Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F181EAddasiadau i wrthweithio manteision trethLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff ACC wneud unrhyw addasiadau y mae o’r farn eu bod yn deg ac yn rhesymol i wrthweithio mantais drethiannol a fyddai (gan anwybyddu’r Rhan hon) yn deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi.

(2)Caniateir gwneud addasiad mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig o dan sylw neu unrhyw dreth ddatganoledig arall.

(3)Rhaid i addasiad gael ei wneud—

(a)pan fo’r addasiad yn ymwneud â ffurflen dreth y mae ymholiad ar y gweill mewn cysylltiad ag ef, drwy ddiwygio’r ffurflen dreth mewn hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50;

(b)fel arall drwy asesiad ACC.

(4)Ni chaniateir i ACC wneud addasiad oni bai ei fod wedi cydymffurfio â gofynion adrannau 81F ac 81G.]