xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1PANELI CYNLLUNIO STRATEGOL

RHAN 2DIWYGIADAU PELLACH

Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (p. 39)

2Yn adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (awdurdodau lleol yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i gyrff cyhoeddus), yn is-adran (4), yn y diffiniad o “public body”, ar ôl “any probation trust,” mewnosoder “any strategic planning panel established under section 60D of the Planning and Compulsory Purchase Act 2004,”.

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

3Yn adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (yr amgylchiadau sy’n anghymhwyso person rhag cael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol) ar ôl is-adran (2AA) mewnosoder—

(2AB)A person who is employed by or under the direction of a strategic planning panel is disqualified for being elected or being a member of a local authority which is a constituent local planning authority in relation to that panel (within the meaning of paragraph 3(3) of Schedule 2A to the Planning and Compulsory Purchase Act 2004).

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)

4Yn adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ymddygiad aelodau a chyflogeion awdurdodau lleol yng Nghymru: dehongli), ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(9A)A person who is suspended under this Part from being a member of a relevant authority shall also be suspended from being a member of any strategic planning panel in relation to which that authority is a constituent local planning authority, but this subsection does not apply to a person who is partially suspended under this Part.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)

5Yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus: llywodraeth leol), ar ôl paragraff 33 mewnosoder—

33AA strategic planning panel established under section 60D of the Planning and Compulsory Purchase Act 2004.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10)

6Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ymchwilio i gwynion etc: awdurdodau rhestredig), o dan yr is-bennawd “Local government, fire and police”, ar y diwedd mewnosoder—

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)

7Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan yr is-bennawd “Local government”, ar y diwedd mewnosoder—

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

8(1)Mae Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (personau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau: cyrff cyhoeddus etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y tabl, o dan y pennawd “Llywodraeth leol etc”, yn y man priodol mewnosoder—

Paneli cynllunio strategol (“Strategic planning panels”)
  • Safonau cyflenwi gwasanaethau

  • Safonau llunio polisi

  • Safonau gweithredu

  • Safonau hybu

  • Safonau cadw cofnodion.

(3)Ym mharagraff 2, yn y man priodol mewnosoder—

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

9Yn adran 144 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (taliadau a phensiynau: awdurdodau perthnasol, aelodau etc), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)panel cynllunio strategol (a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004);.