xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5CYNLLUNIAU BLAENDAL: DARPARIAETH BELLACH

Defnyddio blaendal sy’n bodoli eisoes mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth wedi ei adnewyddu, neu mewn cysylltiad â math arall o gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle’r contract gwreiddiol

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo deiliad contract wedi talu blaendal mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth (“y contract gwreiddiol”),

(b)pan fo’r landlord, mewn perthynas â’r blaendal—

(i)wedi ei drafod yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig,

(ii)wedi cydymffurfio â gofynion cychwynnol y cynllun, a

(iii)wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b),

(c)pan fo contract meddiannaeth yn cymryd lle’r contract gwreiddiol, a

(d)pan fo’r blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract gwreiddiol yn parhau i gael ei ddal—

(i)mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth arall, a

(ii)yn unol â’r un cynllun blaendal awdurdodedig â phan gydymffurfiwyd ddiwethaf â’r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff (b)(ii) a (iii) mewn perthynas ag ef.

(2)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—

(a)pan fo contract meddiannaeth newydd yn cymryd lle contract meddiannaeth a oedd ei hun yn gontract meddiannaeth a oedd yn cymryd lle contract meddiannaeth arall, a

(b)pan fo’r blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract gwreiddiol yn parhau i gael ei ddal—

(i)mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth newydd sy’n cymryd lle contract arall, a

(ii)yn unol â’r un cynllun blaendal awdurdodedig â phan gydymffurfiwyd ddiwethaf â’r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b)(ii) a (iii) mewn perthynas ag ef.

(3)Mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofynion yn adran 45 mewn perthynas â’r blaendal sy’n cael ei ddal mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth arall.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae contract meddianaeth yn cymryd lle contract meddiannaeth arall—

(a)os yw dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd y contract meddiannaeth blaenorol,

(b)os yw’r landlord a deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yr un fath ag o dan y contract blaenorol, ac

(c)os yw’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol.