Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

(cyflwynir gan adran 61)

ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL

Sancsiynau sifil

1(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth ynghylch sancsiynau sifil am dorri’r rheoliadau.

(2)At ddibenion yr Atodlen hon, mae person yn torri rheoliadau bagiau siopa os yw’r person, o dan yr amgylchiadau hynny y gellir eu pennu—

(a)yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan y rheoliadau hyn neu oddi tanynt, neu

(b)yn rhwystro gweinyddwr neu’n methu â rhoi cymorth iddo.

(3)Yn yr Atodlen hon, ystyr “sancsiwn sifil” yw—

(a)cosb ariannol benodedig, neu

(b)gofyniad yn ôl disgresiwn.

Cosbau ariannol penodedig

2(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, gosb ariannol benodedig ar berson sy’n torri’r rheoliadau.

(2)Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y toriad wedi digwydd.

(3)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “cosb ariannol benodedig” yw gofyniad i dalu cosb i weinyddwr o swm a bennir yn y rheoliadau neu a benderfynir yn unol â hwy.

(4)Ni chaiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer gosod cosb ariannol benodedig o fwy na £5,000.

Cosbau ariannol penodedig: y weithdrefn

3(1)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 2 sicrhau—

(a)pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),

(b)bod yr hysbysiad o fwriad hefyd yn cynnig y cyfle i’r person ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig drwy dalu swm penodedig (y mae’n rhaid iddo fod yn llai na swm y gosb neu’n gyfwerth ag ef),

(c)os nad yw’r person yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd—

(i)y caiff y person wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod, a

(ii)ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am osod y gosb ariannol benodedig ai peidio,

(d)pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, bod yr hysbysiad sy’n ei gosod (“yr hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac

(e)y caiff y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gosod.

(2)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros y bwriad i osod y gosb ariannol benodedig,

(b)effaith talu’r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),

(c)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

(d)o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gosb ariannol benodedig,

(e)o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir rhyddhau rhag atebolrwydd i’r gosb ariannol benodedig, ac

(f)o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.

(3)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c)(ii) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan all y gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb ariannol benodedig.

(4)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)sut y gellir talu,

(c)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu,

(d)unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,

(e)hawliau i apelio, ac

(f)canlyniadau peidio â thalu.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn un afresymol.

Gofynion yn ôl disgresiwn

4(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, un gofyniad yn ôl disgresiwn neu ragor ar berson sy’n torri’r rheoliadau.

(2)Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad wedi digwydd.

(3)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn” yw—

(a)gofyniad i dalu i weinyddwr gosb ariannol o’r swm hwnnw y caiff y gweinyddwr benderfynu arno, neu

(b)gofyniad i gymryd y camau hynny y caiff gweinyddwr eu pennu, o fewn y cyfnod hwnnw y caiff y gweinyddwr ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r toriad yn parhau neu’n digwydd eto.

(4)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cosb ariannol amrywiadwy” (“variable monetary penalty”) yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a), ac

  • ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol” (“non-monetary discretionary requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b).

(5)Rhaid i reoliadau bagiau siopa, mewn perthynas â phob math o doriad o’r rheoliadau y caniateir gosod cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas ag ef—

(a)pennu uchafswm y gosb y caniateir ei gosod am doriad o’r math hwnnw, neu

(b)darparu i’r uchafswm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

(6)Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu gosod gofynion yn ôl disgresiwn ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anwaith.

Gofynion yn ôl disgresiwn: y weithdrefn

5(1)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 4 sicrhau—

(a)pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),

(b)y caiff y person hwnnw wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r bwriad i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(c)ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o’r fath, bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am—

(i)gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn, gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(ii)gosod unrhyw ofyniad yn ôl disgresiwn arall y mae gan y gweinyddwr bŵer i’w osod o dan baragraff 4,

(d)pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, bod yr hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac

(e)y caiff y person y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w osod.

(2)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(b)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

(c)o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(d)o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn llai na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y ceir yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.

(3)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan na chaniateir i’r gweinyddwr benderfynu gosod cosb ariannol benodedig.

(4)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(b)pan fo’r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—

(i)sut y gellir talu,

(ii)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu, a

(iii)unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,

(c)hawliau i apelio, a

(d)canlyniadau methu â chydymffurfio.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

(d)yn achos gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn un afresymol am unrhyw reswm arall.

Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodi

6(1)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 4, gallant roi’r pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) i’r gweinyddwr os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol a osodir ar y person hwnnw.

(2)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu ddarparu i’r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau, neu

(b)darparu i’r swm gael ei benderfynu gan y gweinyddwr neu mewn rhyw fodd arall.

(3)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)(b), rhaid iddynt, mewn perthynas â phob math o fethiant y caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas ag ef—

(a)pennu uchafswm y gosb yn caniateir ei gosod am fethiant o’r math hwnnw, neu

(b)darparu i’r uchafswm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

(4)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau—

(a)bod y gosb am beidio â chydymffurfio yn cael ei gosod drwy hysbysiad a gyflwynir gan y gweinyddwr, a

(b)y caiff y person y gosodir y gosb am beidio â chydymffurfio arno apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol â pharagraff (b) o is-baragraff (4) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm (gan gynnwys, mewn achos pan fo swm y gosb am beidio â chydymffurfio wedi ei benderfynu gan y gweinyddwr, bod y swm yn afresymol).

Cyfuniad o sancsiynau

7(1)Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth o dan baragraffau 2 a 4 sy’n rhoi pwerau i weinyddwr mewn perthynas â’r un math o doriad o’r rheoliadau oni chydymffurfir â’r gofynion a ganlyn.

(2)Rhaid i’r rheoliadau sicrhau na chaiff y gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â’r un toriad.

(3)Rhaid i’r rheoliadau sicrhau na chaiff y gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—

(a)cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â’r un toriad, neu

(b)y person wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r toriad hwnnw yn unol â pharagraff 3(1)(b).

Cosbau ariannol

8(1)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn rhoi pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio, gallant gynnwys darpariaeth—

(a)ar gyfer disgowntiau am dalu’n gynnar;

(b)ar gyfer talu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu’r gosb yn hwyr, y llog hwnnw neu’r cosbau ariannol eraill hynny nad ydynt gyda’i gilydd i fod yn fwy na swm y gosb honno;

(c)ar gyfer gorfodi’r gosb.

(2)Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—

(a)darpariaeth i’r gweinyddwr adennill cosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr, fel dyled sifil;

(b)darpariaeth i’r gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr fod yn adenilladwy, ar orchymyn gan lys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Adennill costau

9(1)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 4, gallant roi’r pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i berson y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno i dalu’r costau yr aed iddynt gan y gweinyddwr mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at amser ei osod.

(2)Yn is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at gostau yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau, mewn unrhyw achos pan gyflwynir hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol talu costau—

(a)bod yr hysbysiad yn pennu’r swm y mae’n ofynnol ei dalu;

(b)y gallai fod yn ofynnol i’r gweinyddwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm hwnnw;

(c)nad yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen;

(d)y caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio yn erbyn—

(i)penderfyniad y gweinyddwr i osod y gofyniad i dalu costau;

(ii)penderfyniad y gweinyddwr o ran swm y costau hynny.

(4)Caiff darpariaeth o dan y paragraff hwn gynnwys y ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 8(1)(b) ac (c) a (2).

Apelau

10(1)Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa ddarparu ar gyfer gwneud apêl ac eithrio i’r canlynol—

(a)y Tribiwnlys Haen Gyntaf, neu

(b)tribiwnlys arall a grëir o dan ddeddfiad.

(2)Yn is-baragraff (1)(b), nid yw “tribiwnlys” yn cynnwys llys barn arferol.

(3)Os yw’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth ar gyfer apêl mewn perthynas â gosod unrhyw ofyniad neu gyflwyno unrhyw hysbysiad, cânt gynnwys—

(a)darpariaeth sy’n atal dros dro y gofyniad neu’r hysbysiad tra disgwylir dyfarniad yr apêl;

(b)darpariaeth ynghylch pwerau’r tribiwnlys y gwneir yr apêl iddo;

(c)darpariaeth ynghylch sut y mae unrhyw swm sy’n daladwy yn unol â phenderfyniad y tribiwnlys hwnnw i gael ei adennill.

(4)Mae’r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(b) yn cynnwys darpariaeth sy’n rhoi i’r tribiwnlys y gwneir yr apêl iddo y pŵer i wneud y canlynol—

(a)tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;

(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(c)cymryd y camau hynny y gallai’r gweinyddwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anwaith a roes fod i’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(d)dychwelyd y penderfyniad ai cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y gweinyddwr;

(e)dyfarnu costau.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer gosod sancsiynau sifil

11(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd sancsiwn sifil arno yn unol â’r rheoliadau.

(2)Ystyr “hysbysiad cyhoeddusrwydd” yw hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi cyhoeddusrwydd i—

(a)y ffaith y gosodwyd y sancsiwn sifil, a

(b)yr wybodaeth arall honno a all gael ei phennu yn y rheoliadau,

yn y dull hwnnw a all gael ei bennu yn yr hysbysiad.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu bod hysbysiad cyhoeddusrwydd—

(a)yn pennu’r amser ar gyfer cydymffurfio â’r hysbysiad, a

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person y rhoddir yr hysbysiad iddo ddarparu tystiolaeth o gydymffurfio i weinyddwr o fewn yr amser hwnnw y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad.

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu, os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cyhoeddusrwydd, y caiff gweinyddwr—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i’r wybodaeth y mae’n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a

(b)adennill y costau o wneud hynny oddi wrth y person hwnnw.

Personau sy’n atebol i sancsiynau sifil

12(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth ynghylch y personau sy’n atebol i sancsiynau sifil o dan y rheoliadau.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth—

(a)i swyddogion corff corfforaethol fod yn atebol yn y modd hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol ei hun, a

(b)i’r partneriaid o fewn partneriaeth fod yn atebol yn ogystal â’r bartneriaeth ei hun,

o dan yr amgylchiadau hynny a all gael eu pennu.

Canllawiau ynghylch defnyddio pwerau i osod sancsiynau sifil ac adennill costau

13(1)Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau—

(a)bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch defnydd y gweinyddwr o’r sancsiwn sifil,

(b)bod rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol,

(c)bod rhaid i’r gweinyddwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol,

(d)bod rhaid i’r gweinyddwr ymgynghori â’r personau hynny y caiff y rheoliadau eu pennu cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig, ac

(e)bod rhaid i’r gweinyddwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer swyddogaethau’r gweinyddwr.

(2)Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei gosod,

(c)swm y gosb,

(d)sut y gall atebolrwydd am y gosb gael ei ryddhau ac effaith rhyddhad, ac

(e)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

(3)Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod,

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod,

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r gweinyddwr yn debygol o’u hystyried wrth ddyfarnu swm y gosb (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio), a

(d)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

(4)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 9, rhaid iddynt sicrhau ei bod yn ofynnol i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y bydd y gweinyddwr yn arfer y pŵer a roddir gan y ddarpariaeth.

Cyhoeddi camau gorfodi

14(1)Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi adroddiadau o bryd i’w gilydd sy’n pennu—

(a)yr achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt, a

(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y rhyddhawyd atebolrwydd rhag cosb ynddynt yn unol â pharagraff 3(1)(b).

(2)Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.

(3)Nid oes angen i’r rheoliadau sicrhau’r canlyniad yn is-adran (1) mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n amhriodol gwneud hynny.

Cydymffurfio ag egwyddorion rheoleiddiol

15Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd y gweinyddwr yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion—

(a)y dylid cynnal gweithgareddau rheoleiddiol mewn modd tryloyw, atebol, cymesur a chyson;

(b)y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol yn unig ar achosion y mae angen gweithredu arnynt.

Adolygu

16(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau bagiau siopa sy’n rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau.

(2)Rhaid i’r adolygiad cyntaf ddigwydd cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl 1 Hydref 2017; a rhaid i bob adolygiad dilynol ddigwydd cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cynhaliwyd yr adolygiad blaenorol.

(3)Rhaid i adolygiad o dan y paragraff hwn ystyried yn benodol a yw’r ddarpariaeth wedi cyflawni ei amcanion mewn modd effeithlon ac effeithiol.

(4)Wrth gynnal adolygiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi canlyniadau adolygiad o dan y paragraff hwn, a

(b)gosod copi o’r adolygiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Atal dros dro

17(1)Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r gweinyddwr—

(a)pan fo’r pŵer yn bŵer i osod cosb ariannol benodedig, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad o fwriad pellach y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw, a

(b)pan fo’r pŵer yn bŵer i osod gofyniad yn ôl disgresiwn, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad o fwriad pellach y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau bagiau siopa os ydynt wedi eu bodloni bod y gweinyddwr wedi methu â gwneud y canlynol ar fwy nag un achlysur—

(a)cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir arno o dan yr Atodlen hon, neu yn rhinwedd yr Atodlen hon, mewn perthynas a thoriad o’r math hwnnw,

(b)gweithredu’n unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd ganddo mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw (yn benodol, y canllawiau a gyhoeddwyd o dan baragraff 13), neu

(c)gweithredu’n unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt ym mharagraff 15 neu ag egwyddorion arferion gorau eraill mewn perthynas â gorfodi toriad o’r math hwnnw.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ddirymu cyfarwyddyd a roddwyd ganddynt o dan is-baragraff (1) os ydynt wedi eu bodloni bod y gweinyddwr wedi cymryd y camau priodol i unioni’r methiant yr oedd y cyfarwyddyd hwnnw’n ymwneud ag ef.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y gweinyddwr, a

(b)y personau eraill hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn, rhaid iddynt osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Rhaid i’r gweinyddwr gymryd camau i ddwyn cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn i sylw personau eraill y mae’r cyfarwyddyd yn debygol o effeithio arnynt; a rhaid iddo wneud hynny yn y fath fodd (os o gwbl) y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol.

Talu cosbau i Gronfa Gyfunol Cymru

18Pan fo gweinyddwr yn cael y canlynol yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr Atodlen hon—

(a)cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio,

(b)unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu cosb o’r fath yn hwyr, neu

(c)swm a delir er mwyn rhyddhau rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig yn unol â pharagraff 3(1)(b),

rhaid i’r gweinyddwr ei dalu neu ei thalu i Gronfa Gyfunol Cymru.

Mynegai o dermau wedi eu diffinio

19Yn yr Atodlen hon, mae’r ymadroddion a ganlyn yn cael eu diffinio neu eu hegluro fel arall yn y darpariaethau a nodir—

  • “cosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty”): paragraff 6(1);

  • “cosb ariannol amrywiadwy” (“variable monetary penalty”): paragraff 4(4) a (3)(a);

  • “cosb ariannol benodedig” (“fixed monetary penalty”): paragraff 2(3);

  • “gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol” (“non-monetary discretionary requirement”): paragraff 4(4) a (3)(b);

  • “gofyniad yn ôl disgresiwn” (“discretionary requirement”): paragraff 4(3);

  • “hysbysiad cyhoeddusrwydd” (“publicity notice”): paragraff 11(2);

  • “hysbysiad o fwriad” (“notice of intent”) (mewn perthynas â chosb ariannol benodedig arfaethedig): paragraff 3(1)(a);

  • “hysbysiad o fwriad” (“notice of intent”) (mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn arfaethedig): paragraff 5(1)(a);

  • “sancsiwn sifil” (“civil sanction”): paragraff 1(3);

  • “torri” a “toriad” (“breach”) (mewn perthynas â rheoliadau bagiau siopa): paragraff 1(2).

(cyflwynir gan adrannau 27, 64, 70, 81 a 86)

ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU, DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p. 97)

1(1)Mae Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 15A(2)—

(a)ym mharagraff (a)—

(i)ar ôl “Act” mewnosoder “or section 16 of the 2016 Act”;

(ii)hepgorer yr “and” ar y diwedd;

(b)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)“the 2016 Act” means the Environment (Wales) Act 2016.

(3)Yn adran 16—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “The Natural Resources Body for Wales” y tro cyntaf y mae’n ymddangos rhodder “A Welsh local authority”;

(ii)yn lle “Natural Resources Body for Wales” yr ail dro y mae’n ymddangos rhodder “Welsh local authority”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)The power of a Welsh local authority in subsection (1)—

(a)is also exercisable where it appears to the authority that it is expedient in the interests of the locality that land should be managed as a nature reserve;

(b)is exercisable only in relation to land in the authority’s area that is not held by, or managed in accordance with an agreement entered into with, the Natural Resources Body for Wales.;

(c)yn is-adran (3), ym mharagraffau (b) ac (c), yn lle “the Natural Resources Body for Wales” rhodder “a Welsh local authority”;

(d)yn is-adran (4), yn lle “the Natural Resources Body for Wales” rhodder “a Welsh local authority”;

(e)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)In this section a “Welsh local authority” means—

(a)the council of a county or county borough in Wales, and

(b)a National Park authority for a National Park in Wales.

(4)Yn adran 21(4)—

(a)hepgorer “, the Natural Resources Body for Wales”;

(b)yn lle “references in subsection (1) of sections sixteen and seventeen respectively of this Act to the national interest were references” rhodder “reference in subsection (1) of section 17 of this Act to the national interest were a reference”.

Deddf Cefn Gwlad 1968 (p. 41)

2(1)Mae Deddf Cefn Gwlad 1968 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 4.

(3)Hepgorer adran 15.

(4)Yn adran 15A(6)(b), yn lle “such agreement as is referred to in section 15(2)” rhodder “an agreement under section 16 of the Environment (Wales) Act 2016 imposing, for the purpose of conserving flora, fauna, or geographical or physiographical features of special interest, restrictions on the exercise of rights over land by persons having an interest in the land”.

(5)Yn adran 41(2)(b)—

(a)yn is-baragraff (i), yn lle “section 4” rhodder “an experimental scheme under article 10C of the Natural Resources Body for Wales (Establishment) Order 2012 (S.I. 2012/1903), where the scheme is designed to facilitate the enjoyment of the countryside, or to conserve or enhance its natural beauty or amenity”;

(b)yn is-baragraff (ii), yn lle “section 4(5)(b)” rhodder “section 16 of the Environment (Wales) Act 2016 that is designed to facilitate the enjoyment of the countryside, or to conserve or enhance its natural beauty or amenity”.

(6)Yn adran 45(1), hepgorer “the NRBW or”.

(7)Yn adran 47(3), hepgorer “section 4(5)(b) or”.

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69)

3(1)Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 28E(3)(b) yn lle “, section 15 of the 1968 Act or section 7 of the Natural Environment and Rural Communities Act 2006” rhodder “, section 7 of the Natural Environment and Rural Communities Act 2006 or section 16 of the Environment (Wales) Act 2016”.

(3)Yn adran 28J, hepgorer is-adran (13).

(4)Yn adran 32, ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Subsection (2) has effect in relation to Wales as if the reference to an agreement under section 16 of the 1949 Act or section 15 of the 1968 Act were a reference to an agreement under section 16 of the Environment (Wales) Act 2016.

(5)Yn adran 39(5), hepgorer paragraff (e).

(6)Hepgorer adran 40.

(7)Yn adran 41(5)—

(a)yn y diffiniad o “management agreement”, ym mharagraff (b), ar ôl “39” mewnosoder “or under section 16 of the Environment (Wales) Act 2016”;

(b)yn y diffiniad o “the relevant authority” ar ôl “Natural England” mewnosoder “and in relation to Wales it also includes the Natural Resources Body for Wales”.

(8)Yn adran 50(1)(a), hepgorer “or an agreement under section 16 of the 1949 Act or section 15 of the 1968 Act”.

(9)Yn adran 51(1)—

(a)ym mharagraff (c), hepgorer “or an agreement under section 16 of the 1949 Act or section 15 of the 1968 Act”;

(b)ym mharagraff (h), hepgorer “or an agreement under section 16 of the 1949 Act or section 15 of the 1968 Act”.

Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27)

4Yn adran 22(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984—

(a)yn is-baragraff (iv), yn lle “or the Natural Resources Body for Wales are conducting a scheme under section 4 of the 1968 Act” rhoedder “, or in which the Natural Resources Body for Wales is conducting a scheme under article 10C of the Natural Resources Body for Wales (Establishment) Order 2012 (S.I. 2012/1903) that is designed to facilitate the enjoyment of the countryside or to conserve or enhance its natural beauty or amenity”;

(b)yn is-baragraff (v), hepgorer “or an agreement under section 15 of the 1968 Act”.

Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (p. 56)

5Yn adran 156(8) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, yn y diffiniad o “management agreement”, ym mharagraff (b), ar ôl “1981” mewnosoder “or section 16 of the Environment (Wales) Act 2016”.

Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25)

6(1)Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 9(5)(b)(ii), hepgorer “, 5E”.

(3)Yn adran 66, ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7A)A National Park authority for a park in Wales which is proposing to publish, adopt or review any plan under this section must have regard to—

(a)the state of natural resources report published under section 8 of the Environment (Wales) Act 2016, and

(b)any area statement published under section 11 of that Act for an area that includes all or part of the park.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37)

7Yn adran 90 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)In the case of an area of outstanding natural beauty in Wales, a conservation board or relevant local authority which is proposing to publish, adopt or review any plan under section 89 must have regard to—

(a)the state of natural resources report published under section 8 of the Environment (Wales) Act 2016, and

(b)any area statement published under section 11 of that Act for an area that includes all or part of the area of outstanding natural beauty.

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5)

8(1)Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 60(5), fel y’i hamnewidiwyd gan adran 3 o Ddeddf 2015, cyn paragraff (a) mewnosoder—

(za)the national natural resouces policy published under section 9 of the Environment (Wales) Act 2016,.

(3)Yn adran 62(5), ar ôl paragraff (ba), fel y’i mewnosodwyd gan baragraff 25 o Atodlen 2 i Ddeddf 2015, mewnosoder—

(bb)any area statement published under section 11 of the Environment (Wales) Act 2016 for an area that includes all or part of the area of the authority;.

(4)Yn y paragraff hwn, ystyr “Deddf 2015” yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).

Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16)

9(1)Mae Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 40—

(a)cyn is-adran (1) mewnosoder—

(A1)This section applies where—

(a)Her Majesty’s Revenue and Customs are exercising their functions;

(b)any other public authority is exercising its functions in relation to England.

(b)yn is-adran (1), yn lle “Every” rhodder “The”;

(c)yn is-adran (2) yn lle “, government department or the National Assembly for Wales” rhodder “or government department”;

(d)yn is-adran (4)—

(i)hepgorer paragraff (b);

(ii)ym mharagraff (c), yn lle “, a local planning authority and a strategic planning panel” rhodder “and a local planning authority”;

(e)yn is-adran (5), yn y diffiniad o “local authority”—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “in relation to England, a county council” rhodder “a county council in England”;

(ii)hepgorer paragraff (b);

(f)yn yr is-adran honno, hepgorer y diffiniad o “strategic planning panel”.

(3)Hepgorer adran 42.

(4)Yn Atodlen 11, hepgorer y canlynol—

(a)paragraffau 6 i 8;

(b)paragraff 14(4);

(c)paragraffau 41 a 42;

(d)ym mharagraff 43—

(i)is-baragraffau (2) a (3);

(ii)yn is-baragraff (4), paragraffau (a), (b) ac (c)(i);

(iii)is-baragraff (5);

(iv)is-baragraff (7);

(e)paragraff 44;

(f)paragraff 50;

(g)paragraff 55(2);

(h)paragraff 57;

(i)paragraff 59;

(j)paragraff 80;

(k)paragraffau 117 i 121;

(l)paragraff 123;

(m)paragraff 126;

(n)paragraff 141(2)(b).

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)

10(1)Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 11(3), yn lle’r geiriau ar ôl “nodau” rhodder “a bennir yn Trawsnewid ein byd: Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan benderfyniad A/Res/70/1 ar 25 Medi 2015”.

(3)Yn adran 38(3), ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(ga)pob datganiad ardal o dan adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (os o gwbl) sy’n ymwneud ag unrhyw ran o ardal yr awdurdod lleol;.

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4)

11Yn Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, hepgorer paragraff 28.

RHAN 2CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27)

12(1)Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 77, hepgorer y canlynol—

(a)is-adran (3)(b);

(b)is-adran (4)(aa).

(3)Yn adran 98, hepgorer yr eitemau ar gyfer “children”, “nuisance”, “pollution” ac “young people”.

(4)Yn Atodlen 6—

(a)hepgorer paragraffau 4A a 4B;

(b)hepgorer paragraff 7(3A);

(c)hepgorer paragraff 8(2A);

(d)hepgorer paragraff 24(6)(b);

(e)hepgorer paragraff 25(5)(b);

(f)hepgorer paragraff 26(2)(a);

(g)hepgorer paragraff 27(5);

(h)yn y croesbennawd italig cyn paragraff 28, yn lle “two or more” rhodder “both”;

(i)ym mharagraff 28(1)—

(i)hepgorer “any two or more of”;

(ii)hepgorer paragraff (b) (ond nid yr “and” sy’n ei ddilyn).

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)

13(1)Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adrannau 1 a 2.

(3)Yn yr Atodlen, hepgorer paragraff 2.

RHAN 3CASGLU A GWAREDU GWASTRAFF

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43)

14(1)Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mhennawd adran 45A, yn lle “Arrangements” rhodder “England: arrangements”.

(3)Hepgorer adran 45B.

Deddf Ailgylchu Gwastraff Cartrefi 2003 (p. 29)

15Yn Neddf Ailgylchu Gwastraff Cartrefi 2003, hepgorer adran 2.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

16Yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ym mharagraff 35(3), yn Nhabl 1, hepgorer yr eitem sy’n ymwneud ag adran 45B(1) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)

17(1)Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle’r croesbennawd italig cyn adran 9 rhodder—

Gwaredu ar safle tirlenwi neu drwy losgi.

(3)Yn adran 11—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “9” mewnosoder “neu 9A”;

(b)hepgorer is-adran (2).

RHAN 4PWYLLGOR LLIFOGYDD AC ERYDU ARFORDIROL

Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67)

18Yn yr Atodlen i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960, ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(ia)the Flood and Coastal Erosion Committee established by section 26B of the Flood and Water Management Act 2010;.

Deddf Llywodraeth Leol 1974 (p. 7)

19Yn adran 25(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, hepgorer “for an area wholly or partly in England”.

Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57)

20(1)Mae Deddf Adnoddau Dŵr 1991 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 118(7)—

(a)cyn “means” mewnosoder—

(a)in relation to the Agency,;

(b)ar ôl “2010” mewnosoder— , and

(b)in relation to the NRBW, means Wales, within the meaning of section 158 of the Government of Wales Act 2006.

(3)Yn adran 134(2), yn lle “appropriate agency” rhodder “Agency”.

(4)Yn adran 138(3), ar ôl “relevant chargeable land” mewnosoder “(where that land is in England) or by the NRBW (where the relevant chargeable land is in Wales)”.

(5)Yn adran 145, yn y diffiniad o “flood risk management region”—

(a)cyn “means” mewnosoder—

(a)in relation to the Agency,;

(b)ar ôl “2010” mewnosoder— , and

(b)in relation to the NRBW, means Wales, within the meaning of section 158 of the Government of Wales Act 2006.

(6)Yn Atodlen 26, ym mharagraff 7, yn y diffiniad o “the relevant Minister”, ym mharagraff (a)(ii), hepgorer “the whole or the greater part of which is”.

Deddf Draenio Tir 1991 (p. 59)

21Yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Draenio Tir 1991, ar ôl “2010)” mewnosoder “or within Wales (within the meaning of section 158 of the Government of Wales Act 2006)”.

Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25)

22Yn adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995—

(a)yn is-adran (5), hepgorer “and the Natural Resources Body for Wales’ flood defence functions shall extend to the territorial sea adjacent to Wales”;

(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)The flood defence functions of the Natural Resources Body for Wales extend to the territorial sea adjacent to Wales.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)

23Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ar ôl yr eitem ar gyfer y Pwyllgor Ymgynghorol ar Arfau Tanio mewnosoder—

  • Flood and Coastal Erosion Committee or Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10)

24Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, yn lle “A Regional Flood and Coastal Committee for an area wholly or partly in Wales” rhodder “The Flood and Coastal Erosion Committee”.

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29)

25(1)Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 6, ar y diwedd mewnosoder—

(17)“Wales” has the meaning given by section 158 of the Government of Wales Act 2006.

(3)Yn adran 17(4), ar ôl “section 23(3)” mewnosoder “for the Agency”.

(4)Yn y croesbennawd italig cyn adran 22, ar ôl “Committees” mewnosoder “for regions in England”.

(5)Yn adran 22—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “appropriate agency” rhodder “Environment Agency”;

(ii)hepgorer “and Wales”;

(iii)hepgorer y geiriau o “that is wholly or mainly in England” hyd ddiwedd yr is-adran;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “Minister” rhodder “Secretary of State”;

(ii)yn lle “appropriate agency” rhodder “Agency”;

(c)hepgorer is-adran (3).

(6)Yn adran 23—

(a)Yn is-adran (1)—

(i)yn y geiriau agoriadol, yn lle “appropriate agency” rhodder “Environment Agency”;

(ii)ym mharagraff (a), yn lle “appropriate agency” rhodder “Agency”;

(iii)ym mharagraff (b), yn lle “appropriate agency’s” rhodder “Agency’s”;

(b)yn is-adrannau (2) i (4), yn lle “appropriate agency” rhodder “Agency”.

(7)Yn adran 24, yn lle “Minister” rhodder “Secretary of State”.

(8)Yn adran 25—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn y geiriau agoriadol, yn lle “Minister may direct the appropriate agency” rhodder “Secretary of State may direct the Environment Agency”;

(ii)ym mharagraff (d), yn lle “Minister” rhodder “Secretary of State”;

(b)yn is-adran (2), yn lle “appropriate agency” rhodder “Agency”;

(c)yn is-adran (3), yn lle “Minister” rhodder “Secretary of State”.

(9)Hepgorer adrannau 26 a 26A.

(10)Yn adran 49(3), hepgorer paragraff (c).

Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24)

26(1)Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 13—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “or”;

(ii)hepgorer paragraff (d) a’r “or” o’i flaen;

(b)hepgorer is-adran (4);

(c)hepgorer is-adrannau (8) a (9).

(3)Yn adran 36(1), yn y diffiniad o “cross-border operator”—

(a)ar ddiwedd paragraff (za), mewnosoder “or”;

(b)hepgorer paragraff (b) a’r “or” o’i flaen.

Deddf Dŵr 2014 (p. 21)

27Yn Atodlen 10 i Ddeddf Dŵr 2014, hepgorer paragraff 18.

RHAN 5IS-DDEDDFAU

Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p. 97)

28(1)Mae Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 106(5), yn lle “Countryside Council for Wales” rhodder “Natural Resources Body for Wales”.

(3)Yn adran 106A, yn y pennawd ac yn is-adran (1), yn lle “Countryside Council for Wales” rhodder “Natural Resources Body for Wales”.

Deddf Cefn Gwlad 1968 (p. 41)

29Yn adran 41(7A) o Ddeddf Cefn Gwlad 1968, yn lle “Council” rhodder “NRBW”.

Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2)

30(1)Mae Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 3(d), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(3)Yn adran 7(8)(b), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(4)Yn adran 8(8), yn y geiriau agoriadol—

(a)yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”;

(b)yn lle “i’r Cyngor” rhodder “i’r Corff”.

(5)Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 11.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill