xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 3A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), aau. 66, 81(2)(3); O.S. 2018/34, ergl. 3
(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi” os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae trethdalwr yn ymrwymo i’r trefniant.
(2)Wrth benderfynu ai prif ddiben trefniant, neu un o’i brif ddibenion, yw cael mantais drethiannol, caniateir ystyried yn benodol y swm o dreth ddatganoledig a fyddai i’w godi yn absenoldeb y trefniant.
(3)Yn y Rhan hon—
(a)mae “trefniant” yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw weithred, unrhyw weithrediad, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad, unrhyw ddigwyddiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);
(b)mae cyfeiriadau at drefniant i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—
(i)cyfres o drefniadau, a
(ii)unrhyw ran o drefniant neu unrhyw gam o drefniant sy’n cynnwys mwy nag un ran neu gam;
(c)ystyr “trethdalwr” yw person sy’n agored i dreth ddatganoledig neu a fyddai’n agored iddi oni bai am y trefniant osgoi trethi o dan sylw.]