Cymwysterau blaenoriaetholLL+C
13Dyletswydd i lunio rhestr o gymwysterau blaenoriaetholLL+C
(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru lunio ar y cyd restr o gymwysterau y mae’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni mewn cysylltiad â phob un ohonynt.
(2)Yr amod yw bod Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod sicrhau a chynnal hyder y cyhoedd yn y cymhwyster yn flaenoriaeth i Gymwysterau Cymru, oherwydd arwyddocâd y cymhwyster gan roi sylw i anghenion dysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.
(3)Caiff y rhestr wneud darpariaeth drwy gyfeirio at gymwysterau, neu ddisgrifiadau o gymhwyster.
(4)Rhaid cyhoeddi’r rhestr, ym mha ffordd bynnag y mae Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru yn cytuno arni.
(5)Caiff Cymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru adolygu’r rhestr ar y cyd ac, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol, ei diwygio.
(6)Yn y Ddeddf hon—
(a)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol yn gyfeiriadau at gymhwyster sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr, neu at gymhwyster sydd o ddisgrifiad sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr;
(b)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn gyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol y mae penderfyniad o dan adran 14 yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef;
(c)mae cyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig yn gyfeiriadau at gymhwyster blaenoriaethol nad yw penderfyniad o dan adran 14 yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 13 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
14Cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedigLL+C
(1)Caiff Cymwysterau Cymru wneud penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â chymhwyster blaenoriaethol os yw’r amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni.
(2)Mae penderfyniad o dan yr adran hon yn benderfyniad sy’n pennu uchafswm nifer (naill ai un neu ragor) y ffurfiau ar y cymhwyster sydd i fod yn rhai y mae modd eu cymeradwyo o dan y Rhan hon ar unrhyw un adeg.
(3)Yr amod yw bod Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni, gan roi sylw i brif nodau Cymwysterau Cymru, ac i’r amcanion yn is-adran (4), ei bod yn ddymunol cyfyngu ar nifer y ffurfiau ar y cymhwyster a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru o dan y Rhan hon i’r uchafswm nifer a bennir yn y penderfyniad.
(4)Yr amcanion yw—
(a)osgoi anghysondeb rhwng ffurfiau gwahanol ar yr un cymhwyster (pa un ai drwy gyfeirio at lefel y cyrhaeddiad a ddangosir drwy ffurfiau gwahanol ar yr un cymhwyster, neu fel arall), a
(b)galluogi Cymwysterau Cymru i arfer dewis rhwng cyrff dyfarnu gwahanol, wrth ymrwymo i drefniadau o dan adran 15, a rhwng ffurfiau gwahanol ar gymhwyster, wrth roi cymeradwyaeth o dan adran 17.
(5)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi penderfyniad o dan yr adran hon.
(6)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 15 i 17 er mwyn sicrhau nad yw nifer y ffurfiau ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig a gymeradwyir ganddo o dan y Rhan hon yn fwy na’r uchafswm nifer a bennir yn y penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â’r cymhwyster.
(7)Os yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu gwneud penderfyniad o dan yr adran hon mewn cysylltiad â chymhwyster, rhaid iddo cyn gwneud hynny—
(a)hysbysu pob corff cydnabyddedig, ac unrhyw berson arall y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried y gellid disgwyl yn rhesymol fod ganddo buddiant yn y penderfyniad arfaethedig, am y cynnig, a
(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir iddo gan y personau hynny mewn cysylltiad â’r cynnig.
(8)Caniateir i benderfyniad o dan yr adran hon gael ei ddirymu neu ei amrywio; ac mae darpariaethau blaenorol yr adran hon yn gymwys at ddibenion amrywio penderfyniad fel pe bai penderfyniad yn cael ei wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I4A. 14 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
15Pŵer i wneud trefniadau i ddatblygu cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedigLL+C
(1)Caiff Cymwysterau Cymru ymrwymo i drefniadau gyda chorff dyfarnu y mae eu heffaith yn darparu i’r corff ddatblygu ffurf newydd ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig, gyda golwg ar gymeradwyaeth ragolygol i’r ffurf honno ar y cymhwyster o dan adran 16.
(2)Caiff y trefniadau wneud darpariaeth ynghylch, ymhlith pethau eraill—
(a)y meini prawf i’w bodloni gan y ffurf ar y cymhwyster sydd i’w datblygu;
(b)taliadau i’w gwneud gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’i datblygu.
(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwneud trefniadau o dan yr adran hon.
(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.
(5)Rhaid i’r cynllun ddarparu ar gyfer gweithdrefn sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw.
(6)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.
(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I6A. 15 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
16Cymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig a ddatblygir yn unol â threfniadau adran 15LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff dyfarnu wedi datblygu ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn unol â threfniadau o dan adran 15.
(2)Os cydnabyddir y corff dyfarnu mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, caiff wneud cais i Gymwysterau Cymru i’r ffurf ar y cymhwyster gael ei chymeradwyo o dan yr adran hon.
(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.
(4)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.
(5)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).
(6)At ddibenion y Rhan hon, dyfarnu ffurf ar gymhwyster yng Nghymru yw ei dyfarnu i bersonau a asesir mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I8A. 16 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
17Cymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn absenoldeb trefniadau adran 15LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru ffurf ar gymhwyster sy’n gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig, ond nad yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu ymrwymo i drefniadau mewn cysylltiad â hi o dan adran 15.
(2)Caiff Cymwysterau Cymru, ar gais gan gorff a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo ffurf ar y cymhwyster i’r corff o dan sylw ei dyfarnu yng Nghymru.
(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth o dan is-adran (2);
(b)ystyried gan Gymwysterau Cymru y ceisiadau hynny.
(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.
(5)Rhaid i’r cynllun ddarparu ar gyfer gweithdrefn sy’n agored, yn deg ac yn dryloyw.
(6)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.
(7)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.
(8)Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I10A. 17 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
18Cymeradwyo cymwysterau blaenoriaethol anghyfyngedigLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud i Gymwysterau Cymru i ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig gael ei chymeradwyo gan gorff dyfarnu a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw.
(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.
(3)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.
(4)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I12A. 18 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)