1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddiben dyfarnu—LL+C
(a)pa un a yw’n rhesymol i landlord wrthod cydsynio i drafodiad, neu
(b)pa un a yw amod y mae landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig iddo yn rhesymol.
(2)Mae Rhan 2 yn nodi amgylchiadau y mae’n rhaid eu hystyried at y diben hwnnw, i’r graddau y maent yn berthnasol (ac i’r graddau nad oes unrhyw ofyniad arall i’w hystyried at y diben hwnnw; er enghraifft, o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)).
(3)Mae Rhan 3 yn nodi amgylchiadau (yn ychwanegol at y rheini sydd yn Rhan 2) y mae’n rhaid eu hystyried at y diben hwnnw mewn perthynas â mathau penodol o drafodiad, i’r graddau y maent yn berthnasol (ac i’r graddau nad oes unrhyw ofyniad arall i’w hystyried at y diben hwnnw).
(4)Mae Rhannau 2 a 3 hefyd yn nodi amgylchiadau penodol pan fo bob amser yn rhesymol i landlord wrthod cydsynio neu osod amodau (yn ddarostyngedig i hawliau Confensiwn deiliad y contract ac unrhyw berson arall a effeithir gan benderfyniad y landlord).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2