Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Yn ddilys o 02/04/2018

2Ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” yw—

(a)gwasanaeth cartref gofal,

(b)gwasanaeth llety diogel,

(c)gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

(d)gwasanaeth mabwysiadu,

(e)gwasanaeth maethu,

(f)gwasanaeth lleoli oedolion,

(g)gwasanaeth eirioli,

(h)gwasanaeth cymorth cartref, ac

(i)unrhyw wasanaeth arall sy’n cynnwys y ddarpariaeth o ofal a chymorth yng Nghymru a ragnodir.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr termau a ddefnyddir yn is-adran (1).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1, i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)