xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CTROSOLWG O’R DDEDDF

Cyflwyniad i Rannau 1 a 2 ac i brif gysyniadau’r Ddeddf honLL+C

2Mathau o landlordLL+C

(1)Mae’r Ddeddf hon yn darparu (yn Rhan 2)—

(a)ar gyfer dau fath o landlord—

(i)landlordiaid cymunedol (sef awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a mathau eraill o awdurdod), a

(ii)landlordiaid preifat (sef unrhyw landlord heblaw am landlord cymunedol);

(b)y caiff y ddau fath o landlord wneud, neu fabwysiadu, mathau penodol o gontract meddiannaeth (er bod hyn yn ddarostyngedig i eithriadau amrywiol).

(2)Yn gyffredinol—

(a)contractau diogel yw contractau meddiannaeth a wneir â landlordiaid cymunedol, neu a fabwysiedir ganddynt, a

(b)contractau safonol yw contractau a wneir â landlordiaid preifat, neu a fabwysiedir ganddynt,

ond mae hyn yn ddarostyngedig i eithriadau amrywiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2