xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Os oes dau neu ragor o gyd-ddeiliaid contract o dan gontract meddiannaeth, mae pob cyd-ddeiliad contract yn llwyr atebol i’r landlord am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i’r landlord o dan y contract.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ddeiliad y contract, ac eithrio pan ddarperir fel arall, yn gyfeiriadau at gyd-ddeiliaid y contract.
(3)Mae is-adran (2) yn gymwys hyd yn oed os yw’r contract meddiannaeth yn denantiaeth a’r ystad lesddaliol wedi ei breinio yn un neu ragor, ond nid ym mhob un, o gyd-ddeiliaid y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 48 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth a pherson arall, gyda chaniatâd y landlord, wneud y person arall hwnnw yn gyd-ddeiliad contract o dan y contract.
(2)Os gwneir person yn gyd-ddeiliad contract o dan yr adran hon bydd ganddo’r hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad contract o dan y contract o’r diwrnod y daw’n gyd-ddeiliad contract.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4A. 49 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49, neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I6A. 50 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Ni ellir ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth ond drwy ddogfen wedi ei llofnodi neu ei chyflawni gan bob un o’r partïon i’r trafodiad.
(2)Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r ychwanegiad, rhaid i’r landlord lofnodi neu gyflawni’r ddogfen hefyd.
(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I8A. 51 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2