Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 5CYFFREDINOL

40Rheoliadau a gorchmynion

(1)Yn adran 60 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p.46) (rheoliadau a gorchmynion: darpariaethau cyffredinol), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Any power of the Welsh Ministers to make regulations or an order under this Act includes power to make such incidental, supplemental, consequential, transitory, transitional or saving provision as the Welsh Ministers consider appropriate.

(2)Ar ôl is-adran (2) o’r adran honno mewnosoder—

(3)Any power of the Welsh Ministers to make regulations under this Act or an order under section 3, 37 or 61 is exercisable by statutory instrument.

(4)A statutory instrument containing—

(a)regulations under section 1AA or 9ZB; or

(b)regulations which, by virtue of subsection (1A), amend or repeal any provision of an Act of Parliament or an Act or Measure of the National Assembly for Wales,

may not be made by the Welsh Ministers unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales.

(5)Any other statutory instrument containing regulations or an order made by the Welsh Ministers under this Act, other than regulations under section 19, is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(3)Yn adran 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) (rheoliadau a gorchmynion: darpariaethau cyffredinol), yn is-adran (1), ar ôl “regulations under this Act” mewnosoder “in relation to England and the Welsh Ministers may make regulations under this Act in relation to Wales”.

(4)Yn is-adran (3) o’r adran honno—

(a)ar ôl “regulations made under this Act” mewnosoder “, other than regulations under section 2A, 26M or 56A,”, a

(b)ar ôl “either House of Parliament” mewnosoder “(in the case of regulations made by the Secretary of State) or the National Assembly for Wales (in the case of regulations made by the Welsh Ministers)”.

(5)Ar ôl is-adran (3) o’r adran honno mewnosoder—

(3A)A statutory instrument containing regulations under section 2A, 26M or 56A may not be made by the Welsh Ministers unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales.

(6)Yn is-adran (4) o’r adran honno, ar ôl “sections 8(5), 26C,” insert “55(5B),”.

(7)Yn is-adran (5) o’r adran honno—

(a)ar ôl “an order under section” mewnosoder “55(5B),”, a

(b)ar ôl “either House of Parliament” mewnosoder “(in the case of an order made by the Secretary of State) or the National Assembly for Wales (in the case of an order made by the Welsh Ministers)”.

(8)Yn is-adran (6) o’r adran honno, ar ôl “the Secretary of State” mewnosoder “or (as the case may be) the Welsh Ministers”.

(9)Yn adran 21 o’r Ddeddf honno (apelau: darpariaeth atodol), hepgorer is-adrannau (10) ac (11).

(10)Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (penderfynu ar apelau penodol gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru), ym mharagraff 8, hepgorer is-baragraff (6).

(11)Rhaid i reoliadau o dan y Ddeddf hon gael eu gwneud drwy offeryn statudol.

(12)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)rheoliadau o dan adran 35(9) (pŵer i amrywio ystyr “cofnod amgylchedd hanesyddol”), neu

(b)rheoliadau o dan adran 39(7)(h) (Y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru: anghymhwyso staff sefydliadau penodedig rhag bod yn aelodau),

gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

41Dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adran 2;

(c)adrannau 3, 5 ac 11 ac Atodlen 1, i’r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p.46);

(d)adran 23;

(e)adrannau 24 ac 28 ac Atodlen 2, i’r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9);

(f)y Rhan hon.

(2)Daw adrannau 6 i 9, 12 i 17, 19 i 22, 27, 29, 30(1) i (5), 32 a 33 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym, a daw adrannau 3, 5, 11, 24 ac 28 ac Atodlenni 1 a 2 i rym at y dibenion sy’n weddill, ar unrhyw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

(5)Rhaid i orchymyn o dan is-adran (3) gael ei wneud drwy offeryn statudol.

42Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill