Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

53Ffurflen dreth yn disodli dyfarniadLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os yw’r person yr oedd gan ACC reswm i gredu bod treth ddatganoledig i’w chodi arno yn dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth ar ôl i ddyfarniad ACC gael ei wneud, mae’r ffurflen yn disodli’r dyfarniad.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i ffurflen dreth a ddychwelwyd—

(a)dros 4 blynedd ar ôl i’r pŵer i wneud dyfarniad ACC ddod yn arferadwy gyntaf, neu

(b)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y dyfarniad,

pa un bynnag sydd hwyraf.

(3)Pan fo—

(a)achos wedi ei gychwyn i adennill unrhyw dreth ddatganoledig a godwyd gan ddyfarniad ACC, a

(b)ffurflen dreth yn disodli’r dyfarniad cyn i’r achos ddod i ben,

caniateir parhau â’r achos fel pe bai’n achos i adennill cymaint o’r dreth ddatganoledig a godir gan y ffurflen dreth ag y mae’n ofynnol ei dalu ac nad yw wedi ei dalu eto.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 53 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3