Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Legislation Crest

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

2015 dccc 6

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer lleihau nifer y prif awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â hynny, ac i wneud diwygiadau eraill i gyfraith llywodraeth leol fel y mae’n gymwys mewn perthynas â Chymru.

[25 Tachwedd 2015]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Rhagarweiniol

1Trosolwg

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer uno 2 brif ardal bresennol neu ragor i greu un brif ardal newydd, gyda phrif awdurdod lleol newydd, ac mewn cysylltiad â hynny; ac yn fwy penodol—

(a)mae adrannau 3 i 10 yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n uno prif ardaloedd presennol i greu prif ardal newydd, gyda phrif awdurdod lleol newydd, mewn ymateb i gais gan y prif awdurdodau lleol presennol;

(b)mae adrannau 11 i 15 yn gwneud darpariaeth i brif awdurdodau lleol ar gyfer y prif ardaloedd presennol yr arfaethir eu huno i greu prif ardal newydd sefydlu pwyllgorau pontio (pa un ai drwy reoliadau neu drwy Fil a gyflwynir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Weinidogion Cymru);

(c)mae adrannau 16 i 24 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau etholiadol a materion cysylltiedig mewn perthynas â phrif ardaloedd newydd;

(d)mae adrannau 25 i 28 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol i aelodau ac uwch swyddogion prif awdurdodau lleol ar gyfer prif ardaloedd newydd, ac mewn cysylltiad â hynny;

(e)mae adrannau 29 i 36 yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i osod cyfyngiadau ar drafodion, a gweithgareddau eraill, gan brif awdurdodau lleol ar gyfer prif ardaloedd yr arfaethir eu huno i greu prif ardal newydd;

(f)mae adrannau 37 a 38 yn darparu ar gyfer gosod gofynion ar y prif awdurdodau lleol hynny i ddarparu gwybodaeth.

(2)Mae’r Ddeddf hon hefyd yn gwneud diwygiadau eraill i’r gyfraith llywodraeth leol; ac yn fwy penodol—

(a)mae adran 39 yn gwneud darpariaeth i’r rheolaethau ar gyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig prif awdurdodau lleol fod yn gymwys i brif swyddogion eraill am gyfnod dros dro;

(b)mae adran 40 yn gwneud newidiadau i’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol penodol i roi sylw i argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

(c)mae adran 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

(d)mae adran 42 yn diwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud ag arolygon o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr;

(e)mae adran 43 yn darparu ar gyfer arbed cynigion etholiadol a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn i Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 ddod i rym.

2Prif ddiffiniadau

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae’r diffiniadau a ganlyn yn cael effaith at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “rheoliadau uno” yw rheoliadau o dan adran 6.

(3)Ystyr “awdurdod sy’n uno” yw—

(a)prif awdurdod lleol ar gyfer prif ardal sydd i gael ei huno i greu prif ardal newydd yn rhinwedd rheoliadau uno, neu

(b)(ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn darparu fel arall) prif awdurdod lleol ar gyfer prif ardal sydd i gael ei huno i greu prif ardal newydd yn rhinwedd darpariaethau Bil a gyflwynir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Weinidogion Cymru neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Ystyr “prif ardal”yw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

(5)Ystyr “prif awdurdod lleol” yw’r awdurdod lleol ar gyfer prif ardal.

(6)Ystyr “prif ardal arfaethedig” yw ardal a bennir fel prif ardal newydd—

(a)mewn cais o dan adran 3(1) neu mewn rheoliadau uno, neu

(b)mewn cynigion a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (pa un ai mewn Bil drafft ai peidio), mewn Bil a gyflwynir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Weinidogion Cymru neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Ystyr “awdurdod cysgodol” yw—

(a)awdurdod sydd wedi ei sefydlu fel awdurdod cysgodol yn unol â darpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau uno o dan adran 7, neu

(b)awdurdod sydd wedi ei ethol fel awdurdod cysgodol ar gyfer prif ardal newydd a bennir mewn Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â darpariaeth a wneir gan y Ddeddf.

(8)Ystyr “dyddiad trosglwyddo”—

(a)mewn perthynas ag achos pan fo ardaloedd prif awdurdodau lleol wedi uno (neu’n mynd i uno) i greu prif ardal newydd yn rhinwedd rheoliadau uno, yw 1 Ebrill 2018;

(b)mewn perthynas ag achos pan fo ardaloedd prif awdurdodau lleol wedi uno (neu’n mynd i uno) i greu prif ardal newydd yn rhinwedd Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yw 1 Ebrill 2020.

(9)Ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â rheoliadau o dan adran 11.

Awdurdodau lleol sy’n uno’n wirfoddol

3Cynigion ar gyfer uno

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff unrhyw 2 brif awdurdod lleol neu ragor, yn ddim hwyrach na 30 Tachwedd 2015 neu unrhyw ddyddiad diweddarach y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy reoliadau, wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru yn cynnig uno eu prif ardaloedd i greu prif ardal newydd.

(2)Nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais o dan is-adran (1).

(3)Ni chaniateir i’r swyddogaeth o wneud cais gan brif awdurdod lleol o dan is-adran (1) fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif awdurdod lleol o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).

(4)Mae’r cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at wneud cais o dan is-adran (1) yn cynnwys gwneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, cyn i’r adran hon ddod i rym, gan 2 brif awdurdod lleol neu ragor sy’n cynnig uno eu prif ardaloedd i greu prif ardal newydd.

4Ymgynghori cyn gwneud cais i uno

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Cyn i brif awdurdodau lleol wneud cais o dan adran 3(1) rhaid i’r prif awdurdodau lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau’r cyhoedd mewn unrhyw brif ardal y mae’r cynnig i uno yn debygol o effeithio arni (“ardal yr effeithir arni”),

(b)y prif awdurdodau lleol ar gyfer ardaloedd yr effeithir arnynt a chynghorau ar gyfer cymunedau mewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(d)prif swyddog yr heddlu a’r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(e)yr awdurdod tân ac achub ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(f)y bwrdd iechyd lleol ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(g)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992) gan un neu ragor o’r prif awdurdodau lleol, ac

(h)unrhyw bersonau eraill y mae’r prif awdurdodau lleol o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Rhaid bodloni is-adran (1) mewn perthynas â chais a wneir cyn i’r adran hon ddod i rym (yn ogystal â chais a wneir ar ôl hynny); a rhaid i unrhyw ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni gofynion yr is-adran honno.

5Canllawiau ynghylch ceisiadau i uno

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau—

(a)ynghylch yr amcanion y dylai cynnig sydd mewn cais o dan adran 3(1) fwriadu eu cyflawni,

(b)ynghylch y materion y dylid eu hystyried wrth lunio’r cynnig sydd mewn cais o dan adran 3(1),

(c)ynghylch sut y mae’r ymgynghoriad sy’n ofynnol gan adran 4(1) i gael ei gynnal, a

(d)fel arall mewn perthynas â gwneud ceisiadau o dan adran 3(1).

(2)Rhaid i brif awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

(3)Gellir cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) drwy roi sylw i unrhyw ganllawiau mewn perthynas ag unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn is-adran (1) a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru cyn i’r adran hon ddod i rym.

6Pŵer i wneud rheoliadau uno

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 3(1) caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, wneud rheoliadau ar gyfer cyfansoddiad prif ardal newydd drwy uno, i greu prif ardal newydd, brif ardaloedd y prif awdurdodau lleol a wnaeth y cais.

(2)Rhaid i reoliadau uno wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)sefydlu’r brif ardal newydd a diddymu’r prif ardaloedd presennol,

(b)ffin y brif ardal newydd,

(c)enw Cymraeg ac enw Saesneg y brif ardal newydd,

(d)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,

(e)sefydlu, fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd,

(f)enw Cymraeg ac enw Saesneg y prif awdurdod lleol newydd,

(g)trosglwyddo swyddogaethau’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd, ac

(h)dirwyn i ben a diddymu’r awdurdodau sy’n uno.

(3)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu y bydd y prif awdurdod lleol newydd yn cael enw’r sir ynghyd ag—

(a)yn achos yr enw Saesneg, y geiriau “County Council” neu’r gair “Council”, a

(b)yn achos yr enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.

(4)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu y bydd y prif awdurdod lleol newydd yn cael enw’r bwrdeistref sirol ynghyd ag—

(a)yn achos yr enw Saesneg, y geiriau “County Borough Council” neu’r gair “Council”, a

(b)yn achos yr enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.

7Awdurdodau cysgodol

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i reoliadau uno—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu, o ddyddiad penodedig, awdurdod cysgodol sy’n cynnwys holl aelodau’r awdurdodau sy’n uno,

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer penodi gweithrediaeth gysgodol gan yr awdurdod cysgodol,

(c)pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol,

(d)gwneud darpariaeth sy’n pennu swyddogaethau’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol, ac ynghylch arfer y swyddogaethau hynny, yn ystod y cyfnod cysgodol,

(e)gwneud darpariaeth ynghylch ariannu’r awdurdod cysgodol, a

(f)gwneud darpariaeth i’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol ddod yn brif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd, ac yn weithrediaeth ar gyfer y prif awdurdod lleol hwnnw, ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “cyfnod cysgodol” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad yr awdurdodir neu y gwneir hi’n ofynnol yn gyntaf i’r awdurdod cysgodol neu’r weithrediaeth gysgodol arfer unrhyw swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau uno, a

(b)sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.

(3)Yn is-adran (1) ystyr “cyfnod cyn yr etholiad” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a

(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol newydd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol a sefydlir neu a benodir yn unol â rheoliadau uno; a rhaid i awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon wrth arfer eu swyddogaethau.

8Etholiadau a chynghorwyr

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n dileu etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i’r awdurdodau sy’n uno ac yn ymestyn tymhorau swyddi presennol cynghorwyr;

(b)sy’n datgymhwyso am gyfnod penodedig ddarpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol llenwi lleoedd gwag achlysurol ar gyfer swydd cynghorydd yn unrhyw un o’r awdurdodau sy’n uno;

(c)sy’n pennu dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol yn y brif ardal newydd a thymhorau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw;

(d)sy’n gohirio etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i gynghorau cymuned yn y brif ardal newydd ac yn ymestyn tymhorau swyddi presennol cynghorwyr.

9Awdurdodau â model gweithrediaeth maer a chabinet

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Os yw un neu ragor o’r awdurdodau sy’n uno yn gweithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet, neu wedi gwneud cynigion i weithredu drwy weithrediaeth o’r fath, caiff y rheoliadau uno gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cysgodol gynnal refferendwm ynghylch a ddylai’r prif awdurdod lleol newydd weithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).

(2)Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth sy’n atal awdurdod sy’n uno rhag llunio a chymeradwyo cynigion i weithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet o’r fath.

10Darpariaeth ganlyniadol etc. arall

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff rheoliadau uno gynnwys unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu throsiannol neu darpariaeth arbed—

(a)at ddibenion rheoliadau uno neu o ganlyniad iddynt, neu

(b)er mwyn rhoi effaith lawn i reoliadau uno.

(3)Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau uno.

(4)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—

(a)ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau ac eiddo, hawliau neu rwymedigaethau (gan gynnwys rhwymedigaethau troseddol) o awdurdod sy’n uno i brif awdurdod lleol newydd;

(b)i achos sifil neu droseddol a gychwynnir gan neu yn erbyn awdurdod sy’n uno gael ei barhau gan neu yn erbyn prif awdurdod lleol newydd;

(c)ar gyfer trosglwyddo staff, digolledu am golli swydd, neu mewn perthynas â phensiynau a materion staffio eraill;

(d)ar gyfer trin prif awdurdod lleol newydd at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod sy’n uno;

(e)mewn perthynas â rheolaeth neu gadwraeth eiddo (tirol neu bersonol) a drosglwyddir i brif awdurdod lleol newydd;

(f)ynghylch cynnal refferendwm sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 9;

(g)mewn perthynas ag ymddiriedolwyr siarter;

(h)mewn perthynas â siroedd wedi eu cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).

(5)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo yn unol â rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chontract cyflogi.

(6)Mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, yn gymwys i drosglwyddiad a wneir yn unol â rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y Rheoliadau hynny ai peidio).

(7)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag—

(a)sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth cyrff o’r fath mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan y rheoliadau uno ac ethol neu benodi aelodau’r cyrff cyhoeddus, neu

(b)diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu ymestyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno.

(8)Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) fod ar ffurf darpariaeth—

(a)sy’n addasu, yn eithrio neu’n cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad, neu

(b)sy’n diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).

(9)Mae “deddfiad” yn is-adran (8) yn cynnwys unrhyw siarter, pa bryd bynnag y’i rhoddwyd.

(10)Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru achosi i ymchwiliad gael ei gynnal o dan is-adran (6) o adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (awdurdodau cyfunol) mewn perthynas â gorchymyn o dan is-adran (4) o’r adran honno a wneir o ganlyniad i reoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2).

(11)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)amrywio rheoliadau uno (neu reoliadau o dan y paragraff hwn) drwy reoliadau, a

(b)amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (2) (neu’r paragraff hwn) drwy reoliadau.

Pwyllgorau pontio

11Pwyllgorau pontio

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy reoliadau i awdurdodau sy’n uno y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu un brif ardal newydd sefydlu pwyllgor pontio.

12Cyfansoddiad pwyllgorau pontio

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae pwyllgor pontio i gynnwys nifer cyfartal o aelodau, heb fod yn llai na 5, o bob un o’r awdurdodau sy’n uno.

(2)Rhaid i aelodau o awdurdod sy’n uno sydd i fod yn aelodau o’r pwyllgor pontio gael eu penodi gan yr awdurdod sy’n uno.

(3)Nifer yr aelodau sydd i gael eu penodi gan bob un o’r awdurdodau sy’n uno yw’r nifer y cytunir arno gan yr awdurdodau sy’n uno neu, yn niffyg cytundeb, y nifer y penderfyna Gweinidogion Cymru arno.

(4)Rhaid i arweinydd gweithredol awdurdod sy’n uno fod yn un o’r aelodau a benodir gan yr awdurdod.

(5)Os nad yw’r aelod gweithredol o awdurdod sy’n uno sydd â chyfrifoldeb am gyllid hefyd yn arweinydd gweithredol ar yr awdurdod sy’n uno, rhaid i’r aelod gweithredol hwnnw hefyd gael ei benodi’n aelod.

(6)Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor ond ni chaiff y rhain bleidleisio.

(7)Mae pwyllgor pontio i’w drin at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau awdurdodau lleol) fel pwyllgor y mae paragraff 2 o’r Atodlen honno yn gymwys iddo.

13Swyddogaethau pwyllgorau pontio

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i bwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i‘r awdurdodau sy’n uno a’i sefydlodd, ac i’r awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, ynghylch—

(a)hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau a rhwymedigaethau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd,

(b)sicrhau bod y prif awdurdod lleol newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif awdurdod lleol newydd yn effeithiol o’r adeg pan fo’n eu hysgwyddo, ac

(c)unrhyw ddibenion eraill y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddydau.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol—

(a)i bwyllgor pontio penodol,

(b)i bob pwyllgor pontio o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd, neu

(c)i bob pwyllgor pontio,

arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o dan yr adran hon gan gyfarwyddyd dilynol ar unrhyw adeg.

(4)Rhaid i bwyllgor pontio gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan yr adran hon.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau pwyllgorau pontio a rhaid i bwyllgor pontio roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.

(6)Ni chaiff pwyllgor archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu mewn awdurdod sy’n uno arfer unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan bwyllgor pontio; ac at y diben hwn—

  • mae i “pwyllgor archwilio” (“audit committee”) yr ystyr a roddir gan adran 81 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;

  • mae i “pwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr a roddir i “overview and scrutiny committee” gan adran 21(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

14Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontio

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.

(2)Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.

(3)Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r awdurdodau sy’n uno i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.

(4)Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a gyfeirir at yr is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.

15Darparu cyllid, cyfleusterau a gwybodaeth i bwyllgorau pontio

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i’r awdurdodau sy’n uno dalu costau’r pwyllgor pontio.

(2)Rhaid i’r awdurdodau sy’n uno dalu costau’r pwyllgor pontio yn ôl y cyfrannau y cytunant arnynt neu, yn niffyg cytundeb, y cyfrannau a ddyfernir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i’r awdurdodau sy’n uno ddarparu i’r pwyllgor pontio y cyfleusterau a’r adnoddau (gan gynnwys staff) a’r wybodaeth y gwna’r pwyllgor pontio (neu unrhyw is-bwyllgor i’r pwyllgor pontio) gais rhesymol amdanynt er mwyn ei alluogi i arfer ei swyddogaethau.

Trefniadau etholiadol etc. ar gyfer prif ardaloedd newydd

16Cyfarwyddydau i gynnal adolygiad cychwynnol

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy gyfarwyddyd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig.

(2)Yn y Ddeddf hon ystyr “adolygiad cychwynnol”, mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig, yw adolygiad a gynhelir at ddiben argymell trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ond caiff hefyd gynnwys unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol sy’n briodol ym marn y Comisiwn.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “newidiadau canlyniadol perthnasol”, mewn perthynas â threfniadau etholiadol a argymhellir ar gyfer prif ardal arfaethedig, yw newidiadau yn—

(a)ffiniau cymunedau yn y brif ardal arfaethedig,

(b)cyfansoddiad cynghorau ar gyfer cymunedau, neu gynghorau cyffredin ar gyfer grwpiau o gymunedau, yn y brif ardal arfaethedig, neu

(c)trefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau yn y brif ardal arfaethedig.

(4)Yn y Ddeddf hon ystyr “trefniadau etholiadol”, mewn perthynas â phrif ardal neu gymuned, yw—

(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal neu’r gymuned,

(b)ei rhaniad yn wardiau etholiadol yn achos y brif ardal, ac (os yw’n briodol) yn wardiau cymuned yn achos cymuned, ar gyfer ethol aelodau,

(c)nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol, ac unrhyw wardiau cymuned, y mae’r brif ardal neu unrhyw gymuned yn y brif ardal i gael ei rhannu iddynt at ddiben ethol aelodau,

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol neu ward gymuned, ac

(e)enw unrhyw ward etholiadol neu ward gymuned.

(5)Yn is-adran (4)(c) mae’r cyfeiriad at y math o ward etholiadol neu ward gymuned yn gyfeiriad at ba un a yw ward etholiadol neu ward gymuned yn ward un aelod neu’n ward amlaelod; ac at y diben hwn—

  • ystyr “ward amlaelod”(“multiple member ward”) yw ward y mae nifer penodedig (mwy nag un) o aelodau i’w hethol ar gyfer y ward honno;

  • ystyr “ward un aelod” (“single member ward”) yw ward y mae un aelod yn unig i’w ethol ar ei chyfer.

17Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i gyfarwyddyd o dan adran 16 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig bennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r Comisiwn gyflwyno i Weinidogion Cymru o dan is-adran (4)(a) o adran 21 yr adroddiad a baratowyd ganddo o dan yr adran honno.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan adran 16 ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn roi sylw i faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cyffredinol ynghylch cynnal adolygiadau cychwynnol, gan gynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch ym mha drefn y mae gwahanol adolygiadau cychwynnol sy’n ofynnol gan gyfarwyddydau o dan adran 16 i’w cynnal, a

(b)darpariaeth sy’n pennu’r materion y mae’r Comisiwn i roi sylw iddynt wrth gynnal adolygiadau cychwynnol.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt ei bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.

(5)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o dan adran 16 neu’r adran hon ar unrhyw adeg drwy gyfarwyddyd dilynol.

(6)Caniateir (yn benodol) i gyfarwyddyd o dan adran 16 mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig gael ei roi ar ôl cyhoeddi argymhelliad y Comisiwn ar adolygiad cychwynnol a gynhaliwyd mewn perthynas â’r brif ardal arfaethedig yn unol â chyfarwyddyd blaenorol o dan yr adran honno.

(7)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 16 neu’r adran hon.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch cynnal adolygiadau cychwynnol gan y Comisiwn ac wrth gynnal adolygiad cychwynnol rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.

18Cynnal adolygiad cychwynnol

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Wrth gynnal adolygiad cychwynnol rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus.

(2)Caiff cyfarwyddydau a roddir a chanllawiau a ddyroddir o dan adran 17 bennu beth yw ystyr llywodraeth leol effeithiol a hwylus at ddibenion is-adran (1).

(3)Rhaid i’r Comisiwn, wrth ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal arfaethedig mewn adolygiad cychwynnol—

(a)ceisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r prif awdurdod lleol sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal arfaethedig, neu mor agos ag y gall fod, a

(b)rhoi sylw i’r canlynol—

(i)dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sy’n hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly, a

(ii)dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

(4)At ddibenion is-adran (3)(a) mae sylw i gael ei roi i’r canlynol—

(a)unrhyw anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sy’n gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a

(b)unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal arfaethedig sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud argymhellion.

(5)Wrth ystyried mewn adolygiad cychwynnol a ddylid, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, rannu cymuned yn wardiau cymuned o ganlyniad i’r trefniadau etholiadol a argymhellir ar gyfer y brif ardal arfaethedig, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)a yw nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned yn gwneud un etholiad ar gyfer cynghorwyr cymuned yn anymarferol neu’n anghyfleus, a

(b)a yw’n ddymunol i unrhyw ardal o’r gymuned gael cynrychiolaeth ar wahân ar y cyngor cymuned.

(6)Pan benderfynir, mewn adolygiad cychwynnol, y dylid rhannu cymuned yn wardiau cymuned, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, wrth ystyried maint a ffiniau’r wardiau ac wrth bennu nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob ward, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhellion,

(b)dymunoldeb pennu ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly, ac

(c)unrhyw gwlwm lleol a fydd yn cael ei dorri wrth bennu unrhyw ffiniau penodol.

(7)Pan benderfynir, mewn adolygiad cychwynnol, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, na ddylai cymuned gael ei rhannu yn wardiau cymuned, wrth bennu nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob cymuned, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)nifer a dosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned, a

(b)unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl pennu nifer y cynghorwyr cymuned.

(8)At ddibenion is-adrannau (5) i (7) rhaid rhoi sylw i unrhyw anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sy’n gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol).

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “etholwr llywodraeth leol” (“local government elector”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n etholwr llywodraeth leol yn y gofrestr etholwyr yn unol â darpariaethau Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl;

  • ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny o fewn yr ystyr a roddir i “relevant official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

19Y weithdrefn ragadolygu

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Cyn cynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig, rhaid i’r Comisiwn gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—

(a)dwyn yr adolygiad i sylw’r ymgyngoreion mandadol ac unrhyw bersonau eraill y mae o’r farn ei bod yn debygol bod ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a

(b)gwneud yr ymgyngoreion mandadol a’r personau eraill sydd â buddiant yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd i gynnal yr adolygiad ac unrhyw gyfarwyddydau eraill a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.

(2)Cyn cynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion mandadol ar y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ganddo ar gyfer yr adolygiad cychwynnol ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu ar nifer priodol yr aelodau ar gyfer y prif awdurdod lleol yn y brif ardal arfaethedig.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “yr ymgyngoreion mandadol” yw—

(a)y prif awdurdodau lleol y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu’r brif ardal arfaethedig a’r cynghorau ar gyfer unrhyw gymuned bresennol neu gymunedau presennol yn y brif ardal arfaethedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru yn y cyfarwyddyd i gynnal yr adolygiad.

20Ymgynghori ac ymchwilio

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Wrth gynnal ymchwiliad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn gynnal yr ymchwiliadau hynny y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Ar ôl cynnal yr ymchwiliadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad sy’n cynnwys—

(a)y cynigion y mae o’r farn eu bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ac unrhyw gynigion y caiff farnu eu bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol, a

(b)manylion yr adolygiad y mae wedi ei gynnal.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r adroddiad ar wefan,

(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd y prif awdurdodau lleol y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu’r brif ardal arfaethedig ar hyd y cyfnod ar gyfer sylwadau,

(c)anfon copïau o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion mandadol,

(d)hysbysu unrhyw bersonau y mae’r Comisiwn yn eu hystyried yn briodol sut i gael copi o’r adroddiad, ac

(e)gwahodd sylwadau a hysbysu Gweinidogion Cymru, yr ymgyngoreion mandadol ac unrhyw bersonau y mae’r Comisiwn yn eu hystyried yn briodol am y cyfnod ar gyfer sylwadau.

(4)At ddibenion is-adran (3) “y cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na 6 wythnos nac yn hwy na 12 wythnos (fel a benderfynir gan y Comisiwn) sy’n dechrau yn ddim cynt nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod.

21Adrodd ar adolygiad cychwynnol

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i’r Comisiwn, ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan adran 20(3) ddod i ben, ystyried ei gynigion gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.

(2)Yna rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad pellach.

(3)Rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)yr argymhellion y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ac unrhyw argymhellion y caiff y Comisiwn farnu eu bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol,

(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(4)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i Weinidogion Cymru,

(b)cyhoeddi’r adroddiad ar wefan a sicrhau ei fod ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd y prif awdurdodau lleol y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu’r brif ardal arfaethedig am gyfnod o 6 wythnos o leiaf gan ddechrau â’r dyddiad cyhoeddi,

(c)anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion mandadol a’r Arolwg Ordnans, a

(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 20 sut i gael copi o’r adroddiad.

(5)Nid yw adran 29(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dim argymhellion i gael eu gwneud neu eu cyhoeddi yn y 9 mis cyn etholiad cyffredin) yn gymwys yn achos argymhellion o dan yr adran hon.

22Gweithredu gan Weinidogion Cymru

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt gael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad cychwynnol, weithredu unrhyw argymhelliad a gynhwysir yn yr adroddiad drwy reoliadau, gydag addasiadau neu hebddynt.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ond weithredu argymhelliad gydag addasiadau os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 18 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud yr addasiadau.

(3)Ni chaniateir gwneud unrhyw reoliadau o dan is-adran (1) nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoedda’r Comisiwn yr adroddiad o dan adran 21 wedi dod i ben.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth bellach mewn perthynas ag argymhellion y Comisiwn y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (1) (neu’r is-adran hon) drwy reoliadau.

23Rheoliadau etholiadol os na wneir unrhyw argymhellion

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Os nad yw’r Comisiwn wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad cychwynnol sy’n ymwneud â phrif ardal arfaethedig erbyn y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol ei gynnal, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-⁠adran (2).

(2)Caiff Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud y ddarpariaeth y maent o’r farn ei bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ac unrhyw ddarpariaeth y maent o’r farn ei bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol.

(3)Rhaid i’r Comisiwn roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw faterion sydd wedi dod i’w sylw o ganlyniad i—

(a)unrhyw ymgynghoriad o dan adran 19,

(b)unrhyw ymchwiliad o dan adran 20,

(c)paratoi adroddiad o dan adran 20 neu 21, neu

(d)unrhyw beth arall a wnaed wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol,

fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig, rhaid i’r Comisiwn gynnal ei adolygiad cyntaf o’r brif ardal o dan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal a, sut bynnag, cyn diwrnod yr un nesaf.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (2) (neu’r is-adran hon) drwy reoliadau.

24Cyfnodau adolygu yn y dyfodol

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3) o adran 29 o Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (cyfnodau adolygu o 10 mlynedd) drwy reoliadau.

Trefniadau cydnabyddiaeth ariannol etc. ar gyfer prif awdurdodau lleol newydd

25Cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i gyflawni swyddogaethau perthnasol

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) fod yn rhaid iddo gyflawni’r swyddogaethau perthnasol—

(a)mewn perthynas ag awdurdod cysgodol, a

(b)mewn perthynas â phrif awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf y bydd yn brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno neu ddarpariaethau Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Y swyddogaethau perthnasol yw’r swyddogaethau o dan—

(a)adran 142 (pwerau a dyletswyddau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau), a

(b)adran 143 (swyddogaethau sy’n ymwneud â phensiynau aelodau),

o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

(3)Mae Rhan 8 o’r Mesur hwnnw yn gymwys, felly, yn achos awdurdod cysgodol y rhoddwyd cyfarwyddyd mewn perthynas ag ef o dan is-adran (1)(a) (am ba hyd bynnag ag y bydd y cyfarwyddyd yn cael effaith) fel pe bai’n awdurdod perthnasol o fewn ystyr y Rhan honno o’r Mesur hwnnw; ond wrth ei gymhwyso yn rhinwedd yr is-adran hon mae Rhan 8 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)yr addasiadau yn is-adran (4), a

(b)adran 26.

(4)Dyma’r addasiadau—

(a)yn adran 142(8) (ystyriaeth i gael ei rhoi i’r effaith ariannol ar awdurdodau perthnasol), mae’r cyfeiriad at “awdurdodau perthnasol” i gynnwys awdurdodau cysgodol, a

(b)mae’r pŵer i adroddiad blynyddol osod gofynion o dan adran 150(1) (osgoi dyblygu taliadau etc.) i fod yn ddyletswydd i adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol osod y gofynion hynny.

(5)Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf y mae awdurdod yn brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno, caiff y Panel—

(a)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1),

(b)pennu symiau gwahanol o dan adran 142(3),

(c)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(4),

(d)gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill o dan adran 142(6), ac

(e)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3),

mewn perthynas ag amserau cyn y bydd y prif awdurdod lleol yn cynnwys cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ac wedi hynny.

26Adroddiadau’r Panel

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i’r Panel gynnwys yn yr adroddiad cyntaf o dan Ran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n ymwneud ag awdurdod a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 25(1) yr wybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod a bennir yn adran 146(3) o’r Mesur hwnnw.

(2)Caniateir cynnwys y materion y mae’n ofynnol eu cynnwys mewn adroddiad gan y Panel mewn perthynas ag awdurdod cysgodol mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol.

(3)Os yw’r adroddiad cyntaf sy’n ymwneud ag awdurdod cysgodol yn adroddiad atodol, rhaid ei gyhoeddi o leiaf 6 wythnos cyn i’r awdurdod cysgodol gael ei sefydlu neu ei ethol.

(4)Rhaid cynnwys y materion y mae’n ofynnol eu cynnwys mewn adroddiad gan y Panel mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf y bydd awdurdod yn brif awdurdod lleol yn adroddiad blynyddol y Panel ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

(5)Ond, os yw’r Panel o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gall, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad y mae awdurdod sy’n brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno yn cynnwys am y tro cyntaf gynghorwyr a etholwyd i’r prif awdurdod newydd, gyhoeddi adroddiad atodol mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn ariannol gyntaf honno sy’n disgyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.

27Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Panel

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o dan adran 25 gan gyfarwyddyd dilynol ar unrhyw adeg.

(2)Rhaid i’r Panel gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 25.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch y modd yr arfera’r Panel ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 25 a 26; a rhaid i’r Panel, pan fo’n arfer ei swyddogaethau yn y modd hwnnw, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.

28Datganiadau polisi tâl

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i bwyllgor pontio a sefydlir gan awdurdodau sy’n uno gyhoeddi argymhellion o ran y datganiadau polisi tâl sydd i’w paratoi gan yr awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i’w chreu.

(2)Rhaid cyhoeddi’r argymhellion yn ddim hwyrach na 42 o ddyddiau cyn y dyddiad y sefydlir yr awdurdod cysgodol neu y cynhelir etholiadau ar gyfer yr awdurdod cysgodol.

(3)Rhaid i awdurdod cysgodol baratoi a chymeradwyo datganiad polisi tâl (a chaiff ei ddiwygio) yn unol ag adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011—

(a)ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â chymeradwyo’r datganiad polisi tâl ac sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a

(b)ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf y bydd prif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd.

(4)Ni chaniatier i awdurdod cysgodol benodi neu ddynodi prif swyddog (o fewn ystyr adran 43(2) of Ddeddf Lleoliaeth 2011) hyd nes y bydd y datganiad polisi tâl o dan is-adran (3)(a) wedi ei baratoi a’i gymeradwyo.

(5)Mae adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5), 41(1) a (2) a 42(1) a (2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn gymwys yn unol â hynny ond fel pe bai’r awdurdod cysgodol yn awdurdod perthnasol a’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) yn flwyddyn ariannol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch cyflawni dyletswyddau a osodir gan yr adran hon a rhaid i bwyllgorau pontio ac awdurdodau cysgodol, wrth gyflawni dyletswyddau a osodir gan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.

Cyfyngiadau ar drafodion a recriwtio etc. gan awdurdodau sy’n uno

29Cyfyngu ar drafodion a recriwtio etc. drwy gyfarwyddyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo—

(a)na chaiff awdurdod sy’n uno gyflawni gweithgaredd cyfyngedig oni bai ei fod wedi ystyried barn person neu bersonau penodedig ynghylch priodoldeb cyflawni’r gweithgaredd;

(b)na chaiff awdurdod sy’n uno gyflawni gweithgaredd cyfyngedig oni bai bod person neu bersonau penodedig wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i gyflawni’r gweithgaredd.

(2)Y gweithgareddau cyfyngedig yw—

(a)gwneud caffaeliad neu warediad tir perthnasol;

(b)ymrwymo i gontract neu gytundeb perthnasol;

(c)gwneud caffaeliad cyfalaf perthnasol;

(d)rhoi grant neu gymorth ariannol arall perthnasol;

(e)rhoi benthyciad perthnasol;

(f)cynnwys swm o gronfeydd ariannol wrth gefn mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(g)dechrau’r broses o recriwtio (gan gynnwys drwy recriwtio mewnol)—

(i)prif swyddog anstatudol a grybwyllir yn adran 2(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

(ii)dirprwy brif swyddog a grybwyllir yn adran 2(8) o’r Ddeddf honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid i awdurdod sy’n uno sy’n ceisio penodi neu ddynodi person i swydd gyfyngedig (gan gynnwys o blith ei swyddogion presennol) gydymffurfio â gofynion penodedig ynghylch y penodiad neu’r dynodiad.

(4)Ystyr “swydd gyfyngedig”, mewn perthynas ag awdurdod sy’n uno, yw—

(a)pennaeth ei wasanaeth cyflogedig a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

(b)ei swyddog monitro a ddynodir o dan adran 5(1) o’r Ddeddf honno;

(c)prif swyddog statudol a grybwyllir yn adran 2(6) o’r Ddeddf honno.

(5)Rhaid i awdurdod sy’n uno—

(a)darparu manylion ynghylch cynnig arfaethedig i gyflawni gweithgaredd cyfyngedig i unrhyw berson a bennir at ddibenion is-adran (1)(a) neu (b) mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw;

(b)darparu manylion i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig arfaethedig i benodi neu i ddynodi person i swydd gyfyngedig o dan amgylchiadau pan fo unrhyw ofynion yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad neu’r dynodiad yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan is-adran (3).

(6)Os rhoddir barn at ddibenion is-adran (1)(a) na fyddai’n briodol i awdurdod sy’n uno gyflawni gweithgaredd cyfyngedig ond bod yr awdurdod yn penderfynu ei gyflawni, rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ei resymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.

(7)Nid yw adran 143A(1)(b) a (3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyflogau) yn gymwys—

(a)pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan is-adran (1)(b) mewn perthynas â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog, i gynnig i dalu cyflog i’r person sy’n cael ei recriwtio sy’n wahanol i’r hyn a dalwyd i ragflaenydd y person hwnnw;

(b)pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan is-adran (3), i gynnig i dalu cyflog i’r person a benodir neu a ddynodir sy’n wahanol i’r hyn a dalwyd i ragflaenydd y person hwnnw.

(8)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (7) at adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y mae’n cael effaith o dan adran 39 o’r Ddeddf hon.

(9)Mae cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn cael effaith o’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

30Cyfarwyddydau o dan adran 29(1): atodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan adran 29(1).

(2)Caniateir rhoi cyfarwyddyd mewn perthynas â’r canlynol—

(a)un awdurdod sy’n uno;

(b)dau awdurdod penodedig neu ragor;

(c)awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.

(3)Caiff person a bennir fel person y mae’n ofynnol cael ei farn neu ei gydsyniad fod yn unrhyw awdurdod neu berson y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol, a chaiff hyn gynnwys Gweinidogion Cymru, unrhyw bwyllgor pontio ac unrhyw awdurdod cysgodol.

(4)Caiff cyfarwyddyd bennu personau gwahanol—

(a)mewn perthynas â materion gwahanol y mae’n ofynnol cael barn neu gydsyniad yn eu cylch;

(b)mewn perthynas â gwahanol awdurdodau sy’n uno neu ddisgrifiadau gwahanol o awdurdodau.

(5)Caiff cyfarwyddyd bennu, mewn perthynas â’r un gweithgaredd cyfyngedig, ofynion gwahanol mewn perthynas â thrafodion o werthoedd gwahanol.

(6)Caiff cyfarwyddyd bennu, mewn perthynas â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog—

(a)gofynion gwahanol mewn perthynas â lefelau gwahanol o gydnabyddiaeth ariannol arfaethedig;

(b)gofynion gwahanol mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o swyddogion.

(7)Caniateir rhoi barn neu gydsyniad at ddibenion cyfarwyddyd mewn perthynas â thrafodiad penodol neu drafodion o unrhyw ddisgrifiad.

(8)Caniateir i unrhyw gydsyniad at ddibenion cyfarwyddyd gael ei roi yn ddiamod neu yn ddarostyngedig i amodau.

(9)At ddibenion cyfarwyddyd sy’n ymwneud â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog, caiff barn a roddir, neu amodau y mae cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt, ymwneud yn benodol—

(a)â’r gydnabyddiaeth ariannol sydd i fod yn daladwy i berson sy’n cael ei recriwtio;

(b)â hyd penodiad.

(10)Mae unrhyw ddeddfiadau sy’n ymwneud â chaffaeliadau neu warediadau, ymrwymo i gontractau neu gytundebau, rhoi grantiau neu gymorth ariannol arall, rhoi benthyciadau, neu recriwtio neu benodi personau gan awdurdodau sy’n uno yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd.

(11)Mae cydsyniad sy’n ofynnol gan gyfarwyddyd yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan unrhyw un neu ragor o’r ddeddfiadau hynny.

31Cyfarwyddydau o dan adran 29(1): darpariaeth bellach ynghylch cronfeydd wrth gefn

(1)Caiff cyfarwyddyd o dan adran 29(1)—

(a)darparu nad yw barn neu gydsyniad y person neu’r personau a bennir yn y cyfarwyddyd yn ofynnol er mwyn cynnwys, mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, gronfeydd ariannol wrth gefn o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)darparu, mewn perthynas ag unrhyw awdurdod sy’n uno, neu ddisgrifiad o awdurdod sy’n uno, nad yw barn neu gydsyniad yn ofynnol er mwyn cynnwys mewn cyfrifiad o’r fath swm o gronfeydd ariannol wrth gefn nad yw’n fwy na swm a bennir yn y cyfarwyddyd neu a ddyfernir oddi tano.

(2)Os yw cyfarwyddyd yn cynnwys darpariaeth yn rhinwedd is-adran (1), mae’r cyfeiriad yn adran 29(2)(f) at swm o gronfeydd ariannol wrth gefn i’w ddarllen fel cyfeiriad at swm o gronfeydd ariannol wrth gefn ac eithrio swm a ganiateir gan y cyfarwyddyd.

32Cyfarwyddydau o dan adran 29(3): atodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan adran 29(3).

(2)Caniateir rhoi cyfarwyddyd mewn perthynas â’r canlynol—

(a)un awdurdod sy’n uno;

(b)dau awdurdod penodedig neu ragor;

(c)awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.

(3)Caiff cyfarwyddyd bennu gofynion gwahanol ar gyfer swyddi o ddisgrifiadau gwahanol.

(4)Caiff gofynion a osodir ar awdurdod sy’n uno gan gyfarwyddyd ymwneud, yn benodol⁠—

(a)â’r gydnabyddiaeth ariannol sydd i fod yn daladwy i berson a benodir neu a ddynodir;

(b)â hyd penodiad neu ddynodiad.

(5)Mae unrhyw ddeddfiadau sy’n ymwneud â recriwtio, dynodi neu benodi personau gan awdurdodau sy’n uno yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd.

33Cyfarwyddydau: canlyniadau tramgwyddo

(1)Mae caffaeliad neu warediad a wneir mewn modd sy’n tramgwyddo cyfarwyddyd a roddir o dan adran 29 yn ddi-rym.

(2)Mae contract (gan gynnwys contract cyflogaeth) neu gytundeb yr ymrwymir iddo mewn modd sy’n tramgwyddo cyfarwyddyd a roddir o dan adran 29 yn anorfodadwy.

(3)Mae grant neu gymorth ariannol arall, neu fenthyciad, a roddir mewn modd sy’n tramgwyddo cyfarwyddyd a roddir o dan adran 29 yn ad-daladwy.

(4)Os yw awdurdod sy’n uno yn cynnwys cronfeydd ariannol wrth gefn mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 mewn modd sy’n tramgwyddo cyfarwyddyd a roddir o dan adran 29, mae’r awdurdod i’w drin at ddibenion adran 30(8) o’r Ddeddf honno fel pe na bai wedi gwneud y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan Bennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf honno.

34Dehongli adrannau 29 i 36

(1)Yn adrannau 29 a 35, ystyr “caffaeliad neu warediad tir perthnasol” yw caffael neu waredu tir os yw’r gydnabyddiaeth am y caffaeliad neu’r gwarediad yn fwy na £150,000.

(2)Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at gaffael neu waredu tir yn cynnwys—

(a)caffael neu roi neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,

(b)ymrwymo i gontract i gaffael neu waredu tir neu i gaffael neu roi neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir, ac

(c)caffael neu roi opsiwn i gaffael unrhyw dir neu unrhyw fuddiant mewn tir.

(3)Yn adrannau 29 a 35, ystyr “contract neu gytundeb perthnasol” yw—

(a)unrhyw gontract, ac eithrio contract cyfalaf, y mae’r gydnabyddiaeth oddi tano yn fwy na £150,000 pan fo—

(i)cyfnod y contract yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

(ii)y caniateir ymestyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r contract,

(b)unrhyw gontract cyfalaf y mae’r gydnabyddiaeth oddi tano yn fwy na £500,000, neu

(c)unrhyw gytundeb fframwaith o fewn ystyr rheoliad 2(1) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2006 (O.S. 2006/5) pan fo—

(i)cyfnod y cytundeb fframwaith yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

(ii)y caniateir ymestyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo o dan delerau’r cytundeb fframwaith.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “contract cyfalaf” yw contract y mae’r gydnabyddiaeth sy’n daladwy gan yr awdurdod sy’n uno mewn perthynas ag ef yn wariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cyllid cyfalaf).

(5)Yn adrannau 29 a 35, ystyr “caffaeliad cyfalaf perthnasol” yw caffaeliad cyfalaf cyfranddaliadau neu gyfalaf benthyciad mewn unrhyw gorff corfforaethol y mae’r gydnabyddiaeth mewn perthynas ag ef yn fwy na £500,000, ac eithrio caffaeliad cyfalaf benthyciad pan fo—

(a)caffaeliad y cyfalaf benthyciad yn fuddsoddiad at ddibenion rheoli materion ariannol yr awdurdod sy’n uno mewn modd darbodus, a

(b)y buddsoddiad yn cael ei ychwanegu at restr swyddogol a gedwir gan awdurdod cymwys mewn gwladwriaeth AEE.

(6)Yn is-adran (5) (ac yn yr is-adran hon)—

  • ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw awdurdod sy’n gyfrifol am gynnal y rhestr swyddogol mewn Gwladwriaeth AEE;

  • o ran “rhestr swyddogol” (“official list”)—

    (a)

    mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig, mae iddi’r ystyr a roddir i “official list” gan adran 103(1) o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, a

    (b)

    mewn perthynas ag unrhyw Wladwriaeth AEE arall, yr ystyr yw’r rhestr gyfatebol a gedwir gan yr awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth honno.

(7)Yn adrannau 29 a 35, ystyr “grant neu gymorth ariannol arall perthnasol” yw grant neu gymorth ariannol arall (ac eithrio benthyciad) o fwy na £150,000.

(8)Yn adrannau 29 a 35, ystyr “benthyciad perthnasol” yw benthyciad o fwy na £150,000 pan fo—

(a)cyfnod y benthyciad yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu

(b)y caniateir ymestyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, o dan delerau’r benthyciad.

(9)Yn adrannau 29 i 32 a 36, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd a roddir o dan adran 29.

35Dyfarnu a yw trothwyon ariannol wedi eu croesi

(1)At ddiben dyfarnu a yw trothwy ariannol a nodir yn adran 34 wedi ei groesi—

(a)yn achos caffaeliad neu warediad tir perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer unrhyw gaffaeliad neu warediad tir arall sy’n ymwneud â’r un mater, neu fater o ddisgrifiad tebyg, a wneir gan yr awdurdod sy’n uno ar ôl 26 Ionawr 2015 (sef y diwrnod y cyflwynwyd y Bil ar gyfer y Ddeddf hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru) i ffurfio rhan o’r dyfarniad;

(b)yn achos contract neu gytundeb perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth o dan unrhyw gontract neu gytundeb arall sy’n ymwneud â’r un mater, neu fater o ddisgrifiad tebyg, yr ymrwyma’r awdurdod sy’n uno iddo ar ôl 26 Ionawr 2015 i ffurfio rhan o’r dyfarniad;

(c)yn achos caffaeliad cyfalaf perthnasol, mae’r gydnabyddiaeth mewn perthynas â chaffaeliad cyfalaf cyfranddaliadau neu gyfalaf benthyciad yn yr un corff corfforaethol a wneir gan yr awdurdod sy’n uno ar ôl 26 Ionawr 2015 (ac eithrio caffaeliad pan fodlonir yr amodau a nodir ym mharagraffau (a) a (b) o adran 34(5)) i ffurfio rhan o’r dyfarniad;

(d)yn achos grant neu gymorth ariannol arall perthnasol, mae swm unrhyw grant neu gymorth ariannol arall (ac eithrio benthyciad) a roddir gan yr awdurdod sy’n uno i’r un person ar ôl 26 Ionawr 2015 i ffurfio rhan o’r dyfarniad;

(e)yn achos benthyciad perthnasol, mae swm unrhyw fenthyciad a roddir gan yr awdurdod sy’n uno i’r un person ar ôl 26 Ionawr 2015 i ffurfio rhan o’r dyfarniad.

(2)Pan na fo’r gydnabyddiaeth neu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth mewn perthynas â thrafodiad ar ffurf arian, mae’r trothwyon a nodir yn adran 34 yn gymwys i werth y gydnabyddiaeth.

(3)Wrth ddyfarnu a yw trothwy a nodir yn adran 34 wedi ei groesi, pan fo cwestiwn yn codi ynghylch gwerth y gydnabyddiaeth mewn perthynas â thrafodiad, a bod y personau o dan sylw yn methu â dod i gytundeb, at ddibenion y dyfarniad mae Gweinidogion Cymru i benderfynu ar y cwestiwn.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi ffigur gwahanol yn lle’r un a nodir am y tro yn is-adran (1), (3)(a) neu (b), (5), (7) neu (8) o adran 34.

36Canllawiau mewn perthynas â thrafodion, recriwtio etc.

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau—

(a)ynghylch gweithrediad adrannau 29 i 35;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan adran 29;

(c)ar gyflawni gweithgareddau cyfyngedig;

(d)ar benodi a dynodi personau i swyddi cyfyngedig.

(2)Rhaid i awdurdodau sy’n uno ac unrhyw bersonau penodedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

(3)Yn is-adran (1), mae i “gweithgaredd cyfyngedig” a “swydd gyfyngedig” yr ystyr a roddir iddynt yn adran 29.

Gofynion gwybodaeth

37Gofyniad ar awdurdod sy’n uno i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod sy’n uno ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol ei gwneud yn ofynnol ei darparu iddynt at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddo swyddogaethau’r awdurdod sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd ar gyfer y brif ardal newydd y mae ardal yr awdurdod sy’n uno i gael ei huno i’w chreu, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.

38Gofyniad ar awdurdod sy’n uno i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau eraill

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod sy’n uno ddarparu i gorff perthnasol unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod sy’n uno ei darparu i’r corff perthnasol at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddo swyddogaethau’r awdurdod sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd ar gyfer y brif ardal newydd y mae ardal yr awdurdod sy’n uno i gael ei huno i’w chreu, neu fel arall mewn cysylltiad â hynny.

(2)Mae’r canlynol yn gyrff perthnasol—

(a)unrhyw awdurdod arall sy’n uno y mae ei ardal i gael ei uno i greu’r un brif ardal newydd;

(b)y pwyllgor pontio a sefydlwyd gan yr awdurdod sy’n uno ac awdurdod arall neu awdurdodau eraill sy’n uno;

(c)yr awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.

Darpariaethau eraill sy’n ymwneud â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

39Ymestyn dros dro swyddogaethau Panel sy’n ymwneud â phenaethiaid gwasanaethau cyflogedig i brif swyddogion

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (swyddogaethau’r Panel mewn perthynas â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig) yn cael effaith mewn perthynas â chyflog ar gyfer gwasanaeth neu wasanaethau yn ystod y cyfnod perthnasol a delir i brif swyddog prif awdurdod lleol nad yw’n bennaeth gwasanaeth cyflogedig fel ag y mae mewn perthynas â chyflog a delir i’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig hwnnw.

(2)Yn is-adran (1)—

  • ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2020;

  • mae i ”pennaeth gwasanaeth cyflogedig” (“head of paid service”) a “cyflog” (“salary”) yr ystyron a roddir gan adran 143A(7) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;

  • mae i “prif swyddog”, mewn perthynas â phrif awdurdod lleol, yr ystyr a roddir i “chief officer” yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn unol ag is-adran (1); ac wrth arfer y swyddogaethau hynny yn unol â’r is-adran honno rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.

40Newidiadau i’r ddyletswydd i roi sylw i argymhellion y Panel ynghylch cyflogau

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (swyddogaethau’r Panel mewn perthynas â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn cyflog wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r cyflog yn daladwy oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y cyflog ar ôl derbyn argymhelliad.

(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid cyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—

(a)rhaid iddo ailystyried y cyflog, a

(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.

(3)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.

(4)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a

(b)peidio â newid y cyflog cyn—

(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu

(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.

(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog yn golygu y bydd yr awdurdod yn talu (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn talu) cyflog sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y cyflog, a

(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.

41Aelodaeth y Panel

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (aelodaeth y Panel) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-baragraff (1), yn lle “Pum” rhodder “Dim llai na 3, a dim mwy na 7,”.

(3)Hepgorer is-baragraff (5) (cyflogeion awdurdodau lleol etc. heb eu hanghymhwyso rhag bod yn aelodau).

Amrywiol

42Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (dyletswydd i gynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2) (awdurdod lleol i gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin), yn lle “ar ôl pob” rhodder “, neu drefnu i gynnal arolwg, mewn perthynas â phob”.

(3)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Yn achos etholiad cyffredin caniateir i arolwg gael ei gynnal—

(a)yn llwyr ar ôl yr etholiad cyffredin, neu

(b)drwy ofyn i’r ymgeiswyr i gael eu hethol i swydd cynghorydd ateb y cwestiynau rhagnodedig cyn yr etholiad cyffredin a chrynhoi’r wybodaeth a ddarparwyd wedi hynny.

(4)Yn is-adran (5) (dim dyletswydd i ddarparu gwybodaeth) yn lle “gynghorydd neu ymgeisydd na lwyddodd i gael ei ethol i swydd cynghorydd” rhodder “unrhyw unigolyn”.

(5)Hepgorer adran (6) (awdurdod lleol i wneud trefniadau i wybodaeth gael ei darparu yn ddienw).

43Cynigion a gyflwynwyd cyn i Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 gychwyn

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Yn adran 74(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (adolygiadau o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n mynd rhagddynt ar adeg cychwyn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013), mewnosoder ar y diwedd “ac at ddibenion cynigion a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn yr adeg honno.”

Atodol

44Rheoliadau

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir i reoliadau uno a rheoliadau o dan adran 10 neu 11 gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 24 neu 35(4) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

45Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “adolygiad cychwynnol” (“initial review”) yr ystyr a roddir gan adran 16(2);

  • mae i “awdurdod cysgodol” (“shadow authority”) yr ystyr a roddir gan adran 2(7);

  • mae i “awdurdod sy’n uno” (“merging authority”) yr ystyr a roddir gan adran 2(3);

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru;

  • mae i “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yr ystyr a roddir gan adran 2(8);

  • mae i “newidiadau canlyniadol perthnasol” (“relevant consequential changes”) yr ystyr a roddir gan adran 16(3);

  • ystyr “y Panel” (“the Panel”) yw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

  • mae i “prif ardal” (“principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 2(4);

  • mae i “prif ardal arfaethedig” (“proposed principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 2(6);

  • mae i “prif awdurdod lleol” (“principal local authority”) yr ystyr a roddir gan adran 2(5);

  • mae i “pwyllgor pontio” (“transition committee”) yr ystyr a roddir gan adran 2(9);

  • mae i “rheoliadau uno” (“merger regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 2(2);

  • mae i “trefniadau etholiadol” (“electoral arrangements”) yr ystyr a roddir gan adran 16(4);

  • mae i “yr ymgyngoreion mandadol” (“the mandatory consultees”) yr ystyr a roddir gan adran 19(3).

46Cychwyn

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Daw adrannau 25 i 28 a 37 i 43 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, daw’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

47Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill