xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r amodau safonol; ac os yw’n gwneud hynny, mae pob cydnabyddiaeth (pa un a’i rhoddir cyn neu ar ôl i’r diwygiadau ddod i rym) i fod yn ddarostyngedig i’r amodau fel y’u diwygiwyd.
(2)Mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 2(3) a (4).
(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r amodau safonol, rhaid iddo—
(a)cyhoeddi’r amodau fel y’u diwygiwyd,
(b)hysbysu pob corff cydnabyddedig am y diwygiadau, a pha bryd y maent i gael effaith.
(4)Caiff Cymwysterau Cymru ddarparu bod diwygiad i’r amodau i gael effaith ar ddyddiadau gwahanol mewn perthynas â chyrff gwahanol, neu mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o gorff.
(5)Nid yw diwygiad i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith mewn perthynas â chorff cyn i’r corff gael ei hysbysu amdano.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)