2Ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”LL+C
(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” yw—
(a)gwasanaeth cartref gofal,
(b)gwasanaeth llety diogel,
(c)gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
(d)gwasanaeth mabwysiadu,
(e)gwasanaeth maethu,
(f)gwasanaeth lleoli oedolion,
(g)gwasanaeth eirioli,
(h)gwasanaeth cymorth cartref, ac
(i)unrhyw wasanaeth arall sy’n cynnwys y ddarpariaeth o ofal a chymorth yng Nghymru a ragnodir.
(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr termau a ddefnyddir yn is-adran (1).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1, i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 2(1)(a)-(c)(h)(i)(3)(4) mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(b)
I3A. 2(1)(d)-(g) mewn grym ar 29.4.2019 gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(a)
I4A. 2(2) mewn grym ar 2.4.2018 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(b)