xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2LL+CCOFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriadLL+C

6Cais i gofrestru fel darparwr gwasanaethLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais ar gyfer cofrestru i Weinidogion Cymru—

(a)sy’n pennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu,

(b)sy’n pennu’r mannau y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy,

(c)sy’n dynodi unigolyn fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob un o’r mannau hynny ac sy’n datgan enw a chyfeiriad pob unigolyn o’r fath (mae adran 21 yn nodi pwy y caniateir iddo gael ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol), a

(d)sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(2)Rhaid i gais fod ar y ffurf ragnodedig.

(3)Caiff person sy’n dymuno cael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â dau neu ragor o wasanaethau rheoleiddiedig wneud un cais mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 6 mewn grym ar 1.2.2018 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(1)(2) (ynghyd ag erglau. 3-15)

I3A. 6 mewn grym ar 29.4.2019 at ddibenion penodedig gan O.S. 2019/864, ergl. 2(1)(2)

I4A. 6 mewn grym ar 23.2.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/181, ergl. 2(b)