xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGWELLA LLESIANT

Datblygu cynaliadwy a dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddusLL+C

3Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddusLL+C

(1)Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.

(2)Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys⁠—

(a)gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a

(b)cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.

(3)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan osod amcanion mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(4)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â rhan o Gymru yn unig osod amcanion mewn perthynas â’r rhan honno neu unrhyw ran ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3