xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6RHEOLI DATBLYGU ETC

Penderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio

31Y Gymraeg

(1)Mae adran 70 o DCGTh 1990 (penderfynu ar geisiadau: ystyriaethau cyffredinol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)any considerations relating to the use of the Welsh language, so far as material to the application;.

(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2ZA)Subsection (2)(aa) applies only in relation to Wales.

(4)Nid yw’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn addasu—

(a)pa un ai a yw sylw i’w roi i unrhyw ystyriaeth benodol o dan is-adran (2) o adran 70 o DCGTh 1990, neu

(b)y pwysau sydd i’w roi i unrhyw ystyriaeth y rhoddir sylw iddi o dan yr is-adran honno.