xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mesur perfformiad tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon

11Dangosyddion cenedlaethol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y gellir eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon;

(b)gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)O ran dangosydd cenedlaethol—

(a)rhaid iddo gael ei fynegi fel gwerth y gellir ei fesur neu nodwedd y gellir ei mesur yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;

(b)caiff fod yn fesuradwy dros ba gyfnod bynnag sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru;

(c)caiff fod yn fesuradwy mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r dangosyddion perfformiad ar unrhyw adeg.

(4)Pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion perfformiad o dan is-adran (3), rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyhoeddi’r dangosyddion fel y’u diwygiwyd, a

(b)gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol (gan gynnwys dangosyddion a ddiwygir o dan is-adran (3)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn eu hystyried yn briodol.

12Adroddiadau cynnydd blynyddol gan Weinidogion Cymru

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad ar—

(a)y cynnydd a wnaed ganddynt o ran cyflawni’r amcanion yn y strategaeth genedlaethol;

(b)y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon yng Nghymru gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a gyhoeddir o dan adran 11.

(2)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi diwygio’r strategaeth genedlaethol yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, rhaid i’r adroddiad gynnwys esboniad o’r rhesymau dros y diwygiad hwnnw.

(3)Rhaid i unrhyw adroddiad o dan yr adran hon a gyhoeddir yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol gynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol yn y dyfodol ac unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol arall sy’n ymwneud â diben y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(4)Yn is-adran (3), mae’r cyfeiriad at ddyddiad etholiad cyffredinol yn gyfeiriad at y dyddiad y caiff etholiad cyffredinol arferol ei gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (neu’r dyddiad y byddai’n cael ei gynnal heblaw am adran 5(5) o’r Ddeddf honno).

(5)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a’i osod gerbon y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

13Adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol

(1)Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt o ran cyflawni’r amcanion a bennir yn eu strategaeth leol.

(2)Pan fo awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol wedi diwygio eu strategaeth yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, rhaid i’r adroddiad gynnwys esboniad o’r rhesymau dros y diwygiad.

(3)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.