xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CCONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

144SymudeddLL+C

(1)Caiff contract safonol â chymorth ddarparu mai’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract yw’r annedd, o fewn adeilad a bennir yn y contract, a bennir gan y landlord o bryd i’w gilydd.

(2)Os yw’n gwneud hynny, yna mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth i’w darllen fel cyfeiriadau at yr annedd sydd wedi ei phennu gan y landlord ar y pryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 144 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2