169 a 170);

(e)Rhan 8 (ac eithrio adrannau 172(1)(d) ac (e), (3)(b) ac (c), (4), (5) a (6), 182 a 183);

(f)adrannau 190 a 191.

(2)Ond nid yw Rhan 4 yn gymwys i Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat (o fewn ystyr adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn erbyn y Goron 1947 (p. 44)).

67Yn adran 189 (rheoliadau), yn is-adran (2), ar ôl “18(2)” mewnosoder “122(5),”.

68Yn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tani,” rhodder “Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Rhaid i hysbysiad bennu’r dyddiad y’i dyroddir.

(1B)Os na all y person y dyroddir yr hysbysiad iddo ganfod yn rhesymol effaith yr hysbysiad oherwydd camgymeriad ynddo neu hepgoriad ohono (gan gynnwys camgymeriad neu hepgoriad sy’n ymwneud ag enw’r person), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei ddyroddi.

69Yn adran 191 (rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACC)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tani” rhodder “Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,”, a

(ii)ar ôl “i berson”, mewnosoder “ddychwelyd ffurflen dreth neu”;

(b)yn lle is-adran (2), mewnosoder—

(2)Rhaid i’r ffurflen dreth, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—

(a)bod ar ba bynnag ffurf,

(b)cynnwys pa bynnag wybodaeth,

(c)cynnwys gydag ef neu hi ba bynnag ddogfennau eraill, a

(d)cael ei roi neu ei rhoi ym mha bynnag fodd,

a bennir gan ACC.;

(c)yn is-adran (3), yn lle “y Ddeddf hon neu oddi tani” rhodder “Neddfau Trethi Cymru neu oddi tanynt”.

70Yn adran 192(2) (dehongli), yn y mannau priodol, mewnosoder—

  • ystyr “Deddfau Trethi Cymru” (“the Welsh Tax Acts”) yw—

    (a)

    y Ddeddf hon, a

    (b)

    DTTT;

  • mae i “prynwr” (“buyer”) yr un ystyr ag yn DTTT;

  • mae i “trafodiad tir” (“land transaction”) yr un ystyr ag yn DTTT;

71Yn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir), yn Nhabl 1, yn y mannau priodol mewnosoder yr ymadroddion a ddiffinnir yn y tabl a ganlyn.

Artiffisial (mewn perthynas â’r rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol) (“artificial”)adran 81C
Deddfau Trethi Cymru (“Welsh Tax Acts”)adran 192(2)
DTLlG (“TCEA”)adran 192(2)
DTTT (“LTTA”)adran 192(2)
Hysbysiad gwrthweithio arfaethedig (“proposed counteraction notice”)adran 81F
Hysbysiad gwrthweithio terfynol (“final counteraction notice”)adran 81G
Mantais drethiannol (“tax advantage”)adran 81D
Prynwr (“buyer”)adran 192(2)
Rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol (“general anti-avoidance rule”)adran 81A(2)
Trefniant (mewn perthynas â’r rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol) (“arrangement”)adran 81B(3)A
Trefniant osgoi trethi (“tax avoidance arrangement”)adran 81B

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill