xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r personau a restrir yn is-adran (2)—
(a)bod mater wedi ei atgyfeirio i banel gorchmynion interim o dan adran 125(2);
(b)bod mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 126(2);
(c)o’r ffordd y mae’r mater wedi ei waredu o dan adran 126(3).
(2)Y personau yw—
(a)y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a
(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.
(3)Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall o’r atgyfeiriad neu’r gwarediad o fater o dan adran 126 os yw wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
(4)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon roi’r rhesymau dros yr atgyfeiriad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 127 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)