Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

100Hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen drethLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer cyfnod treth, ni chaniateir dyroddi hysbysiad trethdalwr at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person hwnnw ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(2)Pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â thrafodiad, ni chaniateir dyroddi hysbysiad trethdalwr at ddiben gwirio sefyllfa dreth person mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys pan fo (neu i’r graddau y mae) naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.

(4)Amod 1 yw bod hysbysiad ymholiad wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad ag—

(a)y ffurflen dreth, neu

(b)hawliad (neu ddiwygiad i hawliad) a wnaed gan y person mewn perthynas â’r cyfnod treth neu’r trafodiad y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef,

ac nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau.

(5)Amod 2 yw bod gan ACC reswm i amau, mewn perthynas â’r person—

(a)ei bod yn bosibl nad yw swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad wedi ei asesu,

(b)ei bod yn bosibl bod asesiad o dreth ddatganoledig ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, F1...

(c)ei bod yn bosibl bod [F2rhyddhad] rhag treth ddatganoledig a roddwyd neu a hawliwyd ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad yn ormodol neu wedi dod yn ormodol,

[F3(d)ei bod yn bosibl bod swm o gredyd treth nad oes gan y person hawlogaeth iddo wedi ei hawlio, neu

(e)ei bod yn bosibl bod hawliad am gredyd treth yn ormodol neu wedi mynd yn ormodol.]

(6)Pan fo unrhyw bartner mewn partneriaeth wedi dychwelyd ffurflen dreth, mae’r adran hon yn cael effaith fel pe bai pob un o’r partneriaid wedi dychwelyd y ffurflen honno.

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at berson sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn cyfeirio at y person hwnnw yn y rhinwedd y dychwelwyd y ffurflen dreth yn unig.