xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adrannau 176, 186A a 197)

[F1ATODLEN 9ALL+CContractau safonol: CYFYNGIADAU AR ROI HYSBYSIAD O DAN ADRAN 173, o dan adran 186, AC O DAN GYMAL TERFYNU’R LANDLORD

Diwygiadau Testunol

RHAN 1LL+CY CYFYNGIADAU

Methu â darparu datganiad ysgrifenedigLL+C

1[F2(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)sy’n ymgorffori adran 31.]

[F3(2)] Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan—

(a)na roddwyd datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan adran 31(1) (gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig ar ddechrau contract), neu

(b)bo’r landlord yn ymwybodol fod deiliad y contract wedi newid, ac na roddwyd datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad newydd y contract o dan adran 31(2) (gofyniad i roi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract).

Diwygiadau Testunol

F3Atod. 9A para. 1(2): Atod. 9A para. 1 wedi ei ailrifo fel Atod. 9A para. 1(2) (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 (O.S. 2022/143), rhlau. 1, 5(2)(a) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 8)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9A para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Cyfyngiad o chwe mis yn dilyn methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod a bennir yn adran 31LL+C

2[F4(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)sy’n ymgorffori adran 31.]

[F5(2)] Ni chaiff landlord sydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) roi hysbysiad yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

Diwygiadau Testunol

F5Atod. 9A para. 2(2): Atod. 9A para. 2 wedi ei ailrifo fel Atod. 9A para. 2(2) (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 (O.S. 2022/143), rhlau. 1, 5(3)(a) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 8)

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 9A para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Methu â darparu gwybodaethLL+C

3[F6(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)sy’n ymgorffori adran 31.]

[F7(2)] Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).

Diwygiadau Testunol

F7Atod. 9A para. 3(2): Atod. 9A para. 3 wedi ei ailrifo fel Atod. 9A para. 3(2) (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 (O.S. 2022/143), rhlau. 1, 5(4)(a) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 8)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 9A para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F8Methu â darparu tystysgrif perfformiad ynni ddilysLL+C

3A.(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)sy’n ymwneud ag annedd y mae rheoliad 6(5) o’r Rheoliadau PYA (y gofyniad i roi tystysgrif perfformiad ynni ddilys i’r tenant) yn gymwys mewn perthynas â hi.

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â rheoliad 6(5) o’r Rheoliadau PYA.

(3)At ddibenion y paragraff hwn, nid oes gwahaniaeth pryd y rhoddwyd y dystysgrif perfformiad ynni ddilys (ac nid oes dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif perfformiad ynni newydd gael ei rhoi i ddeiliad contract pan fo tystysgrif a roddwyd i’r deiliad contract hwnnw i gydymffurfio â’r rheoliad hwnnw yn peidio â bod yn ddilys o dan y Rheoliadau PYA).

(4)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 9A para. 3A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Torri gofynion sicrwydd a blaendalLL+C

4(1)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano mewn cysylltiad â’r contract ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.LL+C

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (3) i (5) yn gymwys oni bai—

(a)bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu

(b)bod cais i’r llys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.

(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.

(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).

(5)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os nad yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.

[F9(6)Mae is-baragraff (1) wedi ei ymgorffori yn unig fel un o delerau contract a grybwyllir ym mharagraff 7(1) sy’n ymgorffori adran 43.]

Taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2)LL+C

5(1)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—LL+C

(a)taliad gwaharddedig (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) wedi ei wneud mewn perthynas â’r contract fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno, a

(b)y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—

(a)blaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a

(b)methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(3)Wrth benderfynu at ddibenion y paragraff hwn a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—

(a)taliad rhent o dan y contract;

(b)taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 9A para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F10Methu â sicrhau bod larymau mwg a larymau carbon monocsid sy’n gweithio wedi eu gosodLL+C

5A.(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)y mae rheoliad 5 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi”) yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg—

(a)pan fo’r annedd yn cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd rheoliad 5(3) o’r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (methu â sicrhau bod larymau mwg sy’n gweithio ac, mewn rhai amgylchiadau, larymau carbon monocsid sy’n gweithio, wedi eu gosod mewn annedd), a

(b)pan fo, o ganlyniad, yn ofynnol i’r landlord o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon gymryd camau i stopio’r annedd rhag cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd y rheoliad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 9A para. 5A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Methu â chyflenwi adroddiad ar gyflwr trydanol etc.LL+C

5B.(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)y mae rheoliad 6 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi”) yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg—

(a)pan fo’r annedd yn cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd rheoliad 6(6) o’r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (methu â chael adroddiad ar gyflwr trydanol, neu fethu â rhoi adroddiad o’r fath neu gadarnhad ysgrifenedig o waith trydanol arall penodol i ddeiliad y contract), a

(b)pan fo, o ganlyniad, yn ofynnol i’r landlord o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon gymryd camau i stopio’r annedd rhag cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd y rheoliad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 9A para. 5B mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Methu â darparu adroddiad ar ddiogelwch nwy i ddeiliad y contractLL+C

5C.(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)y mae rheoliad 36 o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo’r landlord wedi cydymffurfio â rheoliad 36(6) neu (yn ôl y digwydd) (7) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy (gofyniad i ddarparu neu arddangos adroddiad ar ddiogelwch etc. gosodiadau nwy).

(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae landlord nad yw wedi cydymffurfio â rheoliad 36(6) neu (7) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy i’w drin fel pe bai yn cydymffurfio â’r ddarpariaeth o dan sylw ar unrhyw adeg pan fo—

(a)y landlord wedi sicrhau y rhoddwyd copi o gofnod diogelwch nwy i ddeiliad y contract, neu (yn ôl y digwydd) bod copi ohono wedi ei arddangos mewn lle amlwg yn yr annedd, a

(b)bod y cofnod yn ddilys.

(4)At ddibenion is-baragraff (3), mae cofnod diogelwch nwy yn ddilys hyd ddiwedd y cyfnod y mae’n ofynnol unwaith eto i’r cyfarpar neu’r ffliw y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef fod yn ddarostyngedig i wiriad diogelwch o dan y Rheoliadau Diogelwch Nwy.

(5)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 9A para. 5C mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Ystyr “hysbysiad”LL+C

6LL+CYn yr Atodlen hon, ystyr “hysbysiad” yw hysbysiad o dan—

(a)adran 173 (hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol);

(b)adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(c)cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 9A para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

RHAN 2LL+CDARPARIAETH BELLACH

Darpariaeth sylfaenolLL+C

7(1)Mae Rhan 1 o’r Atodlen hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd [F11, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn Rhan 1,] wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob—LL+C

(a)contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract,

(b)contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 fel un o delerau’r contract, ac

(c)contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

(2)Mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori Rhan 1 o’r Atodlen hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori Rhan 1 o’r Atodlen hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 9A para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Pŵer i ddiwygio’r AtodlenLL+C

8LL+CCaiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.]

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 9A para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2