xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CGOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Parhad Cyngor Gofal Cymru a’i ailenwiLL+C

67Gofal Cymdeithasol CymruLL+C

(1)Mae adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diddymu.

(2)Mae’r corff corfforaethol a elwir Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd gan yr adran honno i barhau i fodoli.

(3)Ond mae wedi ei ailenwi, a’i enw yw Gofal Cymdeithasol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “GCC”).

(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch GCC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 67 mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2

I3A. 67 mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)