xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar sail ardaloedd

10Ystyr corff cyhoeddus yn adrannau 11 i 15

(1)Yn adrannau 11 i 15, ystyr “corff cyhoeddus” yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—

(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(ii)Felindre;

(d)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(e)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;

(f)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(g)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(h)Cyngor Chwaraeon Cymru;

(i)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(j)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)tynnu person ymaith, neu

(c)diwygio disgrifiad o berson.

(3)Ond ni chaiff y rheoliadau—

(a)ond diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus;

(b)ond diwygio’r is-adran honno drwy ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(4)Os yw’r rheoliadau’n diwygio is-adran (1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw adrannau 11 i 15 ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â swyddogaethau’r person hwnnw sydd o natur gyhoeddus.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)CNC,

(b)pob person y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei ychwanegu neu ei dynnu ymaith drwy’r rheoliadau, ac

(c)y personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

11Datganiadau ardal

(1)Rhaid i CNC baratoi a chyhoeddi datganiadau (“datganiadau ardal”) ar gyfer yr ardaloedd o Gymru y mae CNC yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben hwyluso gweithrediad y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol.

(2)Caiff CNC ddefnyddio’r datganiadau ardal at unrhyw ddiben arall wrth arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i bob datganiad ardal—

(a)egluro pam y paratowyd datganiad ar gyfer yr ardal, drwy gyfeirio at—

(i)yr adnoddau naturiol yn yr ardal,

(ii)y manteision y mae’r adnoddau naturiol yn eu cynnig, a

(iii)y blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol y mae angen ymdrin â hwy;

(b)egluro sut y mae egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wedi eu cymhwyso wrth baratoi’r datganiad;

(c)datgan sut y mae CNC yn bwriadu ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd, a sut y mae’n bwriadu cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wrth wneud hynny;

(d)pennu’r cyrff cyhoeddus y mae CNC yn ystyried y gallant gynorthwyo i ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd.

(4)Rhaid i CNC sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael ei chynnwys yn o leiaf un o’r ardaloedd y mae’n paratoi datganiad ardal ar eu cyfer.

(5)Rhaid i CNC—

(a)cymryd pob cam rhesymol er mwyn gweithredu datganiad ardal, a

(b)annog eraill i gymryd camau o’r fath.

(6)Rhaid i CNC adolygu datganiadau ardal yn gyson a chaiff eu diwygio ar unrhyw adeg.

(7)Cyn cyhoeddi datganiad ardal, rhaid i CNC ystyried a ddylid—

(a)ymgorffori cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall yn y datganiad ardal, neu

(b)ymgorffori’r datganiad ardal mewn cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall.

12Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru i weithredu datganiadau ardal

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff cyhoeddus i gymryd y camau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn rhesymol ymarferol er mwyn ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3).

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff cyhoeddus y maent yn bwriadu ei gyfarwyddo.

(3)Pan roddir cyfarwyddyd i gorff cyhoeddus o dan yr adran hon, rhaid i’r corff gydymffurfio ag ef.

(4)Ni chaiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus wneud rhywbeth na chaniateir iddo ei wneud fel arall wrth arfer ei swyddogaethau.

(5)Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.

13Canllawiau ynghylch gweithredu datganiadau ardal

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i gorff cyhoeddus roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru ynghylch camau y dylid eu cymryd i ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau y maent yn eu rhoi at ddibenion yr adran hon.

14Dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i CNC

(1)Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i CNC sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth oni bai bod y corff cyhoeddus wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(2)Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus arfer ei swyddogaethau i ddarparu cymorth arall i CNC sy’n ofynnol gan CNC at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r cymorth oni bai bod y corff cyhoeddus yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r corff cyhoeddus ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r corff cyhoeddus.

(3)Mae’r dyletswyddau ar gorff cyhoeddus yn is-adrannau (1) a (2) hefyd yn ddyletswyddau ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ond nid ydynt ond yn gymwys i’r Comisiynydd os yw’r wybodaeth neu gymorth arall yn ofynnol er mwyn cynhyrchu adroddiad o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol.

15Dyletswydd ar CNC i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i gyrff cyhoeddus

(1)Os yw corff cyhoeddus yn gofyn i CNC ddarparu gwybodaeth i’r corff cyhoeddus sy’n ofynnol ganddo at ddiben gweithredu datganiad ardal, rhaid i CNC ddarparu’r wybodaeth oni bai bod CNC wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(2)Os yw corff cyhoeddus yn gofyn i CNC arfer ei swyddogaethau i ddarparu cymorth arall i’r corff cyhoeddus sy’n ofynnol gan y corff cyhoeddus at ddiben gweithredu datganiad ardal, rhaid i CNC ddarparu’r cymorth oni bai bod CNC yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau CNC ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau CNC.