xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121 neu 126(2) neu i banel gorchmynion interim o dan adran 118(2)(b), 119(2) neu 125(2) ac—
(a)nad yw GCC bellach yn meddwl bod rhagolwg realistig y bydd y panel yn dod i’r casgliad bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, neu
(b)bod GCC fel arall yn meddwl nad yw bellach yn briodol i’r person cofrestredig fod yn ddarostyngedig i achos addasrwydd i ymarfer o dan y Rhan hon.
(2)Caiff GCC—
(a)dyfarnu na chaiff y panel addasrwydd i ymarfer neu’r panel gorchmynion interim ddechrau achos neu barhau ag achos mewn cysylltiad â’r mater, neu
(b)dyfarnu na chaiff yr achos addasrwydd i ymarfer ddechrau neu barhau ond mewn cysylltiad ag unrhyw fanylion y mater y mae GCC yn eu pennu.
(3)Pan fo GCC yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (2), caiff atgyfeirio’r mater, neu fanylion penodedig y mater, ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.
(4)Rhaid i GCC roi hysbysiad o ddyfarniad o dan is-adran (2)—
(a)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef,
(b)pan fo honiad wedi ei wneud, i’r person a wnaeth yr honiad, ac
(c)i unrhyw berson y rhoddwyd hysbysiad o’r atgyfeirio iddo o dan adran 123(2)(c), (d) neu (e) neu 127(3).
(5)Rhaid i’r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y dyfarniad.
(6)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon; yn benodol, darpariaeth ynghylch—
(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud dyfarniad o dan is-adran (2), a
(b)cynnwys ac amseriad hysbysiad o dan is-adran (4).