88Dod i rym
(1)Mae’r Rhan hon yn dod i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 1 (rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol);
(b)Rhan 2 (newid yn yr hinsawdd);
(c)Rhan 5 (pysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn);
(d)adran 82 (diddymu gofynion i gyhoeddi);
(e)adran 84 (apelau yn erbyn ardollau draenio arbennig);
(f)adran 85 (pŵer mynediad);
(g)adran 86 (is-ddeddfau).
(3)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol—
(a)Rhan 3 (codi taliadau am fagiau siopa);
(b)Rhan 4 (casglu a gwaredu gwastraff);
(c)Rhan 6 (trwyddedu morol);
(d)adran 81 (pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol);
(e)adran 83 (prisio tir anamaethyddol).
(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—
(a)pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)gwneud y ddarpariaeth drosiannol neu’r ddarpariaeth arbed honno mewn cysylltiad â dod i rym ddarpariaeth o fewn y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.